Neidio i'r cynnwys

Y Drws Agored (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Y Drws Agored (testun cyfansawdd)

gan Robert Hughes Jones

I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Y Drws Agored


LLANFIHANGEL GLYN MYFYR.

Y
DRWS...
AGORED.

GAN

R. H. JONES

(Awdwr "Drwy Gil y Drws").



GYDA 12 O DDARLUNIAU.




LIVERPOOL:
HUGH EVANS, CYHOEDDWR, 356, 358 STANLEY ROAD
1909




Iddi
HI
y
cyflwynaf
y
caneuon
hyn.


Cynhwysiad


Y DRWS AGORED.

BREUDDWYDIAIS weled aelwyd lân,
Ymhell o dwrf y byd,
Ond yn y breuddwyd ddaeth i'm rhan,
Y nefoedd weithiau oedd y fan,
Ac nid yr aelwyd glyd.

Dychwelai'r plant o un i un
Gan lenwi'r aelwyd lon;
Nid oedd tawelwch min yr hwyr
Ond cysgod o'r tawelwch llwyr
Breswyliai yn eu bron.

A llenwi fwy-fwy 'roedd y tŷ,
A chwyddo'r oedd y gân;
A thybio wnawn mai gorlawn mwy
Oedd cwpan eu dedwyddwch hwy
Oedd ar yr aelwyd lân.

Ond na, 'roedd yno gadair wâg,
A llygaid pawb ar hon;
Ac er mor ddedwydd oedd yr oll,
'Roedd cadair wâg y mab ar goll
Yn lleddfu'r nodau llon.


Ond gwelai'r tad y dydd yn dod
Cai wasgu'i fab i'w gôl;
Ran credo cariad sydd yn iawn—
Sef nad yw aelwyd byth yn llawn
Tra byddo un ar ol.

A chlo nid oedd ar ddrws y tŷ—
'Rwy'n hoffi'r syniad tlws;
Mae cariad pur yng nghalon dyn,
'Run fath a chariad Duw Ei Hun,
Yn methu cau y drws.


YR ANGYLION.

MAE'R byd yn llawn angylion,
Ymhob rhyw fan ceir engyl Duw
Yn codi pen rhyw flodyn gwyw.
Mae'r byd yn llawn angylion.

Adwaenost ti'r angylion?
Ceir llawer un yn wr tylawd:
Anghofia'i hun wrth gofio'i frawd.
Adwaenost ti'r angylion?

Gwyn fyd yr holl angylion;
Bydd llawer angel bychan, gwan,
Yn magu edyn yn y man;
Gwyn fyd yr holl angylion.


Y WEDDI.

GWYRA i'r llawr mewn gweddi;
Ymbil nes chwysu'r gwaed;
Ond weithiau bydd rheitiach gweithio;
A chofia di'r adeg honno
Weddio oddiar dy draed;
Rhagorach fil na gweddi faith
Yw gweddi fer mewn dillad gwaith.


Y PETHAU MAWR.

PAID diystyru'r pethau bach,
Na moli'r mawr heb feddwl;
Mor anhawdd dweyd pa beth sy'n fawr.
Oes bach a mawr o gwbwl?
Gwna di dy ore—yma—'nawr;
Y rhai'n i ti yw'r pethau mawr.

Paid son am bethau uchel-fri
Gyflawni pan gei gyfle;
Yr orchest fawr yw gwneud yn awr
Rhyw weithred dda yn rhywle;
Mil gwell na son am bethau fydd,
Yw gado'th nôd ar bethau sydd.


Y GALON FRIW.

FRWYN y mynydd, peidiwch cwynfan;
Dderw'r llwyni, tewch â'ch cri;
Os oes storm yn rhuthro arnoch,
Beth am storm fy enaid i?

Sychir dagrau grug y mynydd,
Try pob storm yn swynol si;
Yn y man daw'r haf i Gymru;
Pryd daw'r haf i'm henaid i?

Yn fy ing 'rwy'n clywed miwsig―
Miwsig adar mân di-ri';
Dod mae'r haf i erddi ereill;
Pryd daw'r haf i'm henaid i?

Daw, fe ddaw yr haf i minnau;
Gwn y gwrendy'r nef fy nghri;
Dyna'r pryd y clywir canu,
Pan ddaw'r haf i'm henaid i.


CHWAREUON MEBYD.

PAN glywyf son am afon,
Fy nghalon red fel lli'
Yn syth at Afon Alwen;
Hon yw fy afon i.
Rhyw afon fach yw hon yn awr;
Arferai fod yn afon fawr!

Pan ganai plant yr ysgol
Eu hemyn bychan tlws,
Arafai'r Afon Alwen
I wrando wrth y drws.

Hyfrydwaith plant y pentre
Oedd chware'n llon fel hyn—
Sef gyrru'r cerrig llyfnion
I rodio ar hyd y llyn.

Pysgotem yn yr Alwen
Am frithyll bach a mawr
(Pysgota o dan y cerrig
Wy'n son am dano'n awr).

Mor hyfryd yn yr hafddydd
Oedd dal y brithyll mân;
Yn wir 'rwyf bron a theimlo
Y pysgod yn fy nwylo
Wrth geisio llunio'm cân.



"Pysgotem yn yr Alwen
Am frithyll bach a mawr
(Pysgota o dan y cerrig
Wy'n son am dano'n awr)."


Un tro gafaelodd plentyn
Mewn rhyw bysgodyn mawr,
A gwaeddodd ar y gweddill,
"Dewch, gwelwch faint y brithyll
Wy'n mynd i ddal yn awr."

Ond nid mor hawdd oedd hynny;
Fe lithrodd drwy ei law;
A llithrodd rhywun arall
I'r afon yn ei fraw.

Ces siom yr adeg honno;
Daeth wedyn lawer loes;
'Does neb all rifo'r brithyll
A gollais yn fy oes.


FY MRAWD.

DYCHWELWN adre gyda'r nos
O'r ysgol fechan draw,
'Roedd storm yn dod, a'r dydd yn fyr,
A noson erch gerllaw.

'Roedd rhaid wynebu'r mynydd moel,
Tra'r lluwch yn gwynnu'r bryn.
Fe'm dallai'n llwyr, a methwn weld
Y llwybr erbyn hyn.

Dolefai'r ddrycin yn fy nghlust;
Dolefwn innau'n ol.
Ond ah, fe'm codwyd ar fy nhraed
Gan rywun ddaeth i'm nol.

