Neidio i'r cynnwys

Y Fainc Sglodion/Straeon y Chwarel

Oddi ar Wicidestun
At y Darllenydd Y Fainc Sglodion

gan John William Jones

Awen y Chwarel

STRAEON Y CHWAREL

DAU bartner yn y chwarel oedd R.W. a R.J., a dau o rai diwyd gyda'u gwaith. Rhedent ar ei hôl hi (yn ôl term y chwarel) o fore tan nos.

Rhyw fore oer wrth dynnu clytiau oddi ar y bwrdd llifio aeth troed R.W. i olwyn oedd ar ochor y bwrdd. Yr oedd yn sownd yno, a methai â symud dim. Gwaeddodd ar R.J. ei bartner (oedd wrthi yn naddu 'sglodion yn yr injian naddu ar y pryd), "Tyrd yma Bob, i dynnu 'nhroed i yn rhydd o'r olwyn yma." "Aros imi naddu'r Princen yma," meddai yntau.

DYN cryf, glandeg, o bersonoliaeth hardd oedd R. Carai enwad y Bedyddwyr â chariad angerddol. Clywsom ef yn adrodd darnau o bregethau enwogion yr enwad. Arferai "ymaflyd codwm" beunydd â rhywun a ymddiddorai yn y gwaith hwnnw, a gwnâi llawer yn y blynyddoedd gynt. Yr oedd ganddo freichiau cryfion, a dau ddwrn fel pennau morthwylion. Dywedodd ei hanes wrthym un tro ar bonc y chwarel. Bu ar neges yn Lerpwl yn gweld rhyw feddyg, ac wrth ddychwelyd adref yn ôl cerddai yn ôl a blaen ar blatfform stesion Lime Street. Daeth rhyw lencyn mawr o Sais ato gan gau ei ddyrnau o flaen ei wyneb, ac ymgasglai'r bobl o'i gwmpas, ond gadawodd iddo. Ymhen tipyn fe drawodd R.J. yn ei wyneb. "Wedi hynny," meddai'r hen Gymro, "mi gofiais am steil Tom Sayers, ac fe'i trewais gyda'm dwrn nes oedd yn llyfu oddi ar y platfform ar ganol y lein!"

WRTH gofio am R.J. a'r Sais, cofiais am hanes y Parch. Robert Hughes, Uwchlaw'r-ffynnon yn curo rhyw Sais yn Llundain. Dyma'r hanes allan o'i Hunangofiant difyr, tudalen 22. Cafodd waith yn Llundain mewn gwaith sebon. "Yr oedd dyn ieuanc o Sais, yr hwn a wasanaethai mewn tafarn, ag a fyddai yn arfer dwyn 'porter' i'r lle, wedi cymryd yn ei ben i brofocio'r Cymry, ac yn arbennig fy hunan, am fy mod yn newydd-ddyfodiad yno, ac heb fawr o Saesneg ac yr ieuengaf yn y lle. Bydd- ai yn gweiddi 'Nannygoat' a 'Ba' arnom bob tro y deuai atom.

Un tro darfu i'r 'foreman' ei daro yn ei gefn â darn o sebon meddal, a dweud mai fi a wnaeth hynny. Yn y fan tynnodd amdano i'm curo, gan ei fod yn gwffiwr proffesedig yn 'prize fighter,' ond y canlyniad fu imi ei guro fel y bu am bythefnos yn ei wely heb weled yr un golwg. Cytunodd yr holl weithwyr i gael galwyn o whisci er fy anrhydeddu am fy ngwaith, er fy mod yn hollol wrthwynebol i'r peth. Rhaid oedd cydsynio."

GŴR gweddw wyneblwyd tenau oedd J., a chadwai ei ferch gartref glân a chysurus iddo. Meddai ar gorff ystwyth, a gallai wneuthur llawer o gampau, cystal ag unrhyw ddyn mewn siou. Arferai ar brynhawniau Sadwrn fynd am ychydig ddiod i dafarnau'r dref,—"dim ond gwlychu ei big," chwedl yntau. Cafodd Jac Dô yn anrheg gan gydweithiwr, a gwnâi yntau lawer o driciau. Ehedai ar ei ysgwydd pan ddeuai adref o'r chwarel. Un Sadwrn tâl yn y chwarel, cafodd J. dâl reit dda, a chelciodd bunt felen ac arian gwynion. Rhoddodd hwynt yn y pridd yn yr ardd flodau oedd ganddo yn ffrynt ei dŷ, ac aeth am ginio. Wedi hynny newidiodd ei ddillad gwaith gan fwriadu cael sbri drwy'r prynhawn. Aeth ei ferch allan o'r tŷ a gwelodd y Jac Dô yn chwarae efo'r arian, a llwyddodd i'w cael oddi arno. Ymhen spel aeth ei thad i chwilio amdanynt, ond nid oedd dim hanes ohonynt. Cafodd fraw a'r siomiant mwyaf a gafodd erioed. Y ddedfryd a basiodd ar y Jac Dô oedd, "To be hanged by the neck."

CWYNAI gweithwyr ar bonc neilltuol yn y chwarel fod yn anodd gwthio llwythi o rwbel, am fod y ffordd eisiau cael ei hatgyweirio. Gofynnwyd lawer gwaith i swyddog am gael gwell ffordd.

Ei atebiad wrth un gweithiwr oedd, "A fyddai dim gwell iti ofyn i'r Brenin Mawr?" "Wel," meddai'r gweithiwr, "yr oeddwn i yn meddwl fy mod yn gofyn i un mwy o lawer na Hwnnw."

Yr oedd B. yn hwylio berfa olwyn a bocs mawr ynddi. Daeth dyn mawr pwysig i'w gyfarfod a gofynnodd iddo, Ai mwnci sydd gennyt yn y bocs yna B?" "Ie," meddai yntau, "y mae ynddo ddigon o le i ddau, neidiwch i mewn iddo."

CREDAI D. mai y nefoedd orau ar y ddaear a fedrai chwarelwr gael oedd cael hollti a naddu digonedd o gerrig da rhywiog. Byddai wrth ei fodd yn sôn am gerrig da wedi iddo droi heibio defnyddio y cŷn a'r ordd. Clywyd ef lawer tro yn siop y barbwr yn canmol cymaint o gerrig a arferai wneuthur yn y chwarel.

Un tro yr oedd y barbwr wedi tynnu rhyw boteli oddi ar silff yn barod at spring cleaning. Pan aeth D. yno i gael torri ei wallt, gofynnodd i'r barbwr: "I beth oeddet yn tynnu y poteli oddi ar y silffoedd ?" "O," meddai yntau, "gwneuthur lle i ti beilio dy filoedd cerrig da ydw i!"

CYMERIAD siriol yn meddu ar dalent fawr oedd D., ond ni hoffai fod yn y lleoedd amlwg ar y llwyfannau. Llwythai'r wagen yn ddiwyd un bore yn y chwarel. Safodd y prif oruchwyliwr am amser hir gerllaw iddo. Cododd D. ei ben i fyny a gofynnodd iddo, "A fedrwch chwi chwarae draffts, Mr. W?" "Medraf," meddai yntau, "beth wyt yn feddwl, dwad?" "O, eich tro chwi sydd i symud rwan," meddai D. Aeth y goruchwyliwr ymaith gan chwerthin yn braf.

