Y Geilwad Bach (testun cyfansawdd)
← | Y Geilwad Bach (testun cyfansawdd) gan Lewis Davies, y Cymer |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Y Geilwad Bach |

Y GEILWAD BACH.
Y GEILWAD BACH
GAN
LEWIS DAVIES, Y.H.,
Y CYMER.
LLANELLI:
Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan
James Davies & Co., Ltd., Gwasg Deheudir Cymru.
1929.
RHAGAIR.
Dyn hynod iawn ar lawer ystyr oedd Mr. Francis Crawshay. Ond yr oedd yn Feistr Gwaith a drigai yn agos iawn at ei weithwyr.
Ac am hynny, a'r ddynoliaeth fawr a'i nodweddai ar bob rhyw bryd, cerid ef gan bawb a edmygai onestrwydd, uniondeb, a thrugaredd.
Bu i'r Awdur fantais fawr ynglyn â'i hanes, oblegid un o'i "ffeiners" am chwarter canrif oedd fy nhad, a'i housekeeper am flynyddoedd na wn eu nifer oedd "Pegi Ty Mawr," chwaer i'm tad, a'm modryb innau.
Dewiswyd y mwyafrif o gymeriadau Cymraeg y llyfr o blith personau a fucheddai mewn gwirionedd; a digwyddiadau hysbys ydyw'r hanes am helyntion y Ffwrnesi a'r Offis yn nechreu'r ystori, ynghyd a helynt yr Eureka tua'i diwedd.
Y Cymer,
- Tachwedd, 1929.
CYNNWYS
I Awr y "Casto"
II Oriau Amryw
III O Flaen y Meistr
IV Amddiffynydd y Creadur Mud
V Arfaethu Gweld y Byd
VI Mynd i Ystradfellte
VII Y Porth Mawr
VIII Y Rhufeiniaid yn Ymyl
IX Ymgom yr Aelwyd
X Ffair 'Berdar
XI Hwyr y Ffair
XII Mynd i'r Offis
XIII Ar y Ffordd i Drefforest
XIV Ar y Gamlas
XV Helynt y Faril
XVI Colli Hen Gyfaill
XVII Ysbeiliwr Cwm Smintan
XVIII Oriau Cynhyrfus
XIX Yr Offis a'r Aelwyd
XX Cyfraith y Wlad a Thrugaredd Beti
XXI Yr Ifanc yn Dyheu
XXII Morgan yn Penderfynu
XXIII Ar y Ffordd i Lundain
XXIV Hendy Jac Glangors
XXV Temtasiwn Newydd
XXVI Ar y Bwrdd
XXVII Morio i'r De
XXVIII Glanio
XXIX Ar Heol Ballarat
XXX "Greg"
XXXI "Y Delyn Aur"
XXXII Dai'r Cantwr
XXXIII Greg wedi Dyfod yn Ol
XXXIV Brwydr yr Eureka
XXXV Trannoeth y Drin
XXXVI Hiraeth am Gymru
XXXVII Paratoi i Ddychwelyd
XXXVIII "Teg Edrych tuag Adre"
XXXIX Yr Hen Gartre unwaith eto
"Y GEILWAD BACH."
PENNOD I.
AWR Y "CASTO."
NOSON oer, dywyll, yn Nhachwedd oedd hi, y glaw mân a fu'n disgyn gydol dydd wedi peidio, a'r niwl tew wedi cymryd ei le, gan gau y tywyllwch yn gynt am y pentre nag a fuasai heb ei len laith.
Y pentre hwnnw oedd y Waun Hir, ar y ffin rhwng Brycheiniog a Morgannwg, lle bu llawer meistr anturus gynt yn ceisio ennill ffortun iddo'i hun trwy gloddio'r haearn a "frigai" yn y mynyddoedd oddiamgylch, a'i ddwyn i lawr i làn Cynon i'w doddi yno. Llosgasid eisoes fforest fawr Llwydcoed gan y tadau er gwneuthur golosg yn aberth i'r ffwrnesi mawr a fynnai beunydd yr ymborth hwnnw i'w cylla tân.
A phan lwyddodd Anthony Bacon, y meistr mawr o Gyfarthfa, i wneuthur i ffwrdd â'r golosg, oblegid profi ohono fod y glo a enillai ef yn lefel fach Craig y Llyn yn troi y mŵn i well "haearn tawdd" nag a wnaethai'r coed, ef a fu'n gymwynaswr mawr i Ddeheudir Cymru, ac yn enwedig i'r Waun Hir, a ddibynnai bron yn gyfangwbl ar ei bedair ffwrnes ef.
Wedi i Bacon farw, bu i'r Waun amryw feistri eraill, a arhosodd yn yr hen le yn ol mesur yr arian a enillasant neu a gollasant. Ond yn 1819 wele deulu'r Crosha yn dyfod i'r llannerch, a hwy am ddeugain mlynedd oedd frenhinoedd y lle.
Ond brenhinoedd mewn gwirionedd oeddynt, sef rhai a oedd mor selog ym mudd eu deiliaid ag a oeddynt chwannog i chwyddo eu cyfoeth eu hunain. A phwy oedd y deiliaid hynny?
Welwch chwi hwynt?—ffeiners a gofiaid, rollermen, pydlers a forgemen wrth y ffwrnesi, mwnwyr a glowyr rhwng Craig y Llyn a Bwllfa Dâr, calchwyr ym Mhenderyn, gwŷr y patches ar y Rhigos, heblaw gwragedd a phlant, rhai cannoedd ohonynt ar y Waun a'r pentrefi o gylch, a'r cwbl yn derbyn eu bara a chaws oddiwrth y tunelli haearn a fyddid yn eu "casto" yn y tywod rhwng y ffwrnesi a'r afon.
"Cestid"—hynny yw, agorid y ffwrnesi i'r haearn tawdd lifo allan ddwywaith yn y dydd, sef am ddeg y bore a deg yr hwyr, ac nid oedd yr haul ei hun yn fwy prydlon ei ddyfod nag "awr y casto" wrth yr afon. Yn wir, gelwai rhai o'r hen frodorion a wyddai ryw beth am eu Beibl, y ddau amser "casto" hyn yn "gwmwl niwl" a "cholofn dân," oblegid pan frethid clai y dorau isaf â'r ffyn haearn hir, rhuthrai'r metel tawdd allan yn ffrydiau tân, gan oleuo'r holl ardal rhwng daear a nen. Ni raid wrth gannwyll i fynd i'w wely ar neb o'r ardalwyr yr awr honno, oblegid goleuid pob ffenestr ar y Waun gan y goelcerth o flaen y ffwrnesi. Ac o weld cymylau nef yn rhudd rhyngddo ag Aberdar, gwybu'r gwladwr ar ucheldiroedd Brycheiniog am awr y gollyngiad yr un modd.
O holl aelodau teulu'r Crosha, yr hynotaf ar lawer ystyr oedd Fransis, a elwid gan amlaf yn "Mr. Ffrank" neu "Sgweier Ffrank." Credai ef mewn byw yn agos at ei weithwyr, nid yn unig o ran man a lle, ond o wybod am eu trafferthion a'u llawenydd hefyd. Nid oedd ddim a allasai eu dolurio neu eu llwyddo hwy nag a oedd yntau'n gyfrannog ohono yr un modd. A phan ddaethai'r pla neu'r haint heibio i'r ardal, fel a ddigwyddasai fwy nag unwaith, gan beri i bawb a allai fyned ymaith i symud oddiyno, nid oedd neb dewrach yn gweini, cysuro, ac estyn cymorth na phreswylydd y Tŷ Mawr—y meistr a wrthodai adael ei bobl yn eu trueni. Mewn gair, gŵr o'r ddynoliaeth oreu oedd Sgweier Ffrank, yn curo cefn pobun a oedd onest ac wyneb-agored, ac yn cashau pob camwri a ffug.
O'i addysg foreol siaradai ef Saesneg rhagorol, ac ni bu ef hir mewn gofal o Waith Harn y Waun nag y dysgodd ef Gymraeg hefyd, oblegid nid yn unig yr oedd naw o bob deg o'i weithwyr yn Gymry uniaith, ond brodorion o'r ardal oedd pob swyddog wrth y ffwrnesi, a phob morwyn gyflog yn ei annedd, y Tŷ Mawr, yr un modd.
Ar y noson niwlog yn Nhachwedd, 1841, y soniasom eisoes am dani, aethai Mr. Ffrank i fyny i'r pentre, ac yr oedd ar fedr dychwelyd cyn "casto," ac yn cerdded yr heol dywyll a arweiniai i lawr heibio i Bistyll Penhow gyferbyn a'r gwaith, pan wasgarodd y fflam gyntaf ei phelydrau dros yr holl fro.
"Da iawn, Gwilym !" ebe'r meistr wrtho ei hunan, "ond munud o flaen dy amser heno. Gwell munud yn gynt nag yn ddiweddar, serch hynny."
"Hylo! pwy sy 'na?" ebe fe o glywed sŵn troed yng nghysgod y berth.
"Y fi, syr," ebe rhywun gwan mewn ateb, gan ddyfod allan i oleu'r "casto" yr un pryd.
"Ie, y fi, wrth gwrs. Fe all pawb w'eyd hynny. Ond pwy yw 'y fi'? A pha fusnes sy gan grwt o d'oed di fod mâs yma yr amser hyn o'r nos?" Hyn a ddywedodd ef yn llym, gan feddwl mai â llerciwr ifanc y siaradai.
"Morgan Shôn yw f'enw, syr, a mynd wy' i 'weyd wrth Gwilym y Ffwrnes fod ei blentyn bach yn wa'th."
"O, 'rwy'n gweld. Beth sydd ar y plentyn ?"
"Does neb yn gwpod, syr, ond mae e'n glawd iawn, ta beth."
"Gwell iti fynd ar unwaith felny, os nad oes ofan arnot ti."
"Ofan, syr! Dim shwd beth. 'Rwy' i mâs bob amser o'r nos."
"Beth wyt ti felly? Cwnstab?"
"Nage, syr." (Hyn gan chwerthin). "Gelwad, ac yn ennill coron bob wthnos "
"Syndod! Beth wnei di â'r holl arian hynny?"
