Neidio i'r cynnwys

Y Geilwad Bach/Dai'r Cantwr

Oddi ar Wicidestun
Y Delyn Aur Y Geilwad Bach

gan Lewis Davies, y Cymer

Greg wedi Dyfod yn Ol

PENNOD XXXII.
DAI'R CANTWR.

NI chyfrifai Morgan na'r canwr y byddai'n foesgarwch i siarad a chymharu profiadau yn Gymraeg o flaen y cwmni cyfan, ac felly penderfynwyd y byddai i'r olaf fynd i chwilio am "Greg's Shanty" y prynhawn canlynol, pan fyddai iddynt ddigon o gyfleustra i siarad eu gwala am yr Hen Wlad a'r pethau annwyl ynglŷn â hi, ag oeddynt ill dau mor awyddus i glywed am danynt.

Daeth drannoeth yn ei amser, a'r canwr gyd âg ef, i gaban Greg.

"Eisteddwch, Mr. Davies," ebe Morgan wrtho. "Amheuthun yw clywed Cymraeg unrhyw amser, ond yn enwedig wedi bod wyth mis hebddo. Rhywfodd nid oedd un Cymro o gwbl ar fwrdd y Richborough, ac felly bu raid imi siarad Saesneg bob cam o'r ffordd. P'un oedd eich llong chi, Mr. Davies?"

"Doedd gennyfi ddim dewisiad o'm llong, gwaetha'r modd," ebe'r canwr yn drist. "oblegid gorfodaeth a ddaeth â mi yma. Yr o'wn i am weyd hynny wrthych chi gynta dim, yn lle 'mod i yma o dan un false pretence.

Walla 'ch bod wedi clwed am y Beca, rywbryd?"

"Y Beca? Do, greda i! Ac yr o'dd gan fy hen feistr i olwg fawr arnyn' nhw fel bechgyn o blwc, wa'th fe'i clywas e'n gweyd hynny lawer gwaith. Ac o ran hynny, fe fu Shoni Sgubor Fawr yn gweithio gyda ni ar Y Waun fwy nag unwaith."

"Pwy Waun o'dd honno?"

"Y Waun Hir yng nghwm 'Berdar."

Felly, Mr. Ffrancis Crosha o'dd y'ch mishtir?"

"Ie, a'r mishtir gora'n y byd o'dd e' hefyd! Ac onibai y fe, ni f'aswn i ddim yma o gwbwl i wilheua gyd â chi nawr."

Yna ef a adroddodd wrth y Cymro cerddorol am y modd caredig y gofalai Mr. Ffrank am ei fam tan y dychwelai ef.

"A chan 'ch bod yn 'napod Mr. Crosha," ebe fe ymhellach, "falla 'ch bod chi'n 'napod Shoni Sgubor Fawr 'ch hunan?"

Ni atebodd y canwr am ychydig, a phan edrychodd Morgan i'w wyneb drachefn, fel pe mewn ymholiad am y distawrwydd, ef a welai'r dagrau yn dechrau llanw ei lygaid a threiglo i waered dros ei ruddiau.

"Maddeuwch i mi," ebe Morgan, "os wy' wedi briwo'ch teimlada', Walla y'ch bod yn perthyn i Shoni. Ac os y'ch chi, yr ydych yn perthyn i un o'r bechgyn dewra' a gwnws Cymru 'riôd! Fe wn i am dano'n dda, a dyna'r pam 'rwy'n gallu gweyd."

"Na, nid perthynas, ond un a fu yn nês ato na llawer perthynas—wa'th y fi—y fi (y dagrau'n ffrydio allan o'r newydd, a bloesgni yn y llais) yw Dai'r Cantwr!"

Bu distawrwydd dyfnach fyth am eiliad; ond y foment nesaf cododd Morgan ar ei draed, a chan gydio yn llaw ei westai, ef a'i hysgydwodd am beth amser heb ynganiad gair o'r untu.

