Neidio i'r cynnwys

Y Geilwad Bach/Cyfraith y Wlad a Thrugaredd Beti

Oddi ar Wicidestun
Yr Offis a'r Aelwyd Y Geilwad Bach

gan Lewis Davies, y Cymer

Yr Ifanc yn Dyheu

PENNOD XX.
CYFRAITH Y WLAD A THRUGAREDD BETI

WYTHNOS galed iawn i Forgan oedd yr un ganlynol, oblegid er y carai na byddai i neb son am y lladrad, y pwnc hwnnw yn anad dim y mynnai pawb ei wneuthur yn brif destun.

Ef a ddechreuodd sylwi hefyd fod rhai o'i gydnabod yn newid y ffordd o'i annerch. Y "chi" parchus a gymerai le y "ti" cynefin gynt gan lawer, ac ambell un a godai hyd yn oed ar y "Mr.", sef y teitl a'i gosodai yn nosbarth uchaf yr Offis mewn gwirionedd. Y bobl, a oedd fyth am fod ar delerau da â'r dynion a oedd yn cyfrif, oedd y rhai a'i hanerchai â'r "Mr." gan mwyaf, ac ni allai Morgan lai na sylwi bod un o leiaf o'i gydglercod, a oedd yn bresennol pan ysgydwodd Mr. Ffrank ei law, ymhlith y dosbarth hwn. Atgas iawn oedd hynny gan y llanc, yn enwedig pan gofiai mai'r un dyn oedd barotaf gynt i'w "gadw yn ei le" (chwedl hwnnw), gan ei alw yn "youngster," "young lad," a phethau cyffelyb. Jim Wich, ar y llaw arall, er cymaint ei edmygedd o'r "boy bach giem," a barhai i'w annerch yn "Moc Bach," ac o'r gonestrwydd hwnnw gwisgai yr enw, rywfodd, fwy o anwyldeb nag erioed.

Ffurfiol iawn oedd y gweithrediadau o flaen yr Ustusiaid, ddydd Llun. Wedi tystiolaeth Mr. Rhydderch a Morgan am fanylion yr helynt, taflwyd yr achos, fel y disgwyliasai pawb, i'r Brawdlys a oedd i'w gynnal yng Nghaerdydd ymhen rhyw ddeufis. Yr oedd Mr. Ffrank a Mr. Aubrey hefyd yn ystafell yr Ustusiaid; ac wedi dibennu'r gweithrediadau yno,

aeth y meistr a'i dri swyddog allan i'r heol. Yr oedd Morgan ar fedr ymadael â hwynt er mwyn cael ychydig luniaeth mewn gwesty cyffredin, ond pan ganfu Mr. Ffrank hynny ef a gydiodd yn garedig ym mraich y llanc, ac heb un gair neilltuol dygodd ef gyd â'r lleill i'r "Boot," prif westy'r dre. Yno yr oedd byrbryd wedi ei baratoi i bedwar, ac yn yr holl ymgom nid oedd yr awgrym lleiaf o du'r meistr nad oeddynt oll yn gydradd wrth y bwrdd.

****** Y Llun wedi mynd heibio, a chynnwrf mawr y Waun wedi ei dreulio ei hun allan, aeth pethau yn raddol yn ol i'r hen rigolau drachefn, lle yr oedd cynhyrchu'r dunnell haearn dda ar y gost lleiaf posibl yn bennaf peth. Daethai Mr. Crosha, yr hynaf, o Gyfarthfa dros y mynydd i'r Waun yn fynychach nag yr arferasai, ac unwaith o leiaf daeth Mr. Henry hefyd i fyny o Drefforest yno i gyfarfod âg ef. Gosododd hyn ar unwaith y tafodau ar waith, a siglwyd llawer pen gan y rhai a fynnent eu cyfrif yn ddynion craff.

"Rwy'n gweyd o hyd nad yw'r gwaith ddim yn talu," ebe un yn ddoeth iawn, ac heb wybod ei hun ei fod yn hynny rai blynyddoedd o flaen ei amser.

"Hen betha' di-alw-am-danynt Mr. Ffrank yw yr achos," ebe un arall. "Pwy sens cwnnu'r tŵr yco ar ben y mynydd i fyw yndo, a'r "Tŷ Mawr" yma'n barod iddo."

Ond pell oedd y ddau oddiwrth y gwirionedd, a phan fynnodd Mr. Henry briodi Eliza Thomas, y ferch o "ben yr iard," er gwaethaf gŵg ei dad, yna yr oedd diben yr ymweliadau yn amlwg. Ac os bu rhamant

erioed, y ffaith hon yn sicr ydoedd hi, sef i fab "Brenin yr Haearn" weld rhinweddau y Ruth wylaidd hon, a mynnu glynu wrthi er gwaethaf popeth.

Yr oedd y Waun y misoedd hynny wedi profi mwy o gynhyrfoedd nag a brofasai mewn canrif o'i bywyd arferol, ac nid cynt ag yr aethai ias y "lladrad mawr" heibio nag y bu priodas Mr. Henry yn destun siarad pellach. Ond yr oedd eto un cynnwrf yn ol, oblegid ar neshâd dyddiad y Brawdlys yng Nghaerdydd, a'r pentref yn dechrau edrych ymlaen at fanylion ei "achos" neilltuol ef ei hun yn y llys didostur hwnnw, wele'r newydd allan fel tân mewn sofl fod Connelly wedi ei grogi ei hun yn ei gell, a thrwy hynny wedi osgoi cosb cyfraith ei wlad arno.

Cythryblus iawn ydoedd Morgan pan glywodd ef y newydd; ond eto, er bod ynddo ryw resyn am yr adyn, ysgafnach oedd ei feddwl o wybod na byddai i'w air ef osod penyd alltudiaeth yn rhan iddo.

"Cyflog pechod, 'machgen i," eb ei fam wrtho y noson honno. "Ac fe wyddai ein Gwaredwr am ein natur wan ni, wel di, wrth osod yn Ei weddi, 'Nac arwain ni i brofedigaeth.' 'Falla' na chreti di mo fi, Morgan, ond yr wy' wedi cisho gweddio dros Connelly 'm hunan, er y gwyddwn yr un pryd na fyddai dy fywyd bach di ddim yn ei olwg e' pe gwelsai e' di yn y plantation y d'wrnod hwnnw."

"Creta i, mam, yn rhwydd, wa'th dyna chi yriod yn helpu'r sawl sy ar lawr."

A phan aeth Beti Jones i'w gwely y noson honno tybiai na chawsai hi well compliment erioed na bod mab ei mynwes yn tystio bod ei fam o'r un natur â'r Hwn a weddiasai dros Ei elynion.

Nodiadau

[golygu]