"Wel, syr, gan'ch bod yn gofyn, rhoi nhw i mam.
'Dyw hitha' ddim yn hanner da 'i hunan. Ond rhaid i fi fynd, syr."
"Dyna'r ffordd, boy bach. At y fusnes mewn llaw o flaen dim. Dyma rwpath i ti a dy fam. A gwêd wrth Gwilym am ddod ata' i o dan y cloc gynted ag y gall e'."
"Diolch i chi, syr, fe wna."
Rhedodd y llanc dros y bont at y ffwrnes, a thybiai na bu erioed swllt gwynnach na'r un a welai ef yn disgleirio ar gledr ei law yng ngoleu'r "casto" y noson honno.
A chyn myned i'w gwelyau, yr oedd o leiaf ddau deulu ar y Waun yn diolch i Dduw am Mr. Ffrank, ac yn wynebu'r dyfodol yn ddewrach oherwydd cymeradwyaeth dyn da.
PENNOD II.
ORIAU AMRYW.
BORE Gwener yn yr un wythnos ag y rhoddesid y swllt gwerthfawr i'w mab, aeth Beti Shôn at fôn y grisiau yn ei chegin, gan weiddi:
"Morgan, cwn! Mae bron a bod yn ddeg o'r gloch!"
Bwthyn bychan iawn oedd ei hannedd—un ystafell i lawr, ac un i fyny, fel llawer eraill o dai gweithwyr ar Y Waun y pryd hwnnw, Ond yr oedd un fantais o'i hochr hi yn y preswylfod cyfyng, oblegid dim ond hyhi a Morgan oedd ei theulu i gyd, pan oedd llawer o'i chymdogion yn yr unrhyw fath ar dŷ yn gorfod mynnu lle i bump neu chwech o blant, heblaw hwynt-hwy eu hunain.
Ymhen ychydig funudau clywai Beti ei mab yn cerdded planciau'r llofft, ac am hynny hi a osodes ei "sincin esmwyth" ef—hynny yw, ei botes o fara, dwfr a siwgr—yn nes i'r tân i'w dwymo.
"Rwy'n ddiweddar heddi', mam," ebe'r llanc ar ddyfod ohono a'i got ar ei fraich allan drwy ddrws y staer gerrig, "ond fe fyddaf wedi mynd drwy'r forge a'r ffeindri cyn cino, ac fe wnaf y ffyrnau pydlo ar ol hynny. Dyna lweus fy mod yn gallu torri'r enwau i lawr bob un, yn lle trysto i'r cof i gyd !"
"Ie, ond byt dy fwyd! Fe allwn wilheua'r un pryd. Sawl un oedd genti nithwr?"
"Rhowch weld: estynnwch y papur 'na ar y seld i fi, 'newch chi?"
Ni allai Beti na darllen nac ysgrifennu, a chan fod ei mab yn medru'r ddau, yr oedd ef i'w thyb hi yn wybodus tu hwnt.
"Roedd dy dad yn llawer o 'sglaig he'd, weli di; ac fe glwas rai yn dal i 'weyd ta fe o'dd y top yn hen Ysgol Dixon 'slawer dydd."
"Trueni na fusa fe byw nawr, mam, onte?"
"Ie, 'machgen i, y trueni mwya welas i erio'd. Ond darllen yr enwau i fi nawr, Morgan, i fi ga'l dy helpu i gofio, pe digwyddai rhwpath i'r papur rwpryd."
Yna yr ysgolhaig bach a agorodd restr ei alwadau gyd â balchter rhyfeddol, a chyd â phwyslais dyladwy, ef a ddechreuodd roddi enwau a chyfeiriad ei gwsmeriaid ymhlith y gweithwyr.
"John Jones, Penhow—ffeiner. 2 o'clock.
"William Jones, Pandy—forgeman. Quarter past two.
"Dyna William mab Sian, wrth gwrs," ebe'r fam. Ni wnaeth Morgan ond awgrymu â'i ben, ac aeth rhagblaen â'r enwau.
"Thomas, Tycwrdd,—ffeiner, near Nebo. Quarter to 3.
"Shoni Smwt, pydler, Penhow. Half—past 3.
"Dai Dwr Glân, pydler, Penyard. 3 o'clock."
"Ie, 'r hen scelffyn!" ebe'r fam drachefn. "Gofala di ei fod e'n dy dalu di, Morgan, wa'th ma fe mewn dyled hyd 'i glustie ym mhobman arall!"
"Ond, mam! fe fydda i yma drwy'r dydd cyn cwpla i, os wy i yn mynd i ga'l hanes pobun gennych chi."
"Paid hidio, 'nte, Morgan. Dod y papur gatw nawr, a byt dy fwyd. Rhaid iti fod yn gryf at dy waith. A phaid ag aros yn rhy hir cyn dod yn ol at y pryd nesa'!"
Dyna'r ymgom a fu rhwng y geilwad bach a'i fam cyn cychwyn ohono ef allan i fynd i waith haearn y Waun cyn diweddu o shifft y nos, er gwybod pa bryd yr oedd ef i guro wrth ddrysau y rhai a'i huriai i'w galw at eu tanau yr hwyr oedd yn dilyn. Hynny oedd ei alwedigaeth; ac, fel y gwelsom eisoes, yr oedd wedi ennill coron yr wythnos o'r blaen. Amryw o fechgynnos ereill o'r un oed ag ef a geisiodd o bryd i'w gilydd wneuthur yr un gorchwyl, ond y rhan fwyaf—naill ai o ddiofalwch am eu hamser, neu o ofn cerdded yr heolydd culion yn y tywyllwch—a flinasai ar y gwaith ymhen wythnos neu ddwy. Yr oedd i Forgan, fodd bynnag, enw da iawn fel geilwad ymhlith y gweithwyr "tân," ac ni chyferchid ef byth ganddynt ond fel "Moc Bach," a hynny o lawn cymaint anwyldeb ag ydoedd o ddisgrifiad.
Telid ef yn wythnosol ganddynt, ac yr oedd yn bwynt o anrhydedd gan y rhan fwyaf o'r gweithwyr, ar ol derbyn eu tâl eu hunain, i dalu'r geilwad bach yn gyntaf dim. Y rhai arafaf yn ei dalu oedd y pydleriaid, sef y bobl hynny a weithiai o flaen ffyrnau'r pydlo, ac a oedd yn fwy eu syched ac yn lluosocach eu llysenwau na neb yn y gwaith.
Ond nid pobl anonest hwythau ychwaith. Effaith arferiad yn wir ydoedd, oblegid cyn dyfod o'r Croshiaid i'r Waun, blodeuai "Siop y Cwmni" yn y lle: a chymaint oedd syched y pydleriaid ar hyd y mis fel mai prin yr oedd unrhyw arian yn "troi iddynt" ar ei ddiwedd.
A phan roddes Mr. Ffrank ben ar y siop, nid hawdd oedd newid natur y pydler ar unwaith. Ef a yfai ac a wastraffai ei hur ar hyd yr wythnos, ac o ganlyniad anodd oedd ffeindio hyd yn oed yr ychydig geiniogau i dalu'r geilwad pan fyddent ddyledus.
Y bore hwn yr oedd Moc Bach wedi trefnu "oriau'r galw" am y noson yn ddigon hawdd yn y ffeindri a'r forge, ac wedi hynny ef a ddringodd i'r Iard er cael trefnu â'r pydleriaid yr un modd. Pan ddaeth ef i olwg y "ffyrnau," ef a welodd bydler neilltuol, Dai Samwn Pinc wrth ei lysenw, yn amneidio arno i frysio ato.
"Dere yma, Moc Bach," ebe fe, "mae'r tân felltith 'ma bron sychu pob diferyn o wa'd yn 'y nghorff i. Etrach funud ar ol y tân, wnei di? ac os bydd yr harn yn 'llosgi,' rhêd i lawr i Dafarn y Rhydia i'm galw. Fe fydda 'nol cyn pen wincad llycad llo."
Nawr, "llosgi'r haearn" oedd y pechod mawr ym myd pydleriaeth; ac o byddai i neb adael hynny i ddigwydd, amser garw a gaffai ef gan feistr yr iard.
Edrychai'r Samwn Pinc mor lluddedig yn ei chwŷs o flaen y ffwrn fel yr addawodd y llanc yn ddiniwed i wylio'r tân yn ei le.
"Fe ddaw yn ol yn y funud, tebig iawn," ebe fe. "Fyddai ef ddim yn mentro ymhell pe bai perigl. Ac heblaw hynny, y mae yn fy nyled o rot eisoes."
Ond hir oedd yr aros, a gwylltodd y llanc o weld arwydd digamsyniol fod yr haearn yn dechreu "llosgi." Rhedodd i lawr i'r gwesty, lle'r oedd y Samwn Pinc mewn dadl frwd â rhyw borthmon am ragoriaethau ceiliogod. Ceisiodd Moc Bach dynnu ei sylw, a chredai iddo lwyddo, oblegid cododd y pydler hyawdl ei law ato fel arwydd o'i ddeall. Yna dychwelodd y llanc at y ffwrn lle'r oedd arwyddion mwy fod yr haearn eto'n parhau i "losgi." Ni wyddai ef yn iawn beth i'w wneuthur ar y foment; ond pan oedd ef rhwng dau feddwl, wele'r pydler ei hun yn dyfod—ac o weled cyflwr ei ffwrn, dechreuodd hwnnw ddial ei lid ar yr un bach.
"Y perchyll diened!" ebe fe, "pam na faset ti'n dod lawr ata' i?"
"Ond fe fuo," ebe'r llanc gan grynu.
"Gad dy gelwdd, y sperbil!" ebe yntau'n ol. A chyd â'r gair, ef a gydiodd yng ngwâr y bachgennyn fel pe i'w ddyrnu.
Ar y foment, pwy a ddaeth heibio i'r fan ond Mr. Ffrank ei hun; ac o weld sut yr oedd pethau, ebe fe yn ddigllon wrth y pydler:
"Gollwng e', Dai, y funud yma, y blagard mawr!"
O glywed y llais, ac o weld y meistr, troes y Samwn Pinc, ac â threm euog gollyngodd y bachgennyn yn rhydd, ac arhosodd yn fud wrth ei ffwrn.