"Mae'n dda genny' gwrdd â chwi," ebe mab y Waun o'r diwedd, "wa'th fe glwas gymaint o sôn am danoch chi. Ac, wrth gwrs, y chi a wna'th y gân y mae pob Cymro yn ei gwpod." Ac fel i ddangos ei fod ef ymhlith y Cymry hynny, ebe fe:

"Drych i fyd wyf i fod; collais glod allaswn gael.
Tost yw'r nôd: dyrnod wael, i'w gafael ddaeth i mi.
I fy i'enctid drygfyd ddaeth; yn lle rhyddid, caethfyd maith
Chwanegwyd, er fy ngofid,
Alltud wyf, 'rwy'n eitha caeth.

"Ca'm danfon o fy ngwlad, tŷ fy nhad, er codiad tirion,
I blith y duon gôr, dros y môr o'm goror gron.
O! 'r fath ddrycin imi ddaeth, alltud hir, gyr hyn fi'n gaeth,
Dros ugain o flynyddau
Tost yw'r nôd—Cystudd maith."

"Fe gofiai mam y penillion i gyd, ac ar lawer tro y clywais hi yn eu hadrodd ar ei haelwyd. 'Chydig ŵyr hi heno fod ei mab yn whilheua gyda'u hawdur! Bydd raid imi hefyd ysgrifennu'n llawn at Mr. Ffrank am yr un peth. Ac fe fydd yn dangos fy llythyr i bawb, 'rwy'n siwr; ac 'rwyf mor siwr a hynny y byddai iddo roi lle da i Shoni pe bai ond wedi dod yn ol i'r Waun wedi ffusto'r 'Taunton Chick' slawer dydd. Ond dda'th e' ddim, a ma' llawer yn ffaelu a dyfalu hyd heddi' y rheswm am hynny. A welsoch chi e' wedi iddo ddod ma's?"

"Naddo, wa'th i Van Diemen's Land y ca's e' fynd; ond fe glwas am dano gan un a fu yno, a'i fod e'n batrwm i bawb o'i gylch, ac yn barod wastad i amddiffyn y gwan."

"Dyna'r rheswm. 'rwy'n cretu, iddo joino â'r Beca, wa'th 'roedden' nhw bron a bod ar lawr ar y pryd. Ac wetyn, wrth gwrs, ni chas e' ddim siawns i ddod 'nol i'r Waun at Mr. Crosha o gwbl. A dyna lwc 'ch bod chi'n canu'r hen 'Delyn Aur' nithwr pan o'wn i'n mynd hibo!" "Ie, ma' canu rhai o'r hen donau wedi bod yn gysur mawr i mi yn y wlad hon. A 'rwy'n cofio, fel pe bai y ddoe, am Rosser Beynon yn 'u dysgu i ni pan 'ro'wn i'n grotyn. Wn i yn y byd a yw yr hen Asaph byw nawr? Asaph Glan Taf 'roedd e'n galw'i hunan, chi'n gweld, a chantwr ardderchog o'dd e' he'd."

"O, y mae e' ym Merthyr o hyd, neu o leia' yr o'dd e' yno 'chydig bach cyn i fi ddod ma's yma, wa'th fe'i gwelas m'hunan yn un o'r troeon diwethaf y buo i yng Nghyfarthfa."

Yna bu ymgom hir ar wahanol bethau, ac eglurai y Cantwr mai newydd gael ei ryddid oedd ef y pryd hwnnw, ac mai dyfod i Ballarat a wnaethai ef er mwyn ennill digon o arian i fynd yn ol i'r Hen Wlad unwaith eto.

"Ond 'dw'i ddim yn gweyd y 'rhosa' i yno," ebe fe. "Ond ma' 'nghalon i 'mron torri o hira'th am ga'l gweld yr hen leoedd lle buo i'n chware gynt. Dim ond unwath, cofiwch, ac yna fe fydda i'n folon marw."

Fe welodd Morgan lawer ar Ddai'r Cantwr wedi y noswaith honno, ac, yn wir, bu cyfeillach lled helaeth rhwng y ddau; ond ychydig a feddyliai ef mai'r gwir a ddywedai Mab y Beca wrtho, am mai unwaith yn unig yr oedd i weld Cymru eto. Oblegid dywed hanes lleol iddo dreiglo yn hen ddyn penwyn i'r Bontfaen rywbryd, ac iddo letya yno am un noswaith yn unig, cyn ei fyned yn ol i Awstralia i farw.

Nodiadau

[golygu]