Neidio i'r cynnwys

Y Geilwad Bach/Hiraeth am Gymru

Oddi ar Wicidestun
Trannoeth y Drin Y Geilwad Bach

gan Lewis Davies, y Cymer

Paratoi i Ddychwelyd

PENNOD XXXVI.
HIRAETH AM GYMRU.

EDRYCHID ar Morgan erbyn hyn fel un o ffodusion y cloddfeydd, ac er na roes yr Old Pit logellaid mawr o aur ar yr untro, eto digon oedd ei gynnyrch wythnosol nid yn unig i gynnal ei berchennog ynghanol prisoedd uchel y diggings, ond i ychwanegu hyd at swm sylweddol yr arian yng ngofal Mr. Parkinson yn yr Australian Bank yn ogystal. Mwy na hynny, gwella yr oedd yr argoelion po bellaf ymlaen y cloddid; a chan i Forgan hurio ambell fwnwr anffodus i'w gynorthwyo ef yn awr ac yn y man, buan yr aeth y sôn am gyfoeth ei bwll ef drwy yr holl ardal.

Ond er hyn oll, nid hapus oedd y Cymro, ac am hynny ni chynlluniai ef ymhell ymlaen er dim. Yr oedd amryw o resymau i beri yr ansefydlogrwydd yn ei feddwl, ac i'w atal i gymryd ato gydymaith yn lle Greg. Un o'r rheiny oedd cysylltiadau Greg ei hun, am na wyddai Morgan pwy ar glawr daear a fyddai'n hawlio'r arian ar enw y Gwyddel yn y Banc. Ef a deimlai o byddai i berthynas teilwng ddyfod ymlaen, mai dim ond gweddaidd a fyddai arno ef i gydweithredu â'r cyfryw, pe ond o barch i hen berchennog y lle.

Wedi dydd yr angladd, ef a chwiliasai'n fanwl drwy y shanty er gweld a oedd yn rhai o goffrau Greg ewyllys, neu rywbeth arall, a fyddai'n taflu goleuni ar haniad ei ddiweddar gydymaith. Ond er chwilio ymhob congl, a throi dalennau amryw o lyfrau (oblegid hoff o ryw fath ar lyfr yr oedd Greg fyth), ni ddaeth dim i'r golwg a fyddai o unrhyw gymorth.

Ond o chwilio yn y modd hwn, tarawodd Morgan ar rywbeth arall a roes iddo fraw mawr ar y pryd, ac a barhaodd yn destun i synnu a dyfalu am dano hyd ddiwedd oes. Llyfryn bychan ydoedd hwnnw, a'i gynhwysiad gan mwyaf yn emynau Lladin i'w defnyddio yn y gwasanaeth Pabyddol. Ond y tu fewn i'w glawr yr oedd yr argraff ganlynol:

"Gregory Macdonnell. Presented to me on my 15th birthday by my cousin Dennis Connelly, June 30th, 1830."

Dennis Connelly! Dyna enw lleidr Cwm Smintan gynt, a ymgrogodd yng ngharchar Caerdydd. Tybed ai ef oedd y cefnder hwn? A'r mwyaf i gyd y pendronnai Morgan uwch y ffaith, y mwyaf i gyd i'w feddwl cynhyrfus ef oedd tebygrwydd gwirionedd ei ddamcaniaeth. O'r un grefydd, o'r un genedl, ie, a hyd yn oed yr un oedran, os cyfoed oedd ef i Greg ei hun. Ac os cywir y gosodiad, beth oedd a rwystrai fab, neu berthynas arall, i Dennis Connelly i ymddangos unrhyw ddydd yn y shanty a chynnig cadw yr hen gysylltiad yn y blaen.

Cydweithio a chydletya a rhywun o'r un gwaed â Dennis Connelly! Na! nid byth! Ac er i'r atgof am garedigrwydd yr hen Greg ei gyhuddo cyn gynted ag y teimlasai ef yr atgasrwydd yn ei galon, eto parhau i lechu yno yr oedd yr atgasedd fyth. Am yr wythnos gyntaf wedi darllen ohono argraff gyffrous y llyfryn bach, hwnnw a'i bosibliadau anhyfryd oedd yn ei feddwl beunydd. Cedwai y llyfryn yn ei logell yn barhaus, a degau o weithiau yn ystod y dydd y tynnai ef allan i weld a oedd rhyw awgrym newydd yn y geiriau, arall na'u hystyr syml yn y dechreu.