Anghofiais bopeth am y storm,
A'm hofnau bob yr un.
Es adre'n ddiogel a di-fraw
Yn llaw fy mrawd oedd hŷn.

Mi'th welais dithau, f'anwyl frawd,
Yn cefnu fin yr hwyr.
Y storm yn dod, a'r dydd yn fyr—
Rhy fyr y nefoedd ŵyr.

'Roedd eira'r nef yn gwynnu'r llawr,
A'r llwybrau—collwyd hwy.
Ond cerddaist adre yn ddi-fraw
Yn llaw y Brawd sydd fwy.


Y DDWY DDINAS.

SIARADENT am eu plant a'u hynt,
'Nol arfer hoff y mamau.
"Mae gennyf blentyn," ebe un,
"Nid plentyn chwaith, mae John yn ddyn,
Yn Llundain ers blynyddau.

"Mae'r mawr a'r bach yn parchu John,
A'i feistr yn ei foli.
Caiff ffafrau ganddo fwy na mwy,
A'i godi beunydd, meddent hwy,
'Dwy'n synnu dim at hynny.

"Er hyn i gyd mae'n hoff o'i fam,
Caf fynych roddion ganddo,
A dyma beth mae'n ddweyd yn awr—
Fod rhaid im' fynd i'r ddinas fawr
I weld y wedd sydd arno."

"Mae mab gen innau," ebe'r llall,
Gan ddirgel sychu deigryn.
"'Rwy'n caru son am f'anwyl un;
Ddymunech chwi ddim gweld ei lun
Sydd gennyf yn fy mwthyn?

"Ym marn ei Feistr eglur yw
Fod hwn yn ffefryn hefyd;
Ran gyda'r wawr ryw fore'n ol,
Cyn codi'r gwlith oedd ar y ddol,
Fe godwyd fy anwylyd.


"Mae'i ddarlun gennyf ar y mur,
Ac O, 'rwy'n hoff o hono,
Er hynny llefaf am yr awr
Caf fynd fy hun i'r ddinas fawr
I weld y wedd sydd arno."


DY SIOMI GEI.

PAID edrych cymaint ar i lawr;
Nid dyna'r ffordd i'r nefoedd.
I fyny'r rhiwiau serthaf gaed,
A gwlith y wawr yn golchi'th draed:
Ffordd yna mae y nefoedd.

Nid wrth ei cheisio mae ei chael;
Nid dyna'r ffordd i'r nefoedd.
Wrth geisio nef i arall un,
Gan lwyr anghofio'th nef dy hun;
Ffordd yna ceir y nefoedd.

Dos, caria'th groes i ben y bryn;
Mae'r nef ffordd hyn yn rhywle.
A phan ei goddiweddyd wnei,
'Rwy'n credu mai dy siomi gei—
Dy siomi'r ochr ore.


Y GWEITHIWR.

CEIR llawer un ar fin y ffordd
Yn uchel godi'i lef,
Gan haeru nad yw archoll neb
Mor friw a'i archoll ef;
Ond hunan glwyf yw eiddo'r dyn;
Mae'r bicell yn ei law ei hun.

Ond arall orwedd yn ei waed,
Heb nerth i ddweyd ei gŵyn.
Y cyfoeth wnaeth yng ngwres y dydd,
Mae'r lladron wedi'i ddwyn.
Mae lladron eto, Duw a'i gŵyr,
Yn gwylio'r gweithiwr fin yr hwyr.

Diolchwn it', Samariad gwiw—
Diolchwn fwy na mwy,
Am olchi briwiau dynol ryw,
A rhwymo llawer clwy'.
Ond erbyn hyn mae'n hen, hen bryd
I rwymo'r lladron sy'n y byd.


YM MHLITH Y DAIL.

TRA melyn, melyn haul
Yn tynnu llun y dail
Mor dlws ar lawr;
'Roedd rhywun hardd ei llun
Yn siarad wrthi'i hun
Mewn pryder mawr.

"Mae'r dail sydd ar y coed,
A'r dail sydd wrth fy nhroed,
'Run fath yn glir;
A yw'r cysgodion hyn
Sydd ar y papur gwyn
Yr un mor wir?

"A ddeil y frawddeg hon,
A theimlad dyfna'i fron,
Oleuni haul?
Nis gwn pa beth a wnaf,
Os nad rhyw awgrym gaf
Ym myd y dail."

Ei hateb aeth fel hyn—
Dim byd ond papur gwyn,
A deilen gron.
Ac yntau—meddwl wnaeth,
Nes gweledigaeth ddaeth
I lonni'i fron.



"Rhyw awgrym gaf
Ym myd y dail."


Gwnaeth amlinelliad clir
O'r ddeilen fechan ir,
Ryw deg brydnawn:
Ac wedi gwneuthur hyn
'Roedd ar y papur gwyn
Lun calon lawn.

Tra melyn, melyn haul,
Yn tynnu llun y dail
Mor dlws ar lawr,
'Roedd rhywun hardd ei llun
Yn siarad wrthi'i hun
Mewn gwynfyd mawr.


I WELED Y BRENIN.

MAE'r brenin i ddod—lledaenir y son—
I ddod yn ei gerbyd agored;
Yng nghanol y dorf mae genethig fach lom
Yn crynnu gan awydd ei weled.

"Hwre, dyna'r brenin!" Hi welodd y meirch,
Ond O, 'roedd y dorf mor anhydrin;
Hi geisiodd ei weled, ond methu a wnaeth,
Hi fethodd a gweled y brenin;
Er sefyll yn hir, a'r dwyreinwynt yn oer,
Hi fethodd a gweled y brenin.

Dewch gyda mi eto at wely y ferch.
Dolefa ym mhoethder y dwymyn,
"Mae'n dod," meddai, "Codwch fi, sefwch o'r ffordd,
Er mwyn i mi weled y brenin."

Tawela, f'anwylyd; llonydda yn awr;
Cest ormod o'r oerfel a'r ddrycin.
Gorffwysa am ennyd hyd doriad y wawr,
Ac yna cei weled y Brenin.


O, ARWAIN FI.

TYDI, 'r hwn wyddost am y daith—
Ei chroesffyrdd fil, a'i rhiwiau maith;
O, arwain fi.

Cychwynnais draw mewn heulwen glir;
Ond tarth sy'n awr yn toi y tir;
O, arwain fi.

Arweinwyr ereill fwy na mwy
Gynhygiant eu gwasanaeth hwy
I'm harwain i.

