Y Geilwad Bach/Amddiffynydd y Creadur Mud
| ← O Flaen y Meistr | Y Geilwad Bach gan Lewis Davies, y Cymer |
Arfaethu Gweld y Byd → |
PENNOD IV.
AMDDIFFYNNYDD Y CREADUR MUD.
MEWN gweithfa fawr megis ag oedd ar y Waun yr oedd llawer o fynd a dyfod ymhlith y labrwyr hynny yw, y bobl hynny nad oedd wedi codi yn uwch na gwaith caib a rhaw. Oherwydd natur eu gwaith, nid oedd iddynt un gweithdy arbennig i lafurio ynddo, a symudid hwy gydol y dydd i ben yr iard at y gwelyau tywod o flaen y ffwrnesi, neu i ben y crug sinidr, fel y byddai galwad. I blith y rhai hyn y cyflogid y dyfodiaid, gan amlaf, ac oherwydd hynny gallai mintai ohonynt, er eu bod wrth yr un gwaith, fod yn gwbl ddieithr i'w gilydd am beth amser.
Ymhen deuddydd wedi helynt y Samwn Pinc, yr oedd mintai o'r fath ar y crug sinidr yn gwastatâu'r wyneb er paratoi lle i osod sied i lawr. Yn eu hymyl, ond wrth orchwyl arall, yr oedd dyn a yrrai geffyl yn ol a blaen yn dra chwyrn, ac a'i curai yn ddi-achos. Gwnaed hynny ddwy waith eisoes, ac yr oedd ar fedr gwneuthur hynny y drydedd waith pan waeddodd un o'r labrwyr arno:
"Hoi! paid a lladd y creatur yna!"
"Meindia di dy gaib a rhaw—dyna dy fusnes di!" oedd yr ateb swrth.
"Fe dy feindia i di, a'r ceffyl yna hefyd, os trewi di e' eto," ebai'r labrwr drachefn. "Dyna rybudd i ti!"
Yn lle cymryd y rhybudd, fodd bynnag, curodd y gyrrwr y creadur yn waeth fyth, ac yn fwy felly o hèr i'r labrwr.
Erbyn hyn yr oedd y fintai i gyd wedi atal gweithio, ac yn disgwyl beth a ddigwyddai nesaf. Nid hir y bu iddynt ddisgwyl, oblegid cerddodd y siaradydd ymlaen at y gyrrwr, yr hwn a gydiai ym môn ei ffrewyll er taro'r gwr a feiddiodd ymyrryd âg ef. Ond y labrwr, yn dal rheffyn y ffrewyll yn ei law chwith ar ei ddisgyn o gylch ei ysgwyddau, a dynnodd y gyrrwr, a afaelai wrth y bôn, tuag ato; ac wedi ei dynnu yn ddigon agos, ef a'i tarawodd o dan yr ên â dwrn ei law rydd, nes syrthio ohono wysg ei gefn. Yna ef a ddychwelodd at ei gaib a rhaw fel pe bae dim wedi digwydd. Ond erbyn hyn yr oedd y gyrrwr wedi codi ar ei draed, a chan adael ei geffyl yn y man, ef a aeth i waered dros y crug at fintai arall o ddynion a weithiai ryw bellter oddi wrtho.
"Mae e' wedi mynd at Ianto ei gender, ti elli fentro," ebe un o'r labrwyr ereill. A'r gwir a ddywedasai, oblegid cyn nemor o funudau gwelid y gyrrwr a'i gefnder, a oedd â chryn enw iddo fel dyrnwr, yn brysio tuag atynt.
"Ble ma'r labrwr deuswllt y dydd a drawodd Dai 'nghender?" ebe fe yn llidiog iawn. "Rhaid iddo sefyll hanner munud o 'mlaen i!"
Ar y gair aeth concwerydd ei gefnder ato yntau, ac wedi ychydig o ysgarmais, ef a roddes i Ianto hefyd yr un peth ag a roddes i Dai, nes ei fod ar lawr ar ei hyd.
"A wyt ti am gael ail gynnig?" ebe fe wedyn wrth y gyrrwr a safai gerllaw, "wa'th dyma dy siawns di!"
Ond nid oedd brys ar hwnnw i ail ymaflyd yn y gwaith; ac erbyn hyn yr oedd Ianto wedi codi ar ei draed, ac yn yr un teimlad a'r gyrrwr ei hun.
Yn y cyfamser yr oedd rhai o'r ail fintai wedi cyrraedd y lle, ac wedi gweld o un ohonynt y gwr a drechodd y ddau gefnder, ebe fe yn uchel:
"Shoni Sgubor Fawr, myn brain i!"
"Ie!" ebe Shoni, gan siarad am y waith gyntaf. "Does gen i ddim yn d'erbyn di, Ianto; ond dysg dy berthynas i beidio â gneud cam â chreatur mud, nei di? Wa'th chaiff e' ddim o'i 'neud os bydda' i'n acos! Dyna i gyd!"
Aeth y labrwyr yn ol at eu gwaith; ond y gurfa i'r ddau gefnder oedd siarad yr holl weithfa am ddiwrnodau yn ol llaw, ac aeth llawer un heibio i fintai Shoni yn unswydd i weld y gwr yr oedd gymaint son am dano yng ngweithiau haearn Sir Forgannwg, ac a wnaethai laned gwaith ar Ianto Shams, y pen-ymladdwr lleol. O siarad am dano rhwng pob dau yn y gwaith, aeth yr hanes i'r offis ac i glustiau Mr. Ffrank ei hun.
"Roedd yn hen bryd gosod diwedd ar greulondeb yr halier yna," ebe fe. "Feiddiai fe ddim camdrin y ceffyl ar yr iard neu o flaen y ffwrnesi, ond cretu yr oedd ei fod yn ddigon pell ar ben y tip. Diolch fod Shoni Sgubor Fawr yno. Bydd raid imi weld champion y ceffyl f' hunan. Beth well ŷm ni o roi pob gofal i'r ceffylau os bydd rhyw sneak fel Dai cender Ianto yn gneud cam â nhw wetyn? Ie, fe ddiolcha i i Shoni'm hunan."
"Wetiff e' ddim llawer wrthych, syr, wa'th un diweyd tost yw e'."
"Does waniath am hynny. Gormod o 'weyd sy gan y rhan fwya' ohono ni, greta i. Ond ma' pethau'n gwella yma. Pe bawn i eto ond cael y pydlers i witho heb gwrw, fe fyddai yma le digon da. A ma nhw'n gweyd bod Ffwrn Number One yn gwitho'n rhagorol ar hyn o bryd."
"Eitha gwir, syr. Ond mae'r pydlers yn dechre betio â'i gilydd pa hyd fydd Dai eto cyn meddwi."
"Yr hen gnafon! Chi gewch weld y temtia nhw ef yn ol i'r hen ffyrdd wedi'r cwbl. Ond dim, os galla i!"