Neidio i'r cynnwys

Y Drws Agored/Y pethau mawr

Oddi ar Wicidestun
← Y weddi Y Drws Agored

gan Robert Hughes Jones

Y galon friw →

Y PETHAU MAWR.

PAID diystyru'r pethau bach,
Na moli'r mawr heb feddwl;
Mor anhawdd dweyd pa beth sy'n fawr.
Oes bach a mawr o gwbwl?
Gwna di dy ore—yma—'nawr;
Y rhai'n i ti yw'r pethau mawr.

Paid son am bethau uchel-fri
Gyflawni pan gei gyfle;
Yr orchest fawr yw gwneud yn awr
Rhyw weithred dda yn rhywle;
Mil gwell na son am bethau fydd,
Yw gado'th nôd ar bethau sydd.


Nodiadau

[golygu]