Erbyn hynny yr oedd meistr yr iard wedi dyfod o rywle, ac ymddangosai am foment fel ar fedr ffrwydro allan mewn dylif o gabledd—ond, o gofio am bresenoldeb Mr. Ffrank, ef a lwyddodd i'w ffrwyno ei hun, er mor anodd hynny. Ond fel i wneuthur iawn iddo'i hun am atal ei dafod, daeth mwy o gynddaredd i'w lygaid, ac ef a ddaliodd i gyfeirio â'i fynegfŷs at yr haearn llosg hyd nes i Mr. Ffrank ei alw i edrych y ffyrnau ereill gyd âg ef.
PENNOD III.
O FLAEN Y MEISTR.
PAN aeth Moc Bach yn ol i'w gartref y prynhawn hwnnw, sylwodd ei fam ar unwaith fod rhywbeth allan o le, ac ebe hi yn dirion:
"Be' sy'n bod, Morgan?"
"Dim, mam, ne'r peth nesa'i ddim. A gafi 'nghino yn awr?"
Rhoes Beti ei ginio o'i flaen, ond nid hir y bu hi heb sylwi nad oedd ei mab yn bwyta fel arfer, a'i fod yn edrych hwnt i gongl yr ystafell fel pe mewn myfyrdod dwfn.
"Nawr, Morgan," ebe hi o weld hynny, "dwêd di'r cwbl wrth dy fam, 'machgen i, achos alla' i ddim dy helpu cyn gwpod be' sy'n bod, ti'n gweld."
Yr atebiad uniongyrchol i hynny oedd ffrwd o ddagrau; ac wedi'r gair tyner hwnnw o du y fam y sy erioed yn well datglowr y galon ifanc na dim arall, ef a fynegodd iddi yr holl hanes.
"Piti mawr!" ebe hi, "wa'th yw Dafydd ddim yn ddyn câs o gwbl. Paid ti a gweyd dim yn 'i erbyn, i 'neud pethau'n wa'th. Fe fydd yn ddicon caled arno heb hynny!"
"Na, mam, 'weta i ddim llawer o gwbl, os galla' i. Wnaf i ddim drwg i'r Sam—, i Dafydd, er iddo wasgu 'ngwddwg i'n gâs. Ond dyna sy 'mecso i, y bydd i Mr. Ffrank feddwl na all e fy nhrysto i ar ben y gwaith, a 'fynta' wedi bod mor biwr i chi a fi, ac mor serchus i fi ar ol noswaith y swllt."
"Paid ti a gwêd dim na sy'n wir, a 'falla' daw pethau ma's yn well nag wyt ti'n feddwl."
Aeth y geilwad bach i'w waith y noson honno fel cynt; ac er iddo fethu â chysgu dim ar ol ei ddibennu, ef a aeth i'r ffeindri a'r forge yn gynnar fore trannoeth yn ol ei arfer.
Yr oedd ar fedr dringo i fyny at y ffyrnau pydlo drachefn, pan ddaeth cennad ato yn dywedyd bod ei eisiau yn yr offis.
"Dyma hi wedi dod!" ebe fe wrtho'i hunan. "Fe fydda i'n falch wedi iddi gwpla, ta beth."
Ef a aeth i'r swyddfa ar ei union, ac wedi cerdded. drwy ystafell hir lle'r oedd amryw glercod yn ysgrifennu tywyswyd ef i ystafell arall; ac wedi curo wrth y drws ac agoryd o hwnnw, yr oedd ef yn sydyn yng ngwyddfod Mr. Ffrank a meistr yr iard. Yno hefyd oedd y Samwn Pinc yn edrych yn gynhyrfus iawn.
"Nawr, Morgan," ebe Mr. Ffrank yn garedig, "rhaid iti ateb dou neu dri chwestiwn i fi."
"G'naf, syr," ebe'r hogyn.
"Yn eitha gwir?"
"G'naf, syr."
"Wel, a fuot ti yn Nhafarn y Rhydiau y ddoe?"
"Do, syr."
"A gariaist ti gwrw oddiyno i Ddafydd yma wrth y ffwrnes?"
"Dim diferyn, syr."
"Wyt ti'n eitha siwr?"
"Eitha siwr, syr."
"Wel, pam oedd Dafydd yn dy wado di wrth y ffwrn?"
"Wn i ddim, syr, os nad am fod ei harn wedi llosgi, a mai fi o'dd agosa ato ar y pryd."
"Dyna ddigon; a dysg ditha dy wers, Dafydd! Mae'n blaen ta' ti a aeth at y cwrw y tro hwn, ac nid y cwrw atat ti. Pe baet ti ond wedi gneud i'r boy bach yma gario'r ddiod i'r gwaith, ni faddeuwn i byth i ti. Mae John yn gweyd mai ti yw un o'i bydlers gora' fe, ond dy fod ti'n rhy ffond o'r cwpan. Bachan! os o's rhaid iti yfed o gwbl, ŷf fel dyn ar ol cwpla dy waith. Ti elli fynd yn ol at dy ffwrn y tro hwn. Cer di nawr, ond gofala am yr harn ac am dy enw da d' hunan o hyn i mâs!"
"Diolch ichi, syr; ond yr hen gilog a wna'th y drwg i gyd."
"Yr hen gilog! Am bwy wyt ti'n sôn, Dafydd?" oblegid gwyddai Mr. Ffrank yn dda, neb gwell, pa mor chwannog oedd y pydleriaid i lysenwi ei gilydd.
"Ond cilog y dyn o 'Berhonddu, syr! 'Roedd hwnnw'n gweyd nad o'dd dim deryn ar y Waun nac yng Nghyfarthfa i ddala cannwll idd'i dderyn e'. Ac wrth gwrs, syr, fe danias i dipyn, ac fe anghofias yr harn. Dyna'r stori a'r achos i gyd, syr."
Chwarddodd Mr. Ffrank am hyn, ac nid anfoddog ganddo ddeall fod ei weithiwr yn eiddigeddu dros enw da yr hen ardal, hyd yn oed mewn ymladd ceiliogod.
"Cer, nawr, Dai," ebe fe, "ond cofia fod yr harn o flân pob cilog a ganws erioed! Allwn ni ddim byw ar wmladd cilocod, wêl di!"
"Eitha reit, syr; ac fe fydd gwell pydlin yn Ffwrnes Number One o hyn i mâs nag a fu eriod odd'yma i Gibraltar."
"Pam Gibraltar, Dafydd?"
"Dim byd, syr, ond bod tân mawr wedi bod ar y Rock amser odd 'y nhadcu yn wmladd yno 'slawer dydd. Fe'i clywais yn dweyd am dano ganwaith."
"Tebig iawn; a chofia dithau ofalu am y tân heddi fel y gnath dy dadcu ar y Rock 'slawer dydd. Gwell i ti fynd nawr, Dafydd."
"G'naf, syr, ac fe ofalaf am y tân he'd, myn asgwrn i!"
Dyna'r modd y bu rhwng y Samwn Pinc a'r awdurdodau ynghylch y tripio ar waith Ffwrnes Number One y dydd cynt; ac er na enillwyd y pydler yn llwyr oddiwrth ei "bechod parod," gwnaed digon i'w gadw rhag mynd yn waeth—ac, yn fwy na dim, rhoed iddo afael mwy ar ei hunan—barch o air meistr yr iard a Mr. Ffrank ei hun am dano fel "un o'r pydlers gora'."
A phan adroddodd Moc Bach yr holl hanes wrth ei fam y prynhawn hwnnw, yr oedd gwên foddhaus ar ei hwyneb hithau, oblegid nid yn unig yr oedd y troseddwr wedi derbyn maddeuant, ond yr oedd ei mab hithau wedi llwyddo i ddywedyd y gwir heb wneuthur y "du yn dduach" i'r pydler sychedig.
PENNOD IV.
AMDDIFFYNNYDD Y CREADUR MUD.
MEWN gweithfa fawr megis ag oedd ar y Waun yr oedd llawer o fynd a dyfod ymhlith y labrwyr hynny yw, y bobl hynny nad oedd wedi codi yn uwch na gwaith caib a rhaw. Oherwydd natur eu gwaith, nid oedd iddynt un gweithdy arbennig i lafurio ynddo, a symudid hwy gydol y dydd i ben yr iard at y gwelyau tywod o flaen y ffwrnesi, neu i ben y crug sinidr, fel y byddai galwad. I blith y rhai hyn y cyflogid y dyfodiaid, gan amlaf, ac oherwydd hynny gallai mintai ohonynt, er eu bod wrth yr un gwaith, fod yn gwbl ddieithr i'w gilydd am beth amser.
Ymhen deuddydd wedi helynt y Samwn Pinc, yr oedd mintai o'r fath ar y crug sinidr yn gwastatâu'r wyneb er paratoi lle i osod sied i lawr. Yn eu hymyl, ond wrth orchwyl arall, yr oedd dyn a yrrai geffyl yn ol a blaen yn dra chwyrn, ac a'i curai yn ddi-achos. Gwnaed hynny ddwy waith eisoes, ac yr oedd ar fedr gwneuthur hynny y drydedd waith pan waeddodd un o'r labrwyr arno:
"Hoi! paid a lladd y creatur yna!"
"Meindia di dy gaib a rhaw—dyna dy fusnes di!" oedd yr ateb swrth.
"Fe dy feindia i di, a'r ceffyl yna hefyd, os trewi di e' eto," ebai'r labrwr drachefn. "Dyna rybudd i ti!"
Yn lle cymryd y rhybudd, fodd bynnag, curodd y gyrrwr y creadur yn waeth fyth, ac yn fwy felly o hèr i'r labrwr.