DRO arall dywedodd yr un swyddog wrtho, "Wel, un gwirion wyt ti, Dafydd," ac atebodd y labrwr ar ei union, "Peth rhyfedd fod pob Dafydd yr un fath, yntê?" Dafydd oedd enw y swyddog.

AETH D. i offis y chwarel tuag un ar ddeg un bore. Yr oedd ganddo fusnes neilltuol gyda'r prif oruchwyliwr, ond dywedodd hwnnw wrtho, "Y mae gennyf eisiau bwyta fy nghinio rŵan!" Aeth D. ymaith oddi wrtho. Ymhen pythefnos yr oedd y swyddog yn dyfod yn brysur ar y bonc ar fin adeg cinio. Dywedodd wrth D., "Cer i nôl y ceffyl i'r stabal i dynnu'r wagenni yma i'r pass by." Aeth yntau yn hamddenol a daeth yn ôl ei hun. "P'le mae'r ceffyl?" meddai'r swyddog. "Y mae eisiau bwyta," meddai D.

LLANC cryf rhadlon braf oedd Bob, a gweithiai fel labrwr yn chwarel y Rhosydd. Gwisgai wasgod las a botymau gwynion arni, ac arnynt yr oedd y llythrennau "L. & N. W."

Gofynnodd y prif oruchwyliwr iddo, "Pa beth a arwydda y llythrennau yna ar fotymau dy wasgod?" "O," meddai yntau dan wenu, "Labour And No Wages." Ymhen yr wythnos daliodd y prif oruchwyliwr y gweithiwr wedi crwydro oddi wrth ei waith, a dywedodd wrtho, "Beth oeddet ti yn dweud mai Labour And No Wages a arwyddai'r llythrennau ar fotymau dy wasgod? Credaf fi yn onest mai Labour And No Work' ydynt!"

CLIRIO rwbel bras ym Melin Cwmorthin oedd gwaith Edward, ac un diwyd ydoedd hefyd. Nid aethai byth adref a gadael llwyth ar ganol ei lwytho. Wrth ei weld yn gweithio mor galed dywedodd y prif oruchwyliwr wrtho, "Yr wyf am roddi mwy o gyflog nag wyt yn gael Edward." "Wyddoch chwi beth, Mr. Roberts," meddai yntau, "buasai'n well gennyf o lawer gael mwy o wagenni gennych."

TAN go sâl oedd o dan y tegell mewn cwt hogi ar fin hanner dydd un tro. Daeth hen weithiwr diddan yno a gofynnodd i rybelwr oedd yno, "Ydyw Morgan byth wedi canu?"

Nag ydyw," meddai yntau, "nid yw wedi ledio pennill eto."

HEN weithiwr rhadlon braf oedd Wil, fel y gelwid ef gan ei gydweithwyr. Bu'n ofalus o'i daid yn ei waeledd yn ei flynyddoedd olaf, er hynny anghofiwyd am ei enw yn ei "Ewyllys!" Canodd hen gyfaill res o benillion iddo, a dyma un ohonynt:

"Credai Wil y byddai'n gefnog
Wedi marw ei daid cyfoethog;
Am olchi'i draed a thorri'i 'winedd,
Ni chafodd ddimai yn y diwedd."


Yr oedd un creigiwr a'i bartner yn gweithio ar hen graig sâl ac yn methu â gwneuthur cyflog aml fis. Dywedodd un ohonynt fod ganddo gywilydd mynd a chyn lleied o arian ar ddydd pen cyfrif i Elin ei wraig. "Wel, William," meddai'r prif oruchwyliwr, "mi gei ychwaneg o bris ar y fargen at y mis nesaf," ac fe gafodd hefyd. Gwnaeth well cyflog wedyn,-mwy nag a gafodd ers misoedd. Pan ddaeth y goruchwyliwr i'w agor (chamber) i 'osod' wedyn, gofynnodd, "Pa beth a ddywedodd Elin am iti fynd a chyflog mor dda iddi y tâl diwethaf?" "O Syr, meddwl wnaeth hi fy mod wedi mynd o'ch chwarel i weithio i rywle arall!"

LLANC ystwyth, a medrus gyda'i orchwyl oedd J. Bu am gyfnod yn y Rhyfel Mawr cyntaf, a meddai ar atgofion difyr am lawer o gymeriadau. Byddai wrth ei fodd yn cael mygyn, ac ambell lasiad o'r "ffisig coch," chwedl yntau. Cymerai sbri am rai dyddiau a chollai ei waith. Cafodd gerydd droeon gan y prif-oruchwyliwr, a dywedodd hwnnw yn chwyrn wrtho, "Yr wyt wedi cael pardwn gennyf lawer tro, ond os gwelaf di yn dyfod o dafarndy eto, ni chei di weithio yn fy chwarel."

Ymhen yr wythnos digwyddodd ddyfod allan o dafarn yn syth i gyfarfod â'r goruchwyliwr! Gwahoddwyd J. i'r offis a cheryddwyd ef, ond dywedodd ef, "Chwarae teg imi, nid wedi bod yn y dafarn yn yfed oeddwn i, ond yn setlo yr hen account!" "Cer at dy waith," meddai'r mistar.

MEWN Cwt neilltuol ym M——, gweithiai hen gyfaill diddan, a chadwai y peiriannau i weithio yn dda. Un bore pan aeth allan o'r cwt i oilio rhyw beiriant, gwelodd ddyn a dau gi defaid ganddo ar y bonc. "Pwy ydyw nacw?" meddai wrth W.T. "O," meddai hwnnw, I——, wedi dyfod i weld y defaid ar y mynydd, ac i chwilio am loiau." "Cer i dy gwt o'r golwg rhag iddo gael gafael ynot ti!"

HEN gyfaill diddan a charedig oedd R. Daeth i weithio i'r ardal hon o Sir Gaernarfon. Yr oedd yn smociwr a chnowr baco heb ei ail, a byddai ganddo gyflawnder ohono bob amser. Un prynhawn aeth llanc ato yn y chwarel, a gofyn iddo a gawsai flewyn bach o faco ganddo. "Aros di, a gefaist ti beth o'r blaen gennyf, dywed?" meddai yntau.

"Naddo wir," meddai'r llanc. "Wel," meddai yntau, "y mae gennyf ddigon o gwsmeriaid yn barod, heb gymryd ychwaneg atynt!"

ANODD oedd taro ar un difyrrach ei sgwrs am y chwarel na B. Gweithiodd fel labrwr yno am flynyddoedd lawer. Bu'n ffeind ac yn ofalus o'i fam, aberthai bopeth er ei mwyn. Cwynai hi gan y crydcymalau a gorweddai yn ei gwely, a'r siamber yn llawn o bob cyffuriau er ceisio cael adferiad. Un tro yr oedd rhyw ddrwg ar gorn y simddai, a daeth saer maen i'w weld, ac ail-wneud y corn, ond aeth yn waeth! Ymhen rhyw bythefnos yr oedd Bob a'r saer maen gyda'i gilydd mewn tŷ neilltuol un nos, a gofynnodd yr olaf, "Sut y mae'r hen wraig dy fam rwan, Bob?" "Wel, a dweud y gwir iti, nid ydwyf byth wedi gweld ei hwyneb ar ôl i ti fod acw yn trwsio'r corn!"

