Neidio i'r cynnwys

Y Geilwad Bach/Helynt y Faril

Oddi ar Wicidestun
Ar y Gamlas Y Geilwad Bach

gan Lewis Davies, y Cymer

Colli Hen Gyfaill

PENNOD XV.
HELYNT Y FARIL.

BU Morgan droeon yn Nhrefforest cyn diwedd yr haf hwnnw ar negesau dros ei feistr, a mynych y cludasai ef bysgod Mellte, neu ieir cochion Gwaun Tincer, yn amheuthun i'r brawd a ofalai am y weithfa yno. Oherwydd y mynych deithio hyn, ef a adwaenid yn dda bellach gan yrrwyr y mulod, a phawb arall a oedd â'u galwedigaeth wrth y gamlas.

Ar ei ddychweliad o un o'r teithiau hyn y clybu ef gan ei fam "helynt y faril ar y ffwrnes," a ddigwyddasai ond y noson cynt, ac a oedd felly yn destun brwd yr holl bentre drannoeth.

Gwyddai pawb mai câs beth Mr. Ffrank oedd y gollwng i yfed cwrw i ormodedd a oedd mor gyffredin ymhlith pydlers yr amser hwnnw. Gwyddai ef yn dda am y syched mawr a gynhyrchai gweithio o flaen y ffyrnau ar ddyddiau tesog, ac nid oedd ef felly yn llym iawn ar y gwr a redai i lawr i Dafarn y Rhydiau am bum munud yn awr ac yn y man, er mai torri cyfraith y gwaith oedd hyd yn oed hynny. Ond y pechod anfaddeuol oedd dwyn y ddiod i'w yfed ar y gwaith ei hun, a mwy nag un pydler a orfu ymadael â'r Waun am ddarfod ei ddal yn y trosedd hwnnw.

Yr oedd Awst y flwyddyn honno yn neilltuol o desog, a'r syched gan hynny yn un parhaol. Ac oherwydd y gwres anarferol a gynhychai ffwrn yr haearn a ffwrn y nen ynghyd, rhyfygodd Jim Wich a Dai Mab ei Fam ddwyn i'r iard faril fechan o gwrw, gan ei chuddio'n ofalus ym mhentwr mawr y sinidr a oedd gerllaw. Fel y cyfaddefwyd ganddynt yn ol llaw, mentro ar ddyngarwch y meistr, a dadlau'r syched anarferol eu hunain, oedd a'u cymhellodd i'r ffolineb. Bwriadent hefyd gadw'r peth yn ddirgel, fel na byddai'r yfed ond i ryw ychydig yn unig.

Ond druan a'u helpo! Nid oeddynt ond braidd wedi derbyn pobun ei ddogn cyntaf cyn bod y peth yn wybyddus i bawb ar yr iard, a hyd yn oed i feistr yr iard ei hun. Hwnnw, o falais, a arhosodd y rhan helaethaf o'r prynhawn yn ymyl y faril fel pe o ddamwain, ac ofer wedyn cynnig o neb ei ddisychedu ei hun, pa mor boeth bynnag y teimlai ef.

Am bedwar o'r gloch daeth Mr. Ffrank heibio i'r fan, a daliodd meistr yr iard ar y cyfle i fynegi iddo'r cwbl, gan nodi allan ymguddfan y faril yn y sinidr yr un pryd.

"Gelwch nhw i gyd yma," ebe Mr. Ffrank yn ddigllon; ac wedi dyfod o'r pydlers yn un dorf at y crug sinidr, ebe fe wrthynt:

"Nawr, fechgyn, 'dwy' ddim am gosbi neb ond yr euog. Pwy a gariodd y faril yma i ben y gwaith?"

Dim ateb o unman! Yna ef a ofynnodd drachefn yr un peth—ond parhaodd y distawrwydd fel o'r blaen.

"Wel," ebe fe, "chi gewch weld ymhellach, Dafydd!" (hyn wrth y Samwn Pinc), "trolia'r faril yma at Ffwrnes No. 1!"

Hynna a fu, ac ni throdd Mr. Ffrank i edrych ar neb o'r cwmni euog wedi'r gair, ond fe a aeth gyd â meistr yr iard ar ol y troliwr.

"Dyma fi wedi colli'm cwrw a'm gwaith!" ebe Jim Wich. "Mae e'n mynd i daflu'r faril miwn i'r ffwrnes chi gewch weld!"