Erbyn hyn yr oedd y fintai i gyd wedi atal gweithio, ac yn disgwyl beth a ddigwyddai nesaf. Nid hir y bu iddynt ddisgwyl, oblegid cerddodd y siaradydd ymlaen at y gyrrwr, yr hwn a gydiai ym môn ei ffrewyll er taro'r gwr a feiddiodd ymyrryd âg ef. Ond y labrwr, yn dal rheffyn y ffrewyll yn ei law chwith ar ei ddisgyn o gylch ei ysgwyddau, a dynnodd y gyrrwr, a afaelai wrth y bôn, tuag ato; ac wedi ei dynnu yn ddigon agos, ef a'i tarawodd o dan yr ên â dwrn ei law rydd, nes syrthio ohono wysg ei gefn. Yna ef a ddychwelodd at ei gaib a rhaw fel pe bae dim wedi digwydd. Ond erbyn hyn yr oedd y gyrrwr wedi codi ar ei draed, a chan adael ei geffyl yn y man, ef a aeth i waered dros y crug at fintai arall o ddynion a weithiai ryw bellter oddi wrtho.
"Mae e' wedi mynd at Ianto ei gender, ti elli fentro," ebe un o'r labrwyr ereill. A'r gwir a ddywedasai, oblegid cyn nemor o funudau gwelid y gyrrwr a'i gefnder, a oedd â chryn enw iddo fel dyrnwr, yn brysio tuag atynt.
"Ble ma'r labrwr deuswllt y dydd a drawodd Dai 'nghender?" ebe fe yn llidiog iawn. "Rhaid iddo sefyll hanner munud o 'mlaen i!"
Ar y gair aeth concwerydd ei gefnder ato yntau, ac wedi ychydig o ysgarmais, ef a roddes i Ianto hefyd yr un peth ag a roddes i Dai, nes ei fod ar lawr ar ei hyd.
"A wyt ti am gael ail gynnig?" ebe fe wedyn wrth y gyrrwr a safai gerllaw, "wa'th dyma dy siawns di!"
Ond nid oedd brys ar hwnnw i ail ymaflyd yn y gwaith; ac erbyn hyn yr oedd Ianto wedi codi ar ei draed, ac yn yr un teimlad a'r gyrrwr ei hun.
Yn y cyfamser yr oedd rhai o'r ail fintai wedi cyrraedd y lle, ac wedi gweld o un ohonynt y gwr a drechodd y ddau gefnder, ebe fe yn uchel:
"Shoni Sgubor Fawr, myn brain i!"
"Ie!" ebe Shoni, gan siarad am y waith gyntaf. "Does gen i ddim yn d'erbyn di, Ianto; ond dysg dy berthynas i beidio â gneud cam â chreatur mud, nei di? Wa'th chaiff e' ddim o'i 'neud os bydda' i'n acos! Dyna i gyd!"
Aeth y labrwyr yn ol at eu gwaith; ond y gurfa i'r ddau gefnder oedd siarad yr holl weithfa am ddiwrnodau yn ol llaw, ac aeth llawer un heibio i fintai Shoni yn unswydd i weld y gwr yr oedd gymaint son am dano yng ngweithiau haearn Sir Forgannwg, ac a wnaethai laned gwaith ar Ianto Shams, y pen-ymladdwr lleol. O siarad am dano rhwng pob dau yn y gwaith, aeth yr hanes i'r offis ac i glustiau Mr. Ffrank ei hun.
"Roedd yn hen bryd gosod diwedd ar greulondeb yr halier yna," ebe fe. "Feiddiai fe ddim camdrin y ceffyl ar yr iard neu o flaen y ffwrnesi, ond cretu yr oedd ei fod yn ddigon pell ar ben y tip. Diolch fod Shoni Sgubor Fawr yno. Bydd raid imi weld champion y ceffyl f' hunan. Beth well ŷm ni o roi pob gofal i'r ceffylau os bydd rhyw sneak fel Dai cender Ianto yn gneud cam â nhw wetyn? Ie, fe ddiolcha i i Shoni'm hunan."
"Wetiff e' ddim llawer wrthych, syr, wa'th un diweyd tost yw e'."
"Does waniath am hynny. Gormod o 'weyd sy gan y rhan fwya' ohono ni, greta i. Ond ma' pethau'n gwella yma. Pe bawn i eto ond cael y pydlers i witho heb gwrw, fe fyddai yma le digon da. A ma nhw'n gweyd bod Ffwrn Number One yn gwitho'n rhagorol ar hyn o bryd."
"Eitha gwir, syr. Ond mae'r pydlers yn dechre betio â'i gilydd pa hyd fydd Dai eto cyn meddwi."
"Yr hen gnafon! Chi gewch weld y temtia nhw ef yn ol i'r hen ffyrdd wedi'r cwbl. Ond dim, os galla i!"PENNOD V.
ARFAETHU GWELD Y BYD.
GWELAI y geilwad bach Mr. Ffrank bron bob dydd am yr wythnos a ddilynodd y croesholi yn yr offis, ac nid byth yr âi y meistr heibio iddo heb air o gyfarchiad. Yn wir, ef a arhosai ambell waith am air o ymgom hefyd. Yr oedd wedi datgan ei farn fwy nag unwaith wrth rai o'r is-swyddogion fod "rhywbeth yn y boy bach ag oedd yn straight iawn." Ac o hynny, ef a holodd am ei dylwyth ac am amgylchiadau'r fam.
Un bore, o gyfarfod y llanc, ymddangosai Mr. Ffrank yn llon iawn, ac ef a oedodd ei fynd heibio yn fwy nag a wnaethai o gwbl cyn hynny.
"Sut ma'r galw'n talu, Morgan?" eb efe. "A oes rhai yn dy anghofio wedi iti fynd drwy'r tywyllwch i guro wrth eu drysau am wythnos?"
"Dim llawer, syr, wir. Ac os bydda nhw yn anghofio un wthnos, ma nhw'n talu'n ddwpwl, rhan fynycha, 'mhen y pythewnos. A dyna Dafydd Ffwrn Number One, fe rows e' chwechinog i fi yn lle grot y Satwrn wedi i'r harn losgi."
"Morgan," ebe Mr. Ffrank, gan droi i lymder ar unwaith, "ateb i mi hwn: Ai am ddywedyd celwdd y cêst ti'r ddwy ginog arall?"
"Fe alla i ateb yn ddicon rhwydd, syr, wâth ni ofynnodd e' imi ddwedyd celwdd eriôd; ac fe wyddai fwy, syr,—na f'ai ddim gwell o gynnig hynny. 'Wareteg i Dai, syr."
"Ie, a 'wareteg i tithau. Ond 'rwy'n falch imi ofyn, serch hynny. Eu rhoi nhw iti wnaeth Dafydd, tebig iawn, am fod ffair 'Berdar mor agos."
"Wni yn y byd, syr; ond nid am gelwdd, ta beth!" Teimlai'r meistr mai ef ei hun oedd dan gerydd yn y geiriau diniwed hyn, ac er mwyn newid y pwnc, ef a ofynnodd yn sydyn:
"A fuot ti erioed yn Ystradfellte, Morgan?"
"Naddo, syr; ond ma' mam yn gweyd y galla' i fynd i Aberdar ryw ddiwrnod, os na bydd gwaith. Fe leicwn weld dipyn bach 'blaw'r Waun, wath beth yw neb yn well o ddarllen am leoedd pell os na wel e' beth ohony' nhw?"
"Wyt ti'n gallu darllen, Morgan?"
"Otw, syr, a 'sgrifennu he'd." Hyn gan dynnu allan ei restr "galwadau" am yr wythnos, a'i dangos yn ei falchter i Mr. Ffrank.
"Nid drwg, yn wir," ebe'r meistr. "Ac am beth wyt ti'n ddarllen fwyaf, 'y machgen i?"
"Am y gwledydd off, syr, fwyaf. Ma' mam yn ffond iawn o glwed am y rheiny. 'Roedd nhad yn darllen yr un pethau iddi, medde hi; a dicon gwir, wrth gwrs, wath llyfrau nhad sy gen inna' he'd."
"Beth oedd dy dad pan oedd e' byw?"
"Ffeiner, syr, o dan 'ch tad chi; ond fe gollws 'i iechyd, a withws e ddim llawer wedi 'ngeni i.
"Diar me! A ffordd bu dy fam byw oddiar hynny?"
"Dwn i ddim, syr; ond rhaid 'i bod hi wedi gwitho'n galed, wath fe'i clwas yn gweyd na ofynws hi am help gan neb eriôd!"
Edrychai Mr. Ffrank fel pe mewn myfyrdod dwfn ar ddywedyd o'r llanc hyn, ond yn sydyn fe a'i cofiodd ei hun, ac ebe fe:
"Morgan, fe fydd isha rhywun arna i i'm helpu gyd â'r pethau yn Ystradfellte un o'r wthnosa nesaf. Elli di ddod?"
"Dwa, syr, os ta dy' Satwrn fydd hi."
"Dy' Sadwrn 'rown i yn ei feddwl. Fe dy dalaf am dy waith, ac fe ddywedaf wrthyt eto pa wthnos yr awn."
Ond ni ddywedodd Mr. Ffrank mai llunio esgus i beri i'r hogyn "weld y byd" yr oedd ef yn y cynnig, nac ychwaith mai ffug caredig oedd yr "helpu gyd â'r pethau," er mwyn i'r llanc allu estyn help i'r weddw.
"Mam! mam!" ebe Morgan, o fwrw'n sydyn i'r aelwyd y prynhawn hwnnw. "rwy'n mynd i Ystradfellte! A threiwch ddweyd gyd â phwy."
"Ni wn i'n wir, ond credu'r o'wn i mai i Aberdar yr o'et ti am fynd. Pwy sy'n mynd gen ti?"
"Mishtir, mam! Mr. Frank 'i hunan! Fe wetws wrtho 'i heddi 'i fod yn moyn i fi ddod i 'helpu gyta'r pethe,' a byddai fe'n fy nhalu am hynny. Chi gewch chi gap mwslin newydd o'r arian, mam."
Gwenodd Beti Shôn o son am y cap mwslin, ond ystyr ddyfnaf ei boddhad oedd bod ei mab wedi plesio Mr. Ffrank yn ddigon i ennill ei ffafr.
"A fuoch chi yn Ystradfellte eriôd, mam?" ebe'r llanc yn eiddgar.
"Do, unwaith, 'machgen i, amser yr o'wn i'n ferch ifanc; ond bach o gof sy gen i am y lle. Cwm gwyllt iawn yw e', ac yn llawn o bethe òd, medde nhw."
