Neidio i'r cynnwys

Y Geilwad Bach/Ar Heol Ballarat

Oddi ar Wicidestun
Glanio Y Geilwad Bach

gan Lewis Davies, y Cymer

Greg

PENNOD XXIX.
AR HEOL BALLARAT.

YN gynnar drannoeth aeth Morgan allan i brynu yr offer y tybiai ef oedd hawddaf eu cario, ac ar yr un pryd a oedd y gorau i ddibenion pen ei daith. A chan fod yr hin yn dal yn fwyn, ac y gwyddai y byddai rhaid bwrw'r nos yn rhywle ar y ffordd pa mor gynnar bynnag y cychwynnai, ef a benderfynodd fyned ar unwaith.

Aeth yn ol i'w lety, a chan dalu i Mrs. Mackenzie ei gofyn, a diolch iddi unwaith eto am ei ymgeleddu, ef a gododd ei lwyth ar ei ysgwydd ac a ddechreuodd droedio'r heol i Ballarat.

Yr oedd ar honno lawer o fynd a dyfod gyd â phob math ar gerbyd yn ei thramwy. Gwnaethai popeth a symudai ar olwyn y tro yn y ffrwst mawr tua bro'r aur: ac er y gobeithiai Morgan ar gychwyn ohono'r daith y caffai ef ond odid lifft ar y ffordd, buan y teimlai mai ofer y disgwyliad am fod i bob cerbyd lawn llwyth naill ai o deithwyr neu o nwyddau eisoes. Deubeth yn neilltuol a'i trawodd ef ar yr heol y diwrnod hwnnw, sef rhaib pawb am arian, a brys anatal pawb er ei gyrraedd.

Ond er mai myned allan a'u hwynebau i gyfeiriad Ballarat yr oedd y mwyafrif o'r fforddolion a welsai, cyfarfu ef hefyd âg amryw yn dyfod oddiyno, ac yr oedd y rhain gan mwyaf yn fwy siaradus na'r lleill. Un fintai yn unig o'r dyfodiaid a aethai heibio iddo heb yngan gair, ac yn ddiweddarach ef a ddeallodd y rheswm am fudandod y cwmni hwnnw hefyd, oblegid ffodusion y "Last Hope Nugget" oeddynt hwy, ac ar y pryd yn cludo'r telpyn aur enwog hwnnw i Melbourne er diogelwch yr oeddynt.

Hawdd ydoedd deall llwyddiant neu aflwyddiant llawer o'r teithwyr oddiwrth gyflwr eu dillad, oblegid anodd iawn i'r neb a gloddiasai'r mŵn am dymor hir heb lwc ydoedd talu prisoedd uchel y dilledwyr teithiol am ddillad o gwbl. Adroddai ambell un o'r cyfryw brofiad lled ddigalon wrth y Cymro, ac oni bai ei fod wedi penderfynu ers tro y mynnai ef weld y pendraw, "watch aur neu glun bren," digon a fyddai yr ystoriau trist i dorri ei galon.

Am y rhai a enillasai wenau ffawd yr wythnosau cynt, hawdd oedd gweld y ffaith yn eu holl agwedd hwythau, oblegid llon oedd y gair a heini'r cerddediad. Ac o ddigwyddai i'r cyfarfyddiad fod yn agos i dafarndy, rhaid oedd i Forgan hefyd fynd i mewn gyd â'r gŵr oedd â'r stuff, ac yfed "Iechyd Da" i bawb yn gyffredin. Sylwai'r Cymro fod yn y saloons hyn, y tybid eu bod beunydd yn gorlifo o ddymuniadau da, gymaint trachwant a phrisoedd uchel ag yn unman; ac ef a wnaeth adduned âg ef ei hun, pa ffawd bynnag a fyddai ei ran, i beidio â gwastraffu ei dda yn null afradlon y lleoedd yfed.

Ef a sylwai hefyd fod bron pobun a gyfarfuai yn arfog; ac er mai digon cyfreithlon hynny yr amser hwnnw, eto i gyd rhoes yr olwg ar yr arfau niferus syniad lled anesmwyth iddo am gyflwr ansefydlog yr ardal. A chyn myned o'r dydd hwnnw heibio, daeth i'w brofiad ef ei hun weled a theimlo pa mor ddibwys yng ngolwg llawer oedd anghysur a hyd yn oed fywyd rhywun arall.

