Neidio i'r cynnwys

Y Drws Agored/Y darlun

Oddi ar Wicidestun
Bob tro bwy'n gwasgu'th law Y Drws Agored

gan Robert Hughes Jones

Toriad y wawr

Y DARLUN.
(Cyflwynedig i Gyfail!).

FY narlun a geisiwch,
Pa ddiben nis gwn;
Ond cewch un â chroeso—
Gymerwch chwi hwn?

Nis gallech f'yspeilio
Pe cym'rech bob un,
Oblegid 'rwy'n cadw
Un copi fy hun.

Rhagorach na'r darlun,
Boed wych neu boed wael.
Yw darlun o'r galon
Os gellir ei gael.

Chwi gewch fy nghaneuon,
Os mynnwch, bob un,
Oblegid 'rwy'n cadw
Un copi fy hun.


Robert Hughes Jones (1860-1943)

Nodiadau

[golygu]