"O wel, fe fynna i 'u gweld bob un pan âf i gyta Mishtir, ac fe weta i wrthych chi am dany' nhw i gyd. Dyna hyfryd fydd hi, mam!"
"Ie, ond cofia, Morgan, mai mynd yno i helpu y byddi di; a 'falla' bydd rhai o'r gwyr mawr' gyta Mr. Ffrank, ac fel'ny fydd dim llwer o siawns iti weld y cwbwl."
Ac fe
"Down i ddim wedi meddwl am hynny, ond fe fydda i'n gwpod y ffordd yno wetyn, ta beth. ewch chi a finne i weld y lle wrth yn hunen pan fydd hi'n haf. Faint o ffordd yw hi odd'ma, mam?"
"Gâd i fi weld. Mae bothtu 'wech milltir. Gormod fydd hynny i ti ei gerdded am beth amser.'
"Twt! mam. 'Rwy'n cerdded gymaint a hynny bob nos. Fe awn yno cyn diwedd yr haf."
"Olreit. Ond cer di i gysgu'n gynnar y prynhawn yma, neu ti fyddi di yn ffaelu â chwnnu mewn pryd heno."
"Dyma fi'n mynd làn, mam. Ond cofiwch nawr diwedd yr haf."
Aeth Morgan i'w wely yn llawn o'r ysbryd "gweld y byd," ac yn ei gwsg, ef a'i gwelai ei hun yn teithio milltir ar ol milltir, yn dringo mynyddoedd, croesi afonydd, gwthio drwy'r coedwigoedd yn ddi-ben-draw, ond yn hynod iawn, yr oedd ei fam wrth ei ochr o hyd. Ef a siaradai â hi, a hithau a'i hatebai yntau; ac yn swn eu hymgomio â'i gilydd yn y wlad bell, daeth brawddeg o'r hen fywyd yn ol yn fyw iawn i'w glyw:
"Morgan, mae'n bryd cwnnu!"
Yna ef a ddihunodd yn iawn; ac wedi ei ddyfod i lawr i'r grisiau, ef a adroddodd wrth ei fam gyd âg asbri mawr am y lleoedd tywyll ac enbyd y buont ill dau yn ystod yr oriau diweddaf.
"Arwydd dda iawn," medde hi, "wath 'roen ni gyta'n giddyl, ti'n gweld. Cer di nawr, ac fe gysga i nepyn yn y gader cyn partoi dy swp er di wedi iti ddod yn ol."
PENNOD VI.
MYND I YSTRADFELLTE.
DYDD Gwener pen yr wythnos, a'r geilwad yn mynd eto oddiamgylch y weithfa, cyfarfu Mr. Ffrank âg efe wrth y forge.
"Ystradfellte bore 'fory, Morgan! Bydd o dan gloc mawr yr offis am naw, ac fe awn gyd â'n gilydd."
"Olreit, syr, fe fyddaf yno mewn pryd."
A phan ddaeth y bore pwysig hwnnw tywynnai haul y gwanwyn ar fwthyn Beti Shôn gan roddi adliw newydd ar bob blodeuyn cynnar o gylch y tŷ. Nid llai hefyd yr heulwen ar yr aelwyd, lle yr oedd Morgan a'i fam yn cyfranogi o'u brecwast syml arferol. Codasai'r llanc heb ei alw y dydd mawr hwn, ac yr oedd yn barod i'r daith gryn awr o flaen yr amser.
"Cofia di fod ar dy oreu heddi, Morgan," ebe'r fam, "a phaid â bod yn rhy ewn mewn dim. Ond os gofyn neb o'r gwŷr mawr rwpath genti, g'na fe ar unwaith, a threia bido â bod yn lletwith mewn dim."
"Mam!" ebe'r gwr profiadol un-ar-ddeg oed. "Nid babi wy' i nawr, cofiwch! Ond fe wna fel y'ch chi'n gweyd. Dyma fi 'n mynd."
O'i ddyfod i olwg cloc mawr yr offis, credai Morgan na welsai ei wyneb mor hawddgar erioed. Yn wir, llon a hawddgar oedd popeth iddo ef ar fore'r anturiaeth fawr. Nid oedd ef ond wedi newydd gyrraedd yr ysgwâr o flaen yr offis pan ddaeth un o ostleriaid y gwaith yn arwain "ceffyl a thrap" i'r unfan, ac ymhen munud neu ddau yn rhagor daeth Mr. Ffrank ei hun i lawr y grisiau ac allan o'r swyddfa. Gyd âg ef yr oedd boneddwr arall a adnabu Morgan fel goruchwyliwr y "cwar cerrig calch" ym Mhenderyn.
Wedi i'r ddau ddyn ddringo i'r trap, ac edrych o'r meistr o dan sedd y cefn, ef a roes amnaid i Forgan i neidio i fyny i honno. Aeth yr ostler yn ei ol, a chwap! yr oedd y cwmni yn croesi'r afon ar gyfer Penhow, a ffwrdd â hwy i heol Penderyn ac Ystradfellte. Teimlai Morgan ei fod yn rhywun mewn gwirionedd y bore hwnnw, a llawer o lygadu a fu ar ei ol o fyned o'r trap drwy ran uchaf y Waun.
Siaradai'r ddau foneddwr ar ryw bwnc ynglŷn â'r Cwar—sef Cwar Crosha ym Mhenderyn,—a berthynai hefyd i'r weithfa ar y Waun. Nemor sylw a roddai'r llanc i'r siarad wrth fyned o'r tri heibio i Lety Rhys, Y Trebanogydd, Llygad Cynon a Phomprenllwyd, oblegid cofiai am air ei fam am beidio a bod yn "rhy ewn". Heblaw hynny, yr oedd gweld y meysydd a'r perthi yn y dillad newydd a roes y gwanwyn iddynt wedi ennill ei fryd yn lân; a thra'r oedd boneddwyr y sedd flaenaf yn penderfynu rhyw bwnc ynglŷn â'r Cwar, penderfynai boneddwr y sedd olaf na byddai ef lawer yn henach cyn dwyn ei fam allan i rodio'r ffyrdd a oedd mor ddenol ac addurnol eu gwedd rhwng y Waun a Phenderyn.
Wrth y Bont Blanca', ychydig yn is na Chwar Crosha, disgynnodd y goruchwyliwr o'r erbyd, ac wedi ychydig o siarad pellach oddiar y llawr, ef a ysgydwodd law â Mr. Ffrank ac a droes i gyrchu y Cwar.
Wedi ei fyned ef ymaith dechreuodd y meistr siarad â'r llanc, ac i'r perwyl o wneuthur hynny ef a eisteddodd am ychydig ar ei letgroes ar y sedd flaen; ond wedi gyrru ohonynt heibio i'r "Lamb," a dyfod at y Glwyd Tyrpig uchaf, ef a ataliodd y cerbyd am foment, ac a archodd i Forgan neidio dros gefn y seddau fel ag i eistedd wrth ei ochr ef. Oddiyno ymlaen yr oedd y Sgweier yn siaradus iawn âg ef, a soniai wrth y llanc am bopeth o ddiddordeb ar hyd y daith.
"Weli di'r graig yco?" ebe fe wedi eu myned heibio i'r Pantgarw. "Y Bryncul yw ei henw, ac y mae afon Hepsta ymron yn ei chylchu a'i gwneuthur yn ynys. Yr ochr draw iddi y mae Sgwd-yr-Eirw, lle mae'r afon yn cwympo dros y graig i lyn mawr. A dyna be' sy'n od—mae'r graig yn taflu'r dŵr gymint mâs dros y dibyn fel y gellir cer'ed o dan y bwa o un ochr i'r llall heb 'lychu o gwbwl! 'Rwy' i wedi 'neud 'n hunan lawer gwaith. Ond allwn ni ddim mynd at y Sgwd heddi, wa'th lle câs iawn sy yno."
Yna wedi eu dyfod at Bont Hepsta, ef a ofynnodd i'r llanc:
"Welast ti afon heb ddŵr yriôd?"
"Naddo, syr; 'does un i gâl."
"Aros di funud, a thi gei ei gweld hi cyn mynd mâs o'r cwm bach hwn."
Yna ef a esboniodd fod daear Hepsta ac Ystradfellte ym Maes y Garreg Galch, a bod agennau ac ogofäu bychain a mawrion yn tyllu'r holl ardal.
"Nawr, ma' Hepsta yn rhytag ar y wyneb lan at Bont y Gatar, ac yn dod mâs o dan Craig Bryncul; ond nid yw'n rhytag dan y bont ond pan bo llif mawr ynddi, a'r tylla yn ffaelu derbyn y dŵr i gyd. Ma'r un peth ym Mellte hefyd, fel y cei di weld."
A'r gwir a ddywedasai, oblegid pan ddaethant at Bont Hepsta nid oedd yno ddafn o ddwfr, er bod y gwely yn llawn o gerrig llyfn fel gwely pob afon arall.
Yna dringodd y cerbyd riw fawr, ac wedi cyrraedd ei chopa a dyfod i olwg y Bannau, credai Morgan na welsai harddach golygfa erioed, oblegid o'r dwyrain uwchben y Fenni (fel y'i hysbyswyd gan Mr. Ffrank), i Fynydd Du Shir Gâr yn y gorllewin, yr oedd cadwyn o wyth neu naw mynydd fel mur mawr rhyngddynt a'r gogledd.
Arhosodd y cerbyd am beth amser ar ben y rhiw. i'r ceffyl gael ei anadl; a phan oedd Morgan yn disgwyl i Mr. Ffrank adrodd rhywbeth wrtho am y mynyddoedd heirdd fel ag a wnaethai am Hepsta a Sgwd-yr-Eirw, synnwyd ef gan gwestiwn diberthynas â'r olygfa:
"Morgan, yr wyt yn mynd i'r Ysgol Sul, mi wn. A ydyn' nhw yno yn son rhwpath wrthot ti am Dduw?" "Otyn, syr, ac am Moses, a Joseph, a Daniel he'd." "Tebig iawn; ond," ebe fe yn wylaidd iawn, gan droi ei fraich i gyfeiriad y mynyddoedd, "dyco'r rhai sy'n dweyd mwya' wrtho i am Dduw. Fe awn ymlaen yn awr.' Q Ac o'r man hwnnw i ben Waun Cwm Porth, lle yr oedd pentre Ystradfellte yn y golwg, ni ddywedodd ef air yn ychwaneg.
