Neidio i'r cynnwys

Y Geilwad Bach/Oriau Amryw

Oddi ar Wicidestun
Awr y Casto Y Geilwad Bach

gan Lewis Davies, y Cymer

O Flaen y Meistr

PENNOD II.
ORIAU AMRYW.

BORE Gwener yn yr un wythnos ag y rhoddesid y swllt gwerthfawr i'w mab, aeth Beti Shôn at fôn y grisiau yn ei chegin, gan weiddi:

"Morgan, cwn! Mae bron a bod yn ddeg o'r gloch!"

Bwthyn bychan iawn oedd ei hannedd—un ystafell i lawr, ac un i fyny, fel llawer eraill o dai gweithwyr ar Y Waun y pryd hwnnw, Ond yr oedd un fantais o'i hochr hi yn y preswylfod cyfyng, oblegid dim ond hyhi a Morgan oedd ei theulu i gyd, pan oedd llawer o'i chymdogion yn yr unrhyw fath ar dŷ yn gorfod mynnu lle i bump neu chwech o blant, heblaw hwynt-hwy eu hunain.

Ymhen ychydig funudau clywai Beti ei mab yn cerdded planciau'r llofft, ac am hynny hi a osodes ei "sincin esmwyth" ef—hynny yw, ei botes o fara, dwfr a siwgr—yn nes i'r tân i'w dwymo.

"Rwy'n ddiweddar heddi', mam," ebe'r llanc ar ddyfod ohono a'i got ar ei fraich allan drwy ddrws y staer gerrig, "ond fe fyddaf wedi mynd drwy'r forge a'r ffeindri cyn cino, ac fe wnaf y ffyrnau pydlo ar ol hynny. Dyna lweus fy mod yn gallu torri'r enwau i lawr bob un, yn lle trysto i'r cof i gyd !"

"Ie, ond byt dy fwyd! Fe allwn wilheua'r un pryd. Sawl un oedd genti nithwr?"

"Rhowch weld: estynnwch y papur 'na ar y seld i fi, 'newch chi?"

Ni allai Beti na darllen nac ysgrifennu, a chan fod ei mab yn medru'r ddau, yr oedd ef i'w thyb hi yn wybodus tu hwnt.

"Roedd dy dad yn llawer o 'sglaig he'd, weli di; ac fe glwas rai yn dal i 'weyd ta fe o'dd y top yn hen Ysgol Dixon 'slawer dydd."

"Trueni na fusa fe byw nawr, mam, onte?"

"Ie, 'machgen i, y trueni mwya welas i erio'd. Ond darllen yr enwau i fi nawr, Morgan, i fi ga'l dy helpu i gofio, pe digwyddai rhwpath i'r papur rwpryd."

Yna yr ysgolhaig bach a agorodd restr ei alwadau gyd â balchter rhyfeddol, a chyd â phwyslais dyladwy, ef a ddechreuodd roddi enwau a chyfeiriad ei gwsmeriaid ymhlith y gweithwyr.

"John Jones, Penhow—ffeiner. 2 o'clock.

"William Jones, Pandy—forgeman. Quarter past two.

"Dyna William mab Sian, wrth gwrs," ebe'r fam. Ni wnaeth Morgan ond awgrymu â'i ben, ac aeth rhagblaen â'r enwau.

"Thomas, Tycwrdd,—ffeiner, near Nebo. Quarter to 3.

"Shoni Smwt, pydler, Penhow. Half—past 3.

"Dai Dwr Glân, pydler, Penyard. 3 o'clock."

"Ie, 'r hen scelffyn!" ebe'r fam drachefn. "Gofala di ei fod e'n dy dalu di, Morgan, wa'th ma fe mewn dyled hyd 'i glustie ym mhobman arall!"

"Ond, mam! fe fydda i yma drwy'r dydd cyn cwpla i, os wy i yn mynd i ga'l hanes pobun gennych chi."

"Paid hidio, 'nte, Morgan. Dod y papur gatw nawr, a byt dy fwyd. Rhaid iti fod yn gryf at dy waith. A phaid ag aros yn rhy hir cyn dod yn ol at y pryd nesa'!"

Dyna'r ymgom a fu rhwng y geilwad bach a'i fam cyn cychwyn ohono ef allan i fynd i waith haearn y Waun cyn diweddu o shifft y nos, er gwybod pa bryd yr oedd ef i guro wrth ddrysau y rhai a'i huriai i'w galw at eu tanau yr hwyr oedd yn dilyn. Hynny oedd ei alwedigaeth; ac, fel y gwelsom eisoes, yr oedd wedi ennill coron yr wythnos o'r blaen. Amryw o fechgynnos ereill o'r un oed ag ef a geisiodd o bryd i'w gilydd wneuthur yr un gorchwyl, ond y rhan fwyaf—naill ai o ddiofalwch am eu hamser, neu o ofn cerdded yr heolydd culion yn y tywyllwch—a flinasai ar y gwaith ymhen wythnos neu ddwy. Yr oedd i Forgan, fodd bynnag, enw da iawn fel geilwad ymhlith y gweithwyr "tân," ac ni chyferchid ef byth ganddynt ond fel "Moc Bach," a hynny o lawn cymaint anwyldeb ag ydoedd o ddisgrifiad.

