Y Fainc Sglodion/Profiad Hen Weithiwr
Gwedd
| ← Englyn beddargraff Meurig Elen i'w briod | Y Fainc Sglodion gan John William Jones |
Straeon y Capel → |
PROFIAD HEN WEITHIWR.
Mae eisiau byw am oes y byd-arnaf
Bob diwrnod yn hyfryd;
Ond yntau angau o hyd
Ei fysedd ynof esyd.—Moelwynfardd.
PAN oedd Robert Roberts (Moelwynfardd) yn rybela yn Chwarel y Rhiw, bu'n ffodus i gael digon o gerrig reit dda. Yr oedd pethau'n wahanol arno un mis ac aeth i chwilio am glwt i orffen ei gerrig ar ddiwedd mis. Gwrthododd un bargeiniwr roddi dim un crewyn iddo, a gwnaeth yntau englyn iddo. Dyma'r cwpled olaf:
"Rybela bo'r gŵr bawlyd
Ddydd barn ar ddiwedd y byd."