Neidio i'r cynnwys

Y Drws Agored/Y galon friw

Oddi ar Wicidestun
Y pethau mawr Y Drws Agored

gan Robert Hughes Jones

Chwareuon mebyd

Y GALON FRIW.

FRWYN y mynydd, peidiwch cwynfan;
Dderw'r llwyni, tewch â'ch cri;
Os oes storm yn rhuthro arnoch,
Beth am storm fy enaid i?

Sychir dagrau grug y mynydd,
Try pob storm yn swynol si;
Yn y man daw'r haf i Gymru;
Pryd daw'r haf i'm henaid i?

Yn fy ing 'rwy'n clywed miwsig―
Miwsig adar mân di-ri';
Dod mae'r haf i erddi ereill;
Pryd daw'r haf i'm henaid i?

Daw, fe ddaw yr haf i minnau;
Gwn y gwrendy'r nef fy nghri;
Dyna'r pryd y clywir canu,
Pan ddaw'r haf i'm henaid i.


Nodiadau

[golygu]