Y Fainc Sglodion/Enwau ar wahanol "Lygadau"
| ← Englynion gan "Bob John, Tanrallt" | Y Fainc Sglodion gan John William Jones |
Soned: "Creithiau" (T. E. Nicholas) → |
ENWAU AR WAHANOL "LYGADAU."
(Nid "Llygaid " a ddywaid y chwarelwyr, a'r creigwyr, ond "Llygadau ").
1. North Vein.
Yr Ithfaen Coch uchaf.
Bastard. (Hen frid).
2. Back Vein.
Yr Ithfaen Coch isaf.
3. Silky Vein. (Tew Llwyd). (Tew Sidan).
Hard Churt.
4.Narrow Vein.
5. Old Vein.
6. New Vein.
ENWAU RHAI O'R GWYTHIENNAU YN YR "HEN LYGAD." (OLD VEIN).
Y mae trwch y maen oddeutu 70 llath.
1. Yr Ithfaen Glas. (Y Slont Glai).
2. Gwythien y Meinars.
3. Y Gwythiennau Rhywiog.
4. Y Wythien isaf o'r tair a'r teulu.
5. Gwythien y Crych Du.
6. Y Wythien Sulphur.
7. Y Pum Wythien.
8. Y Wythien rhwng y Pump, a'r Wythien Wen.
9. Y Wythien Wen a'r teulu.
10. Yr ail oddi wrth y Wythien Fawr.
11. Y Wythien Fawr.
12. Y Wythien Fawr a'r teulu.
14. Y Wythien Gam.
15. Yr ail Wythien Gam.
16. Gwythiennau mân a'r Sulphur.
17. Pen uchaf y Llygad Caled. (Tew bras).
18. Y Wythien Galed a'r teulu.
19. Yr ail Wythien Galed.
20. Y Wythien Lwyd.
21. Y Wythien Fflat.
22. Y Wythien Grych.
23. Sulphur y Llygad Caled isaf.
24. Y Wythien Galed isaf.
25. Gwythien y Smotiau isaf.
26. Gwythien y Sulphur Du a'r rhai diwethaf.
27. Ithfaen isaf.
Trwy garedigrwydd rhai o oruchwylwyr Chwarel Oakeley y cefais y rhestr uchod, a diolchaf iddynt am- danynt. Ni cheir yr enwau hyn mewn llyfrau ar Ddaear- eg, ond enwau a roddodd yr hen greigwyr medrus gynt ar y gwahanol wythiennau ydyw'r cwbl J.W.J.
ENWAU AR Y GWYTHIENNAU YN Y "LLYGAD COCH."
Ithfaen Uchaf.
Tew Cyrli.
Tew Uchaf sef Gwythiennau bras, a'r Wythien Gortyn yn ei ganol, a gwythiennau mân ar ei waelod.
O tan y Tew uchaf mae Ithfaen Glas.
Tew Tair Wythien, neu Tew Fflax, a'r Wythien Derfyn ar ei waelod. O dan y Tair Wythien mae'r Wythien Wyllt, a'r Wythien Gron yng nghanol y Tew Bach sydd o dan Tew y Tair Wythien. Yno mae'r Wythien Las. Ar ei waelod y mae y Gwythiennau canlynol: Y Wythien Ffyrnig, Y Ddwbl, Y Saith, Y Bitch, Y Tolc Dwbl, Y Gortyn, Y Ddifyr, Y Fawr Uchaf, Y Felen, Y Fawr Isaf, Y Tolc Mawr, Y Las Isaf, Y Datws, Tair Wythien Isaf, Pum Wythien a'r Gwythiennau Llwydion. Tew Bach ar yr Ithfaen Isaf.
Gan y chwarelwr medrus, Mr. William Evans, Manod (gynt o Lennyrch Moch), y cefais y rhestr o'r enwau uchod. Diolchaf iddo am eu cyflwyno imi.—J.W.J.
ENWAU AR RAI O ARFAU'R CHWAREL, A PHETHAU ERAILL A DDEFNYDDIR YN Y CHWAREL.
Adain Plwg, Bach, Blocyn, Brisyn, Bwrdd llifio, Buglan,
Bag, Bwced dŵr, Cŷn brashollt, Cŷn manhollt, Cŷn marcio,
Coujian, Cyllell bach, Craen, Cwplws, Clwt, Clytiau, Cist,
Cefn-croes, Cadach glin, Cadwyn, Cannwyll, Caib,
Cafn, Clespyn, Driver plŵg, Ebill, Elor, Ffiws, Ffiwsan,
Ffeil, Gwagen, Gordd Haearn, Gordd bren, Haearn
pileru, Injian stêm, Injian oil, Injian naddu, Injian dyllu,
Injian hogi; gelwir Melin yn Injian hefyd, Injian dradlan, Jack screw, Jim crow, Lamp, Lantern, Ladi, Limpin,
Llif gron, Llechen gownt, Miniar, Mainc Gerrig, Mainc
Sglodion, Morthwyl, Moelyn, Nogyn, Plwg, Pin 'sgwennu,
Pinsiar, Pirim, Pric mesur, Peg llif, Peg bwrdd, Pelen,
Powdwr, Pitchar, Rhac, Rhaw, Rhaw-gafn, Rhys, Rhaff,
Rowlar, Stamper, Sgrafell, Sled, Slediad, 'Sglodion,
Sa'draw, Stelin, Stamping, Strap, Stretcher, Trosol,
Trafel, Tebot oil, Tun bwyd, Troell, &c., &c.