Oblegid ag ef wedi troedio'r ffordd arw am chwe neu saith awr, ac yn dechrau edrych o'i gylch am le cyfaddas i fwrw'r nos, ef a glybu o bell swn rhialtwch mawr a chrechwen uchel yn ol ar yr heol a droediasai ef ei hun ychydig cyn hynny. O edrych yn ol, gwelai yn carlamu tuag ato ddau farch yn tynnu gwagen fawr a oedd yn llawn o fwnwyr ar eu ffordd yn ol i'r diggings, ar ol cael amser wrth eu bodd yn y porthladd. Amlwg eu bod oll yn hanner meddw, oblegid er eu myned heibio iddo chwifiai dau neu dri ohonynt boteli gwirod gan ffugio eu cynnig i'r teithiwr ifanc a oedd mor ffôl a bod yn sobr ar heol Ballarat y dydd hwnnw.

Dal i weiddi ac ymaflyd yn ei gilydd a wnaethai'r giwed tra parhasant yn y golwg, a'r drem ddiweddaf a gawsai Morgan arnynt ydoedd eu gweld yn sefyll i fyny ynghyd yn y cerbyd i ryw ddiben na wyddai ef mo'r achos.

Yntau a ddaliodd i gerdded yn y blaen ar eu holau, a phan gyrhaeddodd ef y man yr aethant hwy allan o'i olwg, ef a ganfu ar ganol yr heol rywbeth ar lun dyn yn gorwedd fel pe wedi ei anafu'n dost. Brysiodd y Cymro ato, ac wedi cludo ohono'r truan hyd ochr yr heol, fel ag i fod allan o berigl y gyrru enbyd ar y briffordd, ef a ganfu fod y truan yn anymwybodol ac yn gwaedu o'i ffroenau a'i glustiau. Wedi sychu'r gwaed â'i gadach daliodd Morgan y llestr bychan o'r ddiod cartre a roddasai Mrs. Mackenzie iddo wrth fin yr anafus, ac a barodd iddo lyncu dracht neu ddau ohono.

Ond er rhoddi iddo ychwaneg ymhen ychydig amser, parhau yn anghofus o bopeth oedd y dyn; a chan ei bod bellach yn dechrau tywyllu, pryderus iawn oedd y gwr ifanc am yr helynt. Ef a farnai mai un o gwmni meddw'r cerbyd, ac a gwympasai allan ohono, oedd y clwyfedig, ac y byddai i'w gyd—feddwon ddychwelyd i edrych am dano yn union. Ond ni ddaeth neb, ac erbyn hyn yr oedd ymron nos, ac yntau mewn penbleth pa beth i'w wneuthur.

Ond ni allai ef feddwl am adael y truan yno, i fyw neu i farw wrtho'i hun, ac felly, o gofio iddo basio annedd ychydig ffordd yn ol ar yr heol, ef a aeth i chwilio am dano. Pan neshâodd ef at y tŷ, dechreuodd ci a oedd y tu arall i'r drws chwyrnu yn fygythiol, ac o guro ar y drws, troes y chwyrnu yn gyfarth ffyrnig. Ond ef a ddaliodd i guro, ac wedi ysbaid ef a glybu lais menywaidd yn dywedyd, "Lie down, Juno," ac yn gofyn "Who's there?"

Yntau a eglurodd fod dyn dieithr wedi ei anafu yn dost ar yr heol yn uwch i fyny, ac a ddeisyfodd gael ei ddwyn i mewn.

"I've heard that tale before," ebe hithau. "Nothing doing."

Yna, fel pe o ail feddwl, ac yn llai angharedig, ebe hi drachefn:

"If he is really hurt, take him to the shanty by the paddock gate, and place him on the straw until daylight. That is all I can help you. Good boy, Juno."

Troes y Cymro yn ol i'r heol yn drist iawn ei feddwl, ac wedi ei ddyfod o hyd i'r shanty ef a gariodd y dieithryn meddw i'r lle gerfydd ei freichiau, ac a'i gosododd i orwedd ar y gwellt y soniasai'r ddynes am dano. Ac yno, heb ddim yn torri ar y distawrwydd mud ond rhwncian oerllyd y mwngloddiwr briw, y treuliodd Morgan y noson fyth—gofiadwy honno ar heol Ballarat; ac ni bu neb erioed a weddiodd am doriad gwawr yn fwy nag ef, a geisiodd wneuthur rhan Samaritan i'r truan yn ei ymyl a syrthiasai o ganol ei feddwdod ymron i safn Angau ei hun.

Nodiadau

[golygu]