Neidio i'r cynnwys

Y Fainc Sglodion (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Y Fainc Sglodion (testun cyfansawdd)

gan John William Jones

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Y Fainc Sglodion





Y FAINC 'SGLODION



Y FAINC 'SGLODION


CASGLIAD O RAI O STRAEON
Y CHWAREL A'R CAPEL


Gan

JOHN WILLIAM JONES
BLAENAU FFESTINIOG


Rhoi eu lle i wŷr y llwch
Ddaw inni yn ddiddanwch.


BLAENAU FFESTINIOG

CYHOEDDEDIG GAN YR AWDUR

1953



1953

Argraffwyd gan
Hugh Evans a'i Feibion, Cyf., 9-11 Hackins Hey, a 350-360 Stanley Road,
Liverpool.



Cyflwynaf y Gyfrol hon
Er Cof am
Mr. William William Jones, Brynawel,
Blaenau Ffestiniog.
(1853-1920).

Chwarelwr duwiol, diwylliedig y cefais y fraint fawr o weithio ar yr un Bonc ag ef yn Chwarel Oakeley am lawer blwyddyn.—J.W.J.



Y FAINC YSGLODION

Mae'r crefftwr medrus wrth y Fainc Ysglodion
Yn llunio cywrain waith o'r deunydd crai,
Hen gymeriadau bro a'u hoff hynodion
Mewn gwaith a chwarae ac mewn serch a bai:
Onid o ruddin creigiau'r wlad y naddwyd
Pentwr ysglodion a'n diddanodd ni?
O ddyfnder beddrod, llawer gwyrth a gladdwyd
A godir ar ei newydd wedd i fri.
Mae dwylo'r crefftwr wrthi'n trin y creigiau,
A chyrn yr offer yn caledu ei law;
Yn oriau'r hwyr chwilia am freision seigiau
O'r dydd a fu ar gyfer oes a ddaw:
Ei wobr yw ei waith, heb dâl, heb glod,
A'i freuddwyd am ei wlad mor wyn â'r ôd.

T. E. NICHOLAS.

RHAGAIR

Ni wn paham y gofynnwyd i mi, o bawb, ysgrifennu Rhagair i'r Casgliad hwn o Straeon y Chwarel a'r Capel. Yr unig gymwysterau a feddaf yw fy edmygedd o lafur dygn a diflino'r Casglydd a hefyd y ffaith fy mod yn ymfalchio ddarfod i minnau dreulio tymor yng Nghaban Cinio'r Chwarel, a derbyn mwy nag un fendith oddi wrth y gymdeithas ddiddorol honno.

Un arall o dywysennau llawn a loffodd John W. Jones ydyw hon. Straeon am chwarelwyr mewn dyddiau pan oedd fflam diwylliant Cymru heb ei hamharu gan yr elfennau estron sydd wedi dechrau ei andwyo'n brysur. I'r dosbarth hwn y perthyn J. W. Jones—y "Bardd" i'w gydchwarelwyr—ei hunan. Ei bleser ar hyd ei fywyd fu diddori, a hynny er budd ac adeiladaeth ei gydweithwyr. Rhoddaswn lawer am gael bod yn aelod o'r un Caban Cinio ag ef. Chwith yw meddwl bod rhai o'i fath yn prinhau.

Iddo ef, y mae pob stori ynghlwm wrth ryw bersonoliaeth neu'i gilydd, ac y mae'r Casgliad yn gyfle i gadw coffa llawer un dinod yn wyrdd. Boed i'r sawl a'u darlleno gael yr un pleser ag a gafodd y "Bardd" wrth eu casglu a'u cofnodi.

Ffestiniog.

W. J. THOMAS.

CYNNWYS


AT Y DARLLENYDD

RAI blynyddoedd yn ôl bûm yn ysgrifennu ychydig o wahanol nodiadau i'r "Cymro" dan y teitl "Y Fainc 'Sglodion." Y mae "Mainc 'Sglodion" y chwarelwr yn wahanol i "Fainc 'Sglodion " y saer. Cesglir ysglodion y saer a'u bwrw yn y tân, ond ar yr hyn a rydd y chwarelwr ar ei Fainc y dibynna ef ar wneuthur ei gyflog. Wedi llifio'r cerrig ar y bwrdd, fe'u trinir yn glytiau i wahanol faintioli, a gosodir hwynt yn bentwr yn barod i'w hollti. Wedi hollti'r clytiau â chŷn a gordd, gelwir hwynt yn "sglodion" a gosodir hwynt ar fainc yn barod i'w naddu i wahanol faintioli. Ceir rhai mawrion am Princes a Dutches, ac eraill llai yn eu mysg, ond y mae gwerth ym mhob un at wneuthur llechen. Gorau yn y byd i'r chwarelwr ydyw cael digon o 'sglodion da i wneuthur peiliau o lechau.

Cefais brofiad o weithio yn chwarel Oakeley am 53 mlynedd, a chredaf nad oes waith difyrrach i'w gael, er caleted ydyw, na gwaith y chwarelwr, ond iddo gael digon o gerrig da, a phris teg am eu gweithio. Byddai'r chwarelwyr wrthi'n ddiwyd o fore hyd hwyr, ac nid oedd angen cael neb i'w gwylio. Clywais rai o'r tu allan i'r chwarel yn eu condemnio a gweled ynddynt feiau. Anodd cael dosbarth o ddynion caredicach na hwynt. Un peth i synnu ato ydyw bod cyn lleied o weithwyr yn chwarelau Arfon a Meirion wedi eu penodi yn Ustusiaid Heddwch ar hyd y blynyddoedd. Y mae digon o ddynion da yn eu plith a allent gyflawni'r swydd.

Bu cyfnod caled yn hanes y chwarelwyr yn y blynyddoedd gynt, gweithio deng awr yn y dydd am gyflog bach, a gweithio tri a phedwar diwrnod yn yr wythnos. Mewn rhai melinau gwelwyd tua deuddeg ac ychwaneg o "weithwyr wrth y dydd" heb waith ar ddechrau'r mis, ac yn gorfod troi adref.

Byddai rhai am fisoedd yn cerdded o'r naill chwarel i'r llall i chwilio am waith, ond dim i'w gael.

Byddai amryw o'r hen weithwyr yn y blynyddoedd gynt yn cymryd "spri," ac adref am wythnos a rhagor heb weithio. Wedi hynny gweithient fel caethion. Cofiaf adeg pan welai'r meistr bob bai ar y gweithiwr, ac nid oeddynt yn cyfrif dim, yn enwedig rybelwyr. Erbyn heddiw y mae'n wahanol, a mwy o agosrwydd rhwng y meistr a'r gweithiwr.

Tri lle pwysig gan yr hen weithwyr gynt oedd y Cartref, Yr Ysgol Sul, a'r Capel. Yr oeddynt am i'w plant gael Crefydd ac Addysg. Cofgolofnau i'w haberth ydyw'r capelau, a'r ysgolion ardderchog a welir yn ein henfro. Dringodd llawer o blant gweithwyr y fro i safleoedd uchel, mewn byd ac eglwys.

Yn ei awdl ar "Hunanaberth" dywedodd Elfed:

"Llawer bachgen talentog—a ddringodd
I rengau'r bydenwog;
A'r hen bobol wrol lin,
O'u cyni'n gwasgu ceiniog."


Deuai llawer o ddynion o wahanol leoedd i weithio i'r chwarelau flynyddoedd yn ôl, ac arhosent ar nosweithiau yr wythnos mewn baricsod, a dychwelent i'w cartrefi ar brynhawn Sadyrnau.

Yr oedd amryw ohonynt yn ddynion talentog, ac wedi eu diwyllio'u hunain mewn gwahanol feysydd o wybodaeth yn eu horiau hamdden.

Meddylier am y manteision sydd heddiw ar gyfer pobl ifainc, y mae'n berygl i ormod o fanteision droi yn anfantais wedi'r cwbl.

Yr oedd hen Farics Chwarel y Rhosydd yn hysbys i bawb, oherwydd y dynion talentog oedd ynddo. Cynhaliwyd Eisteddfodau gan rai o weithwyr y gwahanol chwarelau yn y blynyddoedd gynt. Bu bri mawr ar Eisteddfod y Rhosydd, a Chwmorthin, a Holland, a'r Llechwedd ac eraill.

Byddai'r beirdd, a'r llenorion, a'r cerddorion yn paratoi yn ddyfal ar eu cyfer. Cyhoeddwyd rhai o'r Cyfansoddiadau Buddugol yn llyfrau bychain.

Byddai damweiniau bron bob wythnos yn digwydd yn y chwarelau yn y blynyddoedd gynt. Ceir rhestr am lawer o'r damweiniau y collwyd bywydau yn un o "Lyfrau Glas" y Llywodraeth ynglŷn â'r chwarelau. Dodid y clwyfedigion mewn elor bren fawr, ac ar rai troeon eisteddai cydweithiwr yn yr elor gyda'r clwyfedig. Cludid yr elor fawr drom ar ysgwyddau'r gweithwyr i ysbyty'r chwarel, neu i'w cartrefi. Wedi dyddiau'r elor cafwyd stretcher ysgafnach yn ei lle. Erbyn heddiw ceir pob rhwyddineb, a'r gofal mwyaf, i gludo gweithwyr clwyfedig i'r ysbyty mewn modur pwrpasol at y gwaith, Ambulance Car.

Ar ôl torri cadwynau gormes yn Sir Feirionnydd adeg Etholiad 1868, goleuwyd lampau gwleidyddiaeth a chafwyd ffrwyth da.

Diwygiad cymdeithasol pwysig i'r gweithwyr oedd sefydlu "Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru " yn 1874. Bu cewri o ddynion gwrol a galluog yn ymladd yn ddewr o'i blaid, a bu o les dirfawr i'r gweithwyr.

Sefydlwyd Bwrdd Ysgol yn ein hardal yn 1871, wedi hynny Cyngor Plwyf yn 1878, Cyngor Sir yn 1889, a'r Cyngor Dinesig yn 1894. Yr oedd ynddynt ddynion gweithgar yn deall eu gwaith a gwnaethant wasanaeth amhrisiadwy.

Sonnir am y brwydrau ynglŷn ag Addysg a fu yma gynt. Yr arweinwyr yn yr eglwysi, ac aelodau o'r Ysgolion Sul, oedd yr ymladdwyr ymhob brwydr gydag Addysg, Dirwest, ac Iawnderau i'r Gweithwyr. Anfonwyd swm da o arian gan y gweithwyr gynt at godi rhai o Golegau Prifysgol Cymru.

Cynhelir Cyngherddau yn aml i gynorthwyo gweithwyr mewn afiechyd a llesgedd. Gwnaeth y Seindyrf, a'r Corau, a'r datganwyr, ac adroddwyr, eu rhan yn garedig ynddynt.

"Rhoi llaw i godi o'r llwch
Dyna goron dyngarwch," meddai Gutyn Arfon.

Ol-nodiad.—Gwnaed Siaced Lwch i'r gyfrol a'r darlun o'r hen weithiwr yn cadw'i arfau, gan Mr. Medwyn Evans Roberts. Bachgen ifanc talentog ydyw ef, mab i wraig weddw, sef Mrs. Thomas Roberts, Blaenau Ffestiniog. Chwarelwr oedd ei dad a giliodd o helynt y byd yn sydyn. Enillodd Medwyn lawer o wobrwyon yn barod er ieuanged yw. Efo a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst am bortreadu unrhyw gymeriad o'r "Pentre Gwyn" (Anthropos). Gwnaeth yntau ddarlun penigamp o Martin y Pedlar. Ar hyn o bryd y mae yn y coleg yng Nghaerdydd.

Mawrth 23, 1953 JOHN W. JONES.

STRAEON Y CHWAREL

DAU bartner yn y chwarel oedd R.W. a R.J., a dau o rai diwyd gyda'u gwaith. Rhedent ar ei hôl hi (yn ôl term y chwarel) o fore tan nos.

Rhyw fore oer wrth dynnu clytiau oddi ar y bwrdd llifio aeth troed R.W. i olwyn oedd ar ochor y bwrdd. Yr oedd yn sownd yno, a methai â symud dim. Gwaeddodd ar R.J. ei bartner (oedd wrthi yn naddu 'sglodion yn yr injian naddu ar y pryd), "Tyrd yma Bob, i dynnu 'nhroed i yn rhydd o'r olwyn yma." "Aros imi naddu'r Princen yma," meddai yntau.

DYN cryf, glandeg, o bersonoliaeth hardd oedd R. Carai enwad y Bedyddwyr â chariad angerddol. Clywsom ef yn adrodd darnau o bregethau enwogion yr enwad. Arferai "ymaflyd codwm" beunydd â rhywun a ymddiddorai yn y gwaith hwnnw, a gwnâi llawer yn y blynyddoedd gynt. Yr oedd ganddo freichiau cryfion, a dau ddwrn fel pennau morthwylion. Dywedodd ei hanes wrthym un tro ar bonc y chwarel. Bu ar neges yn Lerpwl yn gweld rhyw feddyg, ac wrth ddychwelyd adref yn ôl cerddai yn ôl a blaen ar blatfform stesion Lime Street. Daeth rhyw lencyn mawr o Sais ato gan gau ei ddyrnau o flaen ei wyneb, ac ymgasglai'r bobl o'i gwmpas, ond gadawodd iddo. Ymhen tipyn fe drawodd R.J. yn ei wyneb. "Wedi hynny," meddai'r hen Gymro, "mi gofiais am steil Tom Sayers, ac fe'i trewais gyda'm dwrn nes oedd yn llyfu oddi ar y platfform ar ganol y lein!"

WRTH gofio am R.J. a'r Sais, cofiais am hanes y Parch. Robert Hughes, Uwchlaw'r-ffynnon yn curo rhyw Sais yn Llundain. Dyma'r hanes allan o'i Hunangofiant difyr, tudalen 22. Cafodd waith yn Llundain mewn gwaith sebon. "Yr oedd dyn ieuanc o Sais, yr hwn a wasanaethai mewn tafarn, ag a fyddai yn arfer dwyn 'porter' i'r lle, wedi cymryd yn ei ben i brofocio'r Cymry, ac yn arbennig fy hunan, am fy mod yn newydd-ddyfodiad yno, ac heb fawr o Saesneg ac yr ieuengaf yn y lle. Bydd- ai yn gweiddi 'Nannygoat' a 'Ba' arnom bob tro y deuai atom.

Un tro darfu i'r 'foreman' ei daro yn ei gefn â darn o sebon meddal, a dweud mai fi a wnaeth hynny. Yn y fan tynnodd amdano i'm curo, gan ei fod yn gwffiwr proffesedig yn 'prize fighter,' ond y canlyniad fu imi ei guro fel y bu am bythefnos yn ei wely heb weled yr un golwg. Cytunodd yr holl weithwyr i gael galwyn o whisci er fy anrhydeddu am fy ngwaith, er fy mod yn hollol wrthwynebol i'r peth. Rhaid oedd cydsynio."

GŴR gweddw wyneblwyd tenau oedd J., a chadwai ei ferch gartref glân a chysurus iddo. Meddai ar gorff ystwyth, a gallai wneuthur llawer o gampau, cystal ag unrhyw ddyn mewn siou. Arferai ar brynhawniau Sadwrn fynd am ychydig ddiod i dafarnau'r dref,—"dim ond gwlychu ei big," chwedl yntau. Cafodd Jac Dô yn anrheg gan gydweithiwr, a gwnâi yntau lawer o driciau. Ehedai ar ei ysgwydd pan ddeuai adref o'r chwarel. Un Sadwrn tâl yn y chwarel, cafodd J. dâl reit dda, a chelciodd bunt felen ac arian gwynion. Rhoddodd hwynt yn y pridd yn yr ardd flodau oedd ganddo yn ffrynt ei dŷ, ac aeth am ginio. Wedi hynny newidiodd ei ddillad gwaith gan fwriadu cael sbri drwy'r prynhawn. Aeth ei ferch allan o'r tŷ a gwelodd y Jac Dô yn chwarae efo'r arian, a llwyddodd i'w cael oddi arno. Ymhen spel aeth ei thad i chwilio amdanynt, ond nid oedd dim hanes ohonynt. Cafodd fraw a'r siomiant mwyaf a gafodd erioed. Y ddedfryd a basiodd ar y Jac Dô oedd, "To be hanged by the neck."

CWYNAI gweithwyr ar bonc neilltuol yn y chwarel fod yn anodd gwthio llwythi o rwbel, am fod y ffordd eisiau cael ei hatgyweirio. Gofynnwyd lawer gwaith i swyddog am gael gwell ffordd.

Ei atebiad wrth un gweithiwr oedd, "A fyddai dim gwell iti ofyn i'r Brenin Mawr?" "Wel," meddai'r gweithiwr, "yr oeddwn i yn meddwl fy mod yn gofyn i un mwy o lawer na Hwnnw."

Yr oedd B. yn hwylio berfa olwyn a bocs mawr ynddi. Daeth dyn mawr pwysig i'w gyfarfod a gofynnodd iddo, Ai mwnci sydd gennyt yn y bocs yna B?" "Ie," meddai yntau, "y mae ynddo ddigon o le i ddau, neidiwch i mewn iddo."

CREDAI D. mai y nefoedd orau ar y ddaear a fedrai chwarelwr gael oedd cael hollti a naddu digonedd o gerrig da rhywiog. Byddai wrth ei fodd yn sôn am gerrig da wedi iddo droi heibio defnyddio y cŷn a'r ordd. Clywyd ef lawer tro yn siop y barbwr yn canmol cymaint o gerrig a arferai wneuthur yn y chwarel.

