Y Fainc Sglodion/Soned: "Y Fainc 'Sglodion" (T. E. Nicholas)
Gwedd
| ← Y Fainc Sglodion | Y Fainc Sglodion gan John William Jones |
Rhagair gan y Parch. W. J. Thomas, B.A., B.D., Ffestiniog. → |
Y FAINC YSGLODION
Mae'r crefftwr medrus wrth y Fainc Ysglodion
Yn llunio cywrain waith o'r deunydd crai,
Hen gymeriadau bro a'u hoff hynodion
Mewn gwaith a chwarae ac mewn serch a bai:
Onid o ruddin creigiau'r wlad y naddwyd
Pentwr ysglodion a'n diddanodd ni?
O ddyfnder beddrod, llawer gwyrth a gladdwyd
A godir ar ei newydd wedd i fri.
Mae dwylo'r crefftwr wrthi'n trin y creigiau,
A chyrn yr offer yn caledu ei law;
Yn oriau'r hwyr chwilia am freision seigiau
O'r dydd a fu ar gyfer oes a ddaw:
Ei wobr yw ei waith, heb dâl, heb glod,
A'i freuddwyd am ei wlad mor wyn â'r ôd.
T. E. NICHOLAS.