BRAWDDEGAU A GEIRIAU A GLYWIR AR BONC Y CHWAREL.
Agor (Chamber), Ail-bowdro, Ail-danio, Bariau, Bariad, Band o' Hope, Bracio, Bargen, Bargeiniwr, Bretyn dŵr, Bonio, Crimp, Codi cerrig, Codi cownt, Codi sodlau, Codi gwaelod, Crimpio wagen, Codi crempyn, Clai, Cefndid, Criwlio, Crawen, Crawiau, Cwlwm Cam, Cap- san, Crych, Cargo, Crewyn, Caban, Corddi twll, Dyfn, Dragio, Dadlwytho, Dadfachu, Dreifio, Fforddoliwr, Fforddolio, Enbyd, Gwythien, Gwythiennau, Gwaldio, Holltwr, Hollti, Hwylio, Inclên, Irad, Iro, Jermon (Journey man), Luro, Lorio, Lefel, Labro, Labrwr, London-Yorks, Mwrw, Marcio, Naddwr, Naddu 'sglodion, Nogyn, Pelen, Piler, Pefel, Peilio, Pileru, Plwgio, Pentwr, Points, Pwli, Pen-bar, Pen-domen, Pen-inclen, Pennau- llifiau, Pwnshio Strap, Pass-by, Ponc, Powdro, Pegio, Pwyso, Pwyswr, Rwbel, Rybelwr, Rwbel naddu, Rwbel hollti, Rhiglo, Rhiglwr, Rhuglo'r Injian, Saethu, Slip- iau, Smotiau llaeth, Sawdl y graig, Smit, Stolpyn, Sist, Sub, Smitio, Sincio, Siafft, Stolpio, Slont, Stampio, Silff, Siamber, Stwffwl, Snyffyn, Stagro, Stem, Sâ-draw, Tanio, Tyllu, Twll-hollt, Twll-pileru, Traed, Turn-out, Twll Plwg, Torri Ffos, Torri Ochor Rydd, Torri Cefn, Torri Bôn, Torri Bwlch, Tomen, Traffic, &c., &c.
BRAWDDEGAU LLAFAR GWLAD A GLYWIR GAN CHWARELWYR EIN HENFRO.
Rhedeg ar ei hôl hi; Yn pydru mynd; Yn bwrw
drwyddi; Wedi cadw'i ben y mis hwn; Ddoe ddwytha'n
y byd; Llythyr heb ei agor ydyw yfory; Rhoddi ei
gerrig i fyny; Tros ei ben a'i glustiau mewn gwaith;
Tynnu'r bwrdd o'i afael; Rhoddi'r bwrdd yn ei afael;
Mor ddigywilydd â wagen gynta'r run: Yn wlyb domen
dail; Mae deilen at bob dolur; Mewn byd yn mynd
a'r wagen; Wedi codi arno; Talu'n ddrud am ei ddysgu;
Yn clensio'r gwirionedd adref; Waeth dweud wrth
garreg a thwll ynddi; Mae'r Moelwyn yn gwisgo'i gap;
Fel naid y gannwyll; Fe ddaw hi ato yntau rhyw ddydd
Gwener; Yn siarad fel injian hogi; Cnuf y ddafad
farw; Yn chwysu wrth hel beiau; Yn gogr-droi wrth
ffidlan; Bob yn ail y mae'r dail yn dod; Yn bwrw glaw
fel o grwc; Claddu'r sgwrs o dan garreg yr aelwyd;
Y fuwch uchai'i bref sydd brinna'i llaeth; Un sâl ar y
naw; Dyn di-afael; Yn gweld dim pellach na'i drwyn;
Rhoi caead ar ei biser o; Bwyta gwellt ei wely; Yn
denau fel bran; Fel cath yn llyfu'r pentan; Slediad fel
gwêr; Cerrig caled fel haearn Sbaen; Cerrig fel
tywyrch; Hen garpan o slediad sâl; Cerrig mân fel
tatws; Ar gefn ei geffyl; Gafael mochyn; Ffraeo fel
dau dincer; Rhaid cael golau dydd i bigo brethyn; Mae ei ben mor galed a chneuen wag; Mae gan foch
bach glustiau mawr; Os glaw ddydd Sadwrn—glaw at
yr asgwrn; Curo haearn poeth â morthwyl pren; Dyn
a adweinir wrth ei waith; Ceiniog annheilwng a aiff â
dwy gyda hi; Bore i bawb pan godo; Goleuo dau ben
i'r gannwyll; Mynd yn araf fel hers mewn cynhebrwng;
Yn ddigywilydd fel talcen tas; Mynd a'r maen i'r wal;
Yn well na'i olwg; Yn berwi o slipiau; Yn grych i gyd;
Mor oer â chynffon oen; Mor ddwl â hesbwrn; Fel
pen dafad; Fel lleuen ar gast-steel; Crefydd gwadnau
traed; Dal ar ei linyn ; Yn blwmp ac yn blaen; Dim
dyrnaid o bobl yno ; Ei gar ar ei gefn ; Darllen rhwng y
llinellau; Rhywbeth yn debyg; Menyn â blas hir hel
arno; Gorau eli—menyn gwyrdd; Dyn a'i lygaid yn ei
ben; Yn chwipio rhewi; Fel haul mis Mawrth; Dim
gylfiniad o de; Yfed o ar ei dalcen; Siarad pymtheg yn
y dwsin, &c., &c.