Un tro yr oedd y barbwr wedi tynnu rhyw boteli oddi ar silff yn barod at spring cleaning. Pan aeth D. yno i gael torri ei wallt, gofynnodd i'r barbwr: "I beth oeddet yn tynnu y poteli oddi ar y silffoedd ?" "O," meddai yntau, "gwneuthur lle i ti beilio dy filoedd cerrig da ydw i!"

CYMERIAD siriol yn meddu ar dalent fawr oedd D., ond ni hoffai fod yn y lleoedd amlwg ar y llwyfannau. Llwythai'r wagen yn ddiwyd un bore yn y chwarel. Safodd y prif oruchwyliwr am amser hir gerllaw iddo. Cododd D. ei ben i fyny a gofynnodd iddo, "A fedrwch chwi chwarae draffts, Mr. W?" "Medraf," meddai yntau, "beth wyt yn feddwl, dwad?" "O, eich tro chwi sydd i symud rwan," meddai D. Aeth y goruchwyliwr ymaith gan chwerthin yn braf.

DRO arall dywedodd yr un swyddog wrtho, "Wel, un gwirion wyt ti, Dafydd," ac atebodd y labrwr ar ei union, "Peth rhyfedd fod pob Dafydd yr un fath, yntê?" Dafydd oedd enw y swyddog.

AETH D. i offis y chwarel tuag un ar ddeg un bore. Yr oedd ganddo fusnes neilltuol gyda'r prif oruchwyliwr, ond dywedodd hwnnw wrtho, "Y mae gennyf eisiau bwyta fy nghinio rŵan!" Aeth D. ymaith oddi wrtho. Ymhen pythefnos yr oedd y swyddog yn dyfod yn brysur ar y bonc ar fin adeg cinio. Dywedodd wrth D., "Cer i nôl y ceffyl i'r stabal i dynnu'r wagenni yma i'r pass by." Aeth yntau yn hamddenol a daeth yn ôl ei hun. "P'le mae'r ceffyl?" meddai'r swyddog. "Y mae eisiau bwyta," meddai D.

LLANC cryf rhadlon braf oedd Bob, a gweithiai fel labrwr yn chwarel y Rhosydd. Gwisgai wasgod las a botymau gwynion arni, ac arnynt yr oedd y llythrennau "L. & N. W."

Gofynnodd y prif oruchwyliwr iddo, "Pa beth a arwydda y llythrennau yna ar fotymau dy wasgod?" "O," meddai yntau dan wenu, "Labour And No Wages." Ymhen yr wythnos daliodd y prif oruchwyliwr y gweithiwr wedi crwydro oddi wrth ei waith, a dywedodd wrtho, "Beth oeddet ti yn dweud mai Labour And No Wages a arwyddai'r llythrennau ar fotymau dy wasgod? Credaf fi yn onest mai Labour And No Work' ydynt!"

CLIRIO rwbel bras ym Melin Cwmorthin oedd gwaith Edward, ac un diwyd ydoedd hefyd. Nid aethai byth adref a gadael llwyth ar ganol ei lwytho. Wrth ei weld yn gweithio mor galed dywedodd y prif oruchwyliwr wrtho, "Yr wyf am roddi mwy o gyflog nag wyt yn gael Edward." "Wyddoch chwi beth, Mr. Roberts," meddai yntau, "buasai'n well gennyf o lawer gael mwy o wagenni gennych."

TAN go sâl oedd o dan y tegell mewn cwt hogi ar fin hanner dydd un tro. Daeth hen weithiwr diddan yno a gofynnodd i rybelwr oedd yno, "Ydyw Morgan byth wedi canu?"

Nag ydyw," meddai yntau, "nid yw wedi ledio pennill eto."

HEN weithiwr rhadlon braf oedd Wil, fel y gelwid ef gan ei gydweithwyr. Bu'n ofalus o'i daid yn ei waeledd yn ei flynyddoedd olaf, er hynny anghofiwyd am ei enw yn ei "Ewyllys!" Canodd hen gyfaill res o benillion iddo, a dyma un ohonynt:

"Credai Wil y byddai'n gefnog
Wedi marw ei daid cyfoethog;
Am olchi'i draed a thorri'i 'winedd,
Ni chafodd ddimai yn y diwedd."


Yr oedd un creigiwr a'i bartner yn gweithio ar hen graig sâl ac yn methu â gwneuthur cyflog aml fis. Dywedodd un ohonynt fod ganddo gywilydd mynd a chyn lleied o arian ar ddydd pen cyfrif i Elin ei wraig. "Wel, William," meddai'r prif oruchwyliwr, "mi gei ychwaneg o bris ar y fargen at y mis nesaf," ac fe gafodd hefyd. Gwnaeth well cyflog wedyn,-mwy nag a gafodd ers misoedd. Pan ddaeth y goruchwyliwr i'w agor (chamber) i 'osod' wedyn, gofynnodd, "Pa beth a ddywedodd Elin am iti fynd a chyflog mor dda iddi y tâl diwethaf?" "O Syr, meddwl wnaeth hi fy mod wedi mynd o'ch chwarel i weithio i rywle arall!"

LLANC ystwyth, a medrus gyda'i orchwyl oedd J. Bu am gyfnod yn y Rhyfel Mawr cyntaf, a meddai ar atgofion difyr am lawer o gymeriadau. Byddai wrth ei fodd yn cael mygyn, ac ambell lasiad o'r "ffisig coch," chwedl yntau. Cymerai sbri am rai dyddiau a chollai ei waith. Cafodd gerydd droeon gan y prif-oruchwyliwr, a dywedodd hwnnw yn chwyrn wrtho, "Yr wyt wedi cael pardwn gennyf lawer tro, ond os gwelaf di yn dyfod o dafarndy eto, ni chei di weithio yn fy chwarel."

Ymhen yr wythnos digwyddodd ddyfod allan o dafarn yn syth i gyfarfod â'r goruchwyliwr! Gwahoddwyd J. i'r offis a cheryddwyd ef, ond dywedodd ef, "Chwarae teg imi, nid wedi bod yn y dafarn yn yfed oeddwn i, ond yn setlo yr hen account!" "Cer at dy waith," meddai'r mistar.

MEWN Cwt neilltuol ym M——, gweithiai hen gyfaill diddan, a chadwai y peiriannau i weithio yn dda. Un bore pan aeth allan o'r cwt i oilio rhyw beiriant, gwelodd ddyn a dau gi defaid ganddo ar y bonc. "Pwy ydyw nacw?" meddai wrth W.T. "O," meddai hwnnw, I——, wedi dyfod i weld y defaid ar y mynydd, ac i chwilio am loiau." "Cer i dy gwt o'r golwg rhag iddo gael gafael ynot ti!"

HEN gyfaill diddan a charedig oedd R. Daeth i weithio i'r ardal hon o Sir Gaernarfon. Yr oedd yn smociwr a chnowr baco heb ei ail, a byddai ganddo gyflawnder ohono bob amser. Un prynhawn aeth llanc ato yn y chwarel, a gofyn iddo a gawsai flewyn bach o faco ganddo. "Aros di, a gefaist ti beth o'r blaen gennyf, dywed?" meddai yntau.

"Naddo wir," meddai'r llanc. "Wel," meddai yntau, "y mae gennyf ddigon o gwsmeriaid yn barod, heb gymryd ychwaneg atynt!"

ANODD oedd taro ar un difyrrach ei sgwrs am y chwarel na B. Gweithiodd fel labrwr yno am flynyddoedd lawer. Bu'n ffeind ac yn ofalus o'i fam, aberthai bopeth er ei mwyn. Cwynai hi gan y crydcymalau a gorweddai yn ei gwely, a'r siamber yn llawn o bob cyffuriau er ceisio cael adferiad. Un tro yr oedd rhyw ddrwg ar gorn y simddai, a daeth saer maen i'w weld, ac ail-wneud y corn, ond aeth yn waeth! Ymhen rhyw bythefnos yr oedd Bob a'r saer maen gyda'i gilydd mewn tŷ neilltuol un nos, a gofynnodd yr olaf, "Sut y mae'r hen wraig dy fam rwan, Bob?" "Wel, a dweud y gwir iti, nid ydwyf byth wedi gweld ei hwyneb ar ôl i ti fod acw yn trwsio'r corn!"

DYN gweddol dal oedd J., ac yn greigiwr yn deall yn dda am y dull gorau i dynnu craig. Un tro yr oedd yn tyllu gyda jumper ar y graig, a daeth y goruchwyliwr heibio a dywedodd wrtho, "Y mae ceg y twll yna yn fawr iawn gennyt, John." "Hitiwch befo," meddai yntau, "y mae yn reit ddistaw."

Yr oedd un creigiwr canol oed wedi ail-briodi â gwraig flin, ac yr oedd stiward wedi ail-briodi rhyw flwyddyn o'i flaen.

Pan ail-briododd y stiward gofynnodd y creigiwr sut yr oedd ei wraig. "Wel," meddai yntau, "y mae fel y diafol ei hun." "Wyddost ti beth," meddai'r creigiwr, "y mae yn dda iawn arnat, yr ydw i wedi priodi efo'r byd, y cnawd, a'r diafol, ac y mae ei geiriau hi yn cydio fel ail bowdwr!"

YN chwarel Gloddfa Ganol y gweithiai W, fel creigiwr medrus ac ar Suliau âi i bregethu i gapelau y Wesleaid. Pregethwr da ydoedd hefyd. Un tro pregethai yn y Llan a dywedodd fel y pregethai i'r defaid, a'r gwartheg, pan oedd yn llanc.

Wrth fynd o'r capel dywedodd hen gyfaill a weithiai ar yr un bonc ag ef. "Wyddost ti beth William? Pe buaset wedi dal ati i bregethu i'r gwartheg a'r defaid yn lle i bechaduriaid buaset wedi cael lle yn weinidog iddynt erbyn hyn!"

Yr oedd un hen weithiwr caredig yn bur wael un tro. Un go galed, a geiriau miniog ganddi oedd ei wraig. Aeth ei bartner ar ymweliad ag ef a gofynnodd ei briod iddo, "Sut yr ydych yn ei weld o?" "O," meddai yntau, "gweld yr ydw i bod un droed iddo yn yr afon yn barod." "Ho," meddai hithau, "ni fedr groesi ar ei untroed, yr wyf yn disgwyl y bydd y ddwy yn yr afon erbyn y dydd y deui yma y tro nesaf."

SIARADWR brwdfrydig gyda'r Undeb flynyddoedd yn ôl oedd G. Nid oedd bechgyn ifainc yn hoffi gweithio iddo "wrth y dydd." Beiai rai ohonynt beunydd wrth y goruchwylwyr. Gweithiai bachgen medrus di-ddiogi gydag ef un tro, ond nid oedd yn ei blesio o gwbl ac achwynodd amdano wrth un goruchwyliwr. Ni chafodd lawer o groeso ganddo, dywedodd wrtho, "Yr wyt ti dy hun fel cath ddwy gynffon, a gad ti lonydd i'r hogiau, neu mi gei fynd adref i lyfu'r pentan."

CANLYN ceffyl yn y chwarel oedd gwaith Bob, a deallai y ddau ei gilydd i'r dim. Wrth ddyfod o'r twll un bore, ychydig cyn amser cinio, trodd y prif oruchwyliwr i'r stabal at Bob, a gofynnodd iddo, "Sut fwyd wyt ti'n roi i'r ceffyl yma, Bob?" Atebodd yntau, "Tebyg i fwyd labrwr, Syr!"

CREIGIWR da oedd O., a gofalai am gadw ei bartneriaid yn y felin à digon o gerrig. Deuai rhyw awydd dianc adref arno ar ambell brynhawn, a gosodai gannwyll yn olau ar y graig i dwyllo y stiward! Gwelodd y prif oruchwyliwr ef yn mynd yn slei un prynhawn, ac aeth. ato'r bore wedyn i'w alw i gyfrif am ei drosedd. Taerodd a thaerodd y troseddwr ei fod gyda'i waith! Ar ôl cinio aeth y prif oruchwyliwr gyda chreigiwr a weithiai gerllaw, i dop "agor" (chamber) y troseddwr, a gwelodd ef ar y graig. Wedi diffoddi golau ei lamp, gwaeddodd arno mewn llais main, "Sut y bu arnat gyda'r stiward ar ôl iti ddianc adref?" "O," meddai yntau, "mi a'i taerais allan o wynt mai wedi gwneud camgymeriad yr oedd ef." Ar hynny dyma'r prif oruchwyliwr yn taflu golau'i lamp arno, ac yn dweud wrtho, "Thaeri di mono fo eto, yr hen greadur, a mi gei aros adref am wythnos am iti fy nhwyllo weldi."

GWEITHIWR caled dibris ohono'i hun oedd E. nid oedd fymryn o ddiogi yn perthyn iddo. Byddai yn hoffi mynychu un tŷ tafarn neilltuol bob nos wedi dyfod o'r chwarel. Un dydd trawyd ef yn wael yn y chwarel a bu yn dihoeni yn hir. Cerddai allan am dro yn araf deg a golwg lesg arno. Un prynhawn ar heol y Blaenau, daeth gŵr y tafarndy i'w gyfarfod a gofynnodd iddo, "Ymh'le mae dy dopcôt di, dywed, ar ddiwrnod fel heddiw?" "O," meddai yntau, "y mae ar eich cefn chwi."

Yn y blynyddoedd gynt byddai llawer o weithwyr yn digwydd cysgu'n hir yn y boreau, a rhedai rhai ohonynt at eu gwaith yn chwys diferol. Byddai corn y chwarel yn canu ambell dro pan fyddent newydd gychwyn o'r tŷ. Gwelwyd llawer o dro i dro yn cyrraedd y bonc heb gael tamaid o frecwast. Yr oedd Gwilym Deudraeth wedi cysgu'n hir un tro, a dywedodd fel hyn:

Cas ydyw—anesgusodol—o gas
Yw trwm gwsg boreol;
Yr wyf yn hwyr ddifrifol,—
Hanner awr union ar ôl!

GWEITHIAI un hen frawd diddan ar yr un bonc â mi. Un plaen ei wisg a'i eiriau ydoedd, a byddai rhywun yn tynnu yn ei goes beunydd, ond yr oedd ganddo groen tew fel croen eliffant! Un grefyddol iawn oedd ei briod, a'r capel fel cartref ganddi. Un bore oer digwyddodd y ddau gysgu'n hir. Cododd ei gŵr o'i wely yn frysiog, gan erfyn ar i'w briod "wneuthur tân, a brecwast iddo mor fuan ag oedd modd." Yr oedd hi ar ei gliniau yn dweud ei phader yn hamddenol braf! Gwaeddodd ei gŵr arni, "Tyrd yn dy flaen, gad lonydd i'r Brenin Mawr y bore 'ma, mi gei di ddigon o amser i siarad hefo Fo ar hyd y dydd."

DYMA gofnodiad a gefais gan chwarelwr talentog o'r enw Dafydd—— Disgrifiai hanes ei bartner wedi cysgu'n hir un bore.

"Helo, Wil Jones, y mae golwg lafurus iawn arnat ti," meddai Dafydd wrth ei bartner un bore, "be' sydd wedi digwydd, dywed?" Wedi peth distawrwydd, atebodd Wil, "Aros imi gael fy ngwynt; cymer bum munud bach ar y gist yma, mi a ddywedaf wrthyt. Wel, cysgu'n hir â wnaethom ni bore heddiw, ac fel y gwelaist bob amser ar adeg felly yr oedd popeth yn dyfod o chwith. Digwyddais ddeffro, a'r peth cyntaf a glywais oedd trên y Great Western yn pasio. Dyma fi yn ysgwyd Mari nes oedd hi dros erchwyn y gwely, a rhoddodd ochenaid fawr! Cwyd mewn munud,' meddwn wrthi, 'yr ydym wedi cysgu'n hir.' Dyma fi fel mellten i lawr y grisiau a hithau ar fy ôl, ac fel yr oedd yn digwydd yr oedd y crydcymalau yn ei choesau yn waeth heddiw nag y bu ers tro. Yn fy ffwdan wrth dynnu y coed tân o'r pobty trewais y tepot. (Wel, dyma ddechrau, meddwn wrthyf fy hun). Wrth chwilio pobman am 'fatches,' cofiais eu bod ym mhoced fy nghot yn y llofft. Wrth redeg i fyny'r grisiau i'w cyrchu dyma fi yn taro Twm y lodgiwr, ac yntau heb hanner deffro. Bedi'r mater, bedi'r mater?" meddai, 'a oes rhywbeth wedi digwydd?' 'Digwydd wir, edrych ar y cloc yna iti weld faint ydyw o'r gloch; y mae'n rhaid iti frysio os wyt ti yn meddwl cael stem heddiw,' meddwn wrtho. Pan oeddwn yn dyfod o'r llofft clywodd gwraig y drws nesaf fy nhwrw, ac amheuodd ein bod mewn helbul wedi cysgu'n hir. Gwaeddodd dros y clawdd, 'Dowch a'r tepot imi, ichwi gael dŵr poeth.' Wedi i Mari chwilio amdano, dyma hi yn cael hyd i'w glust, a'í big, a chwarae teg iddi yr oedd yn bur dawel gan ei bod yn gwybod fy mod yn ddrwg fy nhymer. Wel, mi es ati i roddi fy esgidiau, ac aeth un yn o lew, ond ni fedrwn yn fy myw roddi'r llall.

