Neidio i'r cynnwys

Y Geilwad Bach/Ffair 'Berdar

Oddi ar Wicidestun
Ymgom yr Aelwyd Y Geilwad Bach

gan Lewis Davies, y Cymer

Hwyr y Ffair

PENNOD X.
FFAIR 'BERDAR.

MORGAN, yr o'et ti wedi meddwl mynd i Ffair 'Berdar, ond o'et ti?"

"O'wn, mam, unwaith; ond 'rwy' wedi newid 'y meddwl wetyn."

"Pam hynny, a thitha gymint am weld petha?"

"Fel hyn, mam. Achos bydd raid ala arian yno, a 'do's dim arian gyta fi i sbario. Fe ga i weld dicon o'r byd wedi i fi dyfu'n ddyn."

"Na, na, Morgan. 'Rwy' wedi bod yn meddwl llawer, 'machan i, weti i Mr. Ffrank fynd â thi i 'Stradfellte. Os o'dd e' am dy helpu i weld y byd, fe ddyla dy fam 'neud hynny'n siwr. Nawr 'dw'i ddim weti ala arian y cap mwslin, a fe elli di 'u câl nhw, wa'th d'arian di y'n nhw weti'r cwbwl."

"O mam! pidwch a—"

"Do's dim rhacor i 'weyd, Morgan. Os yw Mr. Ffrank am i ti fynd, rhaid mynd; a 'blaw hynny, 'rwy' i dipyn bach yn rhy ifanc i gâl cap felny ar hyn o bryd."

"Otych, mam, yn 'itha ifanc; ond―"

"Cer di i'r ffair, Morgan; a fe ddŵa i'n ifancach eto o dy weld di'n plesio Mr. Ffrank."

Fel hynny y bu rhwng Morgan a'i fam ynghylch ei fyned ef i Ffair Aberdar; a phan ddaeth y bore mawr hwnnw yn Ebrill, 184—, yr oedd y llanc yn gynnar ar yr heol, ac yn mynd gyd âg ugeiniau ereill am ddiwrnod i weld y rhyfeddodau a ddygid i'w hardal.

Brysiodd y pererin bach heibio i'r Comin a'r Gadlys, ac er dechrau o'i ddeuswllt gynhesu yng ngolwg y stondinau ginger-bread wrth yr hen eglwys, yr oedd y darn eto'n gyfan pan gyrhaeddwyd Cae Maes-y-Dre. Yno yr oedd cylch o bebyll un-nos, a'u cefnau ar y perthi, a'u hagoriadau tuag at dorf enfawr y maes, gyd â pherchennog pob un ar uchaf ei lais yn ceisio ennill cynulleidfa er dal eu ceiniogau o weld y pethau synfawr hwnt i'r trothwy. Yn gymorth i honiadau'r showmyn yr oedd hefyd uwchben pob pabell ddarluniau mewn lliwiau disglair a dystient fwy byth am ryfeddodau'r show. Tynnodd y rhai hyn lawer o sylw; ac wedi newid o Forgan ei ddarn arian wrth y stondin gnau, hawdd wedyn oedd talu am weld y ddynes dew, y neidr fawr, a'r merlyn trilliw a bigai allan o'r dorf y llanc a oedd fwyaf hoff o'i wely.

Ym mhen pellaf y maes yr oedd pabell y paffio, a phan gyrhaeddodd Morgan ati, yno yr oedd Sais cyhyrog yn cerdded yn ol a blaen ar hyd llwyfan bychan o flaen y drws, ac yn herio unrhyw Gymro bynnag i'w lorio ef yn yr ornest a oedd ar fedr cychwyn. Yn wir, parod oedd ef i fentro sofren nad oedd ar y maes y diwrnod hwnnw unrhyw "Welsh Nannigoat" na allai ef, yr heriwr, gael y trechaf arno o fewn pum munud. A oedd yno unrhyw un a gymerai y sialens i fyny? Nac oedd, wrth gwrs, neb!—a mawr oedd sen y Sais mewn canlyniad.

