Neidio i'r cynnwys

Y Drws Agored/Y fynwent

Oddi ar Wicidestun
Llwybrau'r defaid Y Drws Agored

gan Robert Hughes Jones

Nef y nef

Y FYNWENT.

CERDD yn ysgafn drwy y fynwent;
Nid y byw a bia'r fan;
Eiddo'r marw—ei unig eiddo,—
Ydyw erw fach y llan.

Ti gei lamu ar y mynydd;
Rhed, os mynni, ar draws y ddol;
Ond cerdd yn araf tua'r fynwent—
Haws yw mynd na dod yn ol.

Rhaid, fy nghyfaill; rhaid mynd yno;
Pam mae cryndod yn dy law?
Gwel, mae llwybr drwy y fynwent.
Dacw'r porth yr ochr draw.


Nodiadau

[golygu]