Neidio i'r cynnwys

Y Geilwad Bach/Teg Edrych tuag Adre

Oddi ar Wicidestun
Paratoi i Ddychwelyd Y Geilwad Bach

gan Lewis Davies, y Cymer

Yr Hen Gartre unwaith eto

PENNOD XXXVIII.
"TEG EDRYCH TUAG ADRE."

AM rai oriau hwyliodd y Queen Adelaide fel pe buasai arni hi ei hun awydd mawr am ben ei thaith, oblegid hi a dorrai ei llwybr draws y tonnau crychwyn gyd âg asbri rhyfeddol. Canai'r morwyr hefyd wrth eu gwaith, a hyfryd ydoedd ar bawb yn rhodio'r bwrdd gyd âg awel y De yn eu hwynebau. Ond cyn myned o'r haul i lawr, datblygodd yr awel fwyn yn wynt nerthol, ac o'i gaban clybu Morgan fynych gri chwibanogl y bos'n, ynghyd â thrwst brysiog traed y morwyr yn rhuthro yn ol a blaen uwch ei ben.

Yr oedd i Forgan gaban iddo ef ei hun ar y fordaith hon: ond er y golygai hynny fwy o gost i'w logell, golygai hefyd lawer mwy o hamdden darllen ac o gysur personol. Ac i'r diben o dreulio'r dyddiau hir mewn mwynhad tawel, ef a brynasai, cyn myned i'r llestr, nifer o lyfrau a fyddai iddo'n ddiddanwch ar y daith. Llai o lawer hefyd ydoedd nifer teithwyr y Queen Adelaide nag a oedd i'r Richborough, ac yr oedd hynny ynddo ei hun yn elfen.bwysig tuag at wneuthur cysur ei theithwyr yn fwy. A chyn belled ag y gwelai'r Cymro yn ystod y dyddiau cyntaf, gwell hefyd ydoedd ansawdd y rhain na'r dorf wancus honno ar y Richborough gynt, nad oedd iddi feddwl yn y byd ond am aur, a'r modd parotaf i'w sicrhau. Hwyrfrydig, serch hynny, ydoedd Morgan i gyfeillachu â neb ar y llestr hwn, oblegid heblaw bod ei lyfrau yn dechrau denu ei fryd, ef a wyddai hefyd, gan fod Deddf Alltudiaeth o'r diwedd wedi ei dileu, fod llawer o'r deddf—dorwyr yn wynebu yn ol ar Brydain; ac er bod cyfran o'r rheiny bellach yn ddineswyr cymeradwy, nid diwygiedig pawb ohonynt, ac felly gocheliad a phwyll a weddai'n orau, yn enwedig ar y dechrau.

Ond daeth diwedd sydyn i'r ymgadw draw hwn, oblegid a Morgan yn darllen un prynhawn tesog yng nghysgod y cwch ar y bwrdd, aeth heibio iddo rhyngddo a'r gynwel deithiwr neilltuol, brith ei wallt a bonheddig ei gerddediad, a edrychai allan i'r môr ar y pryd.

"Hylo!" ebe'r Cymro wrtho'i hun, "ymhle gwelas i'r cerad yna o'r blân? Ma' rhwpath yndo sy'n gyfarwdd i fi."

Ond dal yn ei flaen yr oedd y teithiwr, a chan fod ei wyneb draw oddiwrth Morgan, nid oedd fodd profi ai gwir neu beidio yr argraff gyntaf, ac felly aeth y darllenwr yn ol i'w lyfr, dan y syniad mai tebygrwydd, a dim arall, oedd wedi tynnu ei sylw. Ond ymhen oddeutu chwarter awr, wele'r teithiwr yn dychwelyd gyd â'i wyneb yn llawn tuag at y Cymro. Nid oedd yn foesau da i syllu ar neb; ond, moesau da neu beidio, cyn rhoi o'r gŵr dieithr nemor i gam ymhellach yr oedd Morgan wedi taflu ei lyfr i'r naill du gan gymaint ei frys i siglo llaw â'r gŵr.

