Y Geilwad Bach/Ar y Ffordd i Drefforest
| ← Mynd i'r Offis | Y Geilwad Bach gan Lewis Davies, y Cymer |
Ar y Gamlas → |
PENNOD XIII,
AR Y FFORDD I DREFFOREST.
Yn ystod yr wythnosau nesaf anfonwyd Morgan amryw droeon ar negesau i'r Rhigos at oruchwyliwr y gwaith mwyn wrth odre Craig y Llyn, ac i Benderyn at "fishtir y cwar" wrth y Lamb, lle cloddid y cerrig calch at reidiau y ffwrnesi. Ond nid oedd iddo ddim yn newydd yn y siwrneiau hynny, am ei fod yn hollol gynefin â'r ddeule drwy ei fod wedi cneua a chwilio am nythod ynddynt ar lawer tymor.
Dechreuodd ef droedio gwlad ddieithr mewn gwirionedd pan ddanfonwyd ef y waith gyntaf ar neges at Mr. Henry Crosha yn Nhrefforest, hwnt i Bontypridd. Yr oedd yno yn Nyffryn Tâf, fel ag yr oedd ar y Waun ac yng Nghyfarthfa, ffwrnesi tawdd a weithid gan yr un perchenogion, ac a oedd yn brif gynhaliaeth y lle hwnnw yr un modd ag ydoedd ym Mlaenau Cynon a Morlais.
Bu y diwrnod hwn o'i fyned i Drefforest yn newydd yn ei hanes o ran peth arall hefyd, oblegid nid oedd ef i ddychwelyd hyd drannoeth, ac felly ef a gysgai oddicartref am y tro cyntaf yn ei fywyd. Yr oedd hyn yn ddwfn iawn ym meddwl ei fam, er na chyfeiriai hi nemor at y peth, rhagor na'i bod yn or—ofalus fod ei "ddillad isa" yn lân ac yn ddidwll.
Cyrhaeddodd ef bentre Aberdar yn brydlon, a heb ddigwyddiad o unrhyw fath, er bod calon y llanc yn ei wddf wrth ei fynd heibio i Bont Bryn Gwyn o enw drwg. Yn wir, nid yn ddiofn yr edrychasai ef at y twr brwyn yn ymyl y bont y bore hwn eto, er bod tramwy helaeth ar y pryd, ac amryw deithwyr ereill o fewn golwg. Yn wir, pe gwelsai ef y Gwyddel yn dangos ei wyneb hagr yno ar y funud o'i fyned ef heibio i'r lle, ni byddai hynny ond a redai drwy ei feddwl ar yr adeg. Wedi cerdded o Forgan heibio i Gae Maes-y-Dre unwaith yn rhagor, gan dynnu tuag Ynys Cynon yr ochr draw i'r cwm, ef a welodd am y tro cyntaf un o'r peiriannau rhyfedd hynny y clywsai ef gymaint sôn am danynt yn yr Offis, ac ymhlith y pydlers cyn hynny, ac a elwid ganddynt hwy yn locomotive.
Rhwng Aberpennar ac Aberaman y gweithiai y peiriant y tro hwn; ac er na chludai ef deithwyr eto, ef a symudai yn ol a blaen yn ol bwriad y gyrrwr, gan dynnu gyd âg ef nifer o wageni yr un pryd.
Nid oedd llinell y Taff Vale wedi ei hagor yn swyddogol yr amser hwn, ac felly parheid i ddefnyddio eto y gamlas i bob trafnidiaeth, fel ag y gwnaethid ers hanner canrif bellach. Ond yr oedd sôn drwy'r holl wlad am y peiriant rhyfeddol a oedd ar fedr dyfod i newid masnach yn gyfangwbl, a chof da gan Forgan am ymdrechion William Ellis i esbonio ei natur i gylch o bydlers ar egwyl neilltuol wrth y ffyrnau, ynghyd â'u sylwadau hynod hwy yn ei gylch.
"Dŵr a thân i gyd, fechgyn," ebe ef.
"Ond, y dyn dwl, lladd 'i gilydd a wnaiff y rheiny!" "Ie, ond byddant ar wahan, fechgyn—y dŵr mewn berwedydd, a'r tân odditano."
"Ac 'rwyt am i ni gretu y bydd peth felny yn symud ucian milltir yr awr? Bachan! fe fyddai hynny'n gynt nag a redodd Guto Nyth Bran yriôd."
"Bydd, wrth gwrs."
"Wel, dwêd di betha felny i dy famgu, 'nei di? A phaid a cheisio twyllo pydlers gonest, wa'th 'nei di ddim ohono â dy ffwlbri."
Am Forgan ei hunan, fodd bynnag, ar yr un dydd y gwelodd ef locomotive gyntaf y gwelodd ef hefyd gamlas gyntaf, a mawr oedd ei fwynhad o sylwi arnynt. Oni byddai iddo amser braf yn adrodd yr helynt i'w fam wedi ei ddychwelyd? Ac nid oedd pethau ond megis dechrau eto. Pwy a wyddai faint yn rhagor y byddai ef i'w gweled cyn cyrraedd Trefforest? Eglurwyd iddo, cyn cychwyn, ei fod i chwilio pen y gamlas wrth Ynyscynon, a'i fod i'w dilyn hyd ei huniad â chamlas fawr Merthyr, ger Aber Cynon, a dilyn honno drachefn hyd yn Nhrefforest.
Yr oedd ef eisoes wedi ennill pen y gamlas, ac wedi dilyn y llwybr hyd ei ochr am beth ffordd, pan welai ef ddau ful yn dilyn ei gilydd ar y llwybr yn dyfod i'w gyfarfod. Ar y gamlas, ychydig y tu ol iddynt, ond wedi ei sicrhau â rhaff wrth eu harnais, yr oedd cwch hirgul isel, yn llawn o fwyn haearn.
Wedi ei ddyfod hyd atynt, troes Morgan i'r naill ochr ychydig, a phan geisiodd ef ail—gychwyn i'w daith wedi eu myned hwy heibio iddo, yr oedd ef bellach ymron bod gyferbyn â'r cwch ei hun, a chyfarchwyd ef gan lais o ben ol y llestr yn dywedyd:
"Meindia'r rhaff, foy bach, os nag wyt ti am gâl dy ben off! Ac i ble wyt ti'n mynd, wn i?"
"I Drefforest, dros Mr. Crosha'r Waun."
"Wel, dim ond iti ddoti'r drôd ola 'mlaena, fe ddali di Dai Jib-boom with y Lock. Fe arbetiff hynny beth ar dy goesa di."
"Dai Jib-boom!" ebe'r llanc.
"Ie, ond galw di Jib arno—fe fydd hynny'n ddicon. Nawr, off â ti, a phaid cered rhwng y rhaffa yto, ne' wela i ddim ohonot ti byth ar ol hyn! Ti fyddi wedi boddi. Offâ ti, a gwêd ma' Wil Cwmbach d' alws di."