Y Drws Agored/Y gweithiwr
Gwedd
| ← Dy siomi gei | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Ymhlith y dail → |
Y GWEITHIWR.
CEIR llawer un ar fin y ffordd
Yn uchel godi'i lef,
Gan haeru nad yw archoll neb
Mor friw a'i archoll ef;
Ond hunan glwyf yw eiddo'r dyn;
Mae'r bicell yn ei law ei hun.
Ond arall orwedd yn ei waed,
Heb nerth i ddweyd ei gŵyn.
Y cyfoeth wnaeth yng ngwres y dydd,
Mae'r lladron wedi'i ddwyn.
Mae lladron eto, Duw a'i gŵyr,
Yn gwylio'r gweithiwr fin yr hwyr.
Diolchwn it', Samariad gwiw—
Diolchwn fwy na mwy,
Am olchi briwiau dynol ryw,
A rhwymo llawer clwy'.
Ond erbyn hyn mae'n hen, hen bryd
I rwymo'r lladron sy'n y byd.