Ond rhywbeth sibrwd yn fy nghlyw:—
"Dall neb dy arwain di ond Duw."
O, arwain fi.

Paham nas gallaf fynd fy hun,
Heb gymorth Duw na chymorth dyn
I'm harwain i?

Ai 'r rheswm yw fod nef yn llon
Pan glywo gri y weddi hon:—
"O, arwain fi"?

Yn wyneb pob cyfnewid ddaw,
Mi gydia'n dynnach yn dy law.
Pe'n ddiddim 'r âi credoau'r byd,
Fy ngweddi'n daerach âi o hyd—
O, arwain fi.


Pan gilia pawb yn nos y glyn,
Anadlaf weddi fach fel hyn:—
"O, arwain fi."

Ac wedi cyrraedd gwlad y dydd,
Fy ngweddi fach yr un a fydd;
Yng nghanol rhyfeddodau'r nef
I oesoedd fyrdd hyn fydd fy llef:—
O, arwain fi."


LLEISIAU ANIAN.

MAE lleisiau fyrdd o'n hamgylch
(Gwyn fyd y sawl a'u clyw),
A chredu'r ym mai amcan
Holl gyfrin leisiau anian
Yw dysgu gwersi Duw.

Os caret ddeall ystyr
Y rhosyn wrth dy ddrws,
Y ffordd i wneuthur hynny
Yw gwrando'i genadwri,
A dysgu byw yn dlws.


MAE'N RHAID FY MOD MEWN CARIAD.
(Adroddiad).

MAE'n rhaid fy mod mewn cariad
Yn fwy na neb erioed;
'Rwy'n hoffi sain ei eiriau,
'Rwy'n caru trwst ei droed.

Pan sonir am ei enw
Gan rywun yn fy nghlyw,
Er ceisio peidio gwrido
'Rwy'n methu yn fy myw.

Pan rof fy mhen i orffwys,
Daw breuddwyd bron bob tro;
A chan nad pwy a welaf
'Rwy'n siwr o'i weled o.

'Rwy'n caru fy anwylyd,
A dyma'r rheswm pam—
'Does faban ar y ddaear
Fel cariad aur ei fam.


PLANT YR YSGOL.

'Rwy'n caru mynd yn ol,
Hyd lwybrau'r meddwl,
I fryniau bore oes,
A'u nen ddigwmwl.

'Rwyf yno'r funud hon
Yn nhrwst yr Ysgol,
A'r afon wrth y drws
Yn llifo'n raddol.

Dychmygaf weld fy hun
Ymhlith cyfoedion,
Yn poeni gyda'r wers,
A'r iawn atebion.

Os byth b'ai neb yn glaf,
Cai ado'n brydlon;
Ai adre wrth ei bwys,
Hyd lan yr afon.

Mae mebyd wedi mynd,
A'i ddyddiau dedwydd;
A ninnau gyda'r wers
Mewn ysgol newydd.

Ond collwyd aml un—
Aeth adre'n brydlon;
'Rwy'n cofio'i weld yn mynd
Hyd lan yr afon.



"Yr ysgol,
A'r afon wrth y drws
Yn llifo'n raddol."


Ac er mor egwan oedd,
Cadd nerth o rywle;
'Does neb o'r plant rhy lesg
I gyrraedd adre.


YR IESU YN Y WLEDD.

FE ballodd y gwin yn y briodas;
Daeth prinder a gwarth at y bwrdd.
Eu gweld barodd ofid i'r Ceidwad;
Ei gariad a'u gyrrodd i ffwrdd.
Amneidiodd â'i fys; daeth gwyrth yn ddi-stŵr;
Ac ebrwydd 'roedd archwaeth y gwin ar y dŵr.

Mae gwin pob gwledd yn ansicr;
Fe balla pob mwyniant a fedd.
Os mynnir cael llawnder dihysbydd,
Gwahodder yr Iesu i'r wledd.
Pan dderfydd y gwinoedd yng ngwleddoedd y byd
Gall Iesu greu gwinoedd melusach o hyd.


Y PAGAN A'I DDUW.
(Adroddiad Cenhadol.)

'Rwy'n clywed lleisiau ambell dro—
(Wyt tithau ddim yn clywed?)
Rhyw ochain pruddaidd gyda'r gwynt,
Rhyw lefau o gaethiwed.
Ust, ust, mi glywa'r llefau'n awr
O China bell a'r India fawr.

Daw'r lleisiau weithiau yn y nos.
Bryd arall mewn myfyrdod.
Ond nos neu ddydd mae'u nôd yr un,
Sef deffro y gydwybod;
Gan ddweyd fod llefau dynol ryw
'Run peth a llef o orsedd Duw.

Ces freuddwyd neithiwr rhyfedd iawn:
Gweld pagan ar ei ddeulin
Yn offrwm moliant pur i'w dduw—
A'i dduw yn ddim ond eilun.
Tydi sy'n gwrando yn fan draw,
I'r pagan tlawd rho help dy law.

Fe ddichon na ddisgwylia'r ne'
Ddim iti fynd dy hunan;
Ond anfon arall yn dy le—
Tosturia wrth y truan.
Fe haedda'r pagan dua'i groen
Gael clywed son am waed yr Oen.


Y LLWYBRAU CEIMION.

'ROEDD eira'n drwch ar fryn a dôl
('Rwy'n methu cofio'r flwyddyn);
I mi peth hynod iawn yw hyn—
Sef nad yw'r eira 'n awr mor wyn
A phan o'n i yn hogyn.

'Roedd gweld y ddôl mewn mantell wen,
Mor hardd a dim a welswn;
Ac oddi draw dewisais nôd,
A cherddais drwy y claerwyn ôd
Mor union ag y medrwn.

Ond pan gyrhaeddais ben y daith,
Ces loes a siom nid bychan.
'Roedd ôl fy nghamrau hyd y ddôl,
Fel llawer ereill ar eu hôl,
Yn hynod o ddiamcan.

A gofid barai'r llwybr im'
Bob tro'r edrychwn arno,
Nes gwenodd haul o awyr las,
Gan lwyr ddileu y llwybr cas,
Na welwyd byth mo hono.


I FYNY.

TRA'r bore yn agor ei lygad glas,
A'r haf yn faban,
Mi ddringais lethrau gwlithog y bryn
Wrthyf fy hunan.
Gadewais y dref wrth odrau y rhiw;
Fan honno mae dynion, i fyny mae Duw.