DYN gweddol dal oedd J., ac yn greigiwr yn deall yn dda am y dull gorau i dynnu craig. Un tro yr oedd yn tyllu gyda jumper ar y graig, a daeth y goruchwyliwr heibio a dywedodd wrtho, "Y mae ceg y twll yna yn fawr iawn gennyt, John." "Hitiwch befo," meddai yntau, "y mae yn reit ddistaw."

Yr oedd un creigiwr canol oed wedi ail-briodi â gwraig flin, ac yr oedd stiward wedi ail-briodi rhyw flwyddyn o'i flaen.

Pan ail-briododd y stiward gofynnodd y creigiwr sut yr oedd ei wraig. "Wel," meddai yntau, "y mae fel y diafol ei hun." "Wyddost ti beth," meddai'r creigiwr, "y mae yn dda iawn arnat, yr ydw i wedi priodi efo'r byd, y cnawd, a'r diafol, ac y mae ei geiriau hi yn cydio fel ail bowdwr!"

YN chwarel Gloddfa Ganol y gweithiai W, fel creigiwr medrus ac ar Suliau âi i bregethu i gapelau y Wesleaid. Pregethwr da ydoedd hefyd. Un tro pregethai yn y Llan a dywedodd fel y pregethai i'r defaid, a'r gwartheg, pan oedd yn llanc.

Wrth fynd o'r capel dywedodd hen gyfaill a weithiai ar yr un bonc ag ef. "Wyddost ti beth William? Pe buaset wedi dal ati i bregethu i'r gwartheg a'r defaid yn lle i bechaduriaid buaset wedi cael lle yn weinidog iddynt erbyn hyn!"

Yr oedd un hen weithiwr caredig yn bur wael un tro. Un go galed, a geiriau miniog ganddi oedd ei wraig. Aeth ei bartner ar ymweliad ag ef a gofynnodd ei briod iddo, "Sut yr ydych yn ei weld o?" "O," meddai yntau, "gweld yr ydw i bod un droed iddo yn yr afon yn barod." "Ho," meddai hithau, "ni fedr groesi ar ei untroed, yr wyf yn disgwyl y bydd y ddwy yn yr afon erbyn y dydd y deui yma y tro nesaf."

SIARADWR brwdfrydig gyda'r Undeb flynyddoedd yn ôl oedd G. Nid oedd bechgyn ifainc yn hoffi gweithio iddo "wrth y dydd." Beiai rai ohonynt beunydd wrth y goruchwylwyr. Gweithiai bachgen medrus di-ddiogi gydag ef un tro, ond nid oedd yn ei blesio o gwbl ac achwynodd amdano wrth un goruchwyliwr. Ni chafodd lawer o groeso ganddo, dywedodd wrtho, "Yr wyt ti dy hun fel cath ddwy gynffon, a gad ti lonydd i'r hogiau, neu mi gei fynd adref i lyfu'r pentan."

CANLYN ceffyl yn y chwarel oedd gwaith Bob, a deallai y ddau ei gilydd i'r dim. Wrth ddyfod o'r twll un bore, ychydig cyn amser cinio, trodd y prif oruchwyliwr i'r stabal at Bob, a gofynnodd iddo, "Sut fwyd wyt ti'n roi i'r ceffyl yma, Bob?" Atebodd yntau, "Tebyg i fwyd labrwr, Syr!"

CREIGIWR da oedd O., a gofalai am gadw ei bartneriaid yn y felin à digon o gerrig. Deuai rhyw awydd dianc adref arno ar ambell brynhawn, a gosodai gannwyll yn olau ar y graig i dwyllo y stiward! Gwelodd y prif oruchwyliwr ef yn mynd yn slei un prynhawn, ac aeth. ato'r bore wedyn i'w alw i gyfrif am ei drosedd. Taerodd a thaerodd y troseddwr ei fod gyda'i waith! Ar ôl cinio aeth y prif oruchwyliwr gyda chreigiwr a weithiai gerllaw, i dop "agor" (chamber) y troseddwr, a gwelodd ef ar y graig. Wedi diffoddi golau ei lamp, gwaeddodd arno mewn llais main, "Sut y bu arnat gyda'r stiward ar ôl iti ddianc adref?" "O," meddai yntau, "mi a'i taerais allan o wynt mai wedi gwneud camgymeriad yr oedd ef." Ar hynny dyma'r prif oruchwyliwr yn taflu golau'i lamp arno, ac yn dweud wrtho, "Thaeri di mono fo eto, yr hen greadur, a mi gei aros adref am wythnos am iti fy nhwyllo weldi."

GWEITHIWR caled dibris ohono'i hun oedd E. nid oedd fymryn o ddiogi yn perthyn iddo. Byddai yn hoffi mynychu un tŷ tafarn neilltuol bob nos wedi dyfod o'r chwarel. Un dydd trawyd ef yn wael yn y chwarel a bu yn dihoeni yn hir. Cerddai allan am dro yn araf deg a golwg lesg arno. Un prynhawn ar heol y Blaenau, daeth gŵr y tafarndy i'w gyfarfod a gofynnodd iddo, "Ymh'le mae dy dopcôt di, dywed, ar ddiwrnod fel heddiw?" "O," meddai yntau, "y mae ar eich cefn chwi."

Yn y blynyddoedd gynt byddai llawer o weithwyr yn digwydd cysgu'n hir yn y boreau, a rhedai rhai ohonynt at eu gwaith yn chwys diferol. Byddai corn y chwarel yn canu ambell dro pan fyddent newydd gychwyn o'r tŷ. Gwelwyd llawer o dro i dro yn cyrraedd y bonc heb gael tamaid o frecwast. Yr oedd Gwilym Deudraeth wedi cysgu'n hir un tro, a dywedodd fel hyn:

Cas ydyw—anesgusodol—o gas
Yw trwm gwsg boreol;
Yr wyf yn hwyr ddifrifol,—
Hanner awr union ar ôl!

GWEITHIAI un hen frawd diddan ar yr un bonc â mi. Un plaen ei wisg a'i eiriau ydoedd, a byddai rhywun yn tynnu yn ei goes beunydd, ond yr oedd ganddo groen tew fel croen eliffant! Un grefyddol iawn oedd ei briod, a'r capel fel cartref ganddi. Un bore oer digwyddodd y ddau gysgu'n hir. Cododd ei gŵr o'i wely yn frysiog, gan erfyn ar i'w briod "wneuthur tân, a brecwast iddo mor fuan ag oedd modd." Yr oedd hi ar ei gliniau yn dweud ei phader yn hamddenol braf! Gwaeddodd ei gŵr arni, "Tyrd yn dy flaen, gad lonydd i'r Brenin Mawr y bore 'ma, mi gei di ddigon o amser i siarad hefo Fo ar hyd y dydd."

DYMA gofnodiad a gefais gan chwarelwr talentog o'r enw Dafydd—— Disgrifiai hanes ei bartner wedi cysgu'n hir un bore.

