Y Geilwad Bach/Oriau Cynhyrfus
| ← Ysbeiliwr Cwm Smintan | Y Geilwad Bach gan Lewis Davies, y Cymer |
Yr Offis a'r Aelwyd → |
PENNOD XVIII.
ORIAU CYNHYRFUS.
NI bu iddo ef aros yn hir cyn tynnu o rywbeth ei sylw. Ond i'w fraw mawr, y rhywbeth hwnnw oedd y lleidr ei hun, yn awr heb ei fwgwd, ac nid yr ochr draw i'r cwm ychwaith, ond ar yr un ochr ag yntau, ac yn cyrchu hefyd at yr un blanhigfa. Da iddo ef ennill honno yn gyntaf, ac iddo fod mor ddoeth â gofalu am ymguddfan dirgel mewn pryd, oblegid aeth yr adyn heibio iddo o fewn deng llath ar hugain, gan ddwyn gyd âg ef, un ymhob llaw, ddau gŵd mawr, sef yr arian a ysbeiliesid. Amlwg fod y lleidr wedi croesi'r cwm yn uwch i fyny; ond gan fod i'r ddau gŵd a gariai gryn bwysau, rhoes hynny ddigon o amser i Forgan gyrraedd ei ymguddfan cyn i'r llall adael prysgwydd gwaelod y cwm.
O nesu o'r lleidr ato, teimlai'r llanc ei galon ymron ar dorri, ac o'r braidd y gallai ef anadlu yn ei le cyfyng. A phan welodd ef nad oedd y dyhiryn yn neb llai na Dennis Connelly, bu ymron a llewygu gan ei ofn. Ond yno, yn llechu fel cwningen yn y gwrych, ef a ddaliai i syllu ar yr ysglyfiwr; ac wedi i hwnnw adael y blanhigfa eto am waelod y cwm, dyna'r pryd y dechreuodd Morgan ei adennill ei hun.
Yn y lle y cyfeiriai'r Gwyddel Cymraeg hwn ato yr oedd pont wedi ei thaflu dros y nant er cludo camlas fechan oddiwrth argae yn afon Cynon, i ddyfrhau Gwaith Haearn y Llwydcoed, ac i mewn o dan fwa'r bont honno y gwelsai Morgan y lleidr yn diflannu.
Tybed a âi ef allan yr ochr arall iddi, a dilyn ymlaen i lan Cynon? Daeth i feddwl cythryblus y llanc y gallai ef ei hun, o'i fyned i gwr pellaf y blanhigfa, weld deutu'r bont. A chan fentro'n fawr, er bod y lleidr ar y pryd o dan fwa'r bont, ef a redodd i'r man yr amcanasai, ac a'i bwriodd ei hun ar lawr i wely rhedyn ychydig i'r naill ochr i'r coed, o'r lle na allai dim na neb fynd i mewn neu allan i ddeutu'r bont heb fod yn amlwg iddo. Am ryw gymaint o amser, nas gwyddai'r llanc mo'i fesur, ni welodd ef ddim; ond yn y diwedd ef a ganfu ben y Gwyddel yn edrcyh allan am eiliad neu ddwy o'r tu isaf i'r bont. Yno, mewn cae ar ei gyfer, yr oedd amaethwr yn galw ar ei gi, a thebig i'r lleidr farnu mai gwell oedd aros ychydig yn hwy cyn mentro allan. Yna bu distawrwydd hir drachefn—y llanc yn gwylio, a'r lleidr yn llechu.
Yn y cyfamser achosodd ystori Mr. Rhydderch gyffro mawr ar y Waun, a phenderfynodd y gweithwyr yn ddiymdroi i fyned allan yn ddeuoedd ac yn drioedd i chwilio pob cilfach yn yr ardal, ac yn enwedig Cwm y Naint, a estynnai o amaethdy Llwynmoch i waered hyd afon Cynon. Rhaid ei bod oddeutu dwyawr neu dair wedi'r ysbeilid, pan glybu Morgan o'i wely rhedyn swn traed yn yswisian y glaswellt y tu ol iddo. Ar hyn ef a gododd ychydig, gan bwyso ar ei benelin; ac wedi gwneuthur lletro i weld pwy oedd yno, ef a ganfu'r Samwn Pinc a Shoni mab Dai Dŵr Glân yn dyfod i'w gyfeiriad. Llwyddodd i ddal eu sylw heb wneuthur ohonynt unrhyw swn, ac wedi gosod ei fys ar ei fin yn arwydd o ddistawrwydd, ef a amneidiodd arnynt i nesu ato yn eu plyg.