Ond nid felny y bu ychwaith, er ofni o Jim y gwaethaf am dynged y faril, oblegid daeth i feddwl Mr. Ffrank y dysgai ef wers i'r pydlers, na byddai iddynt ei hanghofio am dro. Ac i'r perwyl hynny ef a benderfynodd mai gwneuthur y pechaduriaid yn nôd gwawd a fyddai'r peth gorau. Felly, yn lle taflu'r cwrw i'r ffwrnes fawr, ef a fynnodd ddwy raff, ac wedi eu sicrhau'n ddiogel am y faril, gorchymynwyd gostwng honno i waered hanner y ffordd hyd wyneb y ffwrnes ac yno, yng ngwydd y cannoedd gweithwyr, hi a hongiai rhwng nef a daear, yn rhybudd i bob pechadur sychedig a fynnai dorri cyfraith gwaith.

Amser anhyfryd iawn a fu ran y pydlers weddill y dydd, oblegid pobun wrth fynd heibio iddynt a gyfeiriai mewn rhyw ffordd neu'i gilydd at y faril ar y mur. Yn wir, bu ysgarmes rhwng y Wich ac un o'r ffeiners, am i'r olaf ystumio codi llestr diod at ei fin ar ei ffordd adref. A hyd yn oed wedi mynd o'r gweithwyr ereill i'w tai, aethai'r plant a rhai o'r gwragedd allan i syllu ar y llestr y sonnid cymaint am dano ar yr aelwydydd.

Tybiai Mr. Ffrank ei fod wedi cael y trechaf ar y pydlers, ond ni bu erioed gamsyniad mwy; a'r gwr a droes y fantol o du'r yfwyr oedd neb llai na'r Northman, William Ellis, y pydler lleiaf ei syched ohonynt oll.

Wedi ei myned hi yn nos, ef a alwodd y pydlers at ei gilydd, ac wedi egluro iddynt fod modd yfed y cwrw heb symud y faril o'i lle, penderfynwyd yn unfrydol ei chynnig hi. Felly, wedi cael pib wydn, deneu, ef a'i gostyngodd ei hun i waered at y faril ar hyd y rhaffau a'i hongiai hi. Yna ef a sicrhaodd y bib wrthi yn y fath fodd fel y byddai i honno actio fel syphon; ac wedi ennill ohono ben y ffwrnes drachefn, ef a archodd i Dai Mab ei Fam sugno wrth y bib cyn gryfed ag y medrai.

Am foment, edrychai pethau fel methiant; ond wedi i Dai ddal i sugno am ennyd yn fwy, gwelwyd fod y sugnwr yn amneidio â'i law fod popeth yn iawn. Yna sugnwyd gan bawb yn ei dro nes gwacâu'r faril yn gyfangwbl, ac aeth pob pydler yn ol at ei waith ynghanol miri mawr. Trannoeth hongiai y faril fel y dydd cynt, ond gyd â'r gwahaniaeth fod y gwynt bellach yn ei hysgwyd yn fwy yn ol a blaen.

Dechreuwyd poeni'r pydleriaid y dydd hwn eto, ond i bob sen yr oedd yn awr grechwen yn ateb, ac i bob winc direidus, winc direidus yn ol. Cyn canol dydd gwyddai'r holl weithwyr am y modd y dymchwelwyd y byrddau, a bernid yn gyffredinol fod yr ystranc glyfar yn haeddu maddeuant.

A maddeu a wnaethpwyd, oblegid er i Mr. Ffrank ffrwydro allan mewn digofaint am ennyd pan glywodd am fuddugoliaeth y pydlers, ef yn y diwedd a chwarddodd cystal â neb. A phan ddeallwyd, cyn pen yr wythnos, fod Jim Wich a Dai Mab ei Fam i gadw eu gwaith, penderfynodd y pydlers, heb un cymhelliad namyn o barch teg eu hunain i ddymuniadau Mr. Ffrank, nad oedd neb ohonynt i ddwyn i'r gwaith mwy ddim a oedd gryfach na "dŵr a blawd ceirch." A'r pydler a oedd amlycaf yn y penderfyniad hwn a'r mwyaf ei sêl yn mynnu ei gadw, oedd y Samwn Pincy gwr y maddeuwyd ei drosedd ef ei hun rai misoedd cyn hynny.

Nodiadau

[golygu]