Y Geilwad Bach/Colli Hen Gyfaill
| ← Helynt y Faril | Y Geilwad Bach gan Lewis Davies, y Cymer |
Ysbeiliwr Cwm Smintan → |
PENNOD XVI.
COLLI HEN GYFAILL.
"MORGAN," ebe Mr. Ffrank wrth ei was tua thridiau ar ol helynt y faril, "cer lan at fishtir yr iard, a gwed wrtho mod i am weld William Ellis yn yr offis ymhen hanner awr!"
"Ma arna i ofan, syr, nad yw e' yno, ond fe âf i ofyn."
"Ffordd gwyddot ti nad yw e' yno?"
"Achos iddo alw yn'n tŷ ni echnos i roi gwdbei i fi a mam, syr."
"Yn y ffordd hynny 'dwy ddim gwell dy ala di i wilo am dano. Wyddot ti ble'r ath e'?"
"Na wn, syr, mwy na mynd nol i'w gartre yn y North odd i fwriad e'n gynta a mynd i Liverpool wetyn."
"Yr oech chi'n dipyn o gyfeillion felny?"
"Oem, wath rodd e'n ffond iawn o ddarllen. Ac fe ro'ws y Goldsmith yn bresent imi cyn mynd. Ac fe sgrifennodd hynny ar y clawr. A dyna sgrifennwr da, syr!
'Does neb yn yr offis a oedd a llaw debig iddo."
"O wel! beth pe baet ti'n dod a'r llyfr i'r offis fory i fi gâl i gweld hi?"
"Olreit, syr! Fe wna."
A thrannoeth, erbyn dyfod o Mr. Ffrank i'r offis am ei lythyrau, yno o'i flaen ar y ddesc oedd copi Morgan o Goldsmith's Animated Nature, ac o fewn y clawr mewn ysgrifen ddestlus dros ben y geiriau hyn:
To Master Morgan Jones, The Ironworks, Waun Hir, as a token of esteem, and a tangible wish for success to come.—William Ellis.
Syllodd Mr. Ffrank ar yr argraff yn hir, ac yna ef a alwodd ar Mr. Aubrey i weld y llawysgrif. "Rhagorol!" ebe hwnnw; "nid oes neb ohonom ni a all ddal cannwyll iddo!"
"Ie," ebe Mr. Ffrank ymhellach. "Rhaid bod hanes i'r gwr yna! A chyd â ein bod ond braidd wedi gweld y dyn, a gorfod teimlo oddiwrtho hefyd (hyn gyd â gwên) dyna ni yn ei golli!
"A ro'ws ef rwfath o gyfeiriad iti i sgrifennu ato, Morgan?"
"Dim o gwbwl, syr! wath 'dodd dim un ganddo i'w roi," ebe fe, "am na wyddai ef ei hun yn sicr i ba le yr ai ef o Liverpool. Ond fe addawodd ysgrifennu ataf pan fyddai ef wedi sefydlu ei hun yn rhywle. Dyna'r cwbwl y sy genny am dano!"
"Wel! os bydd iddo sgrifennu atat ti rywbryd, rho wybod i mi, nei di?"
"Gnaf, syr, pryd bynnag y clywaf oddiwrtho."
"A dyma un arall o'n gwithwyr ni sy wedi'n gatal,' ebe Mr. Aubrey, gan osod copi o'r Cambrian o flaen Mr. Ffrank.
Edrychodd y meistr ar y paragraff am funud, ac yna â thristwch yn ei lais, eb efe, "Dyw hyn ddim ond dangos mor hawdd y gall dyn da fynd yn wrong. Piti! Piti!"
Yn ddiweddarach yn y dydd gwelodd Morgan hefyd gopi o'r Cambrian, ac yr oedd ef ei hun mor drist a Mr. Ffrank am yr hysbysiad a oedd ynddo, canys hyn oedd ei gynnwys:
"We understand that the Rebecca Rioters have been lately reinforced by a number of kindred lawless spirits from the industrial parts of the Glamorgan and Monmouth Hills. It is freely rumoured that the well—known pugilist, Shoni Sgubor Fawr, is one of the band. The authorities are apprehensive of further outbreaks, but the miscreants will find that the measures to cope with their nocturnal depredations will be such as to counter any activity on their part."
Y noson honno bu hir ymgom rhwng Beti Shôn a'i mab ynghylch y ddau a ymadawsant â'r gwaith yn ddiweddar.
"Beth i chi'n feddwl, mam, oedd pwrpas Mr. Ffrank wrth ofyn am gyfeiriad William Ellis, a hwnnw ei hun wedi bod ar y blân ym musnes y faril?"
"Does genny' 'run esboniad arno," ebe hithau, "ond 'rwy'n siwr nad drwg i William Ellis oedd ei amcan. Un od yw Mr. Ffrank, ti'n gweld, a synnwn i ddim na byddai William âg ef yn ffrindia mawr er y cwbwl. Ond dyna fe wedi mynd, a braidd 'rwy'n cretu y mentriff e' byth yn ol mwyach. Dyna John Jones, Sgubor Fawr, wetyn, pwy isha oedd i hwnnw i fynd off? Chelsa fe well mishtir yn unman, 'rwy'n siwr. Ond ma nhw'n gweyd mai mynd a dod yw hanes John Jones eriod. Ma fel ta fe'n blino clywed yr un lleisha o'i gylch yn hir iawn. Ond 'rwy'n falch iddo wado'r Sais hynny wedi'r cwbwl, ta dim ond am i hen fost."
"Mam! mam! 'Rown i'n cretu mai cas beth genny chi oedd clwad am wmladd! A dyna chi'n canmol wmladdwr penna'r cwm!"
"Eitha reit, Morgan! Ond nid yw neb yn ddrwg i gyd, ac os o's rhai petha da yn John Jones, rhaid i gamol ef am dany' nhw."
Yna adroddwyd eto am y modd yr amddiffynnai yr ymladdwr mawr bob creadur mud, ac am yr ysgarmes ar ben y tip.
"Nath dim fwy o les yriod yn y gwaith na'r fatl hynny," ebe Morgan. "Wyddoch chi, mam, fod pob halier yn awr yn ofalus iawn o'i greatur, ac os bydd ambell un o hony' nhw yn dechre troi'n gas at ei geffyl, dim ond i rywun sôn am Shoni Sgubor Fawr, fe fydd y camdrin ar stop ar unwaith. Treni iddo joino'r Beca,
mam!"
"Ie, 'machgeni! A gobeitho y dotiff y nefodd yn i galon e' i ddod nol ac i aros yma!"
"Ie, wir, mam! Dyma fi'n mynd i'r gwely. Nos da."
"Nos da, Morgan."