Y Fainc Sglodion/Cofnodiad byr o bregeth a bregethwyd ar noson waith
| ← Straeon y Capel | Y Fainc Sglodion gan John William Jones |
→ |
PREGETHU AR NOSON WAITH.
Yn y blynyddoedd gynt arferid cael ambell bregeth gan wahanol weinidogion o bob enwad ar noson waith. Cofiaf y capel yn llawn, a gweithwyr o'r Baricsod o'r Rhosydd, Croesor, ac o annedd-dai o Gwmorthin yn dyfod yno yn eu dillad gwaith. Am y gweithwyr dywedodd Moses Henry Hughes fel hyn:
Gwlith Hermon i'r gweithwyr caled
Yw'r chwys ar eu gruddiau llaith,
A sacrament dlws y bore.
Yw gwisgo eu dillad gwaith."
Un o'r pregethwyr mwyaf cymeradwy a ddeuai i'r henfro oedd y Parch. John Roberts, Corris, (Rhyl wedi hynny).
Byddai bob amser yn llefaru brawddegau cofiadwy ac yn
adrodd ambell stori afaelgar.
Dyma un enghraifft o'i eiddo pan bregethai ar "Llety Glan-yr-afon"—Josua 3 ben., I adn.
"Diwedd teithio yr anialwch, adeg croesi yr Iorddonen, adeg dechrau troedio Gwlad yr Addewid. Mae ambell long wedi arfer mordwyo y moroedd mawrion yn ddiogel, ac wedi dal ystormydd ond yn mynd yn wreck yn y channel. Y mae llawer gyda chrefydd yn debyg yn mynd yn wreck wrth fynd adref. Mynnwch grefydd i'ch cynnal yn y byd yma, mewn profedigaethau, mewn helbulon, a thrallodau. Bara beunyddiol ydyw crefydd iawn. Croesa llawer o bobl i'r Amerig a lleoedd eraill, ac ar lawer o'u luggage rhoddir labels "Not wanted on the voyage," ac ar rai eraill yn rhoddi "Wanted on the voyage"; ond am blentyn Duw y mae ar hwn eisiau crefydd bob dydd o'r daith. Treuliais ddiwrnod ar lan y môr yr haf diwethaf—diwrnod tawel, braf, "heb don ar wyneb y dŵr." Yn y prynhawn beth a welwn yn mynd allan ar y môr ond y Lifeboat a'i griw. Gofynnais i ddyn a safai gerllaw, "I ba beth yr ewch allan ar ddydd mor braf?" "O!" meddai, "exercisio y maent heddiw i edrych a ddeil yr hen gwch y stormydd." Gwnewch chwithau yn debyg gyda'ch crefydd 'y mhobol i. Treiwch hi ar ddyddiau tawel i edrych a ddeil hi y storm fawr. Os na ddeil chwi yn aberoedd bach y byd hwn, ni ddeil mohonoch yn ymchwydd yr Iorddonen gref. I ba harbwr yr wyt ti'n morio? Ai yn llong pechod neu yn llong fawr yr Iachawdwriaeth yr wyt ti heddiw gyfaill? Yn hon y cei di fynediad helaeth i drigfannau dy Arglwydd. Crefydd iawn yw'r trysor pennaf."