Dring dithau i fyny, cei dâl am dy waith;
Dos i fyny.
Mae popeth yn gwella po'r uchaf yr ei
Ar i fyny.
Mae Duw yn llefaru wrth ddynion o hyd—
Y dynion sy'n dringo mynyddau y byd.



"Dos i fyny,
Mae popeth yn gwella po'r uchaf yr eir
Ar i fyny."


CWSG, FY MABAN.

CWSG yn dawel yn fy mreichiau,
Gariad aur dy fam;
Carwn allu dy anwylo,
Ond mae arnaf ofn dy ddeffro,
Rhag i ti gael cam.

Clywais lawer mam yn moli'i
Baban dinod hi;
Ac os ydoedd honno'n methu
Peidio caru baban felly—
Beth am danaf fi?

Cwsg, fy maban, wrth fy nghalon—
Calon lawn o fraw.
Paid a gwrando ei churiadau,
Meddwl mae am faint y croesau
I dy gwrddyd ddaw.

Methaf beidio dy gusanu;
Gwasgaf di i'm côl;
Dlysed oeddit pan yn huno,
Tlysach ganwaith wedi deffro;
Paid a chysgu'n ol.

Cadw'n effro; paid a chysgu :
Effro—bywyd yw.
Tlysni gau yw'r tlws sy'n huno:
Tlysni gwir yw'r tlws sy'n effro;
Dyna dlysni Duw.


II.

Cwsg, O wagle (ebe'r Duwdod),
Yn dy esmwyth gryd;
Carwn allu dy anwylo,
Ond mae arnaf ofn dy ddeffro;
Cwsg, fy maban mud.

Ond ryw fore fe'i cusanodd—
Cusan "bydded" Duw.
Cododd gwrid i ruddiau'r cread;
Fflachiodd bywyd yn ei lygad;
Baban effro yw.

Paid a chysgu; cadw'n effro;
Effro—bywyd yw;
Tlysni gau yw'r tlws sy'n huno:
Tlysni gwir yw'r tlws sy'n effro;
Bythol dlysni Duw.


MYND ADRE I WELLA.

'ROEDD nodau angeu ar ei wedd—
Y gruddiau gwelw, gwelw.
Yr ysgwydd gul, y peswch blin,
A'r llygad gloyw, gloyw.

Dychwelyd 'roedd o'r ddinas draw
I'w gartre'n Nghymru dirion;
"Ewch yno," meddai'r meddyg mwyn,
"Chwi wellwch ar eich union;"
(Y nef faddeuo lawer gair
Ddywedir gan feddygon).

Cadd siwrne flin i Gymru'n ol;
Cadd siomiant, dyna'r gwaetha'.
Cyrhaeddodd adre, digon gwir,
Ond nid mynd adre i wella.

Mi'i gwelaf ar ei daith drachefn—
Dim siom y siwrne yma;
Drwy'r twnel du i'r goleu gwyn,
Ac wedyn—adre i wella.


HIRAETHOG.

MAE mynydd Hiraethog yn anwyl i mi,
Anwylach na llawer i fynydd o fri;
Mae'r Wyddfa yn uwch, a'i llechweddau yn hwy;
Ond tybed mai maint sydd yn gwneud peth yn fwy?

Paham mae Hiraethog yn hoff gennyf fi?
Wel, pam mae y Moelwyn yn hoff gennyt ti?
A dyma un arall o ddosbarth Paham—
Paham mae y baban yn hoff gan ei fam?

Mae llethrau Hiraethog yn berlog gan wlith;
Fe'u cerais yn fore, fe'u caraf dros byth;
Mae popeth Hiraethog y gore'n y byd;
Mae hyd 'n oed y defaid yn anwyl i gyd.

'Does unman mor geindeg ble bynnag yr âf;
A mawr yw fy sêl dros fynd yno bob haf.
Ond nid yw fy nghalon yn foddlon ar hyn;
Mae hi yn mynd yno bryd bynnag y myn.

Yr Iddew, tra'n caru ei Ganaan wrth law,
Ganfyddai yng Nghanaan y Ganaan tu draw;
A minnau wrth garu Hiraethog o bell
Hiraethaf am gyrraedd Hiraethog sydd well.



PONT YR ALWEN (Hiraethog)

JOHN A'I FAM.
(Adroddiad).

MAE'm calon bron a rhwygo'n ddwy
(Ond peidiwch gofyn pam);
'Rwy'n ceisio gwenu dan fy nghlwy
Wrth ddioddef pennyd mam;
Ond Duw a ŵyr fod beiau John
Yn pwyo hoelion dan fy mron.

Mae'n rhodio ar y dibyn serth;
Ei weld bâr friw i'm bron;
Pe medrwn gwympo yn ei le,
Mi wnawn y funud hon;
O Dduw, rho'th fraich yn ganllaw'n awr
I gadw John rhag syrthio i lawr.

Mae'i weld yn rhuthro yn ei flaen
Mor nwydwyllt ar ei hynt
Yn dwyn adgofion chwerw im'
Am freuddwyd gefais gynt;
Ces freuddwyd blin tra'm baban llon
Yn huno'n dawel wrth fy mron.

Breuddwydiais weld fy mhlentyn hoff
Mewn rhyw enbydrwydd erch;
A minnau'n methu, methu'n glir
Ag arbed mab fy serch.
Disgynnodd dros y clogwyn draw;
Deffroais innau yn fy mraw.


Deffroais gan fy mloedd fy hun,
A'm gruddiau'n llaith gan chwys;
Ac yna i fy mhlentyn tlws
Rhois gusan yn fy mrys;
A chenais gân o glod i Dduw
Wrth weled John yn blentyn byw.

Ond nid breuddwydio 'rwyf yn awr,
Dioddefwn hynny'n llon;
O na, y ffeithiau mwya' i mi
Yw'r dibyn du a John.
O, na chawn ddeffro'n awr, fy Nuw,
A gweled John yn "blentyn byw."


YR AFON.

Pwy ŵyr am afon Mersey?
Pwy groesodd draws ei lli?—
Pwy groesodd yn yr heulddydd?
Pwy yn y caddug du?

Pan gauo'r niwl fel amdo,
Bydd pawb yn llesg gan fraw,
Yn ofni na chyrhaeddant
Mo'r lan yr ochr draw.

Ond pan fo'r niwl dywyllaf,
Heb obaith o un man,
Bydd cloch yr adeg honno
Yn canu ar y lan.

