Neidio i'r cynnwys

Y Drws Agored/Yr angylion

Oddi ar Wicidestun
Y drws agored Y Drws Agored

gan Robert Hughes Jones

Y weddi

YR ANGYLION.

MAE'R byd yn llawn angylion,
Ymhob rhyw fan ceir engyl Duw
Yn codi pen rhyw flodyn gwyw.
Mae'r byd yn llawn angylion.

Adwaenost ti'r angylion?
Ceir llawer un yn wr tylawd:
Anghofia'i hun wrth gofio'i frawd.
Adwaenost ti'r angylion?

Gwyn fyd yr holl angylion;
Bydd llawer angel bychan, gwan,
Yn magu edyn yn y man;
Gwyn fyd yr holl angylion.


Nodiadau

[golygu]