Wedi eu dyfod ato, ef a sisialodd yn frysiog â hwy, gan fynegi bod y lleidr dan fwa'r bont, ond ei fod yn arfog, ac mai gwell oedd iddynt fynd yn eu holau i gyrchu'n ddistaw fwy o ddynion i'r fan.
Hynny a wnaed, a chyn pen nemor munudau yr oedd dwsin yn ol yn yr unfan, ac yn eu plith Mr. Aubrey, y prif glerc. Penderfynwyd rhannu yn ddwyblaid un at bob ochr y bont; ac wedi i bedwar neu bump yn ychwaneg ymuno â hwy, cyd-symudasant yn eofn at y ddwy fynedfa.
Tebig iawn fod yr euog wedi eu clywed yn dyfod, ac er mwyn gosod gwell gwêdd ar ei ystori ei hun, ef a ymadawodd â'i ymguddle fel pe o'i fwriad ei hun, ac a geisiodd ymddangos yn syn fod cynifer o bobl wedi cyrchu'r lle anial hwnnw yr un pryd.
"Beth wyt ti'n 'neud yma, Dennis?" ebe Mr. Aubrey yn llym.
"Dala o'm dwylo, wrth gwrs? Welwch chi ddim o'm pysgod?"
Tebig fod y gwalch, yn ystod ei arhosiad gorfodol dan y bont, wedi sylwi bod yno bysgod, ac wedi treulio peth o'r amser hir i ddal tri o'r rhai bychain. A thrwy gymorth y rhain, ef a geisiai yn ei gyfyngder osod gwedd o ddiniweidrwydd ar ei symudiadau. Ef a fwriasai eisoes oddiwrtho y llawddrylliau rywle yn ol yn y cwm—a chymorth oedd hynny hefyd i'w haeriad cyntaf.
Ond nid gwiw dadleu peth fel hynny â Mr. Aubrey, a oedd erbyn hyn wedi clywed stori Morgan. Ac ebe fe wrth y fintai:
"Fe aiff Dafydd (hyn gan gyfeirio at y Samwn Pinc) a finna i mewn dan y bont i bysgota hefyd. Aros di, Dennis, yn y man lle'r wyt, nes de'wn ni ma's. Chi, fechgyn, catwch lycad arno, 'newch chi."
Aeth Mr. Aubrey a Dai, yn ol y trefniant hwn, i chwilio o dan y bont; ac, i'r olwg gyntaf, nid oedd yno ddim a oedd anarfer i leoedd o'r fath. Ond wedi manwl edrych, gwelwyd fod ychydig o'r meini yn ochr
y bont wedi colli eu cymrwd, a bod un ohonynt o leiaf chwarter modfedd allan o'i lle.
"Hylo! Tyn hon ma's, Dafydd. Mae'n rhydd, 'rwy'n meddwl."
Gwnaed fel yr archwyd. Daeth y garreg allan yn rhwydd ddigon; ac wedi ei chael hi allan, hawdd oedd tynnu hanner dwsin ereill yn ei hymyl. Y tu ol i'r rhain yr oedd gwagle a oedd yn amlwg o wneuthuriad bwriadol; ac wedi estyn ei fraich i ben pellaf hwnnw dygodd Mr. Aubrey allan y ddau gŵd a ladratesid y bore hwnnw. A phan gariodd Dai y rhain i olau dydd, ac i Mr. Aubrey ddywedyd, "Pysgod braf, fechgyn!" yna y bu cri uchel, ac o'r braidd y gallodd y swyddog atal y gweithwyr rhag gosod dwylo dig ar y troseddwr.
Connelly a ddygwyd, fodd bynnag, yn eu plith i fyny i'r Waun, ac a osodwyd mewn ystafell yn yr Offis gyd â thri gweithiwr i'w wylied, i aros dyfodiad y cwnstabliaid o Aberdar.