Y Fainc Sglodion/Hanes Argae Llyn Ffridd Bwlch Gorddinan yn torri
Gwedd
| ← Ffeithiau diddorol am y "Twnel Mawr" | Y Fainc Sglodion gan John William Jones |
Ymddeoliad Hen Weithiwr → |
Bu digwyddiad alaethus yn yr ardal pan dorrodd argae Llyn Ffridd, Bwlch Gorddinan, yn Ionawr 2, 1874. Boddodd dau o blant Richard a Margaret Parry, Talywaenydd, pan oeddynt yn cysgu. Yr oedd John yn 15 oed, a Jane yn 12 oed.
Ar eu Cerdyn Cof ceir yr englyn hwn:
"Erys mewn coffadwriaeth—drwy y lle
Doriad llyn, mawr alaeth
I'r ddau hyn gael sydyn saeth,
Oesant ar glawr hanesiaeth."
PRESWYLIAI hen Wyddeles garedig yn Nhalywaenydd yr
adeg honno, ac arferai â chadw mochyn. Pan dorrodd y
llyn, a'r dyfroedd yn llifo i lawr at yr anedd-dai, gwaeddodd nerth esgyrn ei phen, "O Lord, save my pig!"