Y Geilwad Bach/Awr y Casto
| ← Cynnwys | Y Geilwad Bach gan Lewis Davies, y Cymer |
Oriau Amryw → |
"Y GEILWAD BACH."
PENNOD I.
AWR Y "CASTO."
NOSON oer, dywyll, yn Nhachwedd oedd hi, y glaw mân a fu'n disgyn gydol dydd wedi peidio, a'r niwl tew wedi cymryd ei le, gan gau y tywyllwch yn gynt am y pentre nag a fuasai heb ei len laith.
Y pentre hwnnw oedd y Waun Hir, ar y ffin rhwng Brycheiniog a Morgannwg, lle bu llawer meistr anturus gynt yn ceisio ennill ffortun iddo'i hun trwy gloddio'r haearn a "frigai" yn y mynyddoedd oddiamgylch, a'i ddwyn i lawr i làn Cynon i'w doddi yno. Llosgasid eisoes fforest fawr Llwydcoed gan y tadau er gwneuthur golosg yn aberth i'r ffwrnesi mawr a fynnai beunydd yr ymborth hwnnw i'w cylla tân.
A phan lwyddodd Anthony Bacon, y meistr mawr o Gyfarthfa, i wneuthur i ffwrdd â'r golosg, oblegid profi ohono fod y glo a enillai ef yn lefel fach Craig y Llyn yn troi y mŵn i well "haearn tawdd" nag a wnaethai'r coed, ef a fu'n gymwynaswr mawr i Ddeheudir Cymru, ac yn enwedig i'r Waun Hir, a ddibynnai bron yn gyfangwbl ar ei bedair ffwrnes ef.
Wedi i Bacon farw, bu i'r Waun amryw feistri eraill, a arhosodd yn yr hen le yn ol mesur yr arian a enillasant neu a gollasant. Ond yn 1819 wele deulu'r Crosha yn dyfod i'r llannerch, a hwy am ddeugain mlynedd oedd frenhinoedd y lle.
Ond brenhinoedd mewn gwirionedd oeddynt, sef rhai a oedd mor selog ym mudd eu deiliaid ag a oeddynt chwannog i chwyddo eu cyfoeth eu hunain. A phwy oedd y deiliaid hynny?
Welwch chwi hwynt?—ffeiners a gofiaid, rollermen, pydlers a forgemen wrth y ffwrnesi, mwnwyr a glowyr rhwng Craig y Llyn a Bwllfa Dâr, calchwyr ym Mhenderyn, gwŷr y patches ar y Rhigos, heblaw gwragedd a phlant, rhai cannoedd ohonynt ar y Waun a'r pentrefi o gylch, a'r cwbl yn derbyn eu bara a chaws oddiwrth y tunelli haearn a fyddid yn eu "casto" yn y tywod rhwng y ffwrnesi a'r afon.
"Cestid"—hynny yw, agorid y ffwrnesi i'r haearn tawdd lifo allan ddwywaith yn y dydd, sef am ddeg y bore a deg yr hwyr, ac nid oedd yr haul ei hun yn fwy prydlon ei ddyfod nag "awr y casto" wrth yr afon. Yn wir, gelwai rhai o'r hen frodorion a wyddai ryw beth am eu Beibl, y ddau amser "casto" hyn yn "gwmwl niwl" a "cholofn dân," oblegid pan frethid clai y dorau isaf â'r ffyn haearn hir, rhuthrai'r metel tawdd allan yn ffrydiau tân, gan oleuo'r holl ardal rhwng daear a nen. Ni raid wrth gannwyll i fynd i'w wely ar neb o'r ardalwyr yr awr honno, oblegid goleuid pob ffenestr ar y Waun gan y goelcerth o flaen y ffwrnesi. Ac o weld cymylau nef yn rhudd rhyngddo ag Aberdar, gwybu'r gwladwr ar ucheldiroedd Brycheiniog am awr y gollyngiad yr un modd.
