Neidio i'r cynnwys

Y Fainc Sglodion/Soned: "Creithiau" (T. E. Nicholas)

Oddi ar Wicidestun
Enwau ar wahanol "Lygadau" Y Fainc Sglodion

gan John William Jones

Dalen o Ddyddiadur Hen Chwarelwr am 1896

CREITHIAU.

Codi ar las y wawr a mynd i'w deithiau
Gan ddringo i'r bonc ar hyd y llwybrau llwyd;
Wrth dorri ar y llechwedd ddyfnion greithiau
Fe droir y creigiau glas i'r plant yn fwyd.
Cadarn ei law wrth drin yr ebill miniog,
A chwim ei fraich wrth daro â'r morthwyl harn;
Damweiniau'n oedi'n gyfrwys ar y rhiniog
Pan chwelir seiliau'r mynydd bob yn ddarn.
Pan dery'r graig yn ôl a naddu rhychau
Ar ruddiau rhadlon y chwarelwr clên,
Erys y gro'n dameidiau megis brychau
Lle gynt bu heulwen a hudoliaeth gwên;
Heddiw mae'r creigiwr dewr a'r Moelwyn maith,—
Dau a fu gadarn,—dan eu bythol graith.

T. E. NICHOLAS.


Nodiadau

[golygu]