PENNOD VII.
Y PORTH MAWR.
AR ben y rhiw a arweiniai i waered i'r Pentre, cyfarfuwyd â hwy gan fugail Y Fan Fawr—gwr a gyflogid gan y ffermwyr a oedd â'u hen-drefydd yn rhy bell oddiwrth y mynydd i fugeilio arosfeydd eu ffermydd. Ac oddiwrth y modd parchus y cyfarchai hwnnw Mr. Ffrank, gwybu Morgan fod Ysgweier y Waun yn ymwelydd mynych â Dyffryn Mellte.
"A oes llawer yn y Pentre heddi?" ebe'r meistr wrth y bugail, ar ol ymholiad parthed y defaid, pris y gwlân, a phethau cyffelyb.
"Nac oes, syr, dim enaid byw ond y chi, am wn i. Mae'n rhy gynnar yn y flwyddyn."
Wrth hynny ef a olygai nad oedd yno yr un ymwelwr, oblegid ymwelwyr lawer a fyddai yn cyrchu i'r cwm prydferth fisoedd yr haf.
"Bore da, Meredydd."
"Bore da, syr."
"Nawr, Morgan, dyma ni yn y lle. Fe osodwn y trap yn y Blue Bell; ac wedi i fi fynd i Gwmnant am hanner awr fe fydd y dydd o'n blaen."
Croeswyd Pont-ar-Fellte (lle sylwai Morgan fod gwely'r afon fel gwely Hepsta, yn hollol sych), teithiwyd ar y gwastadle am ganllath neu ddau, a gyrrwyd i mewn i sgwâr y pentre in grand style, chwedl y meistr. Ymddangosodd pobl y Blue Bell fel pe'n adnabod y Sgweier yn dda, oblegid braidd cyn iddo orchymyn dim, rhoed llestraid o laeth ynghyd â bara-a-chaws gwlad ger ei fron.
"Dyma'r bwyd, Morgan, i lanciau fel ti sy'n tyfu; ac o ran hynny i hen fechgyn fel finna he'd. Beth wetwch chi, Sioned?"
"Ie, syr; a rhaid bod 'i isha arnoch chi wedi dod bob cam o'r Waun. Shwd ma Gwilym 'y nghender gyda chi yno, syr?"
"Champion, Sioned. Y ffwrneswr gora o Lanelli Shir Gâri Lanelli Frycheiniog, ac heb golli munud o'i amser yriôd. Cwpaned arall, Morgan?"
"Dim thenciw, syr."
"Wel, mâs â ni. Mae'n ddiwrnod rhy ffein i aros miwn heddi."
Wedi eu myned allan i'r sgwâr unwaith eto, esboniodd y mestir y byddai ef ar fusnes yng Nghwmnant am ychydig, ac yn y cyfamser y byddai i Forgan fynd i'r ystabl, ac i weld bod y ceffyl yn cael pob briwsionyn o'r ceirch a oedd yn y bwrnel yng ngwaelod y trap.
"Eitha da, syr. Ac fe roddaf ddŵr iddo he'd."
"Dim gormod o hwnnw, Morgan; ond ti a elli ei gynnig iddo. Dyma fi yn mynd, neu fe fyddaf yn ddiweddar yn dod yn ol."
Ymhen yr hanner awr, dychwelodd Mr. Ffrank i'r sgwâr eto, ac mor llon ei ysbryd a phe bae yn grwt ei hun.
"Nawr, Morgan," ebe fe, "dere gyda fi, ac fe ddangosaf iti rwpath nad o's dim yn depig iddo yng Nghymru. Glwast ti son am y Porth Mawr yriod?"
"Do, syr, gan 'y mam; ond dim ond son o'dd ganddi hithe am dano he'd."
"Wel, ti gei di ei weld dy hunan heddi; ac fe elli di ddweyd yn ol wrth dy fam bopeth a weli. Fe drown i lawr fan hyn."
Wedi croesi camfa neu ddwy, a dyfod uwchben dibyn serth, clywai Morgan swn llawer o ddwfr; ac wedi disgyn ohonynt i fan isaf y cwm, yno yr oedd afon gref yn llifo yn yr un gwely ag oedd yn sych wrth y bont ond hanner milltir yn uwch i fyny.
"Dyna bwllyn glân!" ebe Morgan, o weld llyn gloyw dan y dorlan bellaf.
"Ie, glanach na Phwll Harris, a Phwll yr Ynys ar y Waun, 'nte? Weli di'r pysgotyn braf yco wrth y garreg? Ond yw e'n un ffein?"
Erbyn hyn yr oedd y llanc yn nwyfus ryfeddol, ac yn edrych i bob pwll gyd â gwanc y pysgotwr yn ei lygad; ond ar godi ohono ei olygon ychydig yn nes ymlaen, ymgollodd mewn syndod o weld yr afon yn gyfan yn diflannu o'r golwg wrth fôn craig enfawr.
"Dyma'r Porth," ebe'r Sgweier. "Dere ar f'ol i, a gofala i beidio a chwympo ar y cerrig."
Aethpwyd i mewn i'r ogof, gan gadw gyd âg ymyl y dwfr; ac wedi treiddio beth ffordd, goleuodd Mr. Ffrank lamp fechan, am fod y lle bellach yn dywyll.
"Edrych lan, Morgan," ebe fe wedyn.
A phan edrychodd y llanc i'r nenfwd, yno yr oedd gwacter mawr, a mil o ronynnau callestr yn y graig uwchben fel drychau bychain yn adlewyrchu goleuni'r lamp. Ymgollodd y llanc mewn syndod, ac o glywed swn ei lais ei hun yn diasbedain yn y gwagle, daeth gradd o ofn arno.
"Paid âg ofni, Morgan," ebe'r Sgweier yn dirion, "cydia yn 'm llaw i, ac fe awn i weld y Baban."
"Y Baban, syr?"
"Ie'r Baban!"
Ac ar y gair yr oeddynt yng ngolwg piler o faen gwyn a estynnai o'r nenfwd hyd at ddarn o graig ynghanol llyn mawr, a'r maen ei hun o ryw ddamwain wedi cymryd llun baban.
"Ond yw e'n hardd?" ebe'r Sgweier, "a thrwy lwc wedi ei osod gan Natur fel na all neb osod ei ddwylo brwnt arno. Fe awn ma's yn awr; ac efalla, os down yma eto, fe awn at y sgwd yna ar y 'with, o'r lle mae'r swn yn dod. Nid yw'n sâff i fynd yno ar ol glaw y gaea. Fe fydd yn well yn yr haf."
PENNOD VIII.
Y RHUFEINIAID YN YMYL.
"SHWD fachan i gered wyt ti, Morgan?" ebe Mr. Ffrank wedi dyfod ohonynt allan o Ogo'r Porth Mawr a chyrraedd y brif heol ar ochr y cwm.
"Treiwch fi, syr!" ebe'r llanc yn ffyddiog.
"Wel, os gelli di gered dwy filltir i'r lan, a dwy filltir 'nol, fe awn at y Bedd."
"At y Bedd, syr! Os mwy nag un eclws yma?" "Nac oes, Morgan; ond 'dyw pob bedd ddim wrth eclws ne' gapel, cofia. hwn." Ac un o'r beddau hynny yw
"Pwy gas 'i gladdu yno, syr?"
"Does neb yn gwpod, wel' di—ac eto mae ei enw ar y garreg!"
"Carreg yno, ac enw arni, a neb yn gwpod pwy gas 'i gladdu yno! Dyna od, syr."
"Oti, dipyn yn od, pan feddylia i. Ond dere 'mlân i gâl gweld beth 'nei di ohoni."
Ac o hynny ymlaen esboniodd Mr. Ffrank i'r llanc eiddgar ddyfod o bobl dros y môr i'r wlad hon gynt i'w choncro, a'u bod nid yn unig yn gryf ac yn glyfar i ymladd, ond yn gryf ac yn glyfar mewn pethau ereill hefyd. "Eu henw," ebe fe, "oedd y Romans."
"Sefwch chi," ebe Morgan, "mae eu henw yn y Beibl."
"Oti, wrth gwrs. Dyna nhw, yr un pobl, ac yn wheleua Lladin. Nawr, fe fuon nhw yma bedwar can mlynedd, ac yr o'en yn gwpod y ffordd i doddi harn a phlwm yn dda cyn bod son am neb ohono' ni."
Rhyfeddod mawr oedd hyn i'r llanc, oblegid, rywfodd, credai ef fod Gwaith Haearn y Waun wrth yr afon erioed. Onid yno y bu ei dad yn gweithio, a'i dadcu o'i flaen yntau?
"Wel," medde Mr. Ffrank ymhellach, "yr o'ent yn glyfar iawn hefyd i 'neuthur hewlydd; mae un ohonyn' nhw bothdu betar milltir odd'ma. Ac heblaw hynny, pan fydde nhw yn claddu rhywun mawr, yr o'en nhw'n doti carreg bedd uwch i ben. Dyna beth yw'r garreg hon, ti'n gweld. Mae pobol Ystradfellte yn ei galw hi'n Faen Madoc, ond eu camsyniad nhw yw hynny, 'sdim dowt, wâth do's mo'r enw Madoc arni o gwbwl; a mwy na hynny, nid enw Lladin yw Madoc, chwaith.' Dyma ni bron ar ei phwys hi nawr."
Enynnwyd diddordeb Morgan yn fawr gan y siarad hyn, oblegid yr oedd ef wedi darllen peth am olion gwaith y Rhufeiniaid, ond heb erioed ddyfod wynebyn—wyneb â hwynt.
"Dyma hi,—a gwell enw arni a fyddai Maen Dervac greda i. Beth nei di o'r llythrenna 'ma?"
Ac ar y gair tynnodd y Sgweier ddarn o sialc o'i boced, ac âg ef fe a olrheiniodd yr argraff ar y maen, ac fel y tyfai o dan ei law, gwelwyd mai'r geiriau canlynol oedd arni:
ɊERVVC—FILIUS IVL—IC IVCIT.