Wrth fynych groesi'r Mersey
I'r ddinas hwnt i'r lli,
Daw ambell syniad arall
Fel hyn i'm meddwl i:—

Fydd heulwen ar y tonnau
Pan groesaf gyda'r nos?
Ai ynte a fydd caddug
Yn cuddio'r ddinas dlos?

Os niwl fydd ar yr afon
Yn digalonni'r gwan,
A gaf fi glywed clychau
Yn canu ar y lan?


DOLI A MINNAU.
(Adroddiad i eneth fach).

'Rwy'n credu nad oes ffrindiau
Fel Doli bach a minnau
Ar wyneb daear gron;[1]
Pan fyddo'r gwynt yn chwythu,
A hithau bron a chysgu,
Mi fyddaf yn ei gwasgu
Yn gynnes at fy mron.[2]

Mae ambell eneth fechan
O hyd yn syrthio allan
A'i dollies gore hi.
'Rwy'n caru doli ddiddig,[3]
Fu 'rioed air angharedig
Rhwng Doli bach a fi.[4]


Nodiadau

[golygu]
  1. Anwylo Doli.
  2. Gwasgu Doli.
  3. Gwenu ar Doli.
  4. Cusan i Doli

GYDA'R NOS.

Ti haul, goreura fryniau'r fro;
Addurna'r nen yn dlos.
Fe haedda'r gweithiwr groeso teyrn
Pan ddychwel gyda'r nos.

A thithau hwyrol awel fwyn,
Cyhwfan ddail y coed,
I ddangos croeso teulu'r llwyn
I'r gwron gore 'rioed.

O'r diwedd dacw fe yn dod
I lawr hyd lethrau'r bryn,
A baich o ludded ar ei gefn,
Yn hen, a'i wallt yn wyn.

Mae ôl ei lafur ar ei law—
Ceir arni lawer craith;
Ond llawer mwy o ôl ei law
A welir ar ei waith.

Wrth nesu at ei gartref llwm
Mae'n canu'n llon ei lef—
"Ac er mor lleied yw fy ngrym
Mae digon ynddo Ef."

O ddrws ei fwth fe wêl yr haul
Yn machlud yn ei rôd;
Ond dwed y gwlith sydd ar y ddol
Fod bore braf yn dod.


BWTHYNOD GWYNNION CYMRU.

NID canu molawd llawnder,
Neu folawd moeth a phleser—
Nid dyna yw fy ngwaith;
Mil hawddach ydyw moli
Y sawl ynghanol tlodi
Sy'n canu ar y daith.

Fwthynod anwyl Cymru,
'Does eisiau mo'ch gwyngalchu
Er mwyn eich gwneud yn wyn;
Mae'r galon wrth anwylo,
O hyd yn gallu lliwio
Gwrthddrychau fel y mynn.

Fwthynod gwlad fy mebyd,
Byth, byth na feiddier newid
Y gwyn oddiar eich mur;
Sibryda'r gwyn am gariad,
Am dlysni mewn cymeriad,
Am hoffter at y pur.

Mae llawer palas ceinwych
Newidiai'i le yn fynych
A bwthyn gwyn y wlad.
Pa fudd yw cyfoeth lawer?
Pa elw geir mewn llawnder,
Os na fydd gwir fwynhad?



"Fwthynod anwyl Cymru,
'Does eisiau mo'ch gwyngalchu
Er mwyn eich gwneud yn wyn;"


Ond ble yr â'r bwthynod?
A yw eu dyddiau'n darfod?
Ai tewi mae eu cân?
Beth bynnag gwrdd â Chymru,
Mae'i llwyddiant hi'n dibynnu
Ar gadw'i thŷ yn lân.


RHY FACH O GANMOL.

GORMOD o feio sydd ar y byd,
A llawer rhy fach o ganmol;
Nid ar y byd y mae'r bai o hyd,―
Mae'r bai i gyd ar y bobol.

'Does dim wrth ein bodd ond tywydd braf,
A blodau'r ardd yn gwenu.
Disgwyliwn gael haf, a dim ond haf;
A chwynwn os na chawn hynny.

Ond y ddrycin rydd werth ar yr heulwen gu,
Y wermod rydd sawr ar y blodau;
Mae'r byd yn ddifai pe na byddem ni
Mor hoff o ddychmygu beiau.


YR HEN A'R NEWYDD.
[Ar agoriad Ysgoldy newydd Llanfihangel Glyn Myfyr, Mawrth 3ydd, 1909].

I LANFIHANGEL cyrcha llu,
Af finnau yno hefyd;
Ac er na'm gwelir yn y dorf,
'Rwyf yno yn yr ysbryd.

Un nodyn glywaf ar bob llaw,
Sef moli yr adeilad;
Ac er na welais faen o'i fur,
Mae'm dymuniadau innau'n bur

Am lwyddiant y sefydliad.
Ond pell bo'r newid sy'n y wlad;
Mae popeth bron yn newid;
Yr "Afon Alwen" aiff o'r fro,
A'r "Garreg Fawr" oedd ar y "Gro
Diflannodd honno hefyd;
'Does dim yn aros dan y nen;
'Rwy'n ofni am y "Llidiart Wen"
Fod honno wedi newid.

Er ceined yw yr ysgol hon—
A nawdd y Nef fo drosti—
Mi drof fy nghamrau tua'r "Llan,"
At ysgol fach sydd ger y fan,
A hyn ddywedaf wrthi:—


Fy ysgol hoff, fy eilun i,
Yw'r dorf yn cefnu arnat?
Wel, os yw pawb yn troi ei gefn,
A gaf fi ddod—a dod drachefn—
I blethu'm braich am danat?

Mae'th ddarlun gen i'r funud hon
('Rwy'n caru'r darlun, hefyd);
A chan nad pa gyfnewid ddaw,
Mi gadwaf hwn sydd yn fy llaw,
Er cof am ddyddiau mebyd.

Ac er malurio o'th furiau'n llwyr,
Ac er i'r llun ddiflannu,
Dy ddelw erys ar fy mron,
Ac nid oes difa'r ddelw hon
Tra pery'r fron i garu.

Ac os gwna'r ysgol newydd hardd
Ei gwaith er gwaethaf rhwystrau
Bydd rhywrai ereill yn y man
Yn rhwym o'i moli hithau.


GLAN Y MOR.

