Y Fainc Sglodion/At y Darllenydd
| ← Cynnwys | Y Fainc Sglodion gan John William Jones |
Straeon y Chwarel → |
AT Y DARLLENYDD
RAI blynyddoedd yn ôl bûm yn ysgrifennu ychydig o wahanol nodiadau i'r "Cymro" dan y teitl "Y Fainc 'Sglodion." Y mae "Mainc 'Sglodion" y chwarelwr yn wahanol i "Fainc 'Sglodion " y saer. Cesglir ysglodion y saer a'u bwrw yn y tân, ond ar yr hyn a rydd y chwarelwr ar ei Fainc y dibynna ef ar wneuthur ei gyflog. Wedi llifio'r cerrig ar y bwrdd, fe'u trinir yn glytiau i wahanol faintioli, a gosodir hwynt yn bentwr yn barod i'w hollti. Wedi hollti'r clytiau â chŷn a gordd, gelwir hwynt yn "sglodion" a gosodir hwynt ar fainc yn barod i'w naddu i wahanol faintioli. Ceir rhai mawrion am Princes a Dutches, ac eraill llai yn eu mysg, ond y mae gwerth ym mhob un at wneuthur llechen. Gorau yn y byd i'r chwarelwr ydyw cael digon o 'sglodion da i wneuthur peiliau o lechau.
Cefais brofiad o weithio yn chwarel Oakeley am 53 mlynedd, a chredaf nad oes waith difyrrach i'w gael, er caleted ydyw, na gwaith y chwarelwr, ond iddo gael digon o gerrig da, a phris teg am eu gweithio. Byddai'r chwarelwyr wrthi'n ddiwyd o fore hyd hwyr, ac nid oedd angen cael neb i'w gwylio. Clywais rai o'r tu allan i'r chwarel yn eu condemnio a gweled ynddynt feiau. Anodd cael dosbarth o ddynion caredicach na hwynt. Un peth i synnu ato ydyw bod cyn lleied o weithwyr yn chwarelau Arfon a Meirion wedi eu penodi yn Ustusiaid Heddwch ar hyd y blynyddoedd. Y mae digon o ddynion da yn eu plith a allent gyflawni'r swydd.
Bu cyfnod caled yn hanes y chwarelwyr yn y blynyddoedd gynt, gweithio deng awr yn y dydd am gyflog bach, a gweithio tri a phedwar diwrnod yn yr wythnos. Mewn rhai melinau gwelwyd tua deuddeg ac ychwaneg o "weithwyr wrth y dydd" heb waith ar ddechrau'r mis, ac yn gorfod troi adref.
Byddai rhai am fisoedd yn cerdded o'r naill chwarel i'r llall i chwilio am waith, ond dim i'w gael.
Byddai amryw o'r hen weithwyr yn y blynyddoedd gynt yn cymryd "spri," ac adref am wythnos a rhagor heb weithio. Wedi hynny gweithient fel caethion. Cofiaf adeg pan welai'r meistr bob bai ar y gweithiwr, ac nid oeddynt yn cyfrif dim, yn enwedig rybelwyr. Erbyn heddiw y mae'n wahanol, a mwy o agosrwydd rhwng y meistr a'r gweithiwr.
Tri lle pwysig gan yr hen weithwyr gynt oedd y Cartref, Yr Ysgol Sul, a'r Capel. Yr oeddynt am i'w plant gael Crefydd ac Addysg. Cofgolofnau i'w haberth ydyw'r capelau, a'r ysgolion ardderchog a welir yn ein henfro. Dringodd llawer o blant gweithwyr y fro i safleoedd uchel, mewn byd ac eglwys.
Yn ei awdl ar "Hunanaberth" dywedodd Elfed:
"Llawer bachgen talentog—a ddringodd
I rengau'r bydenwog;
A'r hen bobol wrol lin,
O'u cyni'n gwasgu ceiniog."
Deuai llawer o ddynion o wahanol leoedd i weithio i'r
chwarelau flynyddoedd yn ôl, ac arhosent ar nosweithiau
yr wythnos mewn baricsod, a dychwelent i'w cartrefi ar
brynhawn Sadyrnau.