"Dyma nhw iti—'Dervac, fab Ivl, sy'n gorwedd yma.' A pha beth a ddymunai neb gwell byth? Pan fydda i farw, rhywbeth tebig 'rwy i am gael ar 'y medd innau, yn siwr iawn."
Sylwodd Morgan i'r Sgweier dynnu ei het pan ddaethant at y bedd gyntaf, ac ef a gredai ar y foment mai ei chwŷs a barodd iddo wneuthur hynny, ond mewn eiliad neu ddwy deallodd yn wahanol, a diosgodd yntau ei gapan yr un modd.
"Rwy'n mo'yn 'sgrifennu'r enw i lawr, syr," ebe fe, wedi i Mr. Ffrank ddibennu â siarad.
"Eitha da, 'machan i," ebe hwnnw yn foddhaus. "Cymer di d'amser, fe ddŵa i'n ol yn y funud."
A thra bu'r llanc yn copio'r geiriau, cerddai Mr. Ffrank hwnt i ben twyn yn ymyl, gan wynebu'r mynyddoedd, a dal ei het yn ei law yr holl amser. Pan ddaeth ef yn ol, ebe fe wrth y llanc:
"Pobol gall o'dd y Romans, Morgan. Pwy fase'n dewis gwell lle i fedd na hwn byth, a'r mynyddoedd mawr yn edrych i lawr arno? Ac o ran hynny, lle ardderchog a fyddai i fyw hefyd digon o le, ti'n weld, a neb yn sbio arnat ti. On' bai ei fod yn rhy bell o'r gwaith, dyma'r lle y b'aswn i byw 'm hunan. Fe awn yn ol yn awr, Morgan. O's 'want bwyd arnat ti? Wel, fe fydd digon i gâl yn y Blue Bell, ac wedyn fe awn yn ol i'r Waun mewn amser da cyn ei bod nos." "Lle ffein yw Ystradfellte, syr," ebe Morgan, wedi dringo ohonynt i'r cerbyd a chychwyn y daith adref.
"Yr wyt o'r un farn a finne, 'rwy'n gweld; ond welest ti 'mo hanner y lle eto. 'Rwyt ti'n ifanc, ac fe elli di weld y cwbwl yn nes 'mlân pan fydd amser gen ti."
"Beth 'wetech chi wrtho i am weld yn gynta', syr?" "Mae'n dibynnu beth fydde ore gen ti. Dyna Scytydd y Clyn Gwyn—tair o nhw—a mae rhai yn dweyd 'u bod yn fwy hardd a gwyllt na Sgwd yr Eirw hyd 'n oed. Ond gwell gen i Sgwd yr Eirw 'm hunan. Ac os o's deleit gen ti mewn hen, hen hanes, 'dwyt ti ddim wedi gweld y Maen Llia na Maen y Mynydd eto. A dyna wetyn olion yr hen gastell wrth Aber Llia, na ŵyr neb ond y peth nesa i ddim am dano. Ond os hanes diweddar 'rwyt ti'n 'mofyn, cer lawr i Hendrebolon, lle bu Lewsyn yn cwato amser Riots Merthyr. Chware teg i Lewsyn, 'ro'dd tipyn o blwc ynddo i wmladd â'r sowldiwrs. O'dd wir, er ta' yn erbyn 'y nhad a'r Ironmasters ereill y gwnath e'r mwstwr i gyd."
"Fe glwas am dano fe, syr."
"A dyna wetyn Syr Dafydd Gam. Glwast ti am dano 'fynta'? Naddo, tebig. Ond yma y bu ynta'n cwato cyn mynd i ffwrdd i'r Battle of Agincourt, medde nhw, ac 'rwy'n 'u cretu hefyd, wath fe o'dd perchen rhai o'r ffermydd 'ma—a lle iawn i gwato o'dd Ystradfellte, 'n enwedig yr amser hynny."
"Rhaid i fi ddarllen am dano fe, syr, wath battle yn iawn o'dd Agincourt, wrth bob cownt."
"Dyna'r ffordd!—dal di i ddarllen, Morgan. Segura ma'r rhan fwya' o'n pobol ifenc heddi'. Ond dyma ni wrth y Cardiff Arms. Gwell iti ddisgyn ar y Sgwâr. Dyma rwpath iti am ofalu am y ceffyl pan o'wn i yng Nghwmnant. Nos da i ti."
"Nos da, a thenciw, syr."
PENNOD IX.
YMGOM YR AELWYD.
MAM! Gwyddech chi fod y Romans wedi bod eriôd yn Ystradfellte?"
"Y beth!"
"Y Romans sy â son am dany' nhw yn y Beibl."
"Naddo i'n siwr. Chlŵas i eriôd mo'u henwau nhw, ac yr o'wn i'n napod y rhan fwya o wŷr 'Stradfellte slawer dydd. Dyna'r Pweliaid, y Mathews, a'r Evansiaid, ond dim Romans eriôd."
"Ond, mam, 'ro'dd y rhain yn byw ymhell pell yn ol, ac yn wheleua Lladin."
"Wel, nid gwŷr 'Stradfellte sy gen ti'n siwr, wa'th wheleua Cymrâg ma' nhw yriôd, yriôd."
"Ond, fe wetws Mr. Ffrank wrtho i am dany' nhw, ac fe ddangosws fedd un ohony' nhw i fi."
"Ymhle yn y fynwent 'r o'dd hi? wa'th fe fuo i'n gweld y beddau pan o'wn i'n ferch ifanc."
"Dim yn y fynwent o gwbwl, mam, ond ymhell hwnt ar y mynydd. Fe fuo i wrth y bedd hynny heddi gyda Mr. Ffrank 'i hunan."
"Wel, rhaid ei fod yn wir, os o'dd Mr. Ffrank yn gweyd hynny."
"O'dd, wrth gwrs; ac fe wetws llawer rhacor am dany' nhw. Yr o'en nhw'n rhai da iawn i ymladd he'd."
"Wmladd! Wel, 'do'en nhw ddim yn respectable iawn, ta beth, a 'rwy'n rhyfeddu i Mr. Ffrank 'weyd dim am dany' nhw. Rhyw bobol fel Ianto Shams, tebig iawn, yn wmladd â phawb a phopeth. Dere at dy fwyd, Morgan."
Aeth Morgan at ei swper, ond yr oedd diddordeb ei fam wedi ei ennyn, a hir iawn a fu'r pryd bwyd hwnnw, —y llanc yn disgrifio yn frwdfrydig, a'r fam yn gwrando mor frwdfrydig â hynny.
"Rwy'n cofio'r Blue Bell yn dda," ebe hi, "wa'th fe fu dy dad a finna yno cyn prioti. Ac yn od iawn, 'rwy'n ei gofio am beth arall hefyd, wa'th yno yr yfes i'r cwpaned cynta o dê yriôd."
"Llaeth a yfodd y Sgweier a finna yno heddi, mam, ta beth, a bara a chaws gytag e'. Bwyd iawn sy yn 'Stradfellte, mam. 'Do's dim rhyfeddod fod Mr. Ffrank yn leico mynd yno.'
"Ie, 'machan i. Ond fe all e' fynd i ble mynniff e'. Ma' llwer yn rhyfeddu am 'i fod e'n aros yma o gwbwl pan alle fe fynd off ymhell i fyw. Ond dyn da yw Mr. Ffrank i'r Waun. Trueni fod e'n leico'r Romans 'na. 'Rwy wedi clwad fod e'n meddwl rhoi bedyddfa i'n Capel ni—a dwli, felny, yw i rai 'weyd nag yw e'n cretu bod Duw i gâl.
"Cretu bod Duw, mam! Oti, greta i.
Beth pe b'ase nhw'n ei weld e' heddi gyta fi? Cretu'n wir! 'Do's dim dowt am y peth."
Yna adroddodd y llanc y modd y bu ar Waun Hepsta pan dynnodd y "mishtir" ei sylw at fawredd y Bannau, ac wedi hynny am fflach y lamp ar wynder y Porth Mawr, ynghyd â'i barch i goffa'r Rhufeiniwr anadnabyddus wrth y bedd.
"Rwy' heddi wedi dechre gweld y byd, mam," ebe Morgan, "ac er 'y mod i wedi darllen llwer am y bobol o'dd yn y wlad hyn slawer dydd, dda'th e' ddim i'm meddwl i o gwbwl bod 'u bedda a'u hewlydd nhw mor acos ato ni. 'Ro'dd Mr. Ffrank yn dweyd y leica fe fyw yn 'Stradfellte, ond bod y lle mor bell o'r Waun."
"Rwy' inna wedi clwad nad yw e'n leico'r Tŷ Mawr o gwbwl. Mae Pegi, yr housekeeper, ei hun yn gweyd hynny. Synnwn i ddim glywed fod Mr. Ffrank yn cwnnu tŷ llai iddo'i hunan unrhyw amser, wa'th 'does dim 'want arno fyw fel gwr bonheddig, er ta fe yw'r gwr bonheddig penna yn y wlad idd 'i weithwyr a phob dyn clawd arall."
"Ie'n wir, mam. Meddyliwch am dano yn mynd â fii 'Stradfellte heddi, dim ond achos fod e'n gwpod 'mod i'n gallu darllen a 'sgrifennu. A heblaw hynny, fe ro'ws e' hwn i fi he'd am ofalu am y ceffyl. Dyma fe, douswllt! A b'asa fe ond gwpod, fe rowswn i ddouswllt iddo fe, pe basa un gyta fi, am gâl mynd yn y trap wrth 'i ochor e'. Chi ddylsech 'n gweld ni, mam, yn mynd miwn i 'Stradfellte mewn style. Tebig iawn na cha i byth cystal diwrnod yto yn unman, ac fe gofia i Mr. Ffrank tra bydda i byw. G'naf, wir!"
Gwenai Beti Shôn mewn boddhad yn yr adroddiad am y dydd, a chwarddai'n uchel wrth lunio yn ei meddwl yr olygfa o Forgan ei mab—ei Morgan hi—yn eistedd wrth ochr y meistr ar eu mynediad i mewn i Bentre Ystradfellte mewn style."