"Helo, Wil Jones, y mae golwg lafurus iawn arnat ti," meddai Dafydd wrth ei bartner un bore, "be' sydd wedi digwydd, dywed?" Wedi peth distawrwydd, atebodd Wil, "Aros imi gael fy ngwynt; cymer bum munud bach ar y gist yma, mi a ddywedaf wrthyt. Wel, cysgu'n hir â wnaethom ni bore heddiw, ac fel y gwelaist bob amser ar adeg felly yr oedd popeth yn dyfod o chwith. Digwyddais ddeffro, a'r peth cyntaf a glywais oedd trên y Great Western yn pasio. Dyma fi yn ysgwyd Mari nes oedd hi dros erchwyn y gwely, a rhoddodd ochenaid fawr! Cwyd mewn munud,' meddwn wrthi, 'yr ydym wedi cysgu'n hir.' Dyma fi fel mellten i lawr y grisiau a hithau ar fy ôl, ac fel yr oedd yn digwydd yr oedd y crydcymalau yn ei choesau yn waeth heddiw nag y bu ers tro. Yn fy ffwdan wrth dynnu y coed tân o'r pobty trewais y tepot. (Wel, dyma ddechrau, meddwn wrthyf fy hun). Wrth chwilio pobman am 'fatches,' cofiais eu bod ym mhoced fy nghot yn y llofft. Wrth redeg i fyny'r grisiau i'w cyrchu dyma fi yn taro Twm y lodgiwr, ac yntau heb hanner deffro. Bedi'r mater, bedi'r mater?" meddai, 'a oes rhywbeth wedi digwydd?' 'Digwydd wir, edrych ar y cloc yna iti weld faint ydyw o'r gloch; y mae'n rhaid iti frysio os wyt ti yn meddwl cael stem heddiw,' meddwn wrtho. Pan oeddwn yn dyfod o'r llofft clywodd gwraig y drws nesaf fy nhwrw, ac amheuodd ein bod mewn helbul wedi cysgu'n hir. Gwaeddodd dros y clawdd, 'Dowch a'r tepot imi, ichwi gael dŵr poeth.' Wedi i Mari chwilio amdano, dyma hi yn cael hyd i'w glust, a'í big, a chwarae teg iddi yr oedd yn bur dawel gan ei bod yn gwybod fy mod yn ddrwg fy nhymer. Wel, mi es ati i roddi fy esgidiau, ac aeth un yn o lew, ond ni fedrwn yn fy myw roddi'r llall.

Wrth fy nghlywed yn tuchan, dywedodd Mari fod rhaid fod llosg eira ar fy nhraed, a'u bod wedi chwyddo. Gyda hyn, dyma Twm i'r tŷ o'r cefn wedi bod yn ymolchi, a dyna'r lle'r oedd yr hen greadur fel ci mewn ffair wedi colli ei feistr. "Am ba beth wyt yn chwilio?" meddwn wrtho. Am fy esgid,' meddai yntau. Y mae'n rhaid mai hon ydi,' meddwn wrtho. 'B'le mae fy un i Mari?" 'O,' meddai hithau, chofiais i ddim amdani, y mae yng ngweithdy'r crydd er neithiwr; rho dy esgid orau am heddiw (a dyma fi, weldi, torrais y garai wrth dynnu wedi gwylltio; oes gennyt ti ddim pwt yn dy boced?) Gyda hyn, dyma wraig y tŷ nesaf yn dyfod a'r tepot, ac wedi tywallt cwpaned nid oedd dim te ynddo! Na hitia,' meddwn wrth Mari, gwna damaid extra mewn papur, y mae yn rhy hwyr.' Wel, 'd awn i fyth o'r fan yma dyma fi wedi rhoddi'r pwys bacwn yn fy mhoced mewn camgymeriad. Wel, fe âf i brynu cloc larwm heno nesaf, ac fe'i cadwaf yn fy nghesail yn fy ngwely, fel T——, trwy'r nos rhag i hyn ddigwydd eto."

"Hynny ydi'r gorau," meddai Dafydd, "a gofalu am ei windio cyn mynd i'r gwely."

BYDDAI marchnad brysur yn Hall y Blaenau yn y blynyddoedd gynt. Deuai rhai yno o Lanrwst i werthu esgidiau campus, a byddai yno lawer o Iddewon yn gwerthu oriaduron a modrwyau a thlysau amryliw. Mewn lle neilltuol yno, gwerthai amryw fwtsieriaid o Drawsfynydd a lleoedd eraill gigoedd gwerth i'w bwyta. Un tro agorodd bwtshiar dieithr stondin i werthu cig yno. Wedi bod yno am dair wythnos, gofynnodd i'r gŵr oedd yn gwerthu cig yn ei ymyl, a fuasai yn taflu ei olwg ar ei stondin, tra byddai ef yn picio am lasiad i westy gerllaw i'r farchnad. Gwnaeth yntau, ond er ei fawr syndod gwelodd rhyw hen gi mawr yn mynd a darn o gig yn ei geg oddi ar y stondin! Wedi i'r siopwr ddyfod yn ôl, dywedodd y drefn wrth y gwyliwr am na fuasai wedi gwneud ei waith fel yr addawodd. "Ni ddeuaf a'm cig yma i gŵn gael ei gario oddi yma," meddai. "Wel, yr hen gyfaill," meddai'r llall, "os deui yma'n hir hefo dy gig, mi fydd rhai gwaeth na chŵn yn cario dy gig di, heb dalu amdano!"

DYN go fyr, a gweithiwr caled oedd J. Bu'n eithriadol o garedig wrth rybelwyr. Annibynnwr ydoedd ac un o'r goreuon. Yr oedd ganddo frawd yn weinidog cymeradwy gyda'r enwad. Un tro, daeth hwnnw i bregethu i'r ardal hon, ac aeth llawer o gydweithwyr J. i wrando arno. Nid oedd cystal ag a arferai fod y Sul hwnnw. "Wel, J., credaf y buaset ti yn gwneud gwell pregethwr na dy frawd." "Yr ydw innau yn meddwl," meddai, "ataf fi y daeth yr alwad, ond fy mrawd a wnaeth ei hateb."

UN o'r cymeriadau gwreiddiolaf yn ei ddydd yn ein henfro, oedd Robert Jones, Penllwyn, Tanygrisiau. Hoffai ef i bawb ei alw yn "Robin Sion." Preswyliai ei dad a'i fam—William a Laura Jones, mewn annedd-dŷ oedd yn chwarel Holland. Wedi hynny symudasant i fyw i Riwbryfdir, yr oedd llai o waith dringo iddynt yno. Buont yn ffyddlon yn eglwys y Rhiw, ac yr oedd ganddynt lawer o berthnasau,—pobl garedig, plaen a di-lol. Pan oedd Robin Sion yn caru, ac wedi hwylio i briodi, dywedodd ei gariadferch wrtho, "Y mae'n rhaid imi dy gael di Robin bach, pe byddai raid inni fyw ar fara â dŵr!"

"Wel," meddai yntau, "gofala di am ddigon o fara, mi ofala innau am ddigon o ddŵr."