Yr oedd amryw ohonynt yn ddynion talentog, ac wedi eu diwyllio'u hunain mewn gwahanol feysydd o wybodaeth yn eu horiau hamdden.
Meddylier am y manteision sydd heddiw ar gyfer pobl ifainc, y mae'n berygl i ormod o fanteision droi yn anfantais wedi'r cwbl.
Yr oedd hen Farics Chwarel y Rhosydd yn hysbys i bawb, oherwydd y dynion talentog oedd ynddo. Cynhaliwyd Eisteddfodau gan rai o weithwyr y gwahanol chwarelau yn y blynyddoedd gynt. Bu bri mawr ar Eisteddfod y Rhosydd, a Chwmorthin, a Holland, a'r Llechwedd ac eraill.
Byddai'r beirdd, a'r llenorion, a'r cerddorion yn paratoi yn ddyfal ar eu cyfer. Cyhoeddwyd rhai o'r Cyfansoddiadau Buddugol yn llyfrau bychain.
Byddai damweiniau bron bob wythnos yn digwydd yn y chwarelau yn y blynyddoedd gynt. Ceir rhestr am lawer o'r damweiniau y collwyd bywydau yn un o "Lyfrau Glas" y Llywodraeth ynglŷn â'r chwarelau. Dodid y clwyfedigion mewn elor bren fawr, ac ar rai troeon eisteddai cydweithiwr yn yr elor gyda'r clwyfedig. Cludid yr elor fawr drom ar ysgwyddau'r gweithwyr i ysbyty'r chwarel, neu i'w cartrefi. Wedi dyddiau'r elor cafwyd stretcher ysgafnach yn ei lle. Erbyn heddiw ceir pob rhwyddineb, a'r gofal mwyaf, i gludo gweithwyr clwyfedig i'r ysbyty mewn modur pwrpasol at y gwaith, Ambulance Car.
Ar ôl torri cadwynau gormes yn Sir Feirionnydd adeg Etholiad 1868, goleuwyd lampau gwleidyddiaeth a chafwyd ffrwyth da.
Diwygiad cymdeithasol pwysig i'r gweithwyr oedd sefydlu "Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru " yn 1874. Bu cewri o ddynion gwrol a galluog yn ymladd yn ddewr o'i blaid, a bu o les dirfawr i'r gweithwyr.
Sefydlwyd Bwrdd Ysgol yn ein hardal yn 1871, wedi hynny Cyngor Plwyf yn 1878, Cyngor Sir yn 1889, a'r Cyngor Dinesig yn 1894. Yr oedd ynddynt ddynion gweithgar yn deall eu gwaith a gwnaethant wasanaeth amhrisiadwy.
Sonnir am y brwydrau ynglŷn ag Addysg a fu yma gynt. Yr arweinwyr yn yr eglwysi, ac aelodau o'r Ysgolion Sul, oedd yr ymladdwyr ymhob brwydr gydag Addysg, Dirwest, ac Iawnderau i'r Gweithwyr. Anfonwyd swm da o arian gan y gweithwyr gynt at godi rhai o Golegau Prifysgol Cymru.
Cynhelir Cyngherddau yn aml i gynorthwyo gweithwyr mewn afiechyd a llesgedd. Gwnaeth y Seindyrf, a'r Corau, a'r datganwyr, ac adroddwyr, eu rhan yn garedig ynddynt.
"Rhoi llaw i godi o'r llwch
Dyna goron dyngarwch," meddai Gutyn Arfon.
Ol-nodiad.—Gwnaed Siaced Lwch i'r gyfrol a'r darlun o'r hen weithiwr yn cadw'i arfau, gan Mr. Medwyn Evans Roberts. Bachgen ifanc talentog ydyw ef, mab i wraig weddw, sef Mrs. Thomas Roberts, Blaenau Ffestiniog. Chwarelwr oedd ei dad a giliodd o helynt y byd yn sydyn. Enillodd Medwyn lawer o wobrwyon yn barod er ieuanged yw. Efo a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst am bortreadu unrhyw gymeriad o'r "Pentre Gwyn" (Anthropos). Gwnaeth yntau ddarlun penigamp o Martin y Pedlar. Ar hyn o bryd y mae yn y coleg yng Nghaerdydd.
Mawrth 23, 1953 JOHN W. JONES.