A chyn dyfod o'r wythnos i ben yr oedd ef wedi penderfynu ymadael â Ballarat, neu, o leiaf, gwerthu yr Old Pit, a chychwyn cloddfa arall cyn gynted ag y byddai modd. Ac am iddo un dydd hanner awgrymu wrth un o'i gydfwnwyr fod chwant arno weld rhagor o Awstralia, bu hynny'n ddigon i beri cynnyg iddo bryniant ar yr Old Pit gan gryn bedwar person o fewn cynifer a hynny o ddyddiau. Ond er bod ei feddwl yn llawn o gynlluniau am ei ddyfodol ei hun, amharod oedd ef eto i eistedd i lawr i daro bargen am y gloddfa a fuasai mor garedig wrtho ef a'i amgylchiadau.

A'r mwyaf i gyd y cedwai ef y prynwyr draw, y mwyaf i gyd oedd eu haidd hwythau am sicrhau y clawdd a brofasai mor gyson a difwlch ei gynnyrch; ac er nad o fwriad sefyll allan am uwch pris yr oedd yr hiriant hwn, eto yr un oedd yr effaith ar y sawl a chwenychai bwrcasu'r lle.

A'r hyn a ddug y petruster i ben yn y diwedd oedd rywbeth, nid a berthynai i Awstralia na Ballarat o gwbl, ond un frawddeg a ddaethai i Forgan o'i hen gartref. Mewn llythyr oddiwrth Mr. Ffrank yr oedd honno, ac am ei fam y traethai, canys dyma oedd hi: "I am sorry to find that your mother does not seem to pick up well after her illness of the winter. And no wonder, because her heart is away in distant Australia."

"Illness of the winter!" Ni chlybu Morgan gymaint a sôn ganddi hi ei hun am ei hafiechyd, namyn "colds and headaches." Oddiwrth eiriau Mr. Ffrank amlwg mai "heartache" am ei hunig fab oedd arni fwyaf.

"Mi a werthaf yr Old Pit a phopeth arall sydd ar fy enw yn Awstralia," ebe Morgan, "ac âf yn ol ati'n gwmws. Be' well wy' i o aros yma'n mhellach er casglu 'chytig racor o arian, a cholli mam fach cyn ei bod hi yn cael un mwynhad oddiwrthy' nhw? Gwnaf, fe âf yn ol ar unwaith!"

Ac, yn hynod iawn, y diwrnod y daeth ef i'r penderfyniad, wele'r ddau fwnwr a oedd â'r claim nesaf ato ef ar ochr oreu'r gloddfa, yn galw heibio iddo, a wedi siarad hyn a'r llall, yn cynnig iddo dair mil o bunnau am yr Old Pit fel yr oedd yn sefyll. Llamai calon Morgan yn ei fynwes ar y cynnig; ond rhag ofn ymddangos yn rhy frysiog, ef a gymerai arno ar y foment i droi'r mater yn ei feddwl, er y gwyddai yn dda mai derbyn oedd i fod. "Kindly call back in an hour's time," ebe fe, "and then I shall give you a definite answer."

Daeth yr awr i ben, a'r answer hefyd yr un modd, ac wedi cyd—eistedd am ysbaid yn ychwaneg, tarawyd y fargen a siglwyd dwylo uwch ei phen.

"As the Bank is still open," ebe un o'r ddau a ymddangosai fel pe'n ofni y tynnai Morgan yn ol, "suppose we ask Mr. Parkinson himself to act as witness, and the money can be transferred at the same time."

Hynny a wnaed, a'r noswaith honno, cyn mynd yn ol i'w gaban drachefn, yr oedd y Cymro, rhwng popeth, yn werth agos i bum mil o bunnau.

Nodiadau

[golygu]