Y Drws Agored/Y weddi
Gwedd
| ← Yr angylion | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Y pethau mawr → |
Y WEDDI.
GWYRA i'r llawr mewn gweddi;
Ymbil nes chwysu'r gwaed;
Ond weithiau bydd rheitiach gweithio;
A chofia di'r adeg honno
Weddio oddiar dy draed;
Rhagorach fil na gweddi faith
Yw gweddi fer mewn dillad gwaith.