Y Drws Agored/Y drws agored
| ← Cynhwysiad | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Yr angylion → |
Y DRWS AGORED.
BREUDDWYDIAIS weled aelwyd lân,
Ymhell o dwrf y byd,
Ond yn y breuddwyd ddaeth i'm rhan,
Y nefoedd weithiau oedd y fan,
Ac nid yr aelwyd glyd.
Dychwelai'r plant o un i un
Gan lenwi'r aelwyd lon;
Nid oedd tawelwch min yr hwyr
Ond cysgod o'r tawelwch llwyr
Breswyliai yn eu bron.
A llenwi fwy-fwy 'roedd y tŷ,
A chwyddo'r oedd y gân;
A thybio wnawn mai gorlawn mwy
Oedd cwpan eu dedwyddwch hwy
Oedd ar yr aelwyd lân.
Ond na, 'roedd yno gadair wâg,
A llygaid pawb ar hon;
Ac er mor ddedwydd oedd yr oll,
'Roedd cadair wâg y mab ar goll
Yn lleddfu'r nodau llon.
Ond gwelai'r tad y dydd yn dod
Cai wasgu'i fab i'w gôl;
Ran credo cariad sydd yn iawn—
Sef nad yw aelwyd byth yn llawn
Tra byddo un ar ol.
A chlo nid oedd ar ddrws y tŷ—
'Rwy'n hoffi'r syniad tlws;
Mae cariad pur yng nghalon dyn,
'Run fath a chariad Duw Ei Hun,
Yn methu cau y drws.