Wrth fy nghlywed yn tuchan, dywedodd Mari fod rhaid fod llosg eira ar fy nhraed, a'u bod wedi chwyddo. Gyda hyn, dyma Twm i'r tŷ o'r cefn wedi bod yn ymolchi, a dyna'r lle'r oedd yr hen greadur fel ci mewn ffair wedi colli ei feistr. "Am ba beth wyt yn chwilio?" meddwn wrtho. Am fy esgid,' meddai yntau. Y mae'n rhaid mai hon ydi,' meddwn wrtho. 'B'le mae fy un i Mari?" 'O,' meddai hithau, chofiais i ddim amdani, y mae yng ngweithdy'r crydd er neithiwr; rho dy esgid orau am heddiw (a dyma fi, weldi, torrais y garai wrth dynnu wedi gwylltio; oes gennyt ti ddim pwt yn dy boced?) Gyda hyn, dyma wraig y tŷ nesaf yn dyfod a'r tepot, ac wedi tywallt cwpaned nid oedd dim te ynddo! Na hitia,' meddwn wrth Mari, gwna damaid extra mewn papur, y mae yn rhy hwyr.' Wel, 'd awn i fyth o'r fan yma dyma fi wedi rhoddi'r pwys bacwn yn fy mhoced mewn camgymeriad. Wel, fe âf i brynu cloc larwm heno nesaf, ac fe'i cadwaf yn fy nghesail yn fy ngwely, fel T——, trwy'r nos rhag i hyn ddigwydd eto."

"Hynny ydi'r gorau," meddai Dafydd, "a gofalu am ei windio cyn mynd i'r gwely."

BYDDAI marchnad brysur yn Hall y Blaenau yn y blynyddoedd gynt. Deuai rhai yno o Lanrwst i werthu esgidiau campus, a byddai yno lawer o Iddewon yn gwerthu oriaduron a modrwyau a thlysau amryliw. Mewn lle neilltuol yno, gwerthai amryw fwtsieriaid o Drawsfynydd a lleoedd eraill gigoedd gwerth i'w bwyta. Un tro agorodd bwtshiar dieithr stondin i werthu cig yno. Wedi bod yno am dair wythnos, gofynnodd i'r gŵr oedd yn gwerthu cig yn ei ymyl, a fuasai yn taflu ei olwg ar ei stondin, tra byddai ef yn picio am lasiad i westy gerllaw i'r farchnad. Gwnaeth yntau, ond er ei fawr syndod gwelodd rhyw hen gi mawr yn mynd a darn o gig yn ei geg oddi ar y stondin! Wedi i'r siopwr ddyfod yn ôl, dywedodd y drefn wrth y gwyliwr am na fuasai wedi gwneud ei waith fel yr addawodd. "Ni ddeuaf a'm cig yma i gŵn gael ei gario oddi yma," meddai. "Wel, yr hen gyfaill," meddai'r llall, "os deui yma'n hir hefo dy gig, mi fydd rhai gwaeth na chŵn yn cario dy gig di, heb dalu amdano!"

DYN go fyr, a gweithiwr caled oedd J. Bu'n eithriadol o garedig wrth rybelwyr. Annibynnwr ydoedd ac un o'r goreuon. Yr oedd ganddo frawd yn weinidog cymeradwy gyda'r enwad. Un tro, daeth hwnnw i bregethu i'r ardal hon, ac aeth llawer o gydweithwyr J. i wrando arno. Nid oedd cystal ag a arferai fod y Sul hwnnw. "Wel, J., credaf y buaset ti yn gwneud gwell pregethwr na dy frawd." "Yr ydw innau yn meddwl," meddai, "ataf fi y daeth yr alwad, ond fy mrawd a wnaeth ei hateb."

UN o'r cymeriadau gwreiddiolaf yn ei ddydd yn ein henfro, oedd Robert Jones, Penllwyn, Tanygrisiau. Hoffai ef i bawb ei alw yn "Robin Sion." Preswyliai ei dad a'i fam—William a Laura Jones, mewn annedd-dŷ oedd yn chwarel Holland. Wedi hynny symudasant i fyw i Riwbryfdir, yr oedd llai o waith dringo iddynt yno. Buont yn ffyddlon yn eglwys y Rhiw, ac yr oedd ganddynt lawer o berthnasau,—pobl garedig, plaen a di-lol. Pan oedd Robin Sion yn caru, ac wedi hwylio i briodi, dywedodd ei gariadferch wrtho, "Y mae'n rhaid imi dy gael di Robin bach, pe byddai raid inni fyw ar fara â dŵr!"

"Wel," meddai yntau, "gofala di am ddigon o fara, mi ofala innau am ddigon o ddŵr."

Wedi priodi aeth i fyw i Penllwyn,—bwthyn bach del, a gwelir ef o'r ffordd fawr heddiw, ar le uchel. Heibio ei ffrynt flynyddoedd yn ôl yr oedd y briffordd, a'r ffordd haearn i Borthmadog. Gerllaw iddo yr oedd Wrysgan Fawr, Brynffynnon, Fron Wen, Pantycelyn, a hen gapel y Methodistiaid Calfinaidd, a chynhelid yn hwnnw ysgol ddydd ar ddyddiau'r wythnos. Gerllaw hefyd yr oedd gweithdy Dafydd Hughes y crydd, a'i feibion—David, Richard, ac Owen, yno gyda'u tad yn prysur wneuthur esgidiau campus. Ymgynullai llawer yno i drin gwahanol bynciau wedi dyfod o'r chwarel. Clywais y tri brawd yn adrodd llawer o hanes Robin Sion; yr oeddynt yn gyfeillion calon iddo, ac ymwelwr cyson â'r gweithdy ydoedd. Yr oedd yn gymeriad plaen a hoffus, a charedig ei natur. Nid oedd ei well i'w gael am ddal llwynogod, ac am bysgota. Deallai y gelfyddyd i'r dim, ac yr oedd ei enw yn air teuluaidd ar aelwyd pawb yn yr henfro, a'i ddywediadau bachog ar gof llawer o'r ardalwyr. Bu'n gweithio am gyfnod yn chwarel Holland a symudodd bron ar derfyn ei oes i rybela i Benbont y Rhiw, ac yr oedd yn uchel ei barch yno hefyd.

Gweithiai hen rigymwr doniol gerllaw i Robin Sion, a gwnaeth benillion iddo ef a'i lwynogod dof. Dyma ddau ohonynt allan o nifer fawr.

"Os daw rhyw gyfaill am dro o Ffestiniog
Ac awydd arno cael golwg ar lwynog.
Wel, aed i Penllwyn i gael gweled yn hy,
Dri llwynog yn chwarae o gwmpas y tŷ.

Mae'n werth myned yno yn ddiymdroi,
A gweld y llwynogod nad ydynt am ffoi.
Mae'n rhaid fod Robin yn un da am eu bwydo,
Cyn y buasent o'i gwmpas yn prancio."


Yr oedd ganddo enw ar bob un ohonynt, ac yr oeddynt yn gyfeillion gyda'r cŵn a'r cathod.

LAWER blwyddyn yn ôl cynhelid cyfarfodydd yn ein hardal i annog pobl i symud i breswylio oddi yma i Batagonia. Pwnc y dydd yr adeg honno oedd Patagonia!

Bu merch ifanc hardd i oruchwyliwr y chwarel y gweithiai Robin Sion ynddi farw yn sydyn. Aeth yntau fel gweithwyr eraill ato i gydymdeimlo ag ef yn ei alar. Diolchodd yntau a dywedodd, "Mi â wn ei bod wedi mynd i'r nefoedd." "Neu i Batagonia!" meddai R.S.

UN tro aeth a llond basged o wyau ffres at un siopwr, a gofynnodd iddo a wnaethai eu prynu. "Wn i ddim be wnaf â hwynt" meddai hwnnw. "Wel, eistedd arnynt i edrych gei di gywion!" meddai'r gwerthwr.

MEWN cyfarfod yn y capel un tro, holai gŵr oedd yn stiward mewn chwarel ar hanes Gardd Eden. Gofynnodd un cwestiwn fel hyn, "A fedrwch chwi ddeud beth oedd y pren gwybodaeth da a drwg y sonnir amdano?" Wedi cael amryw atebion dywedodd R.J. ei fod ef yn meddwl mai rhywbeth tebyg i ffon stiward ydoedd! "Pan oeddech chwi yn gweithio fel finnau, nid oeddech yn gwybod dim llawer, ond wedi ichwi fynd yn stiward a chario ffon, yr ydych yn gwybod y da a'r drwg!"

CWYNAI un prif oruchwyliwr wrtho fod rhai pobl yn ei dŷb ef yn ei erbyn am rywbeth, ac eraill "am ei saethu," meddai. "Hitia befo nhw Robert," meddai yntau, "y mae hynny yn dangos dy fod yn fyw ac yn y game. Pan fyddaf i yn mynd i hela gyda'r gwn, ni fyddaf byth yn saethu dim fydd wedi marw, na dim aderyn chwaith os na fydd yn y game!"

BYDDAI llawer o gigfrain yn gwneuthur difrod ar ddefaid ac ŵyn bach yn ein hardal a'r cwmpasoedd lawer blwyddyn yn ôl. Gwelodd R.S. hen gigfran fawr yn ehedeg oddi ar ei nyth ar graig gerllaw chwarel y Rhosydd.

Gofynnodd i feibion oedd ym Marics y Rhosydd fynd gydag ef at y clogwyn lle y nythai. Aethant yn fintai gydag ef a gwelodd y gigfran hwynt yn dyfod, ond ehedai'n rhy uchel o gyrraedd ergyd o'r gwn. Rhoddodd R.S. dipyn o scent ar ffroen y gwn i ddifa arogl y powdwr.

"Ewch yn ôl i'r barics rŵan hogiau, ac wrth eich gweld bydd yn meddwl ein bod wedi mynd i gyd. Mi wnawn ni dorri y rhedyn yma a gorweddaf ynddo o'r golwg i'w gwylio," meddai. Ymhen talm o amser gwelid y gigfran yn ehedeg yn ôl am ei nyth, a llwyddodd ergyd R. Sion i'w saethu yn farw. Mawr oedd y clod a roed iddo am ei wrhydri yn yr ardal gan chwarelwyr a ffermwyr.

Yr oedd William R. Jones (Gwaenydd), mab Robin Sion, yn ŵr hardd o bersonoliaeth ac yn uchel ei barch yn ein hardal. Efô oedd arweinydd Seindorf Bres Gwaenydd, a fuont mewn bri mawr am hir amser. Aeth gydag amryw eraill o'r ardalwyr i'r Wladfa i Batagonia, a gwnaeth enw da iddo'i hun yno.

Un tro, wrth fynd i le neilltuol yno i saethu, a phlentyn bach ei ferch gydag ef, aeth ergyd allan o'r gwn trwy i'r triger daro mewn gwifren wrth iddo fynd trosti. Anafodd yn dost, a dywedodd wrth y plentyn bach "Rhed i nôl dy nain." Daeth ei briod ato yn ei braw wrth edrych arno. Y cwbl a ddywedodd wrthi, oedd, "Hitia befo'r hen gariad, damwain oedd hi."

D.M.

'R wy'n cofio Dafydd Morus
A'i drosol yn ei law,
Dadlwythai'r cerrig trymion
A diwyd rigliai'r baw;
Ac nid oedd neb fel ef mor sionc
I'w weld yn unman ar y bonc.

Preswyliai mewn dedwyddwch,
Mewn bwthyn bychan del,
Ond torrodd ef ei galon
Y dydd y claddwyd Nel;
Ac iddo mwy pa les oedd byw
A'i galon drom o dan ei briw?


LABRWR yn chwarel Holland oedd S.D. Un bore llwythai y rwbel i'r wagen yn ddiwyd. Disgynnodd dafad dros ddibyn craig serth at ymyl y wagen, a dihangodd yntau i ffwrdd wedi dychryn. "Pam oeddet ti yn dianc o flaen dafad?" meddai y stiward wrtho fo. "Wel," meddai yntau, "meddwl 'r oeddwn i bod yna yrr ohonyn nhw'n dwad."

GWEITHIAI D.T. yn un o chwarelau yr ardal hon. Arferai gymryd sbri ar bnawn Sadwrn tâl. Fel yr âi adref yn feddw un tro, daeth prif oruchwyliwr y chwarel i'w gyfarfod a gofynnodd iddo: "Oes gen ti ddim ofn i rywun dy robio di o dy arian, a thithau yn y cyflwr yma?" "Nac oes wir, Mr. Roberts bach," meddai yntau, "nid rhaid imi ond dweud wrtho mai yn eich chwarel chwi'r ydw i yn gweithio!"

UN tro dywedodd hen gyfaill stori am ei eneth fechan. Yr oedd yn well ganddi gyda'i modryb nag adref gyda'i mam, a cherddai bellter ffordd ati.

Un diwrnod gofynnwyd iddi, "Sut yr wyt ti yn hoffi mynd mor aml i dŷ dy fodryb?" "O," meddai hithau, "y mae ganddi lot o deganau imi i chwarae, ac y mae yn eu cadw ar y silff isaf," meddai hithau.

UN tro penderfynodd gweithiwr gadw buwch, ac un diwrnod aeth i ffair heb fod nepell o'i gartref gyda ffermwr gwybodus i brynu un. Wedi myned ysbaid o ffordd clywodd y ddau ryw fuwch yn brefu'n uchel. "Dyma'r fuwch i mi," meddai'r gweithiwr. "Nage wir," meddai'r ffermwr, "nid buwch a llais sydd arnoch eisiau, ond buwch a llaeth!"

HEN gymeriad doniol oedd O——. Un noson gofynnodd i'w briod a fuasai hi mor garedig a'i helpu ef i'w grogi ei hun. Wel, na wnaf wir mo hynny, gwna dy hun os wyt yn hoffi gwneud." "Wel," meddai'i gŵr drachefn wrthi, "yr wyt ti'n un wael iawn, mi fuaswn i yn dy helpu di i grogi dy hun mewn munud!"

DAETH stiward i felin ar bonc y chwarel yn hwyr un prynhawn. Disgwyliai y chwarelwyr eu partneriaid o'r twll i godi cerrig. Wrth eu gweld yn segur, dywedodd wrthynt fel hyn: "Yr oedd fy ngwraig yn gofyn imi neithiwr pa waith a garwn wneuthur pe rhoddwn heibio y gwaith o fod yn stiward. Dywedais innau ar f'union mai mynd i weithio cerrig fel chwarelwr i B.S." "Wel," meddai un o'r hogiau wrtho, "mi fuasai eich gwraig yn beichio crio wrth dderbyn eich cyflog ar nos Wener y tâl!"

Yr oedd hen gyfaill o'r Llan yn arfer mynd trwy gae i ddal y trên yn y bore i fynd i'r chwarel. Er ei syndod un bore yr oedd tarw mawr yn pori yn y cae. Aeth heibio iddo yn ofnus a distaw. Gofynnodd i'w berchennog gyda'r nos a wnai ei roddi mewn cae arall, am fod arno ei ofn. "Wnaiff y tarw bach ddim ond chwarae efo chdi." "Chwarae wir, 'd oes gen i ddim amser i chwarae efo fo yn y bore a minnau yn treio dal y trên i fynd at fy ngwaith!"

AETH dau labrwr diddan o'r chwarel i weithio i'r Sowth. Buont yno am rai misoedd. Prynodd un ohonynt ddau bennog coch i swper. Cadwodd hwynt mewn cwpwrdd yn y tŷ lojin hyd nos drannoeth. Aeth i'r cwpwrdd y noson wedyn, ac un oedd yno! Daliodd ef o flaen y tân, a dywedodd gwraig ei lety wrtho : "Y mae llawer iawn o ddŵr yn dyfod o'i lygad o, Charlie." "Dŵr fuasai yn dyfod o dy lygaid tithau pe buaset wedi colli dy bartner, weldi."

COLLODD un gweithiwr ei briod yn bur sydyn. Gwraig weithgar siriol ydoedd, ac ni fu segurdod erioed ar raglen ei bywyd. Aeth dau o'i gydweithwyr i gydymdeimlo â'r cyfaill yn ei drallod a'i golled fawr. "Wel," meddai un "cawsoch golled amhrisiadwy wedi colli eich annwyl briod." "Do," meddai yntau, "ond yr ydw i wedi ei hinsiwrio hi yn reit dda hogiau bach!"

DECHREUODD O.J., rybela yn y Gloddfa Ganol, ac ymhen ychydig flynyddoedd penodwyd ef yn "Glerc Cerrig." Dringodd i fod yn brif glerc yn swyddfa'r chwarel, ac wedi hynny yn brif oruchwyliwr. Darluniodd Gwilym Deudraeth ef yn dda yn yr englyn hwn.

Diwyd trwy'i fywyd fu Owen—carai'r
Cerrig er yn fachgen;
Ei brif nod oedd bod yn ben,
Dechreuodd gyda chrawen!

AETH gwraig un hen weithiwr cymeradwy un tro at y meddyg. Blinai rhyw anhwyldeb hi beunydd. Archwiliodd hi, ond ni ofynnodd iddi ddangos ei thafod!" Dywedodd ei bod yn "run down" a bod arni eisiau cael gorffwyso. Pan oedd y doctor yn gwneuthur ffisig iddi dywedodd y wraig, "Meddyliais yn siwr y buasech wedi gofyn imi ddangos fy nhafod ichwi." "Wel, ie," meddai yntau, "rhowch imi weld eich tafod," a dangosodd hithau o iddi. "O," meddai'r doctor, "eisiau mwy o orffwys sydd arno yntau hefyd!"

