Y Geilwad Bach/Yr Ifanc yn Dyheu
| ← Cyfraith y Wlad a Thrugaredd Beti | Y Geilwad Bach gan Lewis Davies, y Cymer |
Morgan yn Penderfynu → |
PENNOD XXI.
YR IFANC YN DYHEU.
BLYNYDDOEDD celyd a fu ar Weithfaoedd Haearn y De yn ystod yr "Hungry Forties," ac ni phrofodd y Waun ddim yn amgen. Yr oedd "Amser Beca" wedi mynd heibio yn Nyfed, a mwy o gyrchu o'r wlad i'r "gweithie" nag a fu erioed o'r blaen, gyd â'r canlyniad fod yr enillion yn dal yn isel o'u cymharu â'r codiad ym mhris nwyddau,
Mae'n wir fod cyflog y "gweithiwr tân" bellach yn ddeunaw swllt yr wythnos, yn lle deuddeg swllt yn amser Dic Penderyn bymtheg mlynedd cyn hynny, ond yr oedd pris y blawd a bwydydd ereill hefyd ddwywaith cymaint, ac yn gorbwyso mantais yr hur uwch. Ond yr oedd yr hur uwch honno yn ddigon i atal llwyddiant y weithfa, am nad oedd pris y dunnell haearn a gynhyrchid hefyd wedi codi'n gyfatebol. Felly, yr oedd y meistr a'r gweithiwr, un fel y llall, yn gwingo, ac yn dyheu am obaith o rywle.
Am ben hyn oll, pan oedd y bobl ymron yn hollol ar lawr, wele cholera y '49 yn haint drwy'r wlad, ac yn taraw'r Waun yn drwm wrth ei fynd heibio. Yr oedd Mr. Ffrank ar fedr addef wrth ei weithwyr y byddai rhaid rhoddi fyny oni wellhâi pethau, pan dorrodd yr haint hwn allan. Yntau o'i drugaredd a ataliodd ei law, a chan osod materion llafur a chyfalaf i'r naill ochr am dymor, ef a'i taflodd ei hun i flaen yr ymladd yn erbyn ystryw y gelyn echrys hwn. Ond er gwaethaf pob ymdrech, rhyw hunllef mawr a fu'r haf hwnnw gyd â braw yn rhodio'r heolydd, a phobun yn gofyn, "Pwy fydd y nesaf?"
Gyd âg oerni'r gaeaf ciliodd yr haint yn raddol, a dechreuodd pobl unwaith eto gymryd sylw a diddordeb yn y byd mawr y tuallan. Ffaith fawr y flwyddyn honno oedd y "Darganfod Aur yng Nghaliffornia," ac o glywed y fath sôn am dano aeth amryw o wŷr ifeinc y Waun, a oedd wedi darbod digon i'r daith, allan i dreio eu ffortun yn y wlad bell.
"Be' sy inni o aros yma?" ebe hwy. "Llafur a chwsg, cwsg a llafur, nes ein heneiddio,—ac yna bedd ym Mhenderyn. Dyna i gyd!"
Yr oedd gan Mr. Ffrank lawer o gydymdeimlad â'r anian anturus.
"Hynny a wnaeth ein teulu ni," ebe fe. "Beth a fydde ni heddi', wys, heb i'm hen dadcu ddod i'r Sowth gynt? Fel y trueiniaid hyn, tebig."
A phan aeth dau glerc ifeinc o'r Offis i ffwrdd i Galiffornia, ef a roddes yn ddangoseg o'i deimlad gildwrn o aur i'r ddau lanc i'w helpu i'r daith.
Ofn mawr oedd ar Beti Jones o hyn y byddai i Forgan hefyd chwennych myned allan, oblegid gwyddai fod anturiaeth yng ngwaed ei dad o'i flaen, a dywedai ei hymwybyddiaeth wrthi fod yr un peth yn llechu yn ei mab yr un modd. Ond ar wahan â bod Morgan yn darllen y Cambrian gyd â gradd mwy o aidd nag arferol, nid oedd dim a ymddangosai iddi fel arwydd o berigl ei fynd ar hynny o bryd.
Ni wyddai hi fod yr Hereford Times a'r Gloster Journal hefyd yn dyfod i'r Offis—papurau a oedd y pryd hwnnw yn llawn o'r pethau i danio pob gwr ifanc a chwenychai demtio ffawd. "California and the West" ydoedd hi ar bob munud o egwyl; a phan alwodd Mr. Ffrank un bore ar holl wŷr yr Offis i edrych ar gynnwys amlen neilltuol a dderbyniasai ef y dydd cynt, yr oedd pob dychymig ar dân. Oblegid cynnwys yr
amlen oedd briwsion mŵn aur a ddanfonasai un o'r clercod a aeth i Galiffornia fisoedd cyn hynny, yn gofrodd i'w hen feistr.
"Dyma nhw, fechgyn!" ebe fe, "the credentials of power and influence." A phe bawn i ond dengmlwydd yn ifancach, fe dreiwn fy ffortun yno 'm hunan."
Estynnodd y meistr y creiriau gwerthfawr hyn o law i law, a phan roddes ef hwynt i Forgan, nid oedd yn ddisylw ganddo fod llaw ei was yn crynu ychydig wrth eu derbyn, a bod ei wynebpryd hefyd rywfaint yn welwach nag arfer.
Adroddodd Morgan am y darnau aur wrth ei fam y noson honno, ond nid oedd ynddi hi yr un diddordeb yn yr hanes. Siomedig oedd ef am hynny, oblegid yr oedd wedi arfaethu roddi iddi, o'u gweled, hanes a'i diddorai am wlad yr aur. A dyna hithau, a oedd wastad mor barod i wrando ystoriau ei mab, am unwaith yn ymddangos yn oer i'w ystori orau. Credodd mai anhwylus ydoedd hi, ond ychydig a wyddai ef fod Mrs. Roberts, chwaer Mr. Aubrey, wedi ei chyfarfod yn y pentre y prynhawn hwnnw, ac wedi adrodd wrthi, nid yn unig am y manion aur, ond am yr Hereford Times a'r Gloster Journal yn ogystal.
Druan a Beti! Aeth yn niwl drosti, a hi eto'n ganol dydd. Hi a'i gwelai ei hun yn weddw unig wedi ei bwrw yn ol i'r un adfyd ag a fu ei rhan pan gladdasai hi ei gwr. Ni wyddai pa fodd y gallai fyw ar wahan i'r mab a oedd gannwyll ei llygad; ond hi a deimlai, er na fynegodd air am y bwriad, bod ei fryd ef ar fyned dros y môr cyn sicred â phe bai dydd ei ymadawiad wedi gwawrio. Ac am hynny, trwm iawn oedd ei chalon, ac anniddan ei hysbryd.