Y Drws Agored/Y blodyn
Gwedd
| ← Blodau'r nef | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Y cweryl → |
Y BLODYN.
(Cyflwynedig i dad a mam yn eu galar.)
RHODIANNAI gwr bonheddig
Ryw fore yn ei ardd;
A denwyd bryd ei galon
Gan flodyn bychan hardd.
'Dyw cariad byth yn foddlon
I'w wrthrych fyw ymhell;
Er cystal gerddi'r pellder,
Mae'r ardd sy'n nes yn well.
A'r blodyn bach symudwyd
I ardd wrth ddrws y tŷ,
Lle gallai ei berchennog
Gael mwy o'i wenau cu.
Fe'i plannodd ef ei hunan
Mewn man yn wyneb haul;
Os tlws oedd ar y cyntaf,
Mae'n awr yn dlws ddi—ail!
Ond hiraeth am y blodyn
A drodd yr ardd yn brudd;
Bu'r blodau bach yn crio
Drwy'r nos y noswaith honno,
A dagrau ar eu grudd.
Ond peidiwch wylo, flodau;
Daw bore hyfryd pan
Symudir chwithau hefyd
I'r heulwen yn y man.