Telid ef yn wythnosol ganddynt, ac yr oedd yn bwynt o anrhydedd gan y rhan fwyaf o'r gweithwyr, ar ol derbyn eu tâl eu hunain, i dalu'r geilwad bach yn gyntaf dim. Y rhai arafaf yn ei dalu oedd y pydleriaid, sef y bobl hynny a weithiai o flaen ffyrnau'r pydlo, ac a oedd yn fwy eu syched ac yn lluosocach eu llysenwau na neb yn y gwaith.

Ond nid pobl anonest hwythau ychwaith. Effaith arferiad yn wir ydoedd, oblegid cyn dyfod o'r Croshiaid i'r Waun, blodeuai "Siop y Cwmni" yn y lle: a chymaint oedd syched y pydleriaid ar hyd y mis fel mai prin yr oedd unrhyw arian yn "troi iddynt" ar ei ddiwedd.

A phan roddes Mr. Ffrank ben ar y siop, nid hawdd oedd newid natur y pydler ar unwaith. Ef a yfai ac a wastraffai ei hur ar hyd yr wythnos, ac o ganlyniad anodd oedd ffeindio hyd yn oed yr ychydig geiniogau i dalu'r geilwad pan fyddent ddyledus.

Y bore hwn yr oedd Moc Bach wedi trefnu "oriau'r galw" am y noson yn ddigon hawdd yn y ffeindri a'r forge, ac wedi hynny ef a ddringodd i'r Iard er cael trefnu â'r pydleriaid yr un modd. Pan ddaeth ef i olwg y "ffyrnau," ef a welodd bydler neilltuol, Dai Samwn Pinc wrth ei lysenw, yn amneidio arno i frysio ato.

"Dere yma, Moc Bach," ebe fe, "mae'r tân felltith 'ma bron sychu pob diferyn o wa'd yn 'y nghorff i. Etrach funud ar ol y tân, wnei di? ac os bydd yr harn yn 'llosgi,' rhêd i lawr i Dafarn y Rhydia i'm galw. Fe fydda 'nol cyn pen wincad llycad llo."

Nawr, "llosgi'r haearn" oedd y pechod mawr ym myd pydleriaeth; ac o byddai i neb adael hynny i ddigwydd, amser garw a gaffai ef gan feistr yr iard.

Edrychai'r Samwn Pinc mor lluddedig yn ei chwŷs o flaen y ffwrn fel yr addawodd y llanc yn ddiniwed i wylio'r tân yn ei le.

"Fe ddaw yn ol yn y funud, tebig iawn," ebe fe. "Fyddai ef ddim yn mentro ymhell pe bai perigl. Ac heblaw hynny, y mae yn fy nyled o rot eisoes."

Ond hir oedd yr aros, a gwylltodd y llanc o weld arwydd digamsyniol fod yr haearn yn dechreu "llosgi." Rhedodd i lawr i'r gwesty, lle'r oedd y Samwn Pinc mewn dadl frwd â rhyw borthmon am ragoriaethau ceiliogod. Ceisiodd Moc Bach dynnu ei sylw, a chredai iddo lwyddo, oblegid cododd y pydler hyawdl ei law ato fel arwydd o'i ddeall. Yna dychwelodd y llanc at y ffwrn lle'r oedd arwyddion mwy fod yr haearn eto'n parhau i "losgi." Ni wyddai ef yn iawn beth i'w wneuthur ar y foment; ond pan oedd ef rhwng dau feddwl, wele'r pydler ei hun yn dyfod—ac o weled cyflwr ei ffwrn, dechreuodd hwnnw ddial ei lid ar yr un bach.

"Y perchyll diened!" ebe fe, "pam na faset ti'n dod lawr ata' i?"

"Ond fe fuo," ebe'r llanc gan grynu.

"Gad dy gelwdd, y sperbil!" ebe yntau'n ol. A chyd â'r gair, ef a gydiodd yng ngwâr y bachgennyn fel pe i'w ddyrnu.

Ar y foment, pwy a ddaeth heibio i'r fan ond Mr. Ffrank ei hun; ac o weld sut yr oedd pethau, ebe fe yn ddigllon wrth y pydler:

"Gollwng e', Dai, y funud yma, y blagard mawr!"

O glywed y llais, ac o weld y meistr, troes y Samwn Pinc, ac â threm euog gollyngodd y bachgennyn yn rhydd, ac arhosodd yn fud wrth ei ffwrn.

Erbyn hynny yr oedd meistr yr iard wedi dyfod o rywle, ac ymddangosai am foment fel ar fedr ffrwydro allan mewn dylif o gabledd—ond, o gofio am bresenoldeb Mr. Ffrank, ef a lwyddodd i'w ffrwyno ei hun, er mor anodd hynny. Ond fel i wneuthur iawn iddo'i hun am atal ei dafod, daeth mwy o gynddaredd i'w lygaid, ac ef a ddaliodd i gyfeirio â'i fynegfŷs at yr haearn llosg hyd nes i Mr. Ffrank ei alw i edrych y ffyrnau ereill gyd âg ef.

Nodiadau

[golygu]