Yr oedd chwecheiniog o dâl am fynd i'r babell neilltuol hon, a theimlai Morgan nad allai ef fforddio ei thalu. Ac am hynny ef a wnaeth fel y gwnaethai llawer llanc tlawd arall, sef ceisio edrych am dwll i ysbio'r show drwy'r pared cynfas. I'r pwrpas hwnnw ef a aeth heibio i gongl y babell, gan chwilio'n ddyfal hyd nes ei ddyfod yn agos i'w chwr pellaf wrth y berth.

Yno yr oedd hollt bychan yn y cynfas, ac i'r perwyl o wneuthur yr hollt yn fwy, ef a wânodd ei fys iddo er mwyn lledu'r agen. Ond gwell a fyddai iddo beidio, oblegid y foment y gwthiodd ef ei fys i mewn rhoddwyd arno y fath ergyd fel y gwynegodd ei holl fraich. Parodd hynny iddo dynnu ei fys allan yn frysiog, ac i fwyhau ei boen ar y pryd, ef a glywsai rywun yn chwerthin y tu fewn i'r babell ar ei gyfer.

Arhosodd yn yr unfan, serch hynny, ac amlwg oddiwrth y swn a'r rhialtwch y tu fewn fod y babell yn llawn. Ymhen ychydig, fodd bynnag, daeth tawelwch sydyn, ac yn dilyn ef a glywai'r her eto eilwaith, a chyd â mwy o sen, os yn bosibl, na'r tro cyntaf. Ond cyn diweddu o'r Sais ei ail-adroddiad gweiddodd y dorf megis o un fryd: "Shoni." Yna am ysbaid bu cynnwrf gwyllt nes dyfod o'r amser i'r ddau ymladdwr wynebu ei gilydd, pan dawelodd popeth drachefn. Ond nid yn hollol dawel ychwaith, oblegid tybiai Morgan y gallai ef o'r tu allan glywed y dorf fawr yn cyd-anadlu yn ol ffawd y paffio fel y gogwyddai'r ornest i'r naill ochr i'r llall.

Bu chwant ar y bachgen fentro gosod ei fys yn yr hollt drachefn, ond cyn gallu gwneuthur ohono ef hynny, wele dwrw aruthr yn y rhan honno o'r babell a oedd nesaf ato—a'r eiliad nesaf ysgydwad chwyrn fel o dan ergyd pwysau mawr, y cynfas yn rhwygo, a'r Sais heriol wedi ei fwrw yn sypyn allan drwy bared y babell!

Neidiodd y llanc yn ol rywfaint o deimlo'r ysgydwad sydyn, a da iddo hynny; ond trwy y rhwyg yn y babell ef a welai yr ymladdwr arall yn y ring ar y llwyfan. Hwnnw a edrychai allan ar ol ei elyn gyd â thân yn melltennu o'i lygaid, a gŵg y Cymro dig yn ei drem; a chanfu Morgan nad oedd ef neb amgen na Shoni Sgubor Fawr, cyfaill y creadur mud gynt ar y Tip wrth yr hen weithdy.

Aeth y llanc yn ol i'r maes, lle yr oedd bellach y dorf enfawr yn dylifo allan o'r babell, a phobun ar ei uchelfannau oherwydd cwympo o'r Goliath newydd hwn a fynnai regi Cymru.

Yn ddiweddarach, pan oedd Morgan yn bwyta ychydig luniaeth wrth glwyd agoriad y maes, ef a ganfu dyrfa yn myned heibio iddo gan ddwyn ar eu hysgwyddau arwr y dydd i gyfeiriad y dre a'r tefyrn, ac yn eu plith, yn hoyw iawn eu miri, y Samwn Pinc, Jim Wich, Dai Mab ei Fam, ac ereill o ddewrion ffyrnau pydlo'r Waun.

Nodiadau

[golygu]