Y Drws Agored/Y llwybrau ceimion
Gwedd
| ← Y pagan a'i dduw | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
I fyny → |
Y LLWYBRAU CEIMION.
'ROEDD eira'n drwch ar fryn a dôl
('Rwy'n methu cofio'r flwyddyn);
I mi peth hynod iawn yw hyn—
Sef nad yw'r eira 'n awr mor wyn
A phan o'n i yn hogyn.
'Roedd gweld y ddôl mewn mantell wen,
Mor hardd a dim a welswn;
Ac oddi draw dewisais nôd,
A cherddais drwy y claerwyn ôd
Mor union ag y medrwn.
Ond pan gyrhaeddais ben y daith,
Ces loes a siom nid bychan.
'Roedd ôl fy nghamrau hyd y ddôl,
Fel llawer ereill ar eu hôl,
Yn hynod o ddiamcan.
A gofid barai'r llwybr im'
Bob tro'r edrychwn arno,
Nes gwenodd haul o awyr las,
Gan lwyr ddileu y llwybr cas,
Na welwyd byth mo hono.