TYRD gyda mi, gyfaill, i làn y môr.
Awn yno a hi yn dyddhau;
Yn oedfa y bore
Ceir Duw ar ei ore;
Awn yno yn brydlon ein dau.

Mae acen y dwyfol ym miwsig y môr
(Nid stwr yr ystorm wy'n olygu);
Po fwynaf yr eigion
Bydd uchaf sibrydion
Y dwyfol sy'n cyfrin lefaru.

Mae'r dòn wrth ymdaflu ar dywod y làn
Yn son am ryw draethau pellenig;
A gwrando di'n astud,
Fe sonia hon hefyd
Am eurdraeth y byd anweledig.

Tyrd gyda mi, gyfaill, i làn y môr.
Mae'r awel yn chwythu o'r de;
Cawn fwyniant, cawn lonydd,
Cawn yfed llawenydd
Ac iechyd dan fendith y ne'.

Mae'r cychod yn dawnsio ar donnau y traeth,
Yn union fel plant fo'n aflonydd,
Wrth weled y llongau
Yn hwylio i'w teithiau,
A hwythau yn gaeth wrth y glennydd.



"Mae'r awel yn chwythu o'r de."

Tyrd gyda mi, gyfaill, i làn y môr,
Mae'n ferw gan nerth y rhyferthwy;
Yng nghrochlef y weilgi
Mae ochain a gweddi:
O, Dduw, y mae'r storm yn ofnadwy!

Awn eto i'r oedfa ar làn y môr;
Mae'r Duw—ddyn yn annerch y miloedd;
Mae murmur y tonnau,
Ac adsain Ei eiriau
Yn fiwsig yng nghlustiau y nefoedd.


RHANNA DY BETHAU GORE.

RHOI wnaeth y weddw honno
(Rhoi wna ei rhyw o hyd).
Rhoi 'run fath a'r ffynnon,
Rhoi o waelod ei chalon,
Rhoi—a chael 'run pryd;
Y ffordd i gadw trysor yw
Ei roi yn ol ar allor Duw.

Rhanna dy bethau gore,
Rhanna, a thi yn dylawd,
Rhanna dy wên a'th gariad,
Rhanna dy gydymdeimlad,
Rhanna dy nefoedd, frawd;
Rhyw nefoedd wael yw eiddo'r dyn
Fynn gadw'i nefoedd iddo'i hun.


BOB TRO BWY'N GWASGU'TH LAW.

CYDGERDDAI ef a minnau,
Yn araf bob yn gam;
A mawr fy ngofal drosto—
Fy mhlentyn bach di-nam.

Fy llaw ro'wn iddo'n fynych;
Ymaflai yntau'n dynn;
(Pwy byth all draethu mwyniant
Y serch—wasgiadau hyn?)

Amherffaith oedd ei eiriau;
Ond gwenai yn ddi-fraw,
Gan sibrwd iaith ei galon
Heb ddim ond gwasgu'm llaw.
*****
Fy Nuw, mae'm golwg arnat;
Paid troi Dy wyneb draw.
I ddangos maint fy nghariad,
Gad imi wasgu'th law.

A phan fo geiriau'n methu
Mynegu maint fy mraw,
Ti wyddost beth wy'n feddwl
Bob tro 'bwy'n gwasgu'th law.


Y DARLUN.
(Cyflwynedig i Gyfail!).

FY narlun a geisiwch,
Pa ddiben nis gwn;
Ond cewch un â chroeso—
Gymerwch chwi hwn?

Nis gallech f'yspeilio
Pe cym'rech bob un,
Oblegid 'rwy'n cadw
Un copi fy hun.

Rhagorach na'r darlun,
Boed wych neu boed wael.
Yw darlun o'r galon
Os gellir ei gael.

Chwi gewch fy nghaneuon,
Os mynnwch, bob un,
Oblegid 'rwy'n cadw
Un copi fy hun.


Robert Hughes Jones (1860-1943)

TORIAD Y WAWR.

MAE gerddi y ddaear
Yn swynol dros ben;
Ond cwyd dy olygon,
Gwel erddi y nen.

Mae "llygaid y dydd "
Yn dlws ar y rhos;
Ond gwn am eu tlysach—
Llygaid y nos.

Rhagorach na'r cyfaill
Ddaw ataf liw dydd,
Yw'r cyfaill ddaw ataf
A'r wawr ar ei rudd.

'Dwy'n caru mo'r hydref,
Er llawned ei gôd;
Mae'n well gen i'r gwanwyn,
A'r gore i ddod.
Ar drothwy y wawr

Ceir disgwyliad yn llawn;
Ond trengu wna gobaith
Ar drothwy'r prynhawn.

'Rwy'n caru y nefoedd
Fel heulddydd yn fawr;
Ond caraf hi ore
Fel toriad y wawr.


RHOI A GWRTHOD

Y PLENTYN erfyniai am ffafr gan ei fam;
Erfyniai yn daer mewn anwybod;
A hithau o gariad wrthodai ei gais:
Trugaredd â'r bach oedd ei wrthod;
"Ni wiw i ti gael yr hyn geisi, yn awr,
Ond dichon y cei ar ol mynd yn fawr.'

Bum innau yn deisyf rhyw bethau cyn hyn;
A'u deisyf yn daer mewn anwybod;
A'r nefoedd o gariad yn gwrthod eu rhoi :
Rhagorach na'u rhoi oedd eu gwrthod;
"Ni wiw i ti gael yr hyn geisi, yn awr,
Ond dichon y cei ar ol mynd yn fawr."


PEN Y BRYN.

PAHAM mae rhwystrau ar y ffordd,
A chroesau fil i'w cario?
Paham y crewyd rhiwiau'r byd
Mor serth a blin i'w dringo?
Dwed teg olygfa pen y bryn
Mai Duw Ei Hun a drefnodd hyn.

Mor ddyrys yw cynlluniau'r nef,
Ond nid yw hyn yn hynod,
Ran un o'r croesau 'rhaid eu dwyn
Yw aros nes cael gwybod;
Dwed teg olygfa pen pob bryn
Mai Duw ei Hun a drefnodd hyn.

Mae gwraidd y lili dlysa 'rioed
Yn dynn mewn daear domlyd;
A gwreiddia'r wên sydd ar dy rudd
Yn ddwfn mewn poen ac adfyd.
Dwed teg olygfa pen pob bryn,
Mai Duw Ei Hun a drefnodd hyn.


NOS A BORE.