Wedi priodi aeth i fyw i Penllwyn,—bwthyn bach del, a gwelir ef o'r ffordd fawr heddiw, ar le uchel. Heibio ei ffrynt flynyddoedd yn ôl yr oedd y briffordd, a'r ffordd haearn i Borthmadog. Gerllaw iddo yr oedd Wrysgan Fawr, Brynffynnon, Fron Wen, Pantycelyn, a hen gapel y Methodistiaid Calfinaidd, a chynhelid yn hwnnw ysgol ddydd ar ddyddiau'r wythnos. Gerllaw hefyd yr oedd gweithdy Dafydd Hughes y crydd, a'i feibion—David, Richard, ac Owen, yno gyda'u tad yn prysur wneuthur esgidiau campus. Ymgynullai llawer yno i drin gwahanol bynciau wedi dyfod o'r chwarel. Clywais y tri brawd yn adrodd llawer o hanes Robin Sion; yr oeddynt yn gyfeillion calon iddo, ac ymwelwr cyson â'r gweithdy ydoedd. Yr oedd yn gymeriad plaen a hoffus, a charedig ei natur. Nid oedd ei well i'w gael am ddal llwynogod, ac am bysgota. Deallai y gelfyddyd i'r dim, ac yr oedd ei enw yn air teuluaidd ar aelwyd pawb yn yr henfro, a'i ddywediadau bachog ar gof llawer o'r ardalwyr. Bu'n gweithio am gyfnod yn chwarel Holland a symudodd bron ar derfyn ei oes i rybela i Benbont y Rhiw, ac yr oedd yn uchel ei barch yno hefyd.

Gweithiai hen rigymwr doniol gerllaw i Robin Sion, a gwnaeth benillion iddo ef a'i lwynogod dof. Dyma ddau ohonynt allan o nifer fawr.

"Os daw rhyw gyfaill am dro o Ffestiniog
Ac awydd arno cael golwg ar lwynog.
Wel, aed i Penllwyn i gael gweled yn hy,
Dri llwynog yn chwarae o gwmpas y tŷ.

Mae'n werth myned yno yn ddiymdroi,
A gweld y llwynogod nad ydynt am ffoi.
Mae'n rhaid fod Robin yn un da am eu bwydo,
Cyn y buasent o'i gwmpas yn prancio."


Yr oedd ganddo enw ar bob un ohonynt, ac yr oeddynt yn gyfeillion gyda'r cŵn a'r cathod.

LAWER blwyddyn yn ôl cynhelid cyfarfodydd yn ein hardal i annog pobl i symud i breswylio oddi yma i Batagonia. Pwnc y dydd yr adeg honno oedd Patagonia!

Bu merch ifanc hardd i oruchwyliwr y chwarel y gweithiai Robin Sion ynddi farw yn sydyn. Aeth yntau fel gweithwyr eraill ato i gydymdeimlo ag ef yn ei alar. Diolchodd yntau a dywedodd, "Mi â wn ei bod wedi mynd i'r nefoedd." "Neu i Batagonia!" meddai R.S.

UN tro aeth a llond basged o wyau ffres at un siopwr, a gofynnodd iddo a wnaethai eu prynu. "Wn i ddim be wnaf â hwynt" meddai hwnnw. "Wel, eistedd arnynt i edrych gei di gywion!" meddai'r gwerthwr.

MEWN cyfarfod yn y capel un tro, holai gŵr oedd yn stiward mewn chwarel ar hanes Gardd Eden. Gofynnodd un cwestiwn fel hyn, "A fedrwch chwi ddeud beth oedd y pren gwybodaeth da a drwg y sonnir amdano?" Wedi cael amryw atebion dywedodd R.J. ei fod ef yn meddwl mai rhywbeth tebyg i ffon stiward ydoedd! "Pan oeddech chwi yn gweithio fel finnau, nid oeddech yn gwybod dim llawer, ond wedi ichwi fynd yn stiward a chario ffon, yr ydych yn gwybod y da a'r drwg!"

CWYNAI un prif oruchwyliwr wrtho fod rhai pobl yn ei dŷb ef yn ei erbyn am rywbeth, ac eraill "am ei saethu," meddai. "Hitia befo nhw Robert," meddai yntau, "y mae hynny yn dangos dy fod yn fyw ac yn y game. Pan fyddaf i yn mynd i hela gyda'r gwn, ni fyddaf byth yn saethu dim fydd wedi marw, na dim aderyn chwaith os na fydd yn y game!"

BYDDAI llawer o gigfrain yn gwneuthur difrod ar ddefaid ac ŵyn bach yn ein hardal a'r cwmpasoedd lawer blwyddyn yn ôl. Gwelodd R.S. hen gigfran fawr yn ehedeg oddi ar ei nyth ar graig gerllaw chwarel y Rhosydd.

Gofynnodd i feibion oedd ym Marics y Rhosydd fynd gydag ef at y clogwyn lle y nythai. Aethant yn fintai gydag ef a gwelodd y gigfran hwynt yn dyfod, ond ehedai'n rhy uchel o gyrraedd ergyd o'r gwn. Rhoddodd R.S. dipyn o scent ar ffroen y gwn i ddifa arogl y powdwr.

"Ewch yn ôl i'r barics rŵan hogiau, ac wrth eich gweld bydd yn meddwl ein bod wedi mynd i gyd. Mi wnawn ni dorri y rhedyn yma a gorweddaf ynddo o'r golwg i'w gwylio," meddai. Ymhen talm o amser gwelid y gigfran yn ehedeg yn ôl am ei nyth, a llwyddodd ergyd R. Sion i'w saethu yn farw. Mawr oedd y clod a roed iddo am ei wrhydri yn yr ardal gan chwarelwyr a ffermwyr.

Yr oedd William R. Jones (Gwaenydd), mab Robin Sion, yn ŵr hardd o bersonoliaeth ac yn uchel ei barch yn ein hardal. Efô oedd arweinydd Seindorf Bres Gwaenydd, a fuont mewn bri mawr am hir amser. Aeth gydag amryw eraill o'r ardalwyr i'r Wladfa i Batagonia, a gwnaeth enw da iddo'i hun yno.

Un tro, wrth fynd i le neilltuol yno i saethu, a phlentyn bach ei ferch gydag ef, aeth ergyd allan o'r gwn trwy i'r triger daro mewn gwifren wrth iddo fynd trosti. Anafodd yn dost, a dywedodd wrth y plentyn bach "Rhed i nôl dy nain." Daeth ei briod ato yn ei braw wrth edrych arno. Y cwbl a ddywedodd wrthi, oedd, "Hitia befo'r hen gariad, damwain oedd hi."

D.M.

'R wy'n cofio Dafydd Morus
A'i drosol yn ei law,
Dadlwythai'r cerrig trymion
A diwyd rigliai'r baw;
Ac nid oedd neb fel ef mor sionc
I'w weld yn unman ar y bonc.

Preswyliai mewn dedwyddwch,
Mewn bwthyn bychan del,
Ond torrodd ef ei galon
Y dydd y claddwyd Nel;
Ac iddo mwy pa les oedd byw
A'i galon drom o dan ei briw?


LABRWR yn chwarel Holland oedd S.D. Un bore llwythai y rwbel i'r wagen yn ddiwyd. Disgynnodd dafad dros ddibyn craig serth at ymyl y wagen, a dihangodd yntau i ffwrdd wedi dychryn. "Pam oeddet ti yn dianc o flaen dafad?" meddai y stiward wrtho fo. "Wel," meddai yntau, "meddwl 'r oeddwn i bod yna yrr ohonyn nhw'n dwad."

GWEITHIAI D.T. yn un o chwarelau yr ardal hon. Arferai gymryd sbri ar bnawn Sadwrn tâl. Fel yr âi adref yn feddw un tro, daeth prif oruchwyliwr y chwarel i'w gyfarfod a gofynnodd iddo: "Oes gen ti ddim ofn i rywun dy robio di o dy arian, a thithau yn y cyflwr yma?" "Nac oes wir, Mr. Roberts bach," meddai yntau, "nid rhaid imi ond dweud wrtho mai yn eich chwarel chwi'r ydw i yn gweithio!"

UN tro dywedodd hen gyfaill stori am ei eneth fechan. Yr oedd yn well ganddi gyda'i modryb nag adref gyda'i mam, a cherddai bellter ffordd ati.

Un diwrnod gofynnwyd iddi, "Sut yr wyt ti yn hoffi mynd mor aml i dŷ dy fodryb?" "O," meddai hithau, "y mae ganddi lot o deganau imi i chwarae, ac y mae yn eu cadw ar y silff isaf," meddai hithau.

UN tro penderfynodd gweithiwr gadw buwch, ac un diwrnod aeth i ffair heb fod nepell o'i gartref gyda ffermwr gwybodus i brynu un. Wedi myned ysbaid o ffordd clywodd y ddau ryw fuwch yn brefu'n uchel. "Dyma'r fuwch i mi," meddai'r gweithiwr. "Nage wir," meddai'r ffermwr, "nid buwch a llais sydd arnoch eisiau, ond buwch a llaeth!"

HEN gymeriad doniol oedd O——. Un noson gofynnodd i'w briod a fuasai hi mor garedig a'i helpu ef i'w grogi ei hun. Wel, na wnaf wir mo hynny, gwna dy hun os wyt yn hoffi gwneud." "Wel," meddai'i gŵr drachefn wrthi, "yr wyt ti'n un wael iawn, mi fuaswn i yn dy helpu di i grogi dy hun mewn munud!"

DAETH stiward i felin ar bonc y chwarel yn hwyr un prynhawn. Disgwyliai y chwarelwyr eu partneriaid o'r twll i godi cerrig. Wrth eu gweld yn segur, dywedodd wrthynt fel hyn: "Yr oedd fy ngwraig yn gofyn imi neithiwr pa waith a garwn wneuthur pe rhoddwn heibio y gwaith o fod yn stiward. Dywedais innau ar f'union mai mynd i weithio cerrig fel chwarelwr i B.S." "Wel," meddai un o'r hogiau wrtho, "mi fuasai eich gwraig yn beichio crio wrth dderbyn eich cyflog ar nos Wener y tâl!"

Yr oedd hen gyfaill o'r Llan yn arfer mynd trwy gae i ddal y trên yn y bore i fynd i'r chwarel. Er ei syndod un bore yr oedd tarw mawr yn pori yn y cae. Aeth heibio iddo yn ofnus a distaw. Gofynnodd i'w berchennog gyda'r nos a wnai ei roddi mewn cae arall, am fod arno ei ofn. "Wnaiff y tarw bach ddim ond chwarae efo chdi." "Chwarae wir, 'd oes gen i ddim amser i chwarae efo fo yn y bore a minnau yn treio dal y trên i fynd at fy ngwaith!"

AETH dau labrwr diddan o'r chwarel i weithio i'r Sowth. Buont yno am rai misoedd. Prynodd un ohonynt ddau bennog coch i swper. Cadwodd hwynt mewn cwpwrdd yn y tŷ lojin hyd nos drannoeth. Aeth i'r cwpwrdd y noson wedyn, ac un oedd yno! Daliodd ef o flaen y tân, a dywedodd gwraig ei lety wrtho : "Y mae llawer iawn o ddŵr yn dyfod o'i lygad o, Charlie." "Dŵr fuasai yn dyfod o dy lygaid tithau pe buaset wedi colli dy bartner, weldi."

COLLODD un gweithiwr ei briod yn bur sydyn. Gwraig weithgar siriol ydoedd, ac ni fu segurdod erioed ar raglen ei bywyd. Aeth dau o'i gydweithwyr i gydymdeimlo â'r cyfaill yn ei drallod a'i golled fawr. "Wel," meddai un "cawsoch golled amhrisiadwy wedi colli eich annwyl briod." "Do," meddai yntau, "ond yr ydw i wedi ei hinsiwrio hi yn reit dda hogiau bach!"

DECHREUODD O.J., rybela yn y Gloddfa Ganol, ac ymhen ychydig flynyddoedd penodwyd ef yn "Glerc Cerrig." Dringodd i fod yn brif glerc yn swyddfa'r chwarel, ac wedi hynny yn brif oruchwyliwr. Darluniodd Gwilym Deudraeth ef yn dda yn yr englyn hwn.

Diwyd trwy'i fywyd fu Owen—carai'r
Cerrig er yn fachgen;
Ei brif nod oedd bod yn ben,
Dechreuodd gyda chrawen!

AETH gwraig un hen weithiwr cymeradwy un tro at y meddyg. Blinai rhyw anhwyldeb hi beunydd. Archwiliodd hi, ond ni ofynnodd iddi ddangos ei thafod!" Dywedodd ei bod yn "run down" a bod arni eisiau cael gorffwyso. Pan oedd y doctor yn gwneuthur ffisig iddi dywedodd y wraig, "Meddyliais yn siwr y buasech wedi gofyn imi ddangos fy nhafod ichwi." "Wel, ie," meddai yntau, "rhowch imi weld eich tafod," a dangosodd hithau o iddi. "O," meddai'r doctor, "eisiau mwy o orffwys sydd arno yntau hefyd!"

UN pert ei atebiad oedd J.H. Pan oedd yn codi tatws mewn cae ger y ffordd fawr, gofynnodd hen gyfaill iddo wrth basio, "A oes gennych datws go freision eleni, J.H.?" "Wel," meddai J.H., "y mae'n nhw yn llond eu crwyn."

ANFONODD dyn o B. lythyr at gyfreithiwr ynglŷn ag achosion ariannol rhyw ŵr dyledog. Yn y llythyr gofynnodd, "Beth yw'r eiddo sydd ganddo y gallaf gymryd gafael ynddynt a'u meddiannu ?" Atebodd y cyfreithiwr yn union fel hyn : "Bu farw y dyn yr ymofynnwch yn ei gylch ef a'i eiddo, dros flwyddyn yn ôl. Ni adawodd ddim y medrwch gymryd gafael ynddo, ond yn ei wraig weddw."

WRTH weld C. yn ei drol a mul, yn chwysu wrth fynd a llwyth go drwm o lô i fyny allt y Plas, rhoddodd hen weithiwr help trwy wthio y tu ôl i'r drol. Wedi cyrraedd i dop yr allt dywedodd C. gan wenu o glust i glust, "Ni fuaswn byth wedi medru cyrraedd hefo un mul. Mae dau yn well nag un."

PAN fwytâi hen weithiwr ddau bennog coch i ginio yn y chwarel adeg y Rhyfel Mawr, dywedodd bargeiniwr pwysig wrtho, "Y mae'r penwaig yna yn denau iawn." "Wel, tenau a fuaset tithau hefyd pe buasai raid iti ddianc o flaen submarines am bedair blynedd!"

Yn y blynyddoedd gynt, byddai llawer o ferched ifainc yn myned o'n henfro i weini i Landudno, ond anodd oedd i fechgyn ifainc gael gwaith i ddechrau rybela yn y chwarelau.

Yr oedd un llanc tua phedair ar ddeg oed wedi bod ym mhob chwarel yn ceisio cael gwaith, ond nid oedd dim i'w gael. Cerddai yno y naill ddydd ar ôl y llall, ond adref y deuai. Wedi iddo gyrraedd adref yn siomedig, dywedodd ei fam wrtho un prynhawn, "Wyddost ti be? y mae gennyf flys rhoddi pais amdanat a dy yrru di i weini i Landudno!"

YR oedd W——. yn tyllu gyda jumper ar y graig, ac ymhen spel dechreuodd ei "gorddi," fel y dywed creigwyr. Gwelodd lygoden fawr yn cerdded ar y graig gerllaw iddo, ond yr oedd yn hen gynefin â bod ynghanol llygod! Ymhen rhyw awr teimlodd rywbeth oer ar ei glun, a meddyliodd fod y llygoden wedi mynd trwy waelod ei drowsus, fel y gwelwyd rhai weithiau. Yn ei ddychryn curodd ei drowsus efo coes y morthwyl, ond er ei fraw, canfu mai curo ei watch oedd ym mhoced ei drowsus â wnaeth!

YN yr agor (chamber) nesaf, gweithiai creigiwr â fu am rai blynyddoedd yn oriadurwr yn Lloegr. Addawodd hwnnw ei hymgeleddu, ac fe wnaeth hefyd.

Ymhen rhyw fis gofynnodd, "A ydyw dy watch di yn dal i fynd?" Ydyw, ond bod hi'n ennill tipyn!" meddai. "Ennill wir," meddai'r trwsiwr, "piti gynddeiriog na buasai bellach wedi ennill digon i dalu am ei thrwsio!"

SONNID llawer am ryw Wyddel anystyriol a breswyliai yn ein henfro, gweithiai fel labrwr yn chwarel Cwmorthin. Rhwygai'r awyr gyda'i regfeydd. Un prynhawn trawyd ef yn bur wael yn y chwarel, a gofynnodd y stiward i hen weithiwr diddan redeg i nôl y doctor ato. "Doctor wir," meddai yntau, "yr ydw i yn meddwl y byddai'n dda i anifail o ddyn fel hwn gael ffariar." Erbyn y bore nid oedd arno angen yr un ohonynt.

CHWARELWR diwyd a medrus oedd J.D., a gwyddai am y gelfyddyd o roddi llawer o waith trwy ei ddwylo. Yr oedd yn gyfaill siriol, rhadlon braf. Ym mlynyddoedd olaf ei oes ymroes i ddatganu i'w ddyfyrru ei hun a'i gyd-weithwyr, ac yr oedd yn meddu ar lais Tenor swynol. Pe buasai wedi dechrau datganu flynyddoedd yng nghynt diau y buasai wedi ennill llawer o wobrau mewn Eisteddfodau. Bodlon ydoedd ar ei fyd a dim gradd o ymffrost yn perthyn iddo.

Un tro gofynnodd i gydweithiwr am eiriau Tanymarian

"O gofynnwch imi ganu
Anodd canu yn y glaw," &c.

Methodd hwnnw a tharo ei law arnynt, ond ysgrifennodd iddo bedwar neu bum pennill iddo ei hun fel datganwr a dyma ddau, aeth y lleill ar ddifancoll.

O! gofynnwch imi ganu
Canu wnaf fel 'hedydd bach,
Am fod canu lond fy nghalon
Pan yn glaf neu pan yn iach ;
Canu wnaf ar bonc y chwarel,
Canaf yn y bus a'r tren,
Mae fy llais fel llais Cariwso
Er fy mod yn mynd yn hen.


Canaf am 'rhen Olwen annwyl,
A "P'le'r Aeth yr Hen Amen?"
Ac mi ganaf ar yr aelwyd
Gyda Sallie hoff a Gwen;
Canu wnaf" "R wy'n mynd i rywle,"
Waeth os â y byd yn ddellt,
Mi a ganaf doed a ddelo
Am y "Bwthyn Bach Tô Gwellt."


BYDDAI amryw o'r hen weithwyr yn y blynyddoedd gynt wrth eu bodd yn cymryd ambell lasiad o'r "cwrw melyn bach," chwedl hwythau. "Gwlychu ei bîg," oedd y geiriau a ddywedid am hyn ganddynt. Dwywaith yn y mis y derbyniai y gweithwyr eu cyflogau flynyddoedd yn ôl, cael dwybunt o sub, a thelid y gweddill ymhen pythefnos. Byddai yn dlawd eu byd ar lawer cyn Sadwrn y tâl mawr.

Dyna oedd hanes R——, hen chwarelwr diwyd a medrus, ac un noson cynlluniodd i gael ychydig arian i gael diod. Aeth i'w gwt ieir gan gludo "ceiliog coch" tew dan ei gôt oddi yno, a gwerthodd o i siopwr yn y Blaenau, a chafodd dâl amdano. Hongiodd y siopwr o ar fachyn y tu allan i'w siop. Ymhen ysbaid o amser wrth fynd heibio ar yr heol gwelwyd y ceiliog gan ferch y gwerthwr, ac wedi holi y siopwr cafodd wybod mai ei thad a'i gwerthodd iddo. Wedi mynd adref dywedodd wrth ei mam am y darganfyddiad a chwarddodd y ddwy yn braf.

Cyrhaeddodd yr hen weithiwr adref yn hapus, ac aeth i'w wely heb gymryd swper.

Wedi iddo gysgu'n drwm, aeth ei ferch i'r cwt ieir a daeth a cheiliog arall oddi yno, a dododd ef mewn basged gaeedig a rhoddodd hi o dan wely ei thad.

Ar doriad y wawr canai y ceiliog dros y tŷ, a chredai'r hen gyfaill fod y ceiliog a werthodd wedi adfywhau. "Cydwybod euog, cydwybod euog," meddai, "dyma fi wedi cael fy nal fel Pedr gynt."

DAU BARTNER.

Dau o ddynion byrion
Yn gweithio cerrig hirion;
Un yn gweithio'n hynod gall
A'r llall yn gweithio'n wirion.


GWEITHIAI dau fwynwr yn Chwarel y Llechwedd, a gyrrent lefel hir yno trwy graig galed. Gosododd y goruchwyliwr y lle iddynt am bris bychan, a methasant â gwneuthur cyflog am ddeufis. Ymhen mis wedyn bu dadlau mawr am ychwaneg o bris, ond cyndyn oedd y swyddog i roddi mwy o bris iddynt. Wedi iddo fynd rai llathenni oddi wrthynt gwaeddasant ar ei ôl, a gofynnodd un ohonynt: "A oes gennych looking glass' yn y tŷ a ellwch ei roddi inni?" "I beth deudwch?" meddai yntau. Meddai y gweithiwr wrtho : "Er mwyn inni weld ein lluniau yn llwgu!"

ATGYWEIRIWYD un capel Wesla' yn ein bro lawer blwyddyn yn ôl. Cafwyd dau o hoelion wyth yr enwad yno i bregethu wrth ei ail-agor. Yr oedd y muriau wedi eu peintio a'r seti yn farnis i gyd. Yr oedd y capel yn orlawn ac oedfaon mawr yno. Eisteddai meddyg o'r Llan yn un sedd, a chrydd y pentref yn y sedd nesaf ato. Wrth godi i fynd allan gofynnodd y meddyg i'r crydd: "Ai cŵyr crydd maent wedi ei roi ar y seti yma?"

"Nage," meddai'r crydd, "sticking plaster."

YMADAWODD H.R. i'r Amerig. Bu yn codi canu yn E——. am lawer o flynyddoedd, a blinwyd gwrando ar ei lais gwichlyd. Gwnaed casgliad iddo yn y chwarel a'r capel. Wrth gyflwyno'r anrheg iddo diolchwyd am ei wasanaeth gan ddymuno yn dda iddo. Wrth ddiolch am y caredigrwydd a gafodd, dywedodd: "Wyddoch chwi beth bobol bach, pe gwyddwn y buasech mor garedig wrthyf, ni buasai'r un o'm traed yn gadael yr henfro annwyl hon."

UN tro daliodd stiward hen greigiwr yn dianc adref ar brynhawn braf cyn i'r gloch ganu. Achwynodd amdano wrth y prif oruchwyliwr ac ataliwyd yr hen greigiwr rhag gweithio am bythefnos.

Ymhen deuddydd wedi iddo ail ddechrau gweithio fe anafodd ei fys ac aeth at weithiwr arall i'w drin, a rhoi cadach amdano. Ar hynny, dyma'r stiward ato a dweud, "Ai rhwymo ei fys yr wyt ti, Now?" Ie," meddai'r hen droseddwr, "ond eisiau rhwymo dy dafod ti sydd!"

ANAFODD hen labrwr ei glun yn chwarel y Rhiw, ac fe'i cludwyd adref ar elor gan griw o'i gydweithwyr. Wrth nesau at y Baltic Hotel, griddfannai mewn poenau. Rhoddodd y dafarnwraig a gadwai y gwesty botelaid o chwisgi iddo, ond dechreuodd un o'r criw yfed rhan ohoni. "Hold on," meddai'r gŵr clwyfus, " y fi sydd wedi brifo."

WEDI i labrwr fod wrthi yn ddiwyd yn llwytho llwyth o rwbel, fe gymerodd dipyn o seibiant. Pwy a'i daliodd ef â'i droed yn pwyso ar ei raw ond y stiward. "Weldi," meddai wrth y labrwr, "ni chlywais i erioed fod rhaw wedi lladd neb." "Hitiwch befo," meddai yntau, "y mae wedi claddu miloedd!"

AETH dwy wagen dros ben yr inclein wrth i hen lwythwr griwlio. Gwelodd stiward hwynt yn mynd a gofynnodd, "I b'le mae'r wagenni wedi mynd?" "Wel," meddai'r hen weithiwr, "os ydynt yn mynd fel y gwnaethant gychwyn, y maent ym Mhorthmadog rŵan!"

YMHEN ychydig oriau aeth peiriannydd y chwarel i ben yr inclein, ac archwilio y rhaff. Wrth edrych arno gofynnodd gweithiwr i Wilym Deudraeth a rybelai yn y chwarel, "Beth mae y gŵr acw yn wneuthur ar ben yr inclein?" Atebodd yntau,

"Gwneud y rhaff yn saff reit siwr
I Dic Roland y Criwliwr."


HEN gyfaill cymwynasgar, a gweithiwr caled, oedd H. Nid oedd ball ar ei ddiwydrwydd, er hynny cyflog bychan a enillai. Methai llawer fel yntau â chael y ddau ben llinyn ynghyd. Amser caled yn y chwarel ydoedd tua deugain mlynedd yn ôl.

Prynodd H. ryw ddilladau gan Mr. Packman, ond anniben ydoedd i dalu amdanynt. Addawodd ymorol o ddifrif i dalu, ond bychan oedd ei gyflog. Blinodd Mr. Packman, ac anfonodd ato i ddweud wrtho ei fod am fynd a'i achos i'r Cwrt Bach.

Wedi hynny teimlai yn bur ddigalon, a chan na fedrai ysgrifennu ei hun, gofynnodd i hen gydweithiwr ysgrifennu llythyr drosto at Mr. Packman. Gwnaed hynny gan egluro mor galed oedd ei fyd, ac addawodd dalu bob dimai.

Beth wnaeth y cydweithiwr direidus ond rhoddi cusanau (X X X X X) i Mr. Packman ar waelod y llythyr!

Bobol annwyl! Ymhen tridiau aeth Mr. Packman i dŷ y dyledwr gyda'r llythyr, a dywedodd yn ffyrnig wrtho, "Look here man, I don't want your kisses, I want your money." Ni wyddai yr hen gyfaill druan ddim amdanynt, a chwarddodd yn braf, a chwarddodd Mr. Packman hefyd wedi clywed yr hanes, a rhoddodd dri mis o amser i dalu iddo.

Pan ddaeth H. i'r chwarel drannoeth adroddodd yr hanes, a dywedodd na wnaeth dim erioed dalu yn well iddo ef na'r "Kisses!"

HEN wladwr rhadlon braf oedd M. Un tro aeth gyda gweithwyr eraill o'r fro i Sasiwn Bangor. Cafodd wahoddiad i gael te gyda hen flaenor duwiol. Wedi paratoi y bwyd ar y bwrdd dywedodd priod y blaenor wrtho, "Dowch a'ch cadair at y bwrdd a wnewch chwi ddechrau hefyd os gwelwch yn dda?"

"Gwna neno'r tad," gan ddechrau arni o ddifrif, "a mi fwytâf fel pe buaswn adref hefyd," meddai.

UN o'r dynion cryfaf a fu yn gweithio mewn chwarel ydoedd William Lloyd (Lloyd y Llwythwr). Bu droeon yn llwytho deuddeg, a phymtheg llwyth o lechau ambell ddiwrnod, a gwaith caled iawn ydoedd. Hen gymeriad plaen, rhadlon ydoedd ac yn gymeradwy gan bawb. Bedyddiwr Albanaidd ydoedd o ran enwad, a meddyliai y byd o J. R. Jones, Ramoth, a'i ganlynwyr.

Rhoddwn linellau coffa amdano gan Bryfdir, er cof amdano. Bu'r ddau ar bonc Gloddfa Ganol gyda'i gilydd am flynyddoedd.

Cofiwn amdano dan heulwen a chawod,
Yn llwytho'r gwagenni heb gŵyn ar ei dafod.
Er garwed ei drem 'roedd addfwynder ei Grewr,
Yn olud yng nghalon perlau'r 'hen Lloyd y Llwythwr.'

Cyfyngai ei feddwl i lwyth ac i wagen,
Ac ambell fygyn ar dro yn y fargen ;
Gofalai am bawb ond ei hunan heb ddwndwr,
A melys fydd coffa perlau'r 'hen Lloyd y Llwythwr.'

Dechreuodd yn fore, a daliodd i weithio,
Nes plygu o niwl yr Iorddonen amdano;
Gadawodd y wagen am orsedd y gweithiwr,
Ac aml yw perlau'r 'hen Lloyd y Llwythwr.'


Nodiadau

[golygu]