Neidio i'r cynnwys

Y Drws Agored/Yn nwylo'u gilydd

Oddi ar Wicidestun
Nos a bore Y Drws Agored

gan Robert Hughes Jones

Afon Alwen

YN NWYLO'U GILYDD.

CERDD yn araf, araf, Deio;
Gad im' gydio yn dy law;
Mwyach nid oes angen brysio;
Gwel, mae drws y ty gerllaw.

Deio anwyl, wyt ti'n cofio'r
Noson, flwyddi maith yn ol,
Pan yn llon yn nwylo'n gilydd
Y rhodiannem hyd y ddol?

Wyt ti'n cofio cyfnod arall
Plant yn chware ar y rhos?
Cydient hwythau'n nwylo'u gilydd
Wrth fynd adre gyda'r nos.

Cerdd yn araf, araf, Deio;
Cydia'n dynnach yn fy llaw;
Os yw'n nosi, ni raid brysio,
Gwel, mae drws y ty gerllaw.


Nodiadau

[golygu]