O holl aelodau teulu'r Crosha, yr hynotaf ar lawer ystyr oedd Fransis, a elwid gan amlaf yn "Mr. Ffrank" neu "Sgweier Ffrank." Credai ef mewn byw yn agos at ei weithwyr, nid yn unig o ran man a lle, ond o wybod am eu trafferthion a'u llawenydd hefyd. Nid oedd ddim a allasai eu dolurio neu eu llwyddo hwy nag a oedd yntau'n gyfrannog ohono yr un modd. A phan ddaethai'r pla neu'r haint heibio i'r ardal, fel a ddigwyddasai fwy nag unwaith, gan beri i bawb a allai fyned ymaith i symud oddiyno, nid oedd neb dewrach yn gweini, cysuro, ac estyn cymorth na phreswylydd y Tŷ Mawr—y meistr a wrthodai adael ei bobl yn eu trueni. Mewn gair, gŵr o'r ddynoliaeth oreu oedd Sgweier Ffrank, yn curo cefn pobun a oedd onest ac wyneb-agored, ac yn cashau pob camwri a ffug.
O'i addysg foreol siaradai ef Saesneg rhagorol, ac ni bu ef hir mewn gofal o Waith Harn y Waun nag y dysgodd ef Gymraeg hefyd, oblegid nid yn unig yr oedd naw o bob deg o'i weithwyr yn Gymry uniaith, ond brodorion o'r ardal oedd pob swyddog wrth y ffwrnesi, a phob morwyn gyflog yn ei annedd, y Tŷ Mawr, yr un modd.
Ar y noson niwlog yn Nhachwedd, 1841, y soniasom eisoes am dani, aethai Mr. Ffrank i fyny i'r pentre, ac yr oedd ar fedr dychwelyd cyn "casto," ac yn cerdded yr heol dywyll a arweiniai i lawr heibio i Bistyll Penhow gyferbyn a'r gwaith, pan wasgarodd y fflam gyntaf ei phelydrau dros yr holl fro.
"Da iawn, Gwilym !" ebe'r meistr wrtho ei hunan, "ond munud o flaen dy amser heno. Gwell munud yn gynt nag yn ddiweddar, serch hynny."
"Hylo! pwy sy 'na?" ebe fe o glywed sŵn troed yng nghysgod y berth.
"Y fi, syr," ebe rhywun gwan mewn ateb, gan ddyfod allan i oleu'r "casto" yr un pryd.
"Ie, y fi, wrth gwrs. Fe all pawb w'eyd hynny. Ond pwy yw 'y fi'? A pha fusnes sy gan grwt o d'oed di fod mâs yma yr amser hyn o'r nos?" Hyn a ddywedodd ef yn llym, gan feddwl mai â llerciwr ifanc y siaradai.
"Morgan Shôn yw f'enw, syr, a mynd wy' i 'weyd wrth Gwilym y Ffwrnes fod ei blentyn bach yn wa'th."
"O, 'rwy'n gweld. Beth sydd ar y plentyn ?"
"Does neb yn gwpod, syr, ond mae e'n glawd iawn, ta beth."
"Gwell iti fynd ar unwaith felny, os nad oes ofan arnot ti."
"Ofan, syr! Dim shwd beth. 'Rwy' i mâs bob amser o'r nos."
"Beth wyt ti felly? Cwnstab?"
"Nage, syr." (Hyn gan chwerthin). "Gelwad, ac yn ennill coron bob wthnos "
"Syndod! Beth wnei di â'r holl arian hynny?"
"Wel, syr, gan'ch bod yn gofyn, rhoi nhw i mam.
'Dyw hitha' ddim yn hanner da 'i hunan. Ond rhaid i fi fynd, syr."
"Dyna'r ffordd, boy bach. At y fusnes mewn llaw o flaen dim. Dyma rwpath i ti a dy fam. A gwêd wrth Gwilym am ddod ata' i o dan y cloc gynted ag y gall e'."
"Diolch i chi, syr, fe wna."
Rhedodd y llanc dros y bont at y ffwrnes, a thybiai na bu erioed swllt gwynnach na'r un a welai ef yn disgleirio ar gledr ei law yng ngoleu'r "casto" y noson honno.
A chyn myned i'w gwelyau, yr oedd o leiaf ddau deulu ar y Waun yn diolch i Dduw am Mr. Ffrank, ac yn wynebu'r dyfodol yn ddewrach oherwydd cymeradwyaeth dyn da.