Neidio i'r cynnwys

Y Geilwad Bach/Mynd i'r Offis

Oddi ar Wicidestun
Hwyr y Ffair Y Geilwad Bach

gan Lewis Davies, y Cymer

Ar y Ffordd i Drefforest

PENNOD XII.
MYND I'R OFFIS.

TRANNOETH y ffair yr oedd nifer mawr o weithwyr y Waun heb ddyfod i'r gwaith o gwbl, a chynifer â hynny yn hwyr yn dyfod ato. Ond yr oedd un, o leiaf, wrth yr Offis gyd â bod y cloc mawr yn taro nawawr arferol Mr. Ffrank o fyned i mewn i dderbyn ei lythyrau a oedd barotach i weithio y diwrnod hwnnw nag a fuasai erioed yn ei fywyd.

"Hylo! Morgan. Yr wyt wedi dod. Beth yw dy ateb di?"

"Derbyn y cynnig, syr."

"Dyna fel y meddyliwn y gwnaet ti. Dere i mewn i'r Offis."

Aeth y llanc i mewn i'r ystafell, ac yno y trefnwyd popeth ynglŷn â'r gwaith newydd.

"Yr wyt i fod, y rhan fwyaf o dy amser, gyd â Mr. Aubrey yn yr Offis, ac yn gwneuthur popeth a ofyn ef iti. Ond ambell waith bydd iti fynd ar negesau i mirai prydiau i'r lan i'r Rhigos a Phenderyn, a phrydiau ereill i Gyfarthfa a Threfforest. Wrth gwrs, 'rwy'n cretu dy fod ti yn fachan o drust ym mhopeth, a dyna'r rheswm yr wyt yma o gwbwl."

"Fe wetodd 'y mam 'ch bod wedi gweyd hynny, syr, yn y tŷ y ddoe. Fe 'naf fy ngora'n wastad, syr." "Olreit, Morgan. Cer at Mr. Aubrey nawr, i ti gâl dechra' dy waith. Ond hanner moment, cyn bo ti'n mynd ato. Shwd le gêst ti yn y ffair?"

"Dicon diflas, syr. 'Doedd yno ddim hanner y petha' yr o'dd y darlunia' yn eu dangos. Fe ddetho i'n ol yn gynnar oddiyno.'

"Wela'st ti 'mo Shoni Sgubor Fawr felny?"

"Do, syr, yn eitha' plaen, er nad o'wn i yn y salŵn pan wadodd e'r Sais."

Yna adroddodd Morgan yr hanes am dano ei hun yn sbio drwy hollt y cynfas, a'r ddihangfa a gafodd rhag cwympo o'r paffiwr ar ei draws. Chwarddodd Mr. Ffrank yn fawr am hyn, ac yn fwy am gwymp y Goliath. "Fe glwas fod yno le trwsgl," ebe fe, "a bod rhai o'n pydlers ni yn ei chanol hi."

"Eitha gwir, syr. Fe'u gwelas nhw. 'Roo'n nhw bron bob un yno ond William Ellis."

"William Ellis! Pwy yw hwnnw?"

"Y pydler ma' rhai yn ei alw yn Wil Northman. 'Doedd e' ddim yno."

"Ffordd gwyddost ti hynny?"

"Am ei fod wedi galw am dana' i yn 'n tŷ ni y ddoe, a dod â llyfr Goldsmith i fi pan o'wn yn y ffair."

"Mae ynta' fel'ny yn ffond o lyfra' fel titha." "Oti, syr, a sglaig da yw e' he'd. Fe sy'n 'sgrifennu pob llythyr i'r pydlers, a ma' rhai yn gweyd ma' 'ffeirad o'dd e' ar y cynta', ac iddo golli 'i le trw' yfed. Ond dyn piwr yw e' ta beth, a gwithwr piwr he'd. Dyma fi'n mynd at Mr. Aubrey, syr."

Yn y modd hwn y newidiwyd Moc Bach y Geilwad i fod yn Morgan Jones, Clerc yn yr Offis; ac yn lle bod allan bob amser o'r nos yn ennill ei fywioliaeth ar geiniogau'r gweithwyr, yn aelod o staff y gwaith, ac yn mynd i'w orchwyl ac yn dyfod oddiyno ar oriau penodol.

Gwelodd ef lawer o bethau y diwrnod cyntaf hwnnw yn yr Offis, nad oedd ganddo yr un dychymyg am danynt cyn hynny; ond yr hyn a'i synnodd fwyaf oedd y cyfrif manwl a oedd yno am bob tunnell o lô a mwyn a gloddid, y cerrig calch a chwarelid, a'r haearn a doddid ac a drinid. Ail-ysgrifennu cyfrifon a oedd wedi eu hystyried yn flaenorol oedd y rhan fwyaf o'i waith ef yn ei dymor cyntaf, ac am hynny ni allai ef lai na gweld y manylion y soniasom.

