Y Gan A Fu

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search
Y Gan A Fu

gan Thomas Gwynn Jones

Gynt, gwelads gwcw gu
  Delore fore o Fai,
A daeth y 'deryn du
  I wrando'i deunod chwai.

Fe ganai'r gwcw gu
  Bob bore wedi hyn,
A daeth y 'deryn du
  Dan swyn i wrando'n synn.

Ac felly'r gwcw gu
  Bob bore bynciai'n fwyn,
A deuai'r deryn du
  Bob dydd o'i lonydd lwyn.

Ond ffoes y gwcw gu
  Cyn pen Mehefin fwyn,
Oan ado'r 'deryn du
  Mor unig yn ei Iwyn.

Myfinnau fuais fel
  Y buo'r deryn du
Yn gwrando ar gwcw ddel —
  Fu nemmor gân mor gu.

Ond buan delai'r awr
  I golli'r gwcw gu,
A finnau wyf yn awr
  'Run dôn a'r 'deryn du.