Y Drws Agored/Yr Iesu yn y wledd
Gwedd
| ← Plant yr ysgol | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Y pagan a'i dduw → |
YR IESU YN Y WLEDD.
FE ballodd y gwin yn y briodas;
Daeth prinder a gwarth at y bwrdd.
Eu gweld barodd ofid i'r Ceidwad;
Ei gariad a'u gyrrodd i ffwrdd.
Amneidiodd â'i fys; daeth gwyrth yn ddi-stŵr;
Ac ebrwydd 'roedd archwaeth y gwin ar y dŵr.
Mae gwin pob gwledd yn ansicr;
Fe balla pob mwyniant a fedd.
Os mynnir cael llawnder dihysbydd,
Gwahodder yr Iesu i'r wledd.
Pan dderfydd y gwinoedd yng ngwleddoedd y byd
Gall Iesu greu gwinoedd melusach o hyd.