Y Geilwad Bach/Mynd i Ystradfellte
| ← Arfaethu Gweld y Byd | Y Geilwad Bach gan Lewis Davies, y Cymer |
Y Porth Mawr → |
PENNOD VI.
MYND I YSTRADFELLTE.
DYDD Gwener pen yr wythnos, a'r geilwad yn mynd eto oddiamgylch y weithfa, cyfarfu Mr. Ffrank âg efe wrth y forge.
"Ystradfellte bore 'fory, Morgan! Bydd o dan gloc mawr yr offis am naw, ac fe awn gyd â'n gilydd."
"Olreit, syr, fe fyddaf yno mewn pryd."
A phan ddaeth y bore pwysig hwnnw tywynnai haul y gwanwyn ar fwthyn Beti Shôn gan roddi adliw newydd ar bob blodeuyn cynnar o gylch y tŷ. Nid llai hefyd yr heulwen ar yr aelwyd, lle yr oedd Morgan a'i fam yn cyfranogi o'u brecwast syml arferol. Codasai'r llanc heb ei alw y dydd mawr hwn, ac yr oedd yn barod i'r daith gryn awr o flaen yr amser.
"Cofia di fod ar dy oreu heddi, Morgan," ebe'r fam, "a phaid â bod yn rhy ewn mewn dim. Ond os gofyn neb o'r gwŷr mawr rwpath genti, g'na fe ar unwaith, a threia bido â bod yn lletwith mewn dim."
"Mam!" ebe'r gwr profiadol un-ar-ddeg oed. "Nid babi wy' i nawr, cofiwch! Ond fe wna fel y'ch chi'n gweyd. Dyma fi 'n mynd."
O'i ddyfod i olwg cloc mawr yr offis, credai Morgan na welsai ei wyneb mor hawddgar erioed. Yn wir, llon a hawddgar oedd popeth iddo ef ar fore'r anturiaeth fawr. Nid oedd ef ond wedi newydd gyrraedd yr ysgwâr o flaen yr offis pan ddaeth un o ostleriaid y gwaith yn arwain "ceffyl a thrap" i'r unfan, ac ymhen munud neu ddau yn rhagor daeth Mr. Ffrank ei hun i lawr y grisiau ac allan o'r swyddfa. Gyd âg ef yr oedd boneddwr arall a adnabu Morgan fel goruchwyliwr y "cwar cerrig calch" ym Mhenderyn.
Wedi i'r ddau ddyn ddringo i'r trap, ac edrych o'r meistr o dan sedd y cefn, ef a roes amnaid i Forgan i neidio i fyny i honno. Aeth yr ostler yn ei ol, a chwap! yr oedd y cwmni yn croesi'r afon ar gyfer Penhow, a ffwrdd â hwy i heol Penderyn ac Ystradfellte. Teimlai Morgan ei fod yn rhywun mewn gwirionedd y bore hwnnw, a llawer o lygadu a fu ar ei ol o fyned o'r trap drwy ran uchaf y Waun.
Siaradai'r ddau foneddwr ar ryw bwnc ynglŷn â'r Cwar—sef Cwar Crosha ym Mhenderyn,—a berthynai hefyd i'r weithfa ar y Waun. Nemor sylw a roddai'r llanc i'r siarad wrth fyned o'r tri heibio i Lety Rhys, Y Trebanogydd, Llygad Cynon a Phomprenllwyd, oblegid cofiai am air ei fam am beidio a bod yn "rhy ewn". Heblaw hynny, yr oedd gweld y meysydd a'r perthi yn y dillad newydd a roes y gwanwyn iddynt wedi ennill ei fryd yn lân; a thra'r oedd boneddwyr y sedd flaenaf yn penderfynu rhyw bwnc ynglŷn â'r Cwar, penderfynai boneddwr y sedd olaf na byddai ef lawer yn henach cyn dwyn ei fam allan i rodio'r ffyrdd a oedd mor ddenol ac addurnol eu gwedd rhwng y Waun a Phenderyn.
Wrth y Bont Blanca', ychydig yn is na Chwar Crosha, disgynnodd y goruchwyliwr o'r erbyd, ac wedi ychydig o siarad pellach oddiar y llawr, ef a ysgydwodd law â Mr. Ffrank ac a droes i gyrchu y Cwar.
