Neidio i'r cynnwys

Y Fainc Sglodion/Rhagair gan y Parch. W. J. Thomas, B.A., B.D., Ffestiniog

Oddi ar Wicidestun
Soned: "Y Fainc 'Sglodion" (T. E. Nicholas) Y Fainc Sglodion

gan John William Jones

Cynnwys

RHAGAIR

Ni wn paham y gofynnwyd i mi, o bawb, ysgrifennu Rhagair i'r Casgliad hwn o Straeon y Chwarel a'r Capel. Yr unig gymwysterau a feddaf yw fy edmygedd o lafur dygn a diflino'r Casglydd a hefyd y ffaith fy mod yn ymfalchio ddarfod i minnau dreulio tymor yng Nghaban Cinio'r Chwarel, a derbyn mwy nag un fendith oddi wrth y gymdeithas ddiddorol honno.

Un arall o dywysennau llawn a loffodd John W. Jones ydyw hon. Straeon am chwarelwyr mewn dyddiau pan oedd fflam diwylliant Cymru heb ei hamharu gan yr elfennau estron sydd wedi dechrau ei andwyo'n brysur. I'r dosbarth hwn y perthyn J. W. Jones—y "Bardd" i'w gydchwarelwyr—ei hunan. Ei bleser ar hyd ei fywyd fu diddori, a hynny er budd ac adeiladaeth ei gydweithwyr. Rhoddaswn lawer am gael bod yn aelod o'r un Caban Cinio ag ef. Chwith yw meddwl bod rhai o'i fath yn prinhau.

Iddo ef, y mae pob stori ynghlwm wrth ryw bersonoliaeth neu'i gilydd, ac y mae'r Casgliad yn gyfle i gadw coffa llawer un dinod yn wyrdd. Boed i'r sawl a'u darlleno gael yr un pleser ag a gafodd y "Bardd" wrth eu casglu a'u cofnodi.

Ffestiniog. W. J. THOMAS.

Nodiadau

[golygu]