RHAID iti godi'n fore
Os mynni ganu cân.
Y wawr yw'r adeg ore,
Medd cerddi'r adar mân.

Dos allan gyda'r wawrddydd;
Yr awr ryfeddaf yw;
Mae dwndwr dyn heb ddeffro,
A'r fro yn llawn o Dduw.

Yn nrych y gwlithyn gloyw
Mae'r lili'n gweld ei llun,
A chlywir si yr awel
Yn siarad wrthi'i hun.

'Rwy'n caru gwawr y bore;
Mae'n dweyd cyfrinach Duw;
Anghofia son am farw
Gan frys i son am fyw.

Os bydd y nos yn arw,
Os bydd y nos yn brudd,
Boddlonaf os caf farw
A'r bore ar fy ngrudd.


YN NWYLO'U GILYDD.

CERDD yn araf, araf, Deio;
Gad im' gydio yn dy law;
Mwyach nid oes angen brysio;
Gwel, mae drws y ty gerllaw.

Deio anwyl, wyt ti'n cofio'r
Noson, flwyddi maith yn ol,
Pan yn llon yn nwylo'n gilydd
Y rhodiannem hyd y ddol?

Wyt ti'n cofio cyfnod arall
Plant yn chware ar y rhos?
Cydient hwythau'n nwylo'u gilydd
Wrth fynd adre gyda'r nos.

Cerdd yn araf, araf, Deio;
Cydia'n dynnach yn fy llaw;
Os yw'n nosi, ni raid brysio,
Gwel, mae drws y ty gerllaw.


AFON ALWEN.

Y FI bia Afon Alwen.
'Does undyn all wadu fy hawl yn un man.
Nid y fi bia'r dolydd oddeutu ei glân;
Ond y fi bia Afon Alwen.

Mae'r estron yn bygwth yspeilio ei lli;
Ond nis gall wneud hynny heb ofyn i mi,
Ran y fi bia Afon Alwen.

Breswylwyr y ddinas, distawer eich stŵr,
Rwy'n gwrando o hirbell ar furmur y dŵr
Yn llifo yn Afon Alwen.

Hi dardda (fel minnau) o galon y wlad,
Mae'n llifo gan roddi, a rhoddi yn rhad;
Mae'n rhoddi tan ganu, mae'n rhoddi'n mhob man—
Y "Pentre," a'r "Hendre," a'r "Fodwen," a'r "Llan";
Un hael ydyw Afon Alwen.

Mi wn am ei lled, ac am ddyfnder pob llyn:
Mi'i croesais yn droednoeth, do, ganwaith cyn hyn;
Dolenna mewn mannau, ond dychwel yn ol;
Mae'n rhwym o'm cyfarfod wrth waelod y ddol;
Un fwyn ydyw Afon Alwen.



"Mae'n rhoddi tan ganu, mae'n rhoddi'n mhob man—
Y Pentre,' a'r 'Hendre,' a'r Fodwen,' a'r 'Llan';
Un hael ydyw Afon Alwen."


Mi'i gwelaf yn llifo at ysgol y llan;
Dychlama fy nghalon wrth son am y fan.
'Rwy'n cofio pob trofa, pob carreg o'r bron,
A dyna pam Îlefaf o ddyfnder fy mron—
Y fi bia Afon Alwen.

Tu isaf i'r ysgol prysura i ffwrdd,
'Ddaw hi, mwy na mebyd, byth mwyach i'm cwrdd;
Mynd adre mae'r Alwen; mae'n graddol nesau.
Mynd adre 'rwyf finnau. Mynd adre ein dau—
Y fi a'r Afon Alwen.


MAIR A MARTHA.

Pwy roddai groeso i Fab y Dyn?
Mair a Martha;
Pob un a'i croesawai'n ei ffordd ei hun—
Mair a Martha;
Y naill wrth Ei draed a'i llygaid yn llaith;
Y llall a'i haddolai o ganol ei gwaith.

Pwy sy'n rhoi croeso i'r Iesu o hyd?
Mair a Martha;
Pwy sydd yn hoff gan Waredwr y byd?
Mair a Martha;
Gofalwn rhag beio ar gynllun yr un;
Mae'r ddwy yn rhoi croeso i Fab y Dyn.


BLODAU'R NEF.

PLENNAIS hedyn yn yr ardd,
Dagrau'r cwmwl du—
Gwenau'r heulwen gu—
A thyfu wnaeth yn flodyn hardd.

Syrthiodd hedyn oddi fry,
Dim ond cosb a gwg—
Tyfu'n fachgen drwg—
Diffyg gwên yr heulwen gu.

Syrthiodd un o hadau Duw,
Dim ond heulddydd poeth—
Tad a mam anoeth—
Gwywodd blodyn teca'i liw.

Dysgwn wersi gerddi'r nef,
Deigryn dros y bai,
Gwên am ufuddhau;
Dyna wersi gerddi'r nef.


Y BLODYN.
(Cyflwynedig i dad a mam yn eu galar.)

RHODIANNAI gwr bonheddig
Ryw fore yn ei ardd;
A denwyd bryd ei galon
Gan flodyn bychan hardd.

'Dyw cariad byth yn foddlon
I'w wrthrych fyw ymhell;
Er cystal gerddi'r pellder,
Mae'r ardd sy'n nes yn well.

A'r blodyn bach symudwyd
I ardd wrth ddrws y tŷ,
Lle gallai ei berchennog
Gael mwy o'i wenau cu.

Fe'i plannodd ef ei hunan
Mewn man yn wyneb haul;
Os tlws oedd ar y cyntaf,
Mae'n awr yn dlws ddi—ail!

Ond hiraeth am y blodyn
A drodd yr ardd yn brudd;
Bu'r blodau bach yn crio
Drwy'r nos y noswaith honno,
A dagrau ar eu grudd.

Ond peidiwch wylo, flodau;
Daw bore hyfryd pan
Symudir chwithau hefyd
I'r heulwen yn y man.


Y CWERYL.
(Adroddiad).

CHWAREUAI'r ddau yn llon eu gwedd
Ynghanol eu teganau;
Ond cododd cweryl yn eu plith
Ynghylch y tegan goreu.

Anafwyd un, ac yna'r llall,
A chollwyd dagrau heilltion;
Ac yn y frwydr ffol a fu
Y tegan wnaed yn yfflon.

Ai gwenu 'rwyt, wrandawr doeth,
Gan gyfri'r ddau yn anghall?
Wel, ti dy hun oedd un o'r ddau,
A minnau'r baban arall.