Wedi ei fyned ef ymaith dechreuodd y meistr siarad â'r llanc, ac i'r perwyl o wneuthur hynny ef a eisteddodd am ychydig ar ei letgroes ar y sedd flaen; ond wedi gyrru ohonynt heibio i'r "Lamb," a dyfod at y Glwyd Tyrpig uchaf, ef a ataliodd y cerbyd am foment, ac a archodd i Forgan neidio dros gefn y seddau fel ag i eistedd wrth ei ochr ef. Oddiyno ymlaen yr oedd y Sgweier yn siaradus iawn âg ef, a soniai wrth y llanc am bopeth o ddiddordeb ar hyd y daith.
"Weli di'r graig yco?" ebe fe wedi eu myned heibio i'r Pantgarw. "Y Bryncul yw ei henw, ac y mae afon Hepsta ymron yn ei chylchu a'i gwneuthur yn ynys. Yr ochr draw iddi y mae Sgwd-yr-Eirw, lle mae'r afon yn cwympo dros y graig i lyn mawr. A dyna be' sy'n od—mae'r graig yn taflu'r dŵr gymint mâs dros y dibyn fel y gellir cer'ed o dan y bwa o un ochr i'r llall heb 'lychu o gwbwl! 'Rwy' i wedi 'neud 'n hunan lawer gwaith. Ond allwn ni ddim mynd at y Sgwd heddi, wa'th lle câs iawn sy yno."
Yna wedi eu dyfod at Bont Hepsta, ef a ofynnodd i'r llanc:
"Welast ti afon heb ddŵr yriôd?"
"Naddo, syr; 'does un i gâl."
"Aros di funud, a thi gei ei gweld hi cyn mynd mâs o'r cwm bach hwn."
Yna ef a esboniodd fod daear Hepsta ac Ystradfellte ym Maes y Garreg Galch, a bod agennau ac ogofäu bychain a mawrion yn tyllu'r holl ardal.
"Nawr, ma' Hepsta yn rhytag ar y wyneb lan at Bont y Gatar, ac yn dod mâs o dan Craig Bryncul; ond nid yw'n rhytag dan y bont ond pan bo llif mawr ynddi, a'r tylla yn ffaelu derbyn y dŵr i gyd. Ma'r un peth ym Mellte hefyd, fel y cei di weld."
A'r gwir a ddywedasai, oblegid pan ddaethant at Bont Hepsta nid oedd yno ddafn o ddwfr, er bod y gwely yn llawn o gerrig llyfn fel gwely pob afon arall.
Yna dringodd y cerbyd riw fawr, ac wedi cyrraedd ei chopa a dyfod i olwg y Bannau, credai Morgan na welsai harddach golygfa erioed, oblegid o'r dwyrain uwchben y Fenni (fel y'i hysbyswyd gan Mr. Ffrank), i Fynydd Du Shir Gâr yn y gorllewin, yr oedd cadwyn o wyth neu naw mynydd fel mur mawr rhyngddynt a'r gogledd.
Arhosodd y cerbyd am beth amser ar ben y rhiw. i'r ceffyl gael ei anadl; a phan oedd Morgan yn disgwyl i Mr. Ffrank adrodd rhywbeth wrtho am y mynyddoedd heirdd fel ag a wnaethai am Hepsta a Sgwd-yr-Eirw, synnwyd ef gan gwestiwn diberthynas â'r olygfa:
"Morgan, yr wyt yn mynd i'r Ysgol Sul, mi wn. A ydyn' nhw yno yn son rhwpath wrthot ti am Dduw?" "Otyn, syr, ac am Moses, a Joseph, a Daniel he'd." "Tebig iawn; ond," ebe fe yn wylaidd iawn, gan droi ei fraich i gyfeiriad y mynyddoedd, "dyco'r rhai sy'n dweyd mwya' wrtho i am Dduw. Fe awn ymlaen yn awr.' Q Ac o'r man hwnnw i ben Waun Cwm Porth, lle yr oedd pentre Ystradfellte yn y golwg, ni ddywedodd ef air yn ychwaneg.