Neidio i'r cynnwys

Y Fainc Sglodion/Awen y Chwarel

Oddi ar Wicidestun
Straeon y Chwarel Y Fainc Sglodion

gan John William Jones

Cwpledau gan Ioan Brothen

AWEN Y CHWAREL.
COFIO DEWRION Y RHYFEL MAWR.
D.J.

Rhyw chwerw glwy' o'r math mwya'—ydyw byw
Heb "Dei bach Crimea";
O'i ôl ef fel awel ha',
Hiraeth yn brudd alara.


J.J.

Wr hynaws, dy fwyn dirioni—a ddeil
Trwy'r dduloes o'th golli ;
Gwlad wen uwch tân—belenni,
Yn ddi—staen gyrhaeddaist ti.


ENWAU'R HOGIAU.

Enwau ein hogiau glanwedd—a erys
Mewn hiraeth a symledd;
O helynt brwnt dialedd
Eu llwch hwy gaiff bellach hedd.


BONEDDWR.

Hen drempyn gwael ei olwg
Oedd ef yng nghyfri'r byd,
Yn gwerthu rhyw fân nwyddau
A chanu ar y stryd.

Nid oedd ei gân yn swynol
Crynedig oedd ei lais;
Ond tystiai'i wedd anghenus
Mai cywir oedd ei gais.

I mi boneddwr ydoedd,
Er nad oedd ganddo 'stad;
Oni safodd ef yn bennoeth
Pan basiodd corff fy nhad?


Nodiadau

[golygu]