"Ro'ech chi'n edrych yn grand, ddylia' i," ebe hi. "Etrach yn grand! Mam fach, 'ro'wn i'n teimlo yn grand he'd, just fel fyddwch chi'n etrach a theimlo wedi i chi brynu'r cap mwslin. Dyma'r ddouswllt, mam,—prynwch e' gynted ag y mynnoch."
"Cer di i'r gwely nawr, Morgan. 'Rwyt yn siwr o fod wedi blino'n galed. 'Rwyt fel dy dad i'r dim, machan i. 'Doedd dim yn y byd yn rhy dda i fi gento 'fynta. Ma dicon o amser i brynu'r cap. Nos da i ti nawr."
"Nos da, mam fach."
PENNOD X.
FFAIR 'BERDAR.
MORGAN, yr o'et ti wedi meddwl mynd i Ffair 'Berdar, ond o'et ti?"
"O'wn, mam, unwaith; ond 'rwy' wedi newid 'y meddwl wetyn."
"Pam hynny, a thitha gymint am weld petha?"
"Fel hyn, mam. Achos bydd raid ala arian yno, a 'do's dim arian gyta fi i sbario. Fe ga i weld dicon o'r byd wedi i fi dyfu'n ddyn."
"Na, na, Morgan. 'Rwy' wedi bod yn meddwl llawer, 'machan i, weti i Mr. Ffrank fynd â thi i 'Stradfellte. Os o'dd e' am dy helpu i weld y byd, fe ddyla dy fam 'neud hynny'n siwr. Nawr 'dw'i ddim weti ala arian y cap mwslin, a fe elli di 'u câl nhw, wa'th d'arian di y'n nhw weti'r cwbwl."
"O mam! pidwch a—"
"Do's dim rhacor i 'weyd, Morgan. Os yw Mr. Ffrank am i ti fynd, rhaid mynd; a 'blaw hynny, 'rwy' i dipyn bach yn rhy ifanc i gâl cap felny ar hyn o bryd."
"Otych, mam, yn 'itha ifanc; ond―"
"Cer di i'r ffair, Morgan; a fe ddŵa i'n ifancach eto o dy weld di'n plesio Mr. Ffrank."
Fel hynny y bu rhwng Morgan a'i fam ynghylch ei fyned ef i Ffair Aberdar; a phan ddaeth y bore mawr hwnnw yn Ebrill, 184—, yr oedd y llanc yn gynnar ar yr heol, ac yn mynd gyd âg ugeiniau ereill am ddiwrnod i weld y rhyfeddodau a ddygid i'w hardal.
Brysiodd y pererin bach heibio i'r Comin a'r Gadlys, ac er dechrau o'i ddeuswllt gynhesu yng ngolwg y stondinau ginger-bread wrth yr hen eglwys, yr oedd y darn eto'n gyfan pan gyrhaeddwyd Cae Maes-y-Dre. Yno yr oedd cylch o bebyll un-nos, a'u cefnau ar y perthi, a'u hagoriadau tuag at dorf enfawr y maes, gyd â pherchennog pob un ar uchaf ei lais yn ceisio ennill cynulleidfa er dal eu ceiniogau o weld y pethau synfawr hwnt i'r trothwy. Yn gymorth i honiadau'r showmyn yr oedd hefyd uwchben pob pabell ddarluniau mewn lliwiau disglair a dystient fwy byth am ryfeddodau'r show. Tynnodd y rhai hyn lawer o sylw; ac wedi newid o Forgan ei ddarn arian wrth y stondin gnau, hawdd wedyn oedd talu am weld y ddynes dew, y neidr fawr, a'r merlyn trilliw a bigai allan o'r dorf y llanc a oedd fwyaf hoff o'i wely.
Ym mhen pellaf y maes yr oedd pabell y paffio, a phan gyrhaeddodd Morgan ati, yno yr oedd Sais cyhyrog yn cerdded yn ol a blaen ar hyd llwyfan bychan o flaen y drws, ac yn herio unrhyw Gymro bynnag i'w lorio ef yn yr ornest a oedd ar fedr cychwyn. Yn wir, parod oedd ef i fentro sofren nad oedd ar y maes y diwrnod hwnnw unrhyw "Welsh Nannigoat" na allai ef, yr heriwr, gael y trechaf arno o fewn pum munud. A oedd yno unrhyw un a gymerai y sialens i fyny? Nac oedd, wrth gwrs, neb!—a mawr oedd sen y Sais mewn canlyniad.
Yr oedd chwecheiniog o dâl am fynd i'r babell neilltuol hon, a theimlai Morgan nad allai ef fforddio ei thalu. Ac am hynny ef a wnaeth fel y gwnaethai llawer llanc tlawd arall, sef ceisio edrych am dwll i ysbio'r show drwy'r pared cynfas. I'r pwrpas hwnnw ef a aeth heibio i gongl y babell, gan chwilio'n ddyfal hyd nes ei ddyfod yn agos i'w chwr pellaf wrth y berth.
Yno yr oedd hollt bychan yn y cynfas, ac i'r perwyl o wneuthur yr hollt yn fwy, ef a wânodd ei fys iddo er mwyn lledu'r agen. Ond gwell a fyddai iddo beidio, oblegid y foment y gwthiodd ef ei fys i mewn rhoddwyd arno y fath ergyd fel y gwynegodd ei holl fraich. Parodd hynny iddo dynnu ei fys allan yn frysiog, ac i fwyhau ei boen ar y pryd, ef a glywsai rywun yn chwerthin y tu fewn i'r babell ar ei gyfer.
Arhosodd yn yr unfan, serch hynny, ac amlwg oddiwrth y swn a'r rhialtwch y tu fewn fod y babell yn llawn. Ymhen ychydig, fodd bynnag, daeth tawelwch sydyn, ac yn dilyn ef a glywai'r her eto eilwaith, a chyd â mwy o sen, os yn bosibl, na'r tro cyntaf. Ond cyn diweddu o'r Sais ei ail-adroddiad gweiddodd y dorf megis o un fryd: "Shoni." Yna am ysbaid bu cynnwrf gwyllt nes dyfod o'r amser i'r ddau ymladdwr wynebu ei gilydd, pan dawelodd popeth drachefn. Ond nid yn hollol dawel ychwaith, oblegid tybiai Morgan y gallai ef o'r tu allan glywed y dorf fawr yn cyd-anadlu yn ol ffawd y paffio fel y gogwyddai'r ornest i'r naill ochr i'r llall.
Bu chwant ar y bachgen fentro gosod ei fys yn yr hollt drachefn, ond cyn gallu gwneuthur ohono ef hynny, wele dwrw aruthr yn y rhan honno o'r babell a oedd nesaf ato—a'r eiliad nesaf ysgydwad chwyrn fel o dan ergyd pwysau mawr, y cynfas yn rhwygo, a'r Sais heriol wedi ei fwrw yn sypyn allan drwy bared y babell!
Neidiodd y llanc yn ol rywfaint o deimlo'r ysgydwad sydyn, a da iddo hynny; ond trwy y rhwyg yn y babell ef a welai yr ymladdwr arall yn y ring ar y llwyfan. Hwnnw a edrychai allan ar ol ei elyn gyd â thân yn melltennu o'i lygaid, a gŵg y Cymro dig yn ei drem; a chanfu Morgan nad oedd ef neb amgen na Shoni Sgubor Fawr, cyfaill y creadur mud gynt ar y Tip wrth yr hen weithdy.
Aeth y llanc yn ol i'r maes, lle yr oedd bellach y dorf enfawr yn dylifo allan o'r babell, a phobun ar ei uchelfannau oherwydd cwympo o'r Goliath newydd hwn a fynnai regi Cymru.
Yn ddiweddarach, pan oedd Morgan yn bwyta ychydig luniaeth wrth glwyd agoriad y maes, ef a ganfu dyrfa yn myned heibio iddo gan ddwyn ar eu hysgwyddau arwr y dydd i gyfeiriad y dre a'r tefyrn, ac yn eu plith, yn hoyw iawn eu miri, y Samwn Pinc, Jim Wich, Dai Mab ei Fam, ac ereill o ddewrion ffyrnau pydlo'r Waun.
PENNOD XI.
HWYR Y FFAIR.
ERBYN yr hwyr brynhawn yr oedd Morgan wedi blino ar y ffair; ac er na wariaisai ef eto ei arian yn llwyr, penderfynodd adael y lle a chyfeirio ei gamau adref. Siomedig ydoedd hefyd, oblegid ar wahan i'r neidr fawr a dau epa, ni welsai ef ddim a oedd yn hollol newydd iddo. Disgwyliai ef weled llawer mwy nag a oedd yno, ac yn y disgwyliad hwnnw yr oedd ef wedi byw am yr wythnosau diweddaf. Ac am y teimlai ef bellach nad oedd y ffair wedi llenwi ei ddychymyg am dani, daeth rhyw atgasedd ati drosto, a hawdd felly oedd troi ohono ei gefn arni.
Ar ei ffordd adref cyfarfu â llawer o'i gydnabod, a rhyfeddai y rheiny un ac oll am ddychwelyd ohono mor gynnar cyn cychwyn o'r "fei" mewn gwirionedd. Ond, "fei" neu beidio, tuag adref yr wynebai y llanc; ac erbyn cyrraedd ohono Benywaun a Phont Bryngwyn, cymaint oedd ei flinder fel yr eisteddodd i lawr er adennill ei nerth. Yr oedd enw drwg iawn i Bont Bryngwyn am ei hunigrwydd ac am ei thraddodiad hagr am ladron penffordd. Ond yr oedd yn ddydd eto, a mwy o dramwy ar yr heol y diwrnod hwnnw oherwydd y ffair nag unrhyw ddiwrnod arall odid y flwyddyn yn gyfan; felly, ni ddaeth ofn i feddwl y llanc o gwbl, ac ef a eisteddodd ennyd i fwrw ei flino.
Yr oedd ar fedr tynnu allan yr ychydig geiniogau a oedd ganddo yn weddill i'w rhifo, a'r heol am ryw bellter oddeutu iddo heb neb arni, pan dybiai'r llanc glywed ohono yswisiad swn troed yn y brwyn yn ei ymyl—ac o godi ohono ei olwg, yno, ymron wrth ei ochr, yr oedd dyn sarrug iawn yr olwg yn edrych i lawr arno