Y Fainc Sglodion/Ffeithiau diddorol am y "Twnel Mawr"
| ← Dalen o Ddyddiadur Hen Chwarelwr am 1896 | Y Fainc Sglodion gan John William Jones |
Hanes Argae Llyn Ffridd Bwlch Gorddinan yn torri → |
FFEITHIAU DIDDOROL AM Y TWNEL MAWR.[1]
UN o brif ryfeddodau ein hardal yn y blynyddoedd gynt oedd y Twnel Mawr rhwng Blaenau Ffestiniog a Dolwyddelan.
Clywir y trên yn mynd trwyddo gan weithwyr a weithiant mewn rhannau neilltuol o Chwarel Oakeley. Credaf y bydd y cofnodion canlynol a gefais mewn hen bapur o ddiddordeb i lawer. Fel hyn y dywaid y cofnodydd:
"Dechreuwyd y gwaith tua mis Medi, 1874. Hyd yr agoriad o un pen i'r llall,—neu o blwyf Dolwyddelan i blwyf Ffestiniog ydyw 2 filldir, 16 chains, neu 3872 o lathenni[2]. Uchder mwyaf y mynydd uwchben ydyw 1000 o droedfeddi. Y mae tair o siafftydd wedi eu hagor i'r Twnnel. Y mae Rhif 1 yn 140 o lathenni. Yr ail siafft yn 150 o lathenni, a'r drydedd yn 70 o lathenni. Y mae "archio" prysur yn mynd ym mlaen mewn rhannau y rhaid cael hynny. Gwneir cymaint a 160 o droedfeddi yn aml mewn pymthegnos. Y mae tua can lath o enau deheuol y Twnnel dan domennydd enfawr chwarel y Welsh Slate ("Yr Oakeley's" heddiw). Disgwylir y bydd i'r graig sydd rhwng Siafft 2 a'r gyntaf, gael ei chwbl glirio yr wythnos hon, yr hyn a wna'r Twnnel yn orffennol i'r graddau y mae gwaith y saethu yn y cwestiwn, hynny yw,—y mwynwyr a'r peiriannau. Disgwylir yn awr yr agorir y llinell i Flaenau Ffestiniog tua'r dydd cyntaf o fis Gorffennaf nesaf. Gwnaed gorsaf goed yng Nghonwy, ac ar ei thaith i Ffestiniog i aros yr orsaf fawr a wneir yn nghors safn-agored Glanypwll. Er yr holl rwbel a dywelltir iddi, parhâ yr hen gors i weiddi o hyd, "moes, moes i mi!" Eisioes cludir llawer o nwyddau masnachwyr i Ddolyddelan, ac y mae Mr. Robert Williams, Llandudno, wedi symud i gymeryd gofal y rhan hon o'r busnes."
(Copiwyd o Hen Newyddiadur).