Y Drws Agored/Y pagan a'i dduw
| ← Yr Iesu yn y wledd | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Y llwybrau ceimion → |
Y PAGAN A'I DDUW.
(Adroddiad Cenhadol.)
'Rwy'n clywed lleisiau ambell dro—
(Wyt tithau ddim yn clywed?)
Rhyw ochain pruddaidd gyda'r gwynt,
Rhyw lefau o gaethiwed.
Ust, ust, mi glywa'r llefau'n awr
O China bell a'r India fawr.
Daw'r lleisiau weithiau yn y nos.
Bryd arall mewn myfyrdod.
Ond nos neu ddydd mae'u nôd yr un,
Sef deffro y gydwybod;
Gan ddweyd fod llefau dynol ryw
'Run peth a llef o orsedd Duw.
Ces freuddwyd neithiwr rhyfedd iawn:
Gweld pagan ar ei ddeulin
Yn offrwm moliant pur i'w dduw—
A'i dduw yn ddim ond eilun.
Tydi sy'n gwrando yn fan draw,
I'r pagan tlawd rho help dy law.
Fe ddichon na ddisgwylia'r ne'
Ddim iti fynd dy hunan;
Ond anfon arall yn dy le—
Tosturia wrth y truan.
Fe haedda'r pagan dua'i groen
Gael clywed son am waed yr Oen.