Y Drws Agored/Yr afon
Gwedd
| ← John a'i fam | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Doli a minnau → |
YR AFON.
Pwy ŵyr am afon Mersey?
Pwy groesodd draws ei lli?—
Pwy groesodd yn yr heulddydd?
Pwy yn y caddug du?
Pan gauo'r niwl fel amdo,
Bydd pawb yn llesg gan fraw,
Yn ofni na chyrhaeddant
Mo'r lan yr ochr draw.
Ond pan fo'r niwl dywyllaf,
Heb obaith o un man,
Bydd cloch yr adeg honno
Yn canu ar y lan.
Wrth fynych groesi'r Mersey
I'r ddinas hwnt i'r lli,
Daw ambell syniad arall
Fel hyn i'm meddwl i:—
Fydd heulwen ar y tonnau
Pan groesaf gyda'r nos?
Ai ynte a fydd caddug
Yn cuddio'r ddinas dlos?
Os niwl fydd ar yr afon
Yn digalonni'r gwan,
A gaf fi glywed clychau
Yn canu ar y lan?