"Mae Mr. Ffrank yn dweyd dy fod yn gallu dal dy dafod," ebe Mr. Aubrey wrtho y diwrnod cyntaf. "Dyna ddechrau clerc da yn wastad," ebe fe ymhellach, "ac nid yw Mr. Ffrank wedi gwneuthur camsyniad yn ei ddyn hyd yn hyn. Ac mae ganddo ffydd fawr yndo ti."

"Diolch yn fawr i chi, syr, ac i Mr. Ffrank. 'Rwy'n cretu y galla' ddal 'y nhafod, ta beth arall wetir am dana' i."

"Eitha da. Copia di y rhain mâs fel y gwnêst â'r rhai cynta.

Rhestr o'r pydleriaid a'u henillion oedd y rhestr newydd i'w chopio, a gwenai'r llanc o weld fod y llysenwau wedi dyfod i mewn i'r Offis hyd yn oed. Ar ben y rhestr yr oedd:

David Jones, alias "Samwn Pinc"—5 days, 10/10. David Jones, alias "Mab ei Fam"—4 days, 8/8. James Jones, alias "Wich"—4 days, 8/8. ac o hynny ymlaen gyd â symiau mwy neu lai i'r diwedd. Aeth y diwrnod cyntaf heibio yn gyflym iawn i Morgan, oblegid yr oedd popeth yn yr Offis mor newydd a diddorol iddo. Pan aeth ef adref at ei fam am hanner-awr-wedi-pump, yr oedd hyhi wedi paratoi iddo bryd o fwyd a oedd rywfaint yn well ac yn fwy amrywiol nag arfer. Ni ddihangodd hynny mo sylw ei mab—, ac o weld ei gofal a'i chariad ymarferol hwn, ef a benderfynodd yn ei feddwl y rhoddai ef iddi hithau rai pethau er ei mwynhad y bu raid bod hebddynt hyd yn hyn.

Yr hwyr hwnnw bu iddo amheuthun o nodwedd arall yn ogystal, oblegid ef a aeth am dro i rodio heibio i'r Pownd Mawr, ac i'w fwynhau ei hun wrth weld rhai o'r pentrefwyr yn pysgota, a nifer o'i gyd-swyddogion o'r Offis yn ymarfer rhwyfo yng nghwch Mr. Ffrank. Dyma'r amser yr arferasai ef, cyn y diwrnod hwnnw, gysgu er mwyn bod yn effro fel geilwad yn oriau'r nos.

Nid oedd neb a gydrodiai âg ef yr hwyr hwn, ond cyfarchwyd ef o'r cwch gan un o'r rhwyfwyr, ac yr oedd hyd yn oed y ffaith o'i gyfarch ganddynt yn godiad iddo yn ei feddwl ei hun. Ar y ffordd adref daeth yn ol i'w feddwl ddigwyddiadau'r ffair y diwrnod cynt—y grechwen fawr gan y dorf, twrw uchel y showmyn, sen y Goliath a loriwyd, a golwg ddig Shoni Sgubor Fawr am amharchu ei genedl. Cofiodd hefyd am ei ludded ar y ffordd adref, ac am ei ofn mawr o gyfarfod â Dennis Connelly wrth Bont Bryngwyn.

"Paham y mae clywed llais y dyn hwnnw yn rhoi'r fath ofan i fi?" ebe fe wrtho ei hun. "A shwd lais! 'Rwy'n cretu y 'nabyddwn i e' ma's o leisie'r byd yn gyfan. Ych y fi!"

Yna daeth yn ol i'w feddwl bethau hyfrytach am William Ellis yn rhoddi benthyg Goldsmith iddo, ac am Mr. Ffrank yr un diwrnod yn dangos ffydd ynddo, ac ar yr un pryd yn rhoddi iddo'r cyfle cyntaf yn ei fywyd i fod yn rhywbeth mewn gwirionedd.

""Bachan o drust—dyna beth wetws e' wrth mam ac wrtho i. Fe ddangosa' inna' 'y mod i'n fachan o drust he'd."

Erbyn hyn yr oedd wrth ddrws y bwthyn, ac ef a aeth i mewn dros y trothwy gan deimlo bod ei ffawd newydd yn golygu hefyd waith ac ymroad o'i du yntau.

Nodiadau

[golygu]