"William Ellis, o bobl y byd! O ble daethoch chi yma?"

Ni roes y gwr hwnnw atebiad o un math i'r cwestiwn a roed ar y pryd, nac i un cwestiwn arall o ran hynny, oblegid pan gafodd ef ei anadl, ei unig air am beth eiliadau oedd, "Yr Arcian Mawr!" Ond digon oedd hynny i gysylltu'r ddau gyfaill unwaith eto, ac i ailuno'r gymdeithas felys honno a ddechreuwyd mor hapus ar yr hen Waun gynt.

Beth oedd oriau a threfn llong i bobl fel hyn? A pha ryfeddod mwy a allai Cefnfor y De ei hun ei roddi iddynt na'u cydgyfarfyddiad hwynthwy eu hunain ddau unigyn ar briffyrdd y ganrif.

Hir y bu'r siarad y prynhawn hwnnw am bethau newydd a hen, ac am y llwybrau a dywysodd y ddau oddiwrth ei gilydd yn gyntaf ac wedi hynny at ei gilydd drachefn. Ac er syndod i'r ddau grwydryn, deallasant, o gymharu profiadau'r naill y llall, eu bod ers pedair blynedd o leiaf, wedi trigo o fewn pum milltir i'w gilydd, heb gymaint a breuddwydio o'r un ohonynt am bosiblrwydd y fath beth.

Tariasai William Ellis saith mlynedd mewn amryw gloddfeydd, gyd â'i lwyddiant hefyd yn amrywio llawer yn y cyfamser—"Un tymor cul yn difa rhinwedd tymor brasach arall," ei chwedl ef ei hun. Ond wedi ffodio ohono'n weddol y ddwy flynedd ddiweddaf oll, penderfynasai na byddai iddo golli'r "ysgôr" unwaith yn rhagor, ag yntau yn dechrau teimlo pwys y blynyddoedd, ond yr âi yn ol i Ddyffryn Hafren i dreulio yno weddill ei oes, orau y medrai. Ef a wyddai ymron cystal â Morgan ei hun bopeth am helynt yr Eureka, ac ef a glywsai, unwaith o leiaf, Lalor a Greg yn ogystal, pan ymwelsant hwy ill dau â'i ardal ef yn achos y mwnwyr.

"Gresyn ddaru i'r cwbwl droi allan mor bethma," ebe fe, "ac i'ch cyfaill caredig golli ei hoedl yn y fargen." "Ie'n wir," ebe Morgan, gyd âg ochenaid o hiraeth am ei hen gydymaith annwyl.

Yna bu siarad pellach am Y Waun, Mr. Ffrank, Shoni Sgubor Fawr, ac ereill, ynghyd â miri mawr wrth ddwyn i gof helynt y faril gynt, ynghyd â chrechwen y pydlers o gael ohonynt y trechaf ar Mr. Ffrank.

"A than gôf," ebe Morgan, "sport yn iawn oedd Mr. Ffrank wedi'r cwbwl; ac 'rwy'n siwr, pe baech chi ond wedi aros ar y Waun, y basa fe'n cynnig i chi le wrth y ddesg fel y rhows e' i fi."

Yna adroddodd Morgan y modd y bu pan ddangoswyd y llaw—ysgrifen yn yr Offis 'slawer dydd, ynghyd â chais Mr. Ffrank am gyfeiriad William ei hun.

"Ac am i fi addo roi iddo y'ch cyfeiriad cyn gynted ag y gallwn, byddaf yn gneud hynny ar unwaith, er bod saith mlynedd er pan rois yr addewid."

Ni ynganodd William Ellis yr un gair ar hyn, ond, gan edrych allan i'r môr, ef a ymddangosai mewn myfyrdod dwfn; ac, o'i weld, trôdd Morgan yn ol i'w lyfr, gan adael ei gyfaill i'w feddyliau ei hun.

Nodiadau

[golygu]