Y Geilwad Bach/Yr Offis a'r Aelwyd
| ← Oriau Cynhyrfus | Y Geilwad Bach gan Lewis Davies, y Cymer |
Cyfraith y Wlad a Thrugaredd Beti → |
PENNOD XIX.
YR OFFIS A'R AELWYD.
MEWN ystafell arall yn yr Offis yr oedd Mr. Rhydderch yn adrodd wrth Mr. Ffrank a phrif swyddogion y gwaith am y modd y bu, gan bwysleisio yn neilltuol ran Morgan yn yr helynt.
"Da nad oedd pethau'n waeth," ebe'r meistr. "Mae'r arian i gyd yn y ddau gŵd, a rhaid talu'r gweithwyr heb golli rhacor o amser. Fe edrychwch chi, Mr. Aubrey, at hynny, 'rwy'n siwr. Fe gawn ni eto wilheua 'mhellach wedi i chi gwpla."
Ar y gair ef a gododd i ymadael, a gwnaeth swyddogion yr iard, y ffwrnesi, y ffeindry a'r forge yr un modd; ond cyn ei fyned ef allan, Mr. Ffrank a droes at Morgan, ac yn eu gwydd hwynt a ysgydwodd ei law yn galonnog gan wneuthur i'r llanc wrido mewn boddhad. Credai'r llanc ifanc fod y cydnabyddiad hwn gan y meistr yn llawn dâl am anghysur y bore; a thrwy ei oes, mewn llawer lle cyfyng yn y blynyddoedd wedyn, dug yr atgof am wasg y llaw garedig honno ddydd yr helynt mawr ryw ysbrydiaeth iddo na phallai byth.
Daeth y cwnstabliaid i fyny ymhen amser, a phan oeddynt hwy yn dechrau'r daith i ddwyn y lleidr i waered i Gaerdydd, yr oedd Mr. Aubrey a'i glercod wrthi'n ddiwyd yn talu allan yr huriau i'r gweithwyr heb fod ond awr neu ddwy yn ddiweddarach nag arfer.
Fel y gellid disgwyl, yr oedd y cynnig beiddgar a wnaed gan Connelly yn destun siarad yr holl ardal, a llawer oedd y diolch am yr adennill buan a wnaed ar arian yr huriau. Llawer oedd y gwahanol adroddiadau
am y modd y bu—rhai yn pwysleisio hyn, ac ereill yn taeru mai arall oedd y gwir. Daliai Jim Wich yn y "Rolling Mill" y noson honno nad oedd neb â mwy o o blwc yn y cwm na Moc Bach:
"'N Moc Bach ni, bydlers, cofiwch, wa'th gyta ni dechreuws e'. Ac 'ro'wn i wastad yn gweyd fod rhywbath yn y boy bach. A dyna'n geiria wedi dod yn wir! Peint arall, 's gyloch chi fod yn dda, Mrs. Walters."
Pan aeth Morgan adre wedi dibennu yn yr Offis, gyd â'r "pae," yr oedd ei fam yn ei gyfarfod wrth y drws; ac wedi plethu ei braich yn ei fraich ef, hi a'i cusanodd, ac a ddywedodd:
"Rwy' wedi clwed y cwbwl, 'machgen i, gan Mrs. Roberts, chwaer Mr. Aubrey. Dere at dy fwyd, wa'th rhaid fod 'i isha'n dost arnat ti, 'rwy'n siwr."
"Dim cymint a hynny'n wir, mam, wa'th fe alws Mr. Ffrank fwyd ac yfed lan i'r Offis cyn inni ddechra talu, yn lle bod y dynon yn aros am 'u pae funud yn fwy nag o'dd raid."
"Ond ma' amser odd'ar hynny, Morgan. Dere nawr at y ford."
Ac ar y gair hi a gododd ac a agorodd ddrws y ffwrn fach i ollwng allan yr arogl archwaethusaf. Ond er mor ddenol yr ymborth, a mor siaradus ei fam wrth y bwrdd, nid oedd lawer o chwant bwyd ar y llanc, gymaint oedd effaith troeon cynhyrfus y dydd arno.
"Syched sy arna' i fwya' mam. O's gennych chi la'th?"
"O's, dicon, trw lwc. Dyma fe. A dim ond iti aros munud ne' ddwy, fe grasa i dafelled o fara iti ddoti yndo. Do's dim gwell bwyd i gâ'l."
"Thenciw, mam. Dyna'r peth i'r dim."
Yna, ac ef yn llwyo ei laeth ac yn briwsioni'r bara i'w lestr, adroddodd Morgan i'w fam y modd y bu'r cwbwl.
"Diolch i'r nefo'dd fod dy fywyd di'n sâff!" ebe hithau'n sobr. "Rhaid fod y nefo'dd yn gofalu am danat ti. 'Rwy' i wedi diolch i'r Tad ishws, ac 'rwy'n siwr dy fod ti wedi gneud yr un peth."
"Otw, mam, ac o galon he'd."
"Dyma fe. Cwsg di'n dawel heno, 'machgen i."
"Arna i ofan na chysga' i lawer heno, mam, ond fe wna ngora. Ac os bydda i heb gwnnu i frecwast bore 'fory, chi a faddeuwch am unwaith, 'rwy'n siwr."
"Cer di nawr, Morgan. Roist ti ddim llawer o waith madde' i mi yriod o'r bla'n. Fydd dy fam ddim yn galed iawn wrthyt ti, ti elli fentro. Ie, a chymint gwell yw arnot ti heno nag ar y Dennis 'na. Ma'r Hen Lyfyr yn 'itha iawn —Ffordd troseddwyr sy galed o hyd.'"
"Oti, mam, a do's neb yn gwpod pwy mor galed yw hi i fod arno fe. Ma' nhw'n gweyd yn yr Offis ta 'transportation for life' ne' ca'l 'i groci a fydd hi. A ma' hynyna yn 'y nghofio i y bydd raid i Mr. Rhydderch a finna fynd i Aberdar dy' Llun i roi evidence, a fe fydd y treial wetyn nês 'mla'n,—a rhwng popeth fe fydd yn ddicon diflas nes cwpla'r fusnes."
"Bydd, yn wir, 'machgen i; ond paid a bod yn galed hyd 'n o'd ar ddyn fel Dennis. 'Ro'dd gento fe fam rwpryd, cofia! A phe b'asa' hi ond gwpod, fe dorsa 'i chalon, pŵr thing. Ti weti di'r gwir, wrth gwrs; ond ma' llawer ffordd i 'weyd y gwir, cofia! A thi fyddi di ddim ar dy golled o'i 'weyd yn dirion. Dyna fel y g'nela' Mr. Ffrank, 'rwy'n siwr."
"Rwy'n cretu'ch bod yn rheit, mam. Ond dyma fi'n mynd."