LLWYBRAU'R DEFAID.

MAE llwybrau Hiraethog—hoff lwybrau fy mebyd—
Yn newid rhyw gymaint o hyd ac o hyd;
Bum yno (pa ddiwrnod?) yn rhodio ar hyd—ddynt;
I mi 'roedd y llwybrau yn newydd i gyd;
Ond os yw y llwybrau yn newid eu llun;
Pa syndod yw hynny?—'Rwy'n newid fy hun.

Mae llwybrau y defaid hyd lethrau Hiraethog
Yn symud ffordd yma, yn symud ffordd draw;
Ceir glaswellt yn tyfu ar lwybrau'r gorffennol;
'Does neb all broffwydo pa lwybrau a ddaw;
Ond os yw y llwybrau yn newid eu llun,
Mae mynydd Hiraethog yn aros yr un.

Anwadal, ansicr, yw rhodiad y meddwl;
A newid mae'i lwybr wrth geisio y gwir;
Mae glaswellt yn tyfu ar lwybrau'r gorffennol;
Bydd glaswellt yn tyfu ar ereill cyn hir;
Ond os yw y llwybrau yn newid eu llun,
Mae'r bryniau tragwyddol yn aros yr un.



"Llwybrau y defaid hyd lethrau Hiraethog."

SYCHED Y GALON.

AR draws y cae ger drws y tŷ
Mi welais lwybr bychan;
Rhodiannais hyd y llwybr hwn
Er gweld beth oedd ei amcan;
A ffynnon loyw welais i,
A llun y nefoedd yn ei lli.

Mae cri am ffynnon ymhob bron;
Mae'n rhaid i ddyn gael ffynnon;
Rhyw son o hyd mae'r wefus sych
Am syched mwy y galon.
Tydi, O Dduw! yw'm ffynnon i,
Mae'r nefoedd yn Dy ddyfroedd Di.


Y FYNWENT.

CERDD yn ysgafn drwy y fynwent;
Nid y byw a bia'r fan;
Eiddo'r marw—ei unig eiddo,—
Ydyw erw fach y llan.

Ti gei lamu ar y mynydd;
Rhed, os mynni, ar draws y ddol;
Ond cerdd yn araf tua'r fynwent—
Haws yw mynd na dod yn ol.

Rhaid, fy nghyfaill; rhaid mynd yno;
Pam mae cryndod yn dy law?
Gwel, mae llwybr drwy y fynwent.
Dacw'r porth yr ochr draw.


NEF Y NEF.

RHо heibio'th or—bryderon
Am nef ar ben y daith,
Mae'r nefoedd yn dy ymyl—
Y nefoedd yn ei gwaith;
Mae hon wrth law; ond cofia di
Mai "treiswyr sy'n ei chipio hi."

Rhyw ddwyfol rôdd yw'r nefoedd
(Diolchwn am y ffaith);
Ond nefoedd fach yw honno;
Mae'r nefoedd fawr mewn gwaith;
Cynhygir nefoedd fawr i ti;
Ond nid am ddim cynhygir hi.


NID DIGON DYSG.

DIWYLLIANT nis diwalla—ddyn. Pa ddawn,
Pa ddysg a'i gwareda?
I ddenu dyn yn ddyn da,
Crefydd yw'r gallu cryfa'.


FY NGHALON.

MAE'm calon 'run fath a'r afonig—
Ceir llawnder o ddagrau'n mhob un.
Mae'm calon 'run fath a'r afonig,
Yn siarad â hi ei hun.

Mae'm calon 'run fath a'r cefnfor
A siglir gan ddwylaw cudd.
Brenhines y nos sy'n ei siglo,
Fe'i siglir gan deyrn y dydd.

Mae'm calon 'run fath a'r aderyn
Fynn hedfan i entrych y nef;
Tra'r ddaear yn tynnu, a thynnu.
Nes llaesu ei aden gref.

Mae craig ar lethr Hiraethog
Yn ateb pob llef a glyw;
Ac felly mae'm calon innau
Yn ateb lleferydd Duw.

Mae oriel yn ninas Llundain
Yn adsain pob egwan gri;
Ac felly mae'r nefoedd yn ateb
Murmuron fy nghalon i;
O, diolch i'r nefoedd am wrando
Murmuron fy nghalon i.



"Mae'm calon 'run fath a'r afonig,
Yn siarad â hi ei hun."


Y DYCHYMYG.

PA beth yw'r gallu hwn dderbyniodd dyn—
Y gallu i ddychmygu pethau fyrdd,
Nad ynt, na fuont, ac na fyddant byth?
Ym myd dychymyg nid oes dim nas gall;
Gall eistedd ar ei orsedd yn y nef
A galw bydoedd fwy na rhif i fod,
A hwythau'n ufudd ddeuant ger ei fron;
Ac yna gyda'i anadl chwyth yr oll
Yn ol fel cynt i'r anweledig pell;
A chwyd ei fys drachefn, ac wele lu
O bethau ereill, cwbl groes i ddim
Y gwelodd Duw hyd yma'n ddoeth ei greu.
Fel hyn y cerdd dychymyg fyth ymlaen
Gan efelychu yr Anfeidrol Fod;
A phrawf pob darlun welir ar ei lech
Fod yn y plentyn dalent at y gwaith;
Ac awgrym geir fod hwn sy'n chware creu
Yn fab i'r Tad sy'n creu o oes i oes.


AGORWCH Y DRYSAU.

MAE awel y dehau yn tramwy trwy'r ardd,
Agorwch y drysau;
Yn chwilio am danom mae'r tyner a'r hardd,
Agorwch y drysau;
Rhyw ddyfais gan ddynion yw drysau y byd,
Mae'r pyrth greodd Duw yn agored i gyd.

Daw dydd pryd na welir cyfoethog a thlawd,
Agorir y drysau;
(Gofala di ymddwyn yn deilwng, fy mrawd,
Pan egyr y drysau);
Nid trefniant y nef ydyw drysau y byd,
Mae'r pyrth greodd Duw yn agored i gyd.

Mae pyrth gwir ddedwyddwch bob amser ar lêd,
Pwy glywodd am ddrysau?
Mae'r nefoedd i'w chael i bwy bynnag a gred,
'Does yno ddim drysau;
Rhyw ddyfais gan ddynion yw'r drysau o hyd,
Mae'r pyrth greodd Duw yn agored i gyd.


Nodiadau

[golygu]

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.