UN pert ei atebiad oedd J.H. Pan oedd yn codi tatws mewn cae ger y ffordd fawr, gofynnodd hen gyfaill iddo wrth basio, "A oes gennych datws go freision eleni, J.H.?" "Wel," meddai J.H., "y mae'n nhw yn llond eu crwyn."

ANFONODD dyn o B. lythyr at gyfreithiwr ynglŷn ag achosion ariannol rhyw ŵr dyledog. Yn y llythyr gofynnodd, "Beth yw'r eiddo sydd ganddo y gallaf gymryd gafael ynddynt a'u meddiannu ?" Atebodd y cyfreithiwr yn union fel hyn : "Bu farw y dyn yr ymofynnwch yn ei gylch ef a'i eiddo, dros flwyddyn yn ôl. Ni adawodd ddim y medrwch gymryd gafael ynddo, ond yn ei wraig weddw."

WRTH weld C. yn ei drol a mul, yn chwysu wrth fynd a llwyth go drwm o lô i fyny allt y Plas, rhoddodd hen weithiwr help trwy wthio y tu ôl i'r drol. Wedi cyrraedd i dop yr allt dywedodd C. gan wenu o glust i glust, "Ni fuaswn byth wedi medru cyrraedd hefo un mul. Mae dau yn well nag un."

PAN fwytâi hen weithiwr ddau bennog coch i ginio yn y chwarel adeg y Rhyfel Mawr, dywedodd bargeiniwr pwysig wrtho, "Y mae'r penwaig yna yn denau iawn." "Wel, tenau a fuaset tithau hefyd pe buasai raid iti ddianc o flaen submarines am bedair blynedd!"

Yn y blynyddoedd gynt, byddai llawer o ferched ifainc yn myned o'n henfro i weini i Landudno, ond anodd oedd i fechgyn ifainc gael gwaith i ddechrau rybela yn y chwarelau.

Yr oedd un llanc tua phedair ar ddeg oed wedi bod ym mhob chwarel yn ceisio cael gwaith, ond nid oedd dim i'w gael. Cerddai yno y naill ddydd ar ôl y llall, ond adref y deuai. Wedi iddo gyrraedd adref yn siomedig, dywedodd ei fam wrtho un prynhawn, "Wyddost ti be? y mae gennyf flys rhoddi pais amdanat a dy yrru di i weini i Landudno!"

YR oedd W——. yn tyllu gyda jumper ar y graig, ac ymhen spel dechreuodd ei "gorddi," fel y dywed creigwyr. Gwelodd lygoden fawr yn cerdded ar y graig gerllaw iddo, ond yr oedd yn hen gynefin â bod ynghanol llygod! Ymhen rhyw awr teimlodd rywbeth oer ar ei glun, a meddyliodd fod y llygoden wedi mynd trwy waelod ei drowsus, fel y gwelwyd rhai weithiau. Yn ei ddychryn curodd ei drowsus efo coes y morthwyl, ond er ei fraw, canfu mai curo ei watch oedd ym mhoced ei drowsus â wnaeth!

YN yr agor (chamber) nesaf, gweithiai creigiwr â fu am rai blynyddoedd yn oriadurwr yn Lloegr. Addawodd hwnnw ei hymgeleddu, ac fe wnaeth hefyd.

Ymhen rhyw fis gofynnodd, "A ydyw dy watch di yn dal i fynd?" Ydyw, ond bod hi'n ennill tipyn!" meddai. "Ennill wir," meddai'r trwsiwr, "piti gynddeiriog na buasai bellach wedi ennill digon i dalu am ei thrwsio!"

SONNID llawer am ryw Wyddel anystyriol a breswyliai yn ein henfro, gweithiai fel labrwr yn chwarel Cwmorthin. Rhwygai'r awyr gyda'i regfeydd. Un prynhawn trawyd ef yn bur wael yn y chwarel, a gofynnodd y stiward i hen weithiwr diddan redeg i nôl y doctor ato. "Doctor wir," meddai yntau, "yr ydw i yn meddwl y byddai'n dda i anifail o ddyn fel hwn gael ffariar." Erbyn y bore nid oedd arno angen yr un ohonynt.

CHWARELWR diwyd a medrus oedd J.D., a gwyddai am y gelfyddyd o roddi llawer o waith trwy ei ddwylo. Yr oedd yn gyfaill siriol, rhadlon braf. Ym mlynyddoedd olaf ei oes ymroes i ddatganu i'w ddyfyrru ei hun a'i gyd-weithwyr, ac yr oedd yn meddu ar lais Tenor swynol. Pe buasai wedi dechrau datganu flynyddoedd yng nghynt diau y buasai wedi ennill llawer o wobrau mewn Eisteddfodau. Bodlon ydoedd ar ei fyd a dim gradd o ymffrost yn perthyn iddo.

Un tro gofynnodd i gydweithiwr am eiriau Tanymarian

"O gofynnwch imi ganu
Anodd canu yn y glaw," &c.

Methodd hwnnw a tharo ei law arnynt, ond ysgrifennodd iddo bedwar neu bum pennill iddo ei hun fel datganwr a dyma ddau, aeth y lleill ar ddifancoll.

O! gofynnwch imi ganu
Canu wnaf fel 'hedydd bach,
Am fod canu lond fy nghalon
Pan yn glaf neu pan yn iach ;
Canu wnaf ar bonc y chwarel,
Canaf yn y bus a'r tren,
Mae fy llais fel llais Cariwso
Er fy mod yn mynd yn hen.


Canaf am 'rhen Olwen annwyl,
A "P'le'r Aeth yr Hen Amen?"
Ac mi ganaf ar yr aelwyd
Gyda Sallie hoff a Gwen;
Canu wnaf" "R wy'n mynd i rywle,"
Waeth os â y byd yn ddellt,
Mi a ganaf doed a ddelo
Am y "Bwthyn Bach Tô Gwellt."


BYDDAI amryw o'r hen weithwyr yn y blynyddoedd gynt wrth eu bodd yn cymryd ambell lasiad o'r "cwrw melyn bach," chwedl hwythau. "Gwlychu ei bîg," oedd y geiriau a ddywedid am hyn ganddynt. Dwywaith yn y mis y derbyniai y gweithwyr eu cyflogau flynyddoedd yn ôl, cael dwybunt o sub, a thelid y gweddill ymhen pythefnos. Byddai yn dlawd eu byd ar lawer cyn Sadwrn y tâl mawr.

Dyna oedd hanes R——, hen chwarelwr diwyd a medrus, ac un noson cynlluniodd i gael ychydig arian i gael diod. Aeth i'w gwt ieir gan gludo "ceiliog coch" tew dan ei gôt oddi yno, a gwerthodd o i siopwr yn y Blaenau, a chafodd dâl amdano. Hongiodd y siopwr o ar fachyn y tu allan i'w siop. Ymhen ysbaid o amser wrth fynd heibio ar yr heol gwelwyd y ceiliog gan ferch y gwerthwr, ac wedi holi y siopwr cafodd wybod mai ei thad a'i gwerthodd iddo. Wedi mynd adref dywedodd wrth ei mam am y darganfyddiad a chwarddodd y ddwy yn braf.

Cyrhaeddodd yr hen weithiwr adref yn hapus, ac aeth i'w wely heb gymryd swper.

Wedi iddo gysgu'n drwm, aeth ei ferch i'r cwt ieir a daeth a cheiliog arall oddi yno, a dododd ef mewn basged gaeedig a rhoddodd hi o dan wely ei thad.

Ar doriad y wawr canai y ceiliog dros y tŷ, a chredai'r hen gyfaill fod y ceiliog a werthodd wedi adfywhau. "Cydwybod euog, cydwybod euog," meddai, "dyma fi wedi cael fy nal fel Pedr gynt."

DAU BARTNER.

Dau o ddynion byrion
Yn gweithio cerrig hirion;
Un yn gweithio'n hynod gall
A'r llall yn gweithio'n wirion.


GWEITHIAI dau fwynwr yn Chwarel y Llechwedd, a gyrrent lefel hir yno trwy graig galed. Gosododd y goruchwyliwr y lle iddynt am bris bychan, a methasant â gwneuthur cyflog am ddeufis. Ymhen mis wedyn bu dadlau mawr am ychwaneg o bris, ond cyndyn oedd y swyddog i roddi mwy o bris iddynt. Wedi iddo fynd rai llathenni oddi wrthynt gwaeddasant ar ei ôl, a gofynnodd un ohonynt: "A oes gennych looking glass' yn y tŷ a ellwch ei roddi inni?" "I beth deudwch?" meddai yntau. Meddai y gweithiwr wrtho : "Er mwyn inni weld ein lluniau yn llwgu!"

ATGYWEIRIWYD un capel Wesla' yn ein bro lawer blwyddyn yn ôl. Cafwyd dau o hoelion wyth yr enwad yno i bregethu wrth ei ail-agor. Yr oedd y muriau wedi eu peintio a'r seti yn farnis i gyd. Yr oedd y capel yn orlawn ac oedfaon mawr yno. Eisteddai meddyg o'r Llan yn un sedd, a chrydd y pentref yn y sedd nesaf ato. Wrth godi i fynd allan gofynnodd y meddyg i'r crydd: "Ai cŵyr crydd maent wedi ei roi ar y seti yma?"

"Nage," meddai'r crydd, "sticking plaster."

YMADAWODD H.R. i'r Amerig. Bu yn codi canu yn E——. am lawer o flynyddoedd, a blinwyd gwrando ar ei lais gwichlyd. Gwnaed casgliad iddo yn y chwarel a'r capel. Wrth gyflwyno'r anrheg iddo diolchwyd am ei wasanaeth gan ddymuno yn dda iddo. Wrth ddiolch am y caredigrwydd a gafodd, dywedodd: "Wyddoch chwi beth bobol bach, pe gwyddwn y buasech mor garedig wrthyf, ni buasai'r un o'm traed yn gadael yr henfro annwyl hon."

UN tro daliodd stiward hen greigiwr yn dianc adref ar brynhawn braf cyn i'r gloch ganu. Achwynodd amdano wrth y prif oruchwyliwr ac ataliwyd yr hen greigiwr rhag gweithio am bythefnos.

Ymhen deuddydd wedi iddo ail ddechrau gweithio fe anafodd ei fys ac aeth at weithiwr arall i'w drin, a rhoi cadach amdano. Ar hynny, dyma'r stiward ato a dweud, "Ai rhwymo ei fys yr wyt ti, Now?" Ie," meddai'r hen droseddwr, "ond eisiau rhwymo dy dafod ti sydd!"

ANAFODD hen labrwr ei glun yn chwarel y Rhiw, ac fe'i cludwyd adref ar elor gan griw o'i gydweithwyr. Wrth nesau at y Baltic Hotel, griddfannai mewn poenau. Rhoddodd y dafarnwraig a gadwai y gwesty botelaid o chwisgi iddo, ond dechreuodd un o'r criw yfed rhan ohoni. "Hold on," meddai'r gŵr clwyfus, " y fi sydd wedi brifo."

WEDI i labrwr fod wrthi yn ddiwyd yn llwytho llwyth o rwbel, fe gymerodd dipyn o seibiant. Pwy a'i daliodd ef â'i droed yn pwyso ar ei raw ond y stiward. "Weldi," meddai wrth y labrwr, "ni chlywais i erioed fod rhaw wedi lladd neb." "Hitiwch befo," meddai yntau, "y mae wedi claddu miloedd!"

AETH dwy wagen dros ben yr inclein wrth i hen lwythwr griwlio. Gwelodd stiward hwynt yn mynd a gofynnodd, "I b'le mae'r wagenni wedi mynd?" "Wel," meddai'r hen weithiwr, "os ydynt yn mynd fel y gwnaethant gychwyn, y maent ym Mhorthmadog rŵan!"

YMHEN ychydig oriau aeth peiriannydd y chwarel i ben yr inclein, ac archwilio y rhaff. Wrth edrych arno gofynnodd gweithiwr i Wilym Deudraeth a rybelai yn y chwarel, "Beth mae y gŵr acw yn wneuthur ar ben yr inclein?" Atebodd yntau,

"Gwneud y rhaff yn saff reit siwr
I Dic Roland y Criwliwr."


HEN gyfaill cymwynasgar, a gweithiwr caled, oedd H. Nid oedd ball ar ei ddiwydrwydd, er hynny cyflog bychan a enillai. Methai llawer fel yntau â chael y ddau ben llinyn ynghyd. Amser caled yn y chwarel ydoedd tua deugain mlynedd yn ôl.

Prynodd H. ryw ddilladau gan Mr. Packman, ond anniben ydoedd i dalu amdanynt. Addawodd ymorol o ddifrif i dalu, ond bychan oedd ei gyflog. Blinodd Mr. Packman, ac anfonodd ato i ddweud wrtho ei fod am fynd a'i achos i'r Cwrt Bach.

Wedi hynny teimlai yn bur ddigalon, a chan na fedrai ysgrifennu ei hun, gofynnodd i hen gydweithiwr ysgrifennu llythyr drosto at Mr. Packman. Gwnaed hynny gan egluro mor galed oedd ei fyd, ac addawodd dalu bob dimai.

Beth wnaeth y cydweithiwr direidus ond rhoddi cusanau (X X X X X) i Mr. Packman ar waelod y llythyr!

Bobol annwyl! Ymhen tridiau aeth Mr. Packman i dŷ y dyledwr gyda'r llythyr, a dywedodd yn ffyrnig wrtho, "Look here man, I don't want your kisses, I want your money." Ni wyddai yr hen gyfaill druan ddim amdanynt, a chwarddodd yn braf, a chwarddodd Mr. Packman hefyd wedi clywed yr hanes, a rhoddodd dri mis o amser i dalu iddo.

Pan ddaeth H. i'r chwarel drannoeth adroddodd yr hanes, a dywedodd na wnaeth dim erioed dalu yn well iddo ef na'r "Kisses!"

HEN wladwr rhadlon braf oedd M. Un tro aeth gyda gweithwyr eraill o'r fro i Sasiwn Bangor. Cafodd wahoddiad i gael te gyda hen flaenor duwiol. Wedi paratoi y bwyd ar y bwrdd dywedodd priod y blaenor wrtho, "Dowch a'ch cadair at y bwrdd a wnewch chwi ddechrau hefyd os gwelwch yn dda?"

"Gwna neno'r tad," gan ddechrau arni o ddifrif, "a mi fwytâf fel pe buaswn adref hefyd," meddai.

UN o'r dynion cryfaf a fu yn gweithio mewn chwarel ydoedd William Lloyd (Lloyd y Llwythwr). Bu droeon yn llwytho deuddeg, a phymtheg llwyth o lechau ambell ddiwrnod, a gwaith caled iawn ydoedd. Hen gymeriad plaen, rhadlon ydoedd ac yn gymeradwy gan bawb. Bedyddiwr Albanaidd ydoedd o ran enwad, a meddyliai y byd o J. R. Jones, Ramoth, a'i ganlynwyr.

Rhoddwn linellau coffa amdano gan Bryfdir, er cof amdano. Bu'r ddau ar bonc Gloddfa Ganol gyda'i gilydd am flynyddoedd.

Cofiwn amdano dan heulwen a chawod,
Yn llwytho'r gwagenni heb gŵyn ar ei dafod.
Er garwed ei drem 'roedd addfwynder ei Grewr,
Yn olud yng nghalon perlau'r 'hen Lloyd y Llwythwr.'

Cyfyngai ei feddwl i lwyth ac i wagen,
Ac ambell fygyn ar dro yn y fargen ;
Gofalai am bawb ond ei hunan heb ddwndwr,
A melys fydd coffa perlau'r 'hen Lloyd y Llwythwr.'

Dechreuodd yn fore, a daliodd i weithio,
Nes plygu o niwl yr Iorddonen amdano;
Gadawodd y wagen am orsedd y gweithiwr,
Ac aml yw perlau'r 'hen Lloyd y Llwythwr.'


AWEN Y CHWAREL.
COFIO DEWRION Y RHYFEL MAWR.
D.J.

Rhyw chwerw glwy' o'r math mwya'—ydyw byw
Heb "Dei bach Crimea";
O'i ôl ef fel awel ha',
Hiraeth yn brudd alara.


J.J.

Wr hynaws, dy fwyn dirioni—a ddeil
Trwy'r dduloes o'th golli ;
Gwlad wen uwch tân—belenni,
Yn ddi—staen gyrhaeddaist ti.


ENWAU'R HOGIAU.

Enwau ein hogiau glanwedd—a erys
Mewn hiraeth a symledd;
O helynt brwnt dialedd
Eu llwch hwy gaiff bellach hedd.


BONEDDWR.

Hen drempyn gwael ei olwg
Oedd ef yng nghyfri'r byd,
Yn gwerthu rhyw fân nwyddau
A chanu ar y stryd.

Nid oedd ei gân yn swynol
Crynedig oedd ei lais;
Ond tystiai'i wedd anghenus
Mai cywir oedd ei gais.

I mi boneddwr ydoedd,
Er nad oedd ganddo 'stad;
Oni safodd ef yn bennoeth
Pan basiodd corff fy nhad?


CWPLEDAU GAN IOAN BROTHEN.

Cesglais rai o'r llinellau hyn lawer blwyddyn yn ôl, a chafodd Ioan Brothen eu gweled pan oedd ar fy aelwyd un o'r troeon diwethaf y bu yma. Cefais ychwaneg ganddo wedyn a chaniatâd i wneuthur defnydd ohonynt.

UN o'm cyfeillion gorau oedd ef, ac awdur y gyfrol brin o englynion "Llinell neu Ddwy." Un o werinwyr mawr Cymru ydoedd, a labrwr yn chwarel y Rhosydd am flynyddoedd lawer. Dyma ychydig linellau o'i waith a ddywedodd wrth ei gydweithwyr o dro i dro. Un prynhawn gofynnodd y prif oruchwyliwr iddo a fuasai yn mynd i hel brwyn iddo. Aeth yntau heb ym- droi, a phan oedd yn dyfod allan o'r lefel fawr i olau dydd, gofynnodd gweithiwr iddo, "I b'le yr wyt yn mynd ?"

"Af i'r haul braf i hel brwyn," meddai yntau.

WEDI iddo gael caniatâd i fynd adref cyn i'r gloch ganu, dywedodd fel hyn wrth y stiward a safai ar ben llwybr y chwarel:

"Ga'i basio, dw' i'n ddyn go bwysig,"

a dywedodd wedyn:

"Pasio raid waeth pwy sy' ar ôl,
Nid yn araf ond yn wrol."

WRTH weld gweithiwr go dal yn brasgamu ar bonc y chwarel, gofynnodd fel hyn:

"Paham mae'r cawr o fawr faint
Yn brasgamu mewn brys gymaint?"

WEDI cyfarch gwell i'w gydweithwyr un bore, gofynnodd i Richard Evans, Ty'nddol,

"Ty'n y ddôl wyt ti'n o dda?"

Ni wnaeth lawer o gyflog am ddeufis neu dri yn olynol, a dywedodd:

"Anodd ydyw byw a bod
A llwgu 'nghanol llygod."

CANMOLAI un gweithiwr ei ddillad gwynion,-cot liain wen, a throwsus ffustian gwyn, ond dillad brethyn a wisgai Ioan am ysbaid a dywedodd:

"I weithiwr mae hen frethyn
Yn llawn gwell na lliain gwyn."

WRTH basio yn y trên drwy Lan Dyfi un tro, dywedodd:

"Ochain wyf, O! na chawn i
Glun dafad yn Glan Dyfi."

WRTH ddyfod o'r Penrhyn yn y trên bach i'r Blaenau gwelodd lawer o pheasants ym Maentwrog, a dywedodd wrth gyfaill fel hyn:

"Diamau frawd, dyma fro
I ieir pheasants orffwyso."

Yr oedd hen wraig dduwiol o Lanfrothen yn bur wael lawer blwyddyn yn ôl, a gweddiodd gŵr duwiol drosti yng nghapel Siloam. Wrth wrando arno troes Peter Roberts at Ioan Brothen, a gofynnodd iddo, "Ai dal i waelu mae Doli William ?" ac meddai Ioan Brothen, Na, mae'n gwella, medda mam."

PAN oeddwn gydag ef mewn cerbyd agored, yn angladd brawd i'w briod, rhedai rhyw hogyn bychan gyda'i "gylch a bach," wrth ymyl y cerbyd. Gofynnwyd yn garedig iddo gilio rhag iddo gael damwain. Cododd Ioan Brothen o'i sedd a gwaeddodd arno,

"Tyn dy draed o tan dy drwyn
I rywle rhag yr olwyn."
Ufuddhaodd ar unwaith.

WRTH benodi rhai yn aelodau o ryw bwyllgor un tro, enwodd un gweithiwr dri o'i berthynasau, a galwodd cyfaill i Ioan Brothen ei sylw at hyn, a dywedodd linell fel dihareb:

Gwaed âch sy'n dewach na dŵr.

ANGHOFIODD un o weithwyr chwarel y Rhosydd am ddyfod a'i dun bwyd gydag ef un bore. Adeg cinio rhoddodd ei gydweithwyr ran o'u bwyd iddo, ac wrth estyn brechdan o fara a menyn iddo dywedodd Ioan Brothen fel hyn:

Gywilydd do, gwelodd dyn
Iesu Grist eisiau'i grystyn.


CYFAILL calon i Ioan Brothen oedd Peter Roberts, y Gof, a gweithiai y ddau ŵr diwylliedig yn chwarel y Rhosydd yr un adeg, a phreswyliai y ddau yn Llanfrothen. Dyma englyn o waith Peter Roberts.

YR HAF.

Er ei lond o ryw lendid-dihafal
A'i dyfiant cynhenid;
Ni bu haf heb ei ofid,
Edwinai rhai dan ei wrid.


Englynion gan "Bob John, Tanrallt"

UN o englynwyr gorau ein hardal ydyw Mr. Robert John Roberts, Tanrallt, ond a enwir gan ei gyfeillion "Bob John, Tanrallt." Chwarelwr medrus fu ef am lawer blwyddyn ond symudodd o'i henfro i breswylio i Lerpwl ac yno y mae yn ŵr uchel ei barch. Cyfaill rhadlon braf a'r mwyaf diwenwyn yn y byd ydyw. Dyma ychydig o'i waith.

CYNILO.

Os o'i bres y lles gâr llanc,-aneled
I'w cynilo'n ieuanc;
A chofied pob merch ifanc
Y tyfa'r bunt hefo'r banc.


RHANNU BAI.

Dau elyn llawn dialedd-a waedwyd,
Ond wedi'r gelanedd,
Dau arwr roed i orwedd
A rhannu bai'n yr un bedd.


WEDI DARLLEN "NAVAL ADVT."

Wanted young men of twenty—we fit you
With a future of plenty;
Turn over to our Navy,
Get a suit and go to sea.


ER COF AM Mr. HUGH WILLIAMS, SAERMAEN YN CHWAREL Y FOTY.

Ei wag lawr! ei gist dan glo—a'i arfau
Nas cynhyrfir yno;
Drwy ddi—ail fedr ei ddwylo
Mwy ni thyf meini a tho.

Deil parwydydd llonydd llaith—yn dystion
Distaw o'i galedwaith;
Gaerau gwych dan greigiau'r gwaith
Her i gwymp ddyry'i gampwaith.

I'w ardal, 'r oedd cywirdeb—Hugh Williams
Yn deilwng ddihareb;
O'i enau, ŵr un wyneb,
Ni chaem ni air bach am neb.

Ni wybu'i lais gyrraedd bloedd,―â dwyster
Fe dystiai farn gyhoedd;
Gŵr didwyll ei gred ydoedd
A dyn teg a phendant oedd.


YR HEN BRINS.

Hen a llesg yw yn llusgo—heibio'i drol.
Heb dres na ffrwyn arno;
Ar ffridd, heb gymrawd iddo,
Meudwy llwm a dall yw o.

Y mwyn was ffeind mynwesol—fu loywach
Ei flewyn a'i bedol;
O ludded aeth at glawdd dôl
I ddihoeni'n hamddenol.


ENWAU AR WAHANOL "LYGADAU."

(Nid "Llygaid " a ddywaid y chwarelwyr, a'r creigwyr, ond "Llygadau ").

1. North Vein.
Yr Ithfaen Coch uchaf.
Bastard. (Hen frid).
2. Back Vein.
Yr Ithfaen Coch isaf.
3. Silky Vein. (Tew Llwyd). (Tew Sidan).
Hard Churt.
4.Narrow Vein.
5. Old Vein.
6. New Vein.

ENWAU RHAI O'R GWYTHIENNAU YN YR "HEN LYGAD." (OLD VEIN).

Y mae trwch y maen oddeutu 70 llath.

1. Yr Ithfaen Glas. (Y Slont Glai).
2. Gwythien y Meinars.
3. Y Gwythiennau Rhywiog.
4. Y Wythien isaf o'r tair a'r teulu.
5. Gwythien y Crych Du.
6. Y Wythien Sulphur.
7. Y Pum Wythien.
8. Y Wythien rhwng y Pump, a'r Wythien Wen.
9. Y Wythien Wen a'r teulu.
10. Yr ail oddi wrth y Wythien Fawr.
11. Y Wythien Fawr.
12. Y Wythien Fawr a'r teulu.
14. Y Wythien Gam.
15. Yr ail Wythien Gam.
16. Gwythiennau mân a'r Sulphur.
17. Pen uchaf y Llygad Caled. (Tew bras).
18. Y Wythien Galed a'r teulu.

19. Yr ail Wythien Galed.
20. Y Wythien Lwyd.
21. Y Wythien Fflat.
22. Y Wythien Grych.
23. Sulphur y Llygad Caled isaf.
24. Y Wythien Galed isaf.
25. Gwythien y Smotiau isaf.
26. Gwythien y Sulphur Du a'r rhai diwethaf.
27. Ithfaen isaf.

Trwy garedigrwydd rhai o oruchwylwyr Chwarel Oakeley y cefais y rhestr uchod, a diolchaf iddynt am- danynt. Ni cheir yr enwau hyn mewn llyfrau ar Ddaear- eg, ond enwau a roddodd yr hen greigwyr medrus gynt ar y gwahanol wythiennau ydyw'r cwbl J.W.J.

ENWAU AR Y GWYTHIENNAU YN Y "LLYGAD COCH."

Ithfaen Uchaf.

Tew Cyrli.

Tew Uchaf sef Gwythiennau bras, a'r Wythien Gortyn yn ei ganol, a gwythiennau mân ar ei waelod.

O tan y Tew uchaf mae Ithfaen Glas.

Tew Tair Wythien, neu Tew Fflax, a'r Wythien Derfyn ar ei waelod. O dan y Tair Wythien mae'r Wythien Wyllt, a'r Wythien Gron yng nghanol y Tew Bach sydd o dan Tew y Tair Wythien. Yno mae'r Wythien Las. Ar ei waelod y mae y Gwythiennau canlynol: Y Wythien Ffyrnig, Y Ddwbl, Y Saith, Y Bitch, Y Tolc Dwbl, Y Gortyn, Y Ddifyr, Y Fawr Uchaf, Y Felen, Y Fawr Isaf, Y Tolc Mawr, Y Las Isaf, Y Datws, Tair Wythien Isaf, Pum Wythien a'r Gwythiennau Llwydion. Tew Bach ar yr Ithfaen Isaf.

Gan y chwarelwr medrus, Mr. William Evans, Manod (gynt o Lennyrch Moch), y cefais y rhestr o'r enwau uchod. Diolchaf iddo am eu cyflwyno imi.—J.W.J.

ENWAU AR RAI O ARFAU'R CHWAREL, A PHETHAU ERAILL A DDEFNYDDIR YN Y CHWAREL.

Adain Plwg, Bach, Blocyn, Brisyn, Bwrdd llifio, Buglan, Bag, Bwced dŵr, Cŷn brashollt, Cŷn manhollt, Cŷn marcio, Coujian, Cyllell bach, Craen, Cwplws, Clwt, Clytiau, Cist, Cefn-croes, Cadach glin, Cadwyn, Cannwyll, Caib, Cafn, Clespyn, Driver plŵg, Ebill, Elor, Ffiws, Ffiwsan, Ffeil, Gwagen, Gordd Haearn, Gordd bren, Haearn pileru, Injian stêm, Injian oil, Injian naddu, Injian dyllu, Injian hogi; gelwir Melin yn Injian hefyd, Injian dradlan, Jack screw, Jim crow, Lamp, Lantern, Ladi, Limpin, Llif gron, Llechen gownt, Miniar, Mainc Gerrig, Mainc Sglodion, Morthwyl, Moelyn, Nogyn, Plwg, Pin 'sgwennu, Pinsiar, Pirim, Pric mesur, Peg llif, Peg bwrdd, Pelen, Powdwr, Pitchar, Rhac, Rhaw, Rhaw-gafn, Rhys, Rhaff, Rowlar, Stamper, Sgrafell, Sled, Slediad, 'Sglodion, Sa'draw, Stelin, Stamping, Strap, Stretcher, Trosol, Trafel, Tebot oil, Tun bwyd, Troell, &c., &c.

BRAWDDEGAU A GEIRIAU A GLYWIR AR BONC Y CHWAREL.

Agor (Chamber), Ail-bowdro, Ail-danio, Bariau, Bariad, Band o' Hope, Bracio, Bargen, Bargeiniwr, Bretyn dŵr, Bonio, Crimp, Codi cerrig, Codi cownt, Codi sodlau, Codi gwaelod, Crimpio wagen, Codi crempyn, Clai, Cefndid, Criwlio, Crawen, Crawiau, Cwlwm Cam, Cap- san, Crych, Cargo, Crewyn, Caban, Corddi twll, Dyfn, Dragio, Dadlwytho, Dadfachu, Dreifio, Fforddoliwr, Fforddolio, Enbyd, Gwythien, Gwythiennau, Gwaldio, Holltwr, Hollti, Hwylio, Inclên, Irad, Iro, Jermon (Journey man), Luro, Lorio, Lefel, Labro, Labrwr, London-Yorks, Mwrw, Marcio, Naddwr, Naddu 'sglodion, Nogyn, Pelen, Piler, Pefel, Peilio, Pileru, Plwgio, Pentwr, Points, Pwli, Pen-bar, Pen-domen, Pen-inclen, Pennau- llifiau, Pwnshio Strap, Pass-by, Ponc, Powdro, Pegio, Pwyso, Pwyswr, Rwbel, Rybelwr, Rwbel naddu, Rwbel hollti, Rhiglo, Rhiglwr, Rhuglo'r Injian, Saethu, Slip- iau, Smotiau llaeth, Sawdl y graig, Smit, Stolpyn, Sist, Sub, Smitio, Sincio, Siafft, Stolpio, Slont, Stampio, Silff, Siamber, Stwffwl, Snyffyn, Stagro, Stem, Sâ-draw, Tanio, Tyllu, Twll-hollt, Twll-pileru, Traed, Turn-out, Twll Plwg, Torri Ffos, Torri Ochor Rydd, Torri Cefn, Torri Bôn, Torri Bwlch, Tomen, Traffic, &c., &c.

BRAWDDEGAU LLAFAR GWLAD A GLYWIR GAN CHWARELWYR EIN HENFRO.

Rhedeg ar ei hôl hi; Yn pydru mynd; Yn bwrw drwyddi; Wedi cadw'i ben y mis hwn; Ddoe ddwytha'n y byd; Llythyr heb ei agor ydyw yfory; Rhoddi ei gerrig i fyny; Tros ei ben a'i glustiau mewn gwaith; Tynnu'r bwrdd o'i afael; Rhoddi'r bwrdd yn ei afael; Mor ddigywilydd â wagen gynta'r run: Yn wlyb domen dail; Mae deilen at bob dolur; Mewn byd yn mynd a'r wagen; Wedi codi arno; Talu'n ddrud am ei ddysgu; Yn clensio'r gwirionedd adref; Waeth dweud wrth garreg a thwll ynddi; Mae'r Moelwyn yn gwisgo'i gap; Fel naid y gannwyll; Fe ddaw hi ato yntau rhyw ddydd Gwener; Yn siarad fel injian hogi; Cnuf y ddafad farw; Yn chwysu wrth hel beiau; Yn gogr-droi wrth ffidlan; Bob yn ail y mae'r dail yn dod; Yn bwrw glaw fel o grwc; Claddu'r sgwrs o dan garreg yr aelwyd; Y fuwch uchai'i bref sydd brinna'i llaeth; Un sâl ar y naw; Dyn di-afael; Yn gweld dim pellach na'i drwyn; Rhoi caead ar ei biser o; Bwyta gwellt ei wely; Yn denau fel bran; Fel cath yn llyfu'r pentan; Slediad fel gwêr; Cerrig caled fel haearn Sbaen; Cerrig fel tywyrch; Hen garpan o slediad sâl; Cerrig mân fel tatws; Ar gefn ei geffyl; Gafael mochyn; Ffraeo fel dau dincer; Rhaid cael golau dydd i bigo brethyn; Mae ei ben mor galed a chneuen wag; Mae gan foch bach glustiau mawr; Os glaw ddydd Sadwrn—glaw at yr asgwrn; Curo haearn poeth â morthwyl pren; Dyn a adweinir wrth ei waith; Ceiniog annheilwng a aiff â dwy gyda hi; Bore i bawb pan godo; Goleuo dau ben i'r gannwyll; Mynd yn araf fel hers mewn cynhebrwng; Yn ddigywilydd fel talcen tas; Mynd a'r maen i'r wal; Yn well na'i olwg; Yn berwi o slipiau; Yn grych i gyd; Mor oer â chynffon oen; Mor ddwl â hesbwrn; Fel pen dafad; Fel lleuen ar gast-steel; Crefydd gwadnau traed; Dal ar ei linyn ; Yn blwmp ac yn blaen; Dim dyrnaid o bobl yno ; Ei gar ar ei gefn ; Darllen rhwng y llinellau; Rhywbeth yn debyg; Menyn â blas hir hel arno; Gorau eli—menyn gwyrdd; Dyn a'i lygaid yn ei ben; Yn chwipio rhewi; Fel haul mis Mawrth; Dim gylfiniad o de; Yfed o ar ei dalcen; Siarad pymtheg yn y dwsin, &c., &c.

CREITHIAU.

Codi ar las y wawr a mynd i'w deithiau
Gan ddringo i'r bonc ar hyd y llwybrau llwyd;
Wrth dorri ar y llechwedd ddyfnion greithiau
Fe droir y creigiau glas i'r plant yn fwyd.
Cadarn ei law wrth drin yr ebill miniog,
A chwim ei fraich wrth daro â'r morthwyl harn;
Damweiniau'n oedi'n gyfrwys ar y rhiniog
Pan chwelir seiliau'r mynydd bob yn ddarn.
Pan dery'r graig yn ôl a naddu rhychau
Ar ruddiau rhadlon y chwarelwr clên,
Erys y gro'n dameidiau megis brychau
Lle gynt bu heulwen a hudoliaeth gwên;
Heddiw mae'r creigiwr dewr a'r Moelwyn maith,—
Dau a fu gadarn,—dan eu bythol graith.

T. E. NICHOLAS.

YCHYDIG GOFNODION O DDYDDIADUR HEN CHWARELWR AM Y FLWYDDYN 1896.

Ionawr 21—Cwmni o'r Bala yn actio drama Rhys Lewis yn Neuadd Gynnull, Blaenau Ffestiniog.
Ionawr 21—Chwarel y Rhosydd yn ail—gychwyn heddiw. Codwyd ceiniog yn y dydd i Labrwyr yn chwarel yr Oakeley's.
Chwefror 1—Yr oedd clychau pob chwarel yn y Blaenau yn dechrau canu am saith o'r gloch bore heddiw, a hanner awr wedi pump yn y pnawn.
Chwefror 13—Cwmni drama Llanrwst yn actio drama Rhys Lewis yn y Blaenau.
Mawrth 2—Llawer allan o waith yn yr Oakeley's o achos y "Fall."
Mawrth 31—Cychwyn lefel yn nyfn yr Injian Uchaf, Llechwedd, am Lygad Coch.
Ebrill 27—Y mae gofyn mawr am lechau, a gweithir pob hen dwll i geisio cael defnydd rhai. Mai 4—Gŵyl Lafur yn y Blaenau. Yr oedd yno naw o Fandiau, a tua 6,000 o bobl.
Mai 30—Lloyd George a phedwar Aelod Seneddol arall, wedi cael eu hatal o'r Senedd am yr wythnos diwethaf, am iddynt sefyll yn erbyn gorthrwm y Mesur Amaethyddol.
Mehefin 1—Llawer o helynt yn y Senedd, y Toris eisiau pasio mesurau by force, a'r Rhyddfrydwyr yn ceisio eu rhwystro ac yn cael eu troi allan.
Gorffennaf 23—Dyn ieuanc oedd yn canlyn ceffyl yn chwarel Oakeley wedi cael damwain a thorri ei ddwy goes.
Y cyfrif o docynnau gweithwyr o Ddolwyddelan i Flaenau Ffestiniog o fis Mawrth, 1896 hyd 1899, oedd ugain mil, sef gwerth £2,000 mewn tair blynedd.

FFEITHIAU DIDDOROL AM Y TWNEL MAWR.[1]

UN o brif ryfeddodau ein hardal yn y blynyddoedd gynt oedd y Twnel Mawr rhwng Blaenau Ffestiniog a Dolwyddelan.

Clywir y trên yn mynd trwyddo gan weithwyr a weithiant mewn rhannau neilltuol o Chwarel Oakeley. Credaf y bydd y cofnodion canlynol a gefais mewn hen bapur o ddiddordeb i lawer. Fel hyn y dywaid y cofnodydd:

"Dechreuwyd y gwaith tua mis Medi, 1874. Hyd yr agoriad o un pen i'r llall,—neu o blwyf Dolwyddelan i blwyf Ffestiniog ydyw 2 filldir, 16 chains, neu 3872 o lathenni[2]. Uchder mwyaf y mynydd uwchben ydyw 1000 o droedfeddi. Y mae tair o siafftydd wedi eu hagor i'r Twnnel. Y mae Rhif 1 yn 140 o lathenni. Yr ail siafft yn 150 o lathenni, a'r drydedd yn 70 o lathenni. Y mae "archio" prysur yn mynd ym mlaen mewn rhannau y rhaid cael hynny. Gwneir cymaint a 160 o droedfeddi yn aml mewn pymthegnos. Y mae tua can lath o enau deheuol y Twnnel dan domennydd enfawr chwarel y Welsh Slate ("Yr Oakeley's" heddiw). Disgwylir y bydd i'r graig sydd rhwng Siafft 2 a'r gyntaf, gael ei chwbl glirio yr wythnos hon, yr hyn a wna'r Twnnel yn orffennol i'r graddau y mae gwaith y saethu yn y cwestiwn, hynny yw,—y mwynwyr a'r peiriannau. Disgwylir yn awr yr agorir y llinell i Flaenau Ffestiniog tua'r dydd cyntaf o fis Gorffennaf nesaf. Gwnaed gorsaf goed yng Nghonwy, ac ar ei thaith i Ffestiniog i aros yr orsaf fawr a wneir yn nghors safn-agored Glanypwll. Er yr holl rwbel a dywelltir iddi, parhâ yr hen gors i weiddi o hyd, "moes, moes i mi!" Eisioes cludir llawer o nwyddau masnachwyr i Ddolyddelan, ac y mae Mr. Robert Williams, Llandudno, wedi symud i gymeryd gofal y rhan hon o'r busnes."

(Copiwyd o Hen Newyddiadur).

Bu digwyddiad alaethus yn yr ardal pan dorrodd argae Llyn Ffridd, Bwlch Gorddinan, yn Ionawr 2, 1874. Boddodd dau o blant Richard a Margaret Parry, Talywaenydd, pan oeddynt yn cysgu. Yr oedd John yn 15 oed, a Jane yn 12 oed.

Ar eu Cerdyn Cof ceir yr englyn hwn:

"Erys mewn coffadwriaeth—drwy y lle
Doriad llyn, mawr alaeth
I'r ddau hyn gael sydyn saeth,
Oesant ar glawr hanesiaeth."


PRESWYLIAI hen Wyddeles garedig yn Nhalywaenydd yr adeg honno, ac arferai â chadw mochyn. Pan dorrodd y llyn, a'r dyfroedd yn llifo i lawr at yr anedd-dai, gwaeddodd nerth esgyrn ei phen, "O Lord, save my pig!"

YMDDEOLIAD HEN WEITHIWR.
(O.A.J).

Ar bynciau cymdeithasol
Bu wrthi'n dadlau'n gry',
A thystiai pawb yn unfryd
Mai ef oedd I y Tŷ[3];
Er hyn nid oes 'r un gwpan de,
Yn gof amdano yn y lle.

Waeth ganddo ef sut gerrig
Ar bonc sy' heddiw i'w cael,
Ai cerrig da a rhywiog,
Ai ynteu cerrig gwael;
Ffarwel i'r cŷn a'r ordd byth mwy,
Fydd arno byth eu heisiau hwy.



CADW'R ARFAU


WILLIAM JONES, BRYNAWEL.

UN o'r dynion rhagoraf a fu'n gweithio mewn chwarel erioed oedd Mr. William William Jones, Brynawel. Ar lafar gan y gweithwyr gelwid ef yn "William Jones, Brynawel."

Braint fawr imi oedd cael gweithio am flynyddoedd ar yr un bonc ag ef. Ganed ef ym Mhenlan, Trawsfynydd, ar Chwefror 16, 1853. (Ym Mhenlan y ganed Hedd Wyn hefyd ar Ionawr 13, 1887). Bu farw William Jones, Mehefin 30, 1920. Yr oedd fel brenin urddasol ar bonc y chwarel, ymhlith y gweithwyr. Gwisgai ddillad glân a thrwsiadus,-gwasgod liain wen, a throwsus melfared gwyn. Un gweddol dal ydoedd, yn meddu ar bersonoliaeth hardd, wyneb glandeg, siriol, a dau lygad treiddgar. Parchai bawb, a chyfarchai bob gweithiwr wrth ei enw yn llawn. Ni fu neb yn ail iddo am ysgwyd llaw. Ni fu pall ar ei garedigrwydd i rybelwyr oedran- nus a hogiau bach di-gefn, ac eraill hefyd. Rhannai y clytiau gorau a feddai iddynt. Galwyd ef droeon i setlo rhai cwerylon, a meddai ar y ddawn i wneuthur hynny mewn ffordd ddoeth. Byw crefydd a wnaeth ef, ac nid sôn amdani byth a beunydd. "Ynghanol ffryd- lif bywyd y gwelir cymeriad dyn ar ei orau," meddai Goethe, a gwir oedd hynny am William Jones.

Yn y flwyddyn 1895 bu swyddogion y Llywodraeth yn gwneuthur ymchwiliad ynglŷn â llech-chwarelau Sir Feirionnydd. Cyhoeddwyd swm y cyfan gyda llyfrau glas y Llywodraeth. Holwyd amryw o brif-oruchwylwyr gwahanol chwarelau, meddygon ein tref, arolygwyr y mwyngloddiau, a chreigwyr, a chwarelwyr. Pwyswyd am gael awgrymiadau er lles y gweithwyr yn gyffredinol rhag i ddamweiniau ddigwydd, ac er lles eu hiechyd yn y chwarel. Y mae'r cwestiynau a'r atebion yn werth eu darllen heddiw yn y llyfr pwysig. Rhaid oedd cael dyn gwrol i roddi yr awgrymiadau yn y cyfarfod, gan ei bod yn gyfnod caled ar y gweithwyr yr adeg honno. Yr oedd yn berygl i'r un gweithiwr wrthwynebu yr un swyddog yn y chwarel, neu cawsai ei atal neu yn ôl term y chwarel, "ei hel tros y llwybr."

Dyma rai o'r cwestiynau a roddwyd i William Jones, a'i atebion yntau:

Ymh'le y preswyliwch, a beth ydyw eich gwaith? Preswyliaf ym Mrynawel, Blaenau Ffestiniog, a chwarelwr ydwyf.

Gweithiaf yn y felin, yn chwarel isaf Oakeley, ers 31 o flynyddoedd.

Pa awgrymiadau sydd gennych i'w dweud?

Dywedwyd rhai awgrymiadau er lles y gweithwyr gan dystion eraill o'm blaen, a bwriadwn eu dweud fy hun.

Dyma un peth—dylai'r tyllau agored lle mae wagenni a'r rwbel naddu yn disgyn iddynt gael eu cau bob un gyda drysau pwrpasol. Hefyd, dylai'r olwynion wrth ochrau y byrddau llifio gael eu cuddio. Mae'n hawdd i weithwyr anafu eu traed gyda hwynt fel y maent.

Pa beth arall a awgrymwch?

Dylai yr oriau gwaith gael eu cwtogi.

A ydych yn credu fod yr oriau yn niweidol?

Ydwyf, gan ein bod yn gweithio mor galed, ac ynghanol awyrgylch yn llawn o lwch y llechau. Credaf fod yr oriau gweithio yn rhy faith.

Pa faint o oriau a'awgrymwch a fuasai'n rhesymol?

Buasai wyth awr yn ddigon.

A fedrwch chwi wneuthur cymaint o waith mewn wyth awr ag a wnewch yn awr?

Gallaf, yn enwedig am y cyflog a gawn.

A ydych yn credu y rhoddwch ormod o straen ar eich corff?

Ydwyf, yn yr haf ar dywydd poeth, gweithiaf yn galed nes llwyr ddiffygio erbyn hanner awr wedi pedwar o'r gloch.

Pa faint o oriau gweithio a awgrymuch?

Tua 48 awr yr wythnos i rai yn y melinau, ac o dan y ddaear—creigwyr, labrwyr, ac eraill.

Pa faint o oriau a weithir gan geffylau?

Wn i ddim, ond credaf y cânt fwy o orffwys na'r gweithwyr.

Beth arall a hoffech ei ddweud?

Gallaf ddweud fod llawer o welliannau wedi eu gwneuthur er pan ddechreuais weithio, yn enwedig yn y lleoedd i weithio ynddynt.

Cyflawnwyd llawer o awgrymiadau William Jones yn y chwarelau erbyn heddiw, a gwneir rhywbeth newydd beunydd yno er lles iechyd y gweithwyr. Heuodd W.J., a gweithwyr eraill hefyd, yr had da yn y blynyddoedd gorthrymus gynt, a mêd chwarelwyr ein cyfnod ni o ffrwyth eu llafur yn ehelaeth.

Nid gŵr meddal, gwlanennaidd ydoedd, ond dyn cadarn, gwrol dros iawnderau ei gydweithwyr. Gallai ddweud geiriau â min arnynt pan fyddai eisiau hynny. Dyma un enghraifft. Gofynnodd un swyddog pwysig (a oedd ar fin ymddeol o'r chwarel) iddo fel hyn yn wawdlyd: "Pa bryd yr ydych am ddechrau gweithio wyth awr yn y chwarelau, William Jones?" Atebodd yntau fel hyn, "Pan fydd ambell ormeswr i'r gweithwyr wedi diosg y fantell."

BEDDARGRAFF HEN CHWARELWR I'W BRIOD.

Mewn priddyn dyffryn diffrwyth-y gorwedd
Dan garreg yn esmwyth
Alis, a phump o'i thylwyth,
Yma y mae mam i wyth.—MEURIG ELEN.



PROFIAD HEN WEITHIWR.

Mae eisiau byw am oes y byd-arnaf
Bob diwrnod yn hyfryd;
Ond yntau angau o hyd
Ei fysedd ynof esyd.—Moelwynfardd.


PAN oedd Robert Roberts (Moelwynfardd) yn rybela yn Chwarel y Rhiw, bu'n ffodus i gael digon o gerrig reit dda. Yr oedd pethau'n wahanol arno un mis ac aeth i chwilio am glwt i orffen ei gerrig ar ddiwedd mis. Gwrthododd un bargeiniwr roddi dim un crewyn iddo, a gwnaeth yntau englyn iddo. Dyma'r cwpled olaf:

"Rybela bo'r gŵr bawlyd
Ddydd barn ar ddiwedd y byd."


STRAEON Y CAPEL.

BYDDAI llawer o'r rhai a weithient yn y chwarelau yn y blynyddoedd gynt yn "bregethwyr cynorthwyol" gyda gwahanol enwadau. Gwnaethant wasanaeth mawr yn eu cyfnod.

Byddai rhai ohonynt yn hir ar eu gliniau yn gweddio, ond rhyw 'delegram ysbrydol' oedd gweddi ychydig ohonynt.

Dyma ychydig gofnodion a ysgrifennwyd gan un o'r cyfryw yn ei Ddyddlyfr.

"Pregethu yn Harlech yn y bore, a'r pnawn yn y Penrhyn, ac yn Trawsfynydd yn yr hwyr. Cael gwynt i fy hwyliau trwy'r dydd, a chael deunaw ceiniog o dal."

Pregethu yn Ramoth pnawn ddoe, ac ym Maentwrog y nos. Oedfeuon dymunol, a gwrando da, a rhai yn porthi. Cefais swllt gwyn yn dâl." "Heno (nos Sadwrn) prynais lyfr am chwecheiniog i ysgrifennu fy mhregethau."

Pregethu yn Harlech ar hanes y 'Wraig o Samaria,' ac wedi imi ddarllen W.H. yn gweiddi fy mod wedi pregethu amdani o'r blaen yno. "Wel,' meddwn innau, 'nid oes gennyf ddim i'w wneud ond mynd am ryw dro gyda'r Wraig o Ganaan!' Oedfa dda iawn a chael deuswllt am wasanaethu."

"Pregethu yn Llan Ffestiniog bore heddiw, ar y 'Mab Afradlon,' a pwysleisio y berthynas oedd rhyngddo a'i dad. Tri phen: Tad, Mab Hynaf, Mab Afradlon. Yn Trawsfynydd yn y pnawn. Pregethu ar 'Moses,' a'r nos yn Harlech gyda'r Mab Afradlon. Hwyl dda. Cael deunaw ceiniog."

"Yn gwneuthur pregethau newydd at y Suliau nesaf, ac yn gofyn i Dduw am help at y gorchwyl pwysig. Darllen Gurnal hefyd."

"Prynu top coat newydd am £1, y llall wedi cochi."

"Prynu Bonnet i Betsan, a Chlocsiau i Siani, 1-6."

"Pregethu yn y Bermo yn y bore, ac ym Maentwrog y nos. Cael deunaw ceiniog. Am ddal ati i bregethu tra bydd ynof anadl, doed a ddelo."

Rhydd llawer o gofnodion yr hen bregethwyr oleuni ar fywyd y pregethwyr yng Nghymru yn y blynyddoedd gynt. Myfyrient eu pregethau wrth gerdded o'r naill gapel i'r llall. Byddai rhai yn marchogaeth ar geffylau, ac eraill yn dyfod mewn cerbydau. Cyfeirir at hyn mewn hen bennill:

"Mae rhai ar feirch yn dyfod yn hardd i Seion fryn,
Ac eraill mewn cerbydau, yn harddach na'r rhai hyn;
Mae'n dda i rai fod mulod, ac elor-feirch yn bod,
I gario'r claf a'r clwyfus, i'r Iesu byddo'r clod."


Gwnaethant wasanaeth mawr yn eu cyfnod, ac yr oeddent wrth eu bodd yn ceisio cadw lamp crefydd yn olau.

Rai blynyddoedd yn ôl cefais stoc dda o hen emynau gwlad gan rai o'r hen gyfeillion hyn, ac anfonais hwynt i Carneddog. Dyma dri ohonynt:

Mae Duw fy Nhad yn Seion,
Hen gartref hoff fy mam;
Mae'r Iesu 'Mrawd yn Seion,
Ni raid im ofni cam;

Mae'r Ysbryd Glân yn Seion,
Diddanydd rhydd i'r saint;
'R wyf innau'n byw yn Seion,
O diolch am y fraint.


Gair mawr oedd y "Bydded" ddywedodd Jehofa,
Gair mwy oedd "Gorffennwyd "ar fynydd Calfaria;
Fe greodd y Bydded rhyw fydoedd heb fesur,
Ond yn y Gorffennwyd mae bywyd pechadur.


Er cymaint gŵr oedd Moses
Mae Iesu'n fwy, medd Duw ;
Mae Moses wedi marw,
Ond Iesu sydd yn fyw;
Nid oes ei ail i'r Iesu
Am wella pob rhyw glwy',
A chan ei fod mor fedrus
Ffarwel i Moses mwy.


PREGETHWR cynorthwyol cymeradwy yn ei ddydd oedd R.R. Bu llawer o drafod ar bregeth o'i eiddo ar y Mab Afradlon. Dywedodd frawddegau da gwerth i'w cofio. "Nid rhaid mynd i wlad bell i fyw yn afradlon. Yr oedd y wlad bell yng nghalon y mab hynaf heb iddo symud i unman oddi cartref. Gellir byw ar gibau yn Eglwys Dduw," meddai. Wrth wrando arno rhoddodd un prydydd ei eiriau yn y pennill hwn:

Waeth heb a sôn am gariad
A chanmol Duw a'i ras,
A byw'n annheilwng wedyn
Mewn ysbryd chwerw cas;
Nid rhaid mynd yn afradlon
I estron wlad i fyw,
Mae'n bosibl byw ar gibau
Yng nghanol Eglwys Dduw.


GŴR diwyd gyda'i orchwyl oedd B——. Ym mlynyddoedd olaf ei oes cliriai rwbel bras ym Melin MNodyn:Br. Ni fu ball ar ei ffyddlondeb gydag achos crefydd, a meddyliai y byd o'i swydd fel Ceidwad y Porth yn y capel bach! Gwnaeth ei weinidog, y Parch. R. R. Morris, gân goffa dda amdano.

Dyma y llinellau diwethaf ohoni :

Rhyw gwch oedd dy feddwl, un bychan gwyn,
Ond cludai drysorau o Galfari fryn.

Hwyliai'n ddi-orffwys o fore hyd hwyr,
Am olud ei elw, 'd oes undyn a ŵyr.

Ti ddeliaist i'w hwylio hyd derfyn dy oed,
Ac os oedd yn fregus ni suddodd erioed."

UN O Lanllyfni oedd R.O., a daeth i weithio i chwarelau ein hardal yn ŵr ifanc. Yr oedd yn chwarelwr campus, a byddai yn yr un cywair wrth weithio cerrig da a rhai sâl. Magwyd ef yn y seiad, a bu yn ffyddlon yn y capel, a gwnaeth ei ran gyda phob achos da. Ar garreg ei fedd ceir y llinellau hyn :

"Does neb ond Un all brisio'i ddiwrnod gwaith.
'Does neb ond Un all dalu iddo chwaith."—R.R.M.

PREGETH ar "Ddameg yr Heuwr" a gafwyd un nos Sul yn Nhan-y-grisiau. Y nos Lun canlynol aeth y Parch. Samuel Owen i ymweled â hen wraig a hithau wrthi yn darllen ei Beibl. "Beth ydach chwi'n wneud Catrin Dafis?" gofynnodd iddi. "O," meddai hithau, "rhoi tipyn o bridd ar yr had yr oeddwn i."

Y SUL cynt bu pregethwr yn dweud geiriau plaen a chwerw wrth aelodau eglwysig. Dywedodd Catrin Dafis fel hyn wrth S.O.,—" Bu D—— yn pregethu y Sul diwethaf gyda ni, ond ni wnaeth o ddim ond taflu dŵr poeth am ein pennau."

Yn y seiat un noson waith gofynnodd y gweinidog i rai o'r aelodau eglwysig a fyddent yn arfer dweud eu Pader bob nos cyn mynd i'w gwelyau?

Dywedodd un hen chwaer, "Byddaf fi yn arfer ei ddweud bob tro y bydd yn taranu a goleuo mellt!"

"Felly wir," meddai yntau.

"Beth amdanoch chwi, E. Jones? Yr ydych yn gweithio yn y chwarel bob dydd yng nghanol peryglon mawr. A fyddwch chwi yn dweud eich Pader?" "Yr ydw i wedi bod yn ei ddweud am flynyddoedd, ond ers misoedd lawer rŵan mi fyddaf yn rhoddi y Testament a gefais gan fy mam hanner can mlynedd yn ôl o dan y gobennydd, a rhoddi fy mhen i orffwys arno."

YN adeg Diwygiad 1904-05 aeth hen weithiwr i berthyn i'r capel fel llawer eraill yr adeg honno. Dilynai gyfarfod- ydd yr eglwys yn gyson. Un noson yn y seiad gofynnodd y gweinidog a fuasai yn dweud tipyn o'i brofiad ar ôl dyfod yn aelod eglwysig. Gwnaeth hynny yn ddifyr iawn. Canmolodd y gweinidog ef, "a gresyn na byddech wedi dal ati yn hwy," meddai. "Diolch ichwi," meddai yntau, "mi â wn o'r gorau fod y Gramaphone yn olreit, ond â dweud y gwir wrthych yn onest, go 'chydig o records sydd gennyf i ddal ati."

AETH Y Parch. David Roberts y Rhiw, i ymweled â hen frawd o Talwaenydd oedd yn wael ar ei wely cystudd. Pan aeth at erchwyn ei wely i'r siambr, gofynnodd yn garedig iddo, "Beth sydd gennych i'w ddweud wrthyf C.H.?" Dywedodd yntau, Herod." "Beth sydd gen- nych i'w ddweud am y creadur brwnt hwnnw?" meddai yr hen weinidog duwiol. "O," meddai yntau, "diolch yr ydwyf na wnaeth o ladd fy Ngwaredwr i, neu buasai ar ben arnaf heddiw!"

MEWN Cyfarfod Llenyddol ym Methel, Tanygrisiau, lawer blwyddyn yn ôl, ymhlith pethau eraill yr oedd cystadleuaeth am areithio yn fyrfyfyr. "Y drwg o redeg i ddyled " oedd y testun, ac Alafon yn beirniadu. Wedi i bedwar ymgeisio, aeth llanc tal a glandeg ymlaen i'r sêt fawr a dywedodd braidd yn hunanol, "Yr ydwyf i yn dal swydd go bwysig, ac mewn cyfle da i adnabod yr adar duon' yma," &c., &c. Wrth feirniadu, dywedodd y beirniad, "Am y llanc a ddywedodd ei fod yn adnabod yradar duon' yma, pwy a ŵyr tybed, nad aderyn du pig-felyn ydyw ef ei hun!"

YN adeg gwneuthur y Twnel Mawr rhwng Dolwyddelan a Blaenau Ffestiniog, penodwyd rhai i wylio'r siafftiau a âi iddo o wahanol leoedd. Gwyliai hen frawd o Tal- waenydd un o'r siafftiau hyn ar ddydd Sul. Rhoddwyd ef ar y carped gan y Parch. David Roberts, y Rhiw, a'i flaenoriaid yn ei eglwys. Dywedodd Mr. Roberts wrtho, "Chwi a wyddoch o'r gorau T.H., nad ydyw yn beth iawn arnoch wylio'r siafft ar y Sul a derbyn tâl am eich gwaith, a chwithau yn aelod eglwysig gyda ni yn y Rhiw. Gofynnaf ichwi beth ydych am wneud-bod yn aelod ynteu gwylio'r siafft?" "Wel wir, Mr. Roberts bach," oedd ei ateb, "credaf mai gwylio'r siafft sydd wedi talu orau imi."

UN go danbaid ei dymer, ond hollol ddiragrith, oedd D.J. Un tro dewiswyd ef yn arolygwr yr Ysgol Sul yng Nghapel y Methodistiaid. Ar ddechrau ei

ei dymor gadawodd amryw athrawon eu dosbarthiadau, a myned yn ddisgyblion i'r dosbarthiadau a arferent fynychu. Yr oedd tua hanner dwsin mewn un dosbarth. Aeth D.J. atynt a gofyn iddynt bob yn un ac un a aent yn athrawon ar wahanol ddosbarthiadau. Wedi i bob un ei wrthod dywedodd, "Wel, 'd oes gennyf ddim i'w wneud ond mynd i chwilio am rai i'r Capel Sentars!" Ar hynny dyma bob un yn ufuddhau.

WEDI i Ann fyned i gadw tafarn ni chawsai fod yn aelod eglwysig. Nid da oedd bod ei henw ar Lyfr yr Eglwys ac ar dafarndy. Yr oedd yn wraig siriol a char- edig wrth natur. Bu farw ar ôl cystudd poenus. Wrth ei bedd siaradai hen weinidog duwiol, a dywedodd, "Adwaenwn Ann ers llawer o flynyddoedd, ac yr oedd yn un siriol a charedig. Os tafarnwraig ydoedd ers rhai blynyddoedd gofalai roddi dwfr am ben y gwirodydd poethion a werthai, fel na wnaethant ddrwg i neb, boed dlawd neu gyfoethog, a chwarae teg iddi. Hedd i'w llwch."

GŴR esgyrnog oedd H——, ysgwyddau llydain ganddo, a barf wen hir ac ôl cnoi baco fel dwy ffos goch arni. Ni fuasai bywyd o unrhyw werth yn ei olwg heb dafarn, cwrw a baco. Gweithiai yn galed o dan y ddaear, ac enillai gyflog da, a gofalai y cawsai tafarnwyr y dref ran dda ohono, er gwaethaf ei wraig a'i blant. Nid oedd capel na chrefydd yn cyfrif dim ganddo, ac ni bu enw Duw erioed ar ei fant ond mewn rheg. Casâi bobl y capel â'i holl egni, ac ni roddai ddimai i helpu'r un eglwys.

Cafodd iechyd da am flynyddoedd lawer, ond wedi iddo droi ei drigain oed, dechreuodd llwch, a mwg y tyllau tanddaearol, a'i waith caled adael eu hôl arno.

Amlwg ydoedd fod ei gorff cryf yn dechrau ymddatod, a thystiai'i gydweithwyr fod rhywbeth' wedi gafael ynddo.

Rhaid fyddai iddo roddi'i gerrig i fyny yn gynt nag y breuddwydiai. Collodd lawer stem o'r chwarel ac ar- hosodd adref yn gyfangwbl yn y diwedd. Ymwelai ei feddyg ag ef yn ofalus, ond ni wnâi ei gyffuriau les iddo. Pan oedd gydag ef un prynhawn, dywedodd yr hen greigiwr wrtho fel hyn: "Credaf mai doctor go sal wyt ti, a buasai'n well o lawer imi gael ffariar!"

Trôdd y meddyg rhadlon ato a dywedodd wrtho : "Waeth heb a rhoddi tail wrth wraidd hen goeden wedi dechrau crino!"

Ar ôl y geiriau yna, llarieiddiodd ysbryd yr hen weith- iwr caled. Ciliodd i'w wely yn bur wanllyd, ac un bore dywedodd wrth berthynas iddo: "Y mae gwaith repario mawr arnaf, a buaswn yn hoffi cael mynd i berthyn i'r capel."

Ymhen rhyw wythnos trefnwyd i ddau Flaenor ym- weled ag ef yn ei gystudd. Aethant i'w gartref, ac ato i'r siambr, ac yr oedd golwg wael ac ôl cystudd trwm arno.

Y peth cyntaf a ddywedodd wrthynt oedd: "Wel, hogia bach yr ydych wedi cyrraedd yma, ond yr ydwyf yn teimlo'n well o gryn dipyn, ac yr wyf am oedi mynd i berthyn i'r capel! Dowch yma pan fyddaf eich eisiau."

Ymhen yr wythnos ar nos Fawrth, daeth galwad am iddynt ymweled yr ail dro â'r hen frawd. Yr oedd yn falch o'u gweled, a gofynnodd, "Rhowch bwt bach o weddi drosta i, hogia bach." Gwnaethant hwythau, a'i dderbyn yn gyflawn aelod yn Eglwys Iesu Grist" am y tro cyntaf erioed. "Teimlaf yn braf rŵan," meddai. Pan oedd y ddau yn mynd o'r ystafell, ysgydwodd law gyda hwynt, â dywedodd, "Wyddoch chwi beth, hogiau bach, cofiaf adeg yn fy hanes na buasai yr un raff dair cainc yn fy nhynnu fi at grefydd, ond heddiw, gwna edau wlan y tro."

BYDDAI hen weithiwr talentog yn sôn beunydd am Graig yr Oesoedd, ac wrth weddio gofalai am ddiolch fod "Y Graig yn dal." Ei hoff emynau oedd emynau a'r gair "craig " ynddynt, a pha ryfedd a chraig y chwarel wedi mynd yn ddarn ohono! Wrth iddo ymneilltuo o'r chwarel gwnaeth cydweithiwr ychydig linellau iddo, a dywedodd yn y pennill diwethaf fel hyn:

Gwyddost ti am greigiau'r ddaear,
Troi y maent yn grych bob pryd,
Ond am gadarn Graig yr Oesoedd
Cerrig da yw hi i gyd;

Os y gweithi di ar honno
Nes y daw dy oes i ben,
Byddi'n falch o'th bapur setlo
Pan ei di tu hwnt i'r llen!


CHWARELWR medrus, a threfnus gyda'i waith oedd G.——. Yr oedd yn wleidyddwr mawr ac yn ddarllennwr ar lyfrau da. Mynychai y capel yn ffyddlon, ond ym mlynyddoedd olaf ei oes yr aeth yn aelod eglwysig, a bu yn aelod defn- yddiol. Pan wrandawai ar y plant yn dweud eu had- nodau mewn seiad noson-waith un tro, gofynnodd y cwestiwn canlynol iddynt : "A fedrwch chwi ddweud wrthyf y 'mhlant i, paham y mae defaid sydd yn pori yr ochor yma i'r Moelwyn yn uwch eu pris yn y farchnad, na'r rhai sy'n pori yr ochor yma i'r Manod?" Meth- asant ei ateb, a dywedodd yntau wrthynt: "Am eu bod yn cael haul y bore! Yr ydych chwithau yn cael haul y bore wrth ddyfod i bob moddion i'r cysegr, a chofiwch chwi mai hwnnw sy'n rhoddi gwrid i'ch gruddiau, fel y gwna i afalau. Druan ohonof fi, gwrthodais i wneud defnydd o haul y bore, ond da gennyf gael haul y pryn- hawn!"

UN o ddynion galluocaf ein hardal oedd R——, pregethwr a hynafiaethydd da. Gweithiodd am gyfnod byr yn y chwarel, ond cefnodd arni ac aeth i'r Coleg a gwnaeth ei farc yno. Yr oedd un arferiad od yn perthyn iddo,- swniai y llythyren "s" ar ddiwedd rhai geiriau. Pan bregethai un tro mewn Eglwys Saesneg dywedodd y frawddeg hon ar ei weddi:

"O Lord, preserve us in the Spirits!"

DYWEDODD hogyn ei adnod mewn seiad noson waith yn Nhanygrisiau un tro. Anghofiodd ymolchi ei wyneb cyn cychwyn i'r capel. Wedi iddo ddweud ei adnod, dywedodd hen flaenor duwiol wrtho fel hyn: "Dywedaist dy adnod yn llawn cystal a'r un esgob, ond biti bod dy wyneb di mor fudr!" Hitiwch befo ei wyneb, ar ei galon y mae'r Brenin Mawr yn edrych," meddai'i fam, mewn munud.

UN o'r breintiau mwyaf a gefais yn ystod fy oes oedd cael bod yn athro yn yr Ysgol Sul ar nifer da o chwiorydd gwybodus. Yr oeddent yn hyddysg yn eu Beiblau, ac wedi myfyrio ac ymborthi ar dywysennau gras ynddo. Un o'r Bala oedd Mary Jones, y Dolydd, gwraig o berson- oliaeth gref, ac yn barnu pobl wrth safon pobl y Bala. Bu'n gwasanaethu am flynyddoedd gyda'r Parch. Edward Williams, Cynwyd. Dywedodd lawer gwaith yn y dosbarth am yr hen bregethwr yn dweud ar ei bregeth un tro, y buasai hanner yr Efengyl ar goll oni bai yr 'i' bach yna, ' ewch a mynegwch i Pedr.'

"GORCHYMYN newydd wyf yn ei roddi i chwi," oedd y wers un prynhawn Sul.

Gofynnwyd a oedd yn orchymyn newydd, a bod Iesu Grist wedi dweud lawer gwaith o'r blaen am garu ein gilydd." Wedi trafodaeth fywiog dyma Mary Jones yn dweud ei bod hi yn credu "mai rhoddi gwaed newydd mewn hen orchymyn a wnaeth Iesu Grist. Y mae y doctoriaid heddiw yn rhoddi pigiad gyda nodwydd yng nghnawd pobl wael, ac adnewyddant. Rhywbeth tebyg wnaeth Iesu Grist."

AR Sul ystormus dywedodd un o'r chwiorydd: "Yr ydym yn dda iawn ein lle yn yr ardal hon, yng nghysgod yr hen fynyddoedd yma—y ddau Foelwyn," &c. "Ie," meddai hithau," a'r Migneint hefyd."

GOFYNNODD William Richards un tro i'r hen chwaer: "Beth oedd y gwahaniaeth rhwng edifeirwch a throedigaeth, a chyfiawnhad a sancteiddhad, a mabwysiad ac ail-eni," &c. "Wn i ddim wir," meddai hithau, "ond mi â wn eu bod i gyd ar un gadwyn."

YN adeg y rhyfel yr oedd arni ofn i'r Germans, chwedl hithau, ddyfod i ymosod ar bobl Tanygrisiau. Preswyliai hi ei hun ynghanol cymdogion caredig. Un noson daeth gwŷr y Frigâd Dân yn eu lifrai mewn cerbyd at ymyl ei thŷ. Digwyddodd agor y drws, a gwelodd hwynt. "Wel, y mae ar ben arnom," meddai, "y mae'r hen Germans wedi cyrraedd o'r diwedd." Rhoddodd glo ar y drws a neidiodd i'w gwely a rhoddi dillad dros ei phen tan y bore!

AETH crwydryn un prynhawn i fegera at ddrws ei thŷ. "Yr Dyma hi yn dangos ceiniog iddo a dweud wrtho: unig geiniog sydd gennyf ar fy elw." "Wel, cadwch hi yr hen wraig," meddai yntau, a dywedodd hithau wedyn—"heb newid swllt!" A derbyniodd y gŵr anghenus y geiniog wedyn.

Bu trafodaeth ddifyr un tro ar angylion. Gofynnwyd i'r chwiorydd a oeddent yn credu ym modolaeth angylion. Credai un yn ddiysgog eu bod yn bersonau heirdd a dwy adain ganddynt, fel y gwelir darluniau ohonynt mewn llyfrau ac ar barwydydd rhai annedd-dai. Dadleuai eraill mai rhyw fodau anweledig oeddynt yn gofalu am bobl Dduw. Yn y diwedd dywedodd Mary Jones fel hyn:

"Yr ydw i yn fy nghofio fy hun yn eneth dair ar ddeg oed yn gweini yn y Bala. Un noson oer yn niwedd y flwyddyn anfonwyd fi ar neges i ffermdy go bell. Cerddais ar ochr mynydd trwy gaenen denau o eira a oedd ar y llwybr. Wrth ddyfod yn ôl teimlwn rhyw ofn wedi fy meddiannu, er ei bod yn noson olau leuad. Wedi cerdded ysbaid o ffordd, sylwais ar ôl traed yn yr eira, a dywedais fod rhywun fel finnau wedi bod yn cerdded yr un llwybr, a rhoddais fy nhraed yn ôl y traed a welais yno, a deuthum yn ôl yn llawen heb ofn dim. Erbyn i mi gysidro tipyn ôl fy nhraed fy hun oeddwn wedi ganfod. Rhyw deimlad mewnol fel yna ydyw angel yn ôl fy meddwl bach i."

WRTH sôn un prynhawn Sul am "lawenydd" gofynwyd beth ydoedd. "Rhywbeth yn dyfod heb ei ddisgwyl," meddai hithau. "Pan fyddwn i ers talwm yn edrych ymlaen am ddiwrnod i fwynhau fy hun, hwnnw fel rheol a fyddai'n troi yn ddydd annifyr iawn. Ar ddiwrnod arall pan fyddwn yn ddi-awydd i fynd i ffwrdd, byddai pethau yn troi'n wahanol wedi imi fynd."

"Beth ydych yn feddwl o lawenydd yn yr adnod hon— 'dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd ?" "O! rhyw le a llawer o gynhesrwydd ynddo ydyw, fel 'tasech chwi wedi eich lapio mewn gwlanen gartre!"

CYDWYBOD oedd pwnc y drafodaeth un tro, ac wedi holi a chael atebion reit dda, credai Mary Jones nad oedd cydwybod yn arweinydd diogel bob amser. "Byddai un hen frawd yn arfer dweud," meddai hi, "fod cyd wybod ambell ddyn yn ymestyn fel elastic!"

LAWER blwyddyn yn ôl diarddelwyd geneth ifanc o un o eglwysi'r fro. Y noson wedyn aeth ei mam at un o'r hen flaenoriaid, gan ei dafodi, a dweud, "Hen gnafon drwg sydd yn dy gapel di." "Hitia befo," meddai'r hen frawd, " y mae ynddo lai o un ar ôl neithiwr!'

ARFERAI un hen gymeriad diddan gymryd glasiad, ac ar rai adegau âi ar ei sbri am lawer o ddyddiau. Wedi gorffen ei sbri, addawai fod yn' hogyn da,' chwedl yntau, a mynd i berthyn i'r capel. Mynd a dyfod oedd ei hanes, ac amdano un tro dywedodd Elfyn fel hyn:

I dŷ Dduw'r annuw di-rôl—hwn a ddaw
Yn ddyn edifeiriol;
Ond i'w hen ffau neidia'n ffôl,
Newydd ddwad yn dduwiol!


WEDI treulio llawer o flynyddoedd yn Neheudir Cymru, fe ddaeth hen bâr cymeradwy yn ôl i'r ardal i breswylio. Effeithiodd llwch y glo yn drwm ar iechyd yr hen frawd. Magai ychydig o ieir i'w ddifyrru ei hun. Un noson fe ladratawyd rhai ohonynt. Wrth weddio mewn cyfarfod gweddi noson waith ymhen rhyw wythnos wedyn can- molodd ei Waredwr, a dywedodd: "Yr wyt Ti yn Hollalluog, ac yn Hollwybodol! Fe wyddost Ti yn iawn, O! Arglwydd, pwy a ddwynodd fy ieir," a chan daro ei ddwrn ar y pulpud bach, gwaeddodd dros y festri: "Y mae gen innau' guess' weldi!"

GOFYNNODD Y Parch. Samuel Owen i hen frawd yn y Seiad yn Nhan-y-grisiau: "A fyddwch chwi yn arfer a gweddio yn y dirgel E.J.?" "Wel" meddai'r hen frawd "pe buaswn yn dweud wrthych fy mod yn arfer gwneuthur hynny buaswn yn gweld fy hun yn debyg i iâr yn clowc- ian wedi bod yn dodwy!"

PAN oeddwn yn hogyn pedair ar ddeg oed, ac yn rybela ym Melin Pen Bont, y Rhiw, gwyddwn am hen frawd diddan o rybelwr. Yr oedd yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleaid yr adeg honno. Pwnc y dydd yn ein henfro ar un adeg oedd " Fall" fawr y Rhiw, sef cwymp darn mawr o fynydd, a defnydd llechfaen gwych ynddo ambell dro. Un tro wrth bregethu gwaeddodd yr hen frawd, "Beth ydyw fall' fawr yr Iachawdwriaeth, wrth ymyl fall' fawr y Rhiw?"

YNG nghyfnod Rhyfel De Affrig, darllenid yr hanes mewn newyddiadur ar amser cinio yn y Ciniawdy. Un tro gofynnwyd i'r hen frawd, "Ym mh'le mae y Penrhyn Gobaith Da yma?" "Wel, wn i ddim, a 'dydw i erioed wedi darllen llyfr Taith y Pererin' yna!"

PREGETHWR cynorthwyol gyda'r Methodistiaid Calfin- aidd oedd H.W., a gweithiai fel creigiwr yn Chwarel Holland ar un cyfnod. Yr oedd yn bregethwr da ac yn ddarllenwr mawr. Mewn Seiad noson-waith un tro, gofynnodd i lanc ifanc, a oedd ganddo adnod ar ei feddwl. Wedi tawelwch mawr, gofynnodd iddo beth oedd yn ddarllen? Papur Newydd," meddai yntau. "Felly wir, y mae lliw y dail ar y lindys!"

YR oedd H.W. yn codi cerrig gwenithfaen o graig neill- tuol i adeiladu tŷ yn y Llan. Un tro yr oedd wedi tanio, a darnau o gerrig yn gwibio fel brain yn yr awyr. Aeth gŵr ato yn chwyrn gan ddweud, "Pam na fuasech chwi yn gweiddi 'Enbyd,' 'Enbyd,' H.W.?" "Gweiddi 'Enbyd' frawd, yr ydwyf yn gweiddi Enbyd' uwch dy ben o bulpud Peniel ers blynyddoedd, ac yr wyt fel adamant!"

YR oedd H.W. i bregethu un Sul yn Nhan-y-grisiau, ond trwy ryw gamgymeriad daeth un o'r "hoelion wyth" yno hefyd!

Pan ofynnwyd i H.W. roddi cyfle i'r pregethwr mawr gael pregethu ei hun, dywedodd, "Y mae y diafol yn gryf iawn yn Nhan-y-grisiau, a gellwch fentro gadael inni daro dwbwl hand' ar ei gefn heddiw," ac felly y bu.

PREGETHWR cynorthwyol oedd H.M. hefyd. Cerdded i bobman y byddai ar y Sul. Tebyg ydoedd i J. R. Jones, Ramoth, fel y dywedodd Robert ap Gwilym Ddu:

Wr enwog ni farchogai Eithr ar droed erioed yr âi."

Gwan oedd yr achos yn y capel bach. Byddai H.M. yn myned i gasglu arian ato at wahanol bobl. Un tro aeth at berson y plwyf a chafodd groeso mawr. Wrth droi adref dywedodd y person wrtho: "Welwch chwi H.M., go ychydig sydd ohonoch yn y capel bach. Waeth i chwi ddyfod atom ni i'r Eglwys, y mae gennym ddigon o le i chwi i gyd." Atebodd yr hen frawd fel hyn: "Welwch chwi, Mr. Person, y mae digon o le i bawb yn Uffern, ond nid oes neb yn fodlon mynd yno chwaith!"

YN adeg Diwygiad 1904-05, bu llawer yn canu a gorfoleddu am nosweithiau yn ein henfro. Dywedodd un gŵr wrth hen frawd diddan: "Y mae llawer y dyddiau hyn yn marw i bechod." "Wel," meddai yntau, yr ydw i yn meddwl mai cael ffitiau y mae y rhan fwyaf ohonynt."

ARFERAI hen chwaer ddweud yr un adnod bob tro yn y Seiadau yn Nhan-y-grisiau. "Oes gennyt adnod i'w dweud, Sian?" meddai S. Owen wrthi un tro. Oes," meddai hithau, "Gwir yw y gair ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid o ba rai y pennaf ydwyf fi." Dywedodd yntau wrthi: "Mae yn dda iti mai gwirionedd ydyw yr adnod yna neu buasai yn dyllau ers llawer dydd."

UN drom ei chlyw oedd B, ond un o ffyddloniaid eglwys Bethel er hynny. Un noson dywedodd S.O. wrthi: "Yr ydych mor ffyddlon â'r un aelod ymhob cyfarfod yn yr eglwys er nad ydych yn clywed dim. Beth ydych yn ei gael yma?" "O! yr ydw i'n c'nesu wrth rwbio yng ngwlân defaid Iesu Grist, Mr. Owen bach!"

NOSON bwysig yn y capel yn y blynyddoedd gynt oedd nos Sul talu y "tro mis," sef talu cyfran o arian at y Weini- dogaeth. Eisteddai dau hen flaenor yn y sêt fawr i dderbyn yr arian gan yr aelodau. Rhaid oedd i bob aelod dalu drosto'i hun. Un tro aeth llanc trwsiadus ei wisg a glandeg ei wedd ymlaen i dalu, ac estynnodd bisyn tair ceiniog gwyn iddynt. "Bobol annwyl!" meddai un o'r hen flaenoriaid, "ai pisyn tair wyt ti'n roddi at yr Achos Mawr? Y mae gen ti giw-pi hanner coron!"

WEDI gorffen pregethu un nos Sul gofynnodd y pregethwr y cwestiwn hwn-" A wna pob un ohonoch a hoffai fyned i'r nefoedd godi ar ei draed." Cododd y gynulleidfa i gyd ag eithrio un hen frawd. Dywedodd y gŵr a eisteddai yn y sedd tu ôl iddo, "Mae'n well ichwi godi, D.J., yn lle bod yn od i bawb." Ac ebe yntau, "Gad lonydd imi, Ifan; wyt ti'n meddwl mai efo rhyw sgyrsion fel hwn yr ydw i am fynd i'r nefoedd!"

ARFERAI hen gyfaill calon imi gludo pregethwyr ar brynhawn Sul i gapel bach a oedd o dan nawdd eglwys fawr. Un tro cludai bregethwr mawr pwysig yn ei farn ei hun. Mewn ffermdy y caent de ar ôl mynd o'r capel, ac yr oedd y ffermwr yn flaenor. Arferai ef bob blwyddyn wedi cael "Llyfr y Cyhoeddiadau," roddi croes (x) ar gyfer enw pob pregethwr sâl yn ôl ei farn ef a ddeuai i'r capel bach. Eisteddai y pregethwr mewn cadair esmwyth wrth y tân, a phan hwyliai gwraig y ffermwr y bwyd ar y bwrdd, cydiodd ef yn Llyfr y Cyhoeddiadau a hongiai gerllaw iddo ar y mur. Wedi gweled y croesau ar gyfer enwau rhai pregethwyr, gofynnodd i'r wraig pa beth a arwyddent. "O," meddai hi, "y rhai yna ydyw y pregethwyr salaf sydd yn dyfod atom i bregethu."

Rhoddodd y pregethwr ochenaid fawr gwelodd ei enw ef yn eu plith.

Bu dadlau brwd mewn Cyfarfod Brodyr un tro. Atgyweiriesid yr addoldy, ac ni chytunai rhai o'r frawdoliaeth ar liw y paent y bwriedid peintio'r muriau ag ef. Wedi cryn siarad ar y mater gofynnwyd i hen frawd gwreiddiol a bendympiai yno—"Pa baent a hoffech chwi ei weld arno, T.W.?" "Wel," meddai yntau, "coltariwch o o'm rhan i."

CYN pasio gwahanol benderfyniadau mewn Cyfarfod Misol un tro, arferai un pregethwr godi ar ei draed yn ddefosiynol gan ddweud, "Yr ydw i yn cynnyg gwelliant arno." Gwnaeth hynny tua saith gwaith. Yn sedd y gornel ym mhen draw y capel hanner—gysgai hen bregethwr diddan. Gofynnodd y Llywydd i hwnnw ddweud gair yn lle cysgu. "Wel, Mr. Llywydd, ac annwyl frodyr, dyma'r hyn sydd ar fy meddwl i. Wrth glywed O—— yn cynnig ei wahanol welliannau ar y penderfyniadau y prynhawn hwn, meddwl yr oeddwn i fod yn dda i'r Duw mawr nad oedd O——. yn ei ymyl pan oedd yn creu y greadigaeth, neu mi fuasai yn siwr o gynnig gwelliant ar ei waith."

Yr oedd llanc ifanc rhadlon yn danfon pregethwr i'w gyhoeddiad i bregethu un pnawn Sul. Wrth basio cofgolofn y Parch. John Jones, Talysarn, a'i frodyr yn Nolwyddelan, gofynnodd y pregethwr i'r llanc, "I bwy y codwyd y Gofgolofn hon?" "O! i ryw dri brawd," meddai yntau. "Beth a wnaethant i gael un mor ardderchog?" meddai'r pregethwr.

"Wn i ddim yn wir, os nad hwy a adeilasant yr hen Gastell yma."

PREGETHU AR NOSON WAITH.

Yn y blynyddoedd gynt arferid cael ambell bregeth gan wahanol weinidogion o bob enwad ar noson waith. Cofiaf y capel yn llawn, a gweithwyr o'r Baricsod o'r Rhosydd, Croesor, ac o annedd-dai o Gwmorthin yn dyfod yno yn eu dillad gwaith. Am y gweithwyr dywedodd Moses Henry Hughes fel hyn:

Gwlith Hermon i'r gweithwyr caled
Yw'r chwys ar eu gruddiau llaith,
A sacrament dlws y bore.
Yw gwisgo eu dillad gwaith."


Un o'r pregethwyr mwyaf cymeradwy a ddeuai i'r henfro oedd y Parch. John Roberts, Corris, (Rhyl wedi hynny). Byddai bob amser yn llefaru brawddegau cofiadwy ac yn adrodd ambell stori afaelgar.

Dyma un enghraifft o'i eiddo pan bregethai ar "Llety Glan-yr-afon"—Josua 3 ben., I adn.

"Diwedd teithio yr anialwch, adeg croesi yr Iorddonen, adeg dechrau troedio Gwlad yr Addewid. Mae ambell long wedi arfer mordwyo y moroedd mawrion yn ddiogel, ac wedi dal ystormydd ond yn mynd yn wreck yn y channel. Y mae llawer gyda chrefydd yn debyg yn mynd yn wreck wrth fynd adref. Mynnwch grefydd i'ch cynnal yn y byd yma, mewn profedigaethau, mewn helbulon, a thrallodau. Bara beunyddiol ydyw crefydd iawn. Croesa llawer o bobl i'r Amerig a lleoedd eraill, ac ar lawer o'u luggage rhoddir labels "Not wanted on the voyage," ac ar rai eraill yn rhoddi "Wanted on the voyage"; ond am blentyn Duw y mae ar hwn eisiau crefydd bob dydd o'r daith. Treuliais ddiwrnod ar lan y môr yr haf diwethaf—diwrnod tawel, braf, "heb don ar wyneb y dŵr." Yn y prynhawn beth a welwn yn mynd allan ar y môr ond y Lifeboat a'i griw. Gofynnais i ddyn a safai gerllaw, "I ba beth yr ewch allan ar ddydd mor braf?" "O!" meddai, "exercisio y maent heddiw i edrych a ddeil yr hen gwch y stormydd." Gwnewch chwithau yn debyg gyda'ch crefydd 'y mhobol i. Treiwch hi ar ddyddiau tawel i edrych a ddeil hi y storm fawr. Os na ddeil chwi yn aberoedd bach y byd hwn, ni ddeil mohonoch yn ymchwydd yr Iorddonen gref. I ba harbwr yr wyt ti'n morio? Ai yn llong pechod neu yn llong fawr yr Iachawdwriaeth yr wyt ti heddiw gyfaill? Yn hon y cei di fynediad helaeth i drigfannau dy Arglwydd. Crefydd iawn yw'r trysor pennaf."

Nodiadau

[golygu]
  1. Agorwyd y Twnel Mawr yn y flwyddyn 1879.
  2. 3.5405km
  3. Tŷ Bwyta.

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.