Y Drws Agored/Y cweryl
Gwedd
| ← Y blodyn | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Llwybrau'r defaid → |
Y CWERYL.
(Adroddiad).
CHWAREUAI'r ddau yn llon eu gwedd
Ynghanol eu teganau;
Ond cododd cweryl yn eu plith
Ynghylch y tegan goreu.
Anafwyd un, ac yna'r llall,
A chollwyd dagrau heilltion;
Ac yn y frwydr ffol a fu
Y tegan wnaed yn yfflon.
Ai gwenu 'rwyt, wrandawr doeth,
Gan gyfri'r ddau yn anghall?
Wel, ti dy hun oedd un o'r ddau,
A minnau'r baban arall.