Neidio i'r cynnwys

Y Fainc Sglodion/Ymddeoliad Hen Weithiwr

Oddi ar Wicidestun
Hanes Argae Llyn Ffridd Bwlch Gorddinan yn torri Y Fainc Sglodion

gan John William Jones

Mr. William W. Jones, Brynawel

YMDDEOLIAD HEN WEITHIWR.
(O.A.J).

Ar bynciau cymdeithasol
Bu wrthi'n dadlau'n gry',
A thystiai pawb yn unfryd
Mai ef oedd I y Tŷ[1];
Er hyn nid oes 'r un gwpan de,
Yn gof amdano yn y lle.

Waeth ganddo ef sut gerrig
Ar bonc sy' heddiw i'w cael,
Ai cerrig da a rhywiog,
Ai ynteu cerrig gwael;
Ffarwel i'r cŷn a'r ordd byth mwy,
Fydd arno byth eu heisiau hwy.



CADW'R ARFAU


Nodiadau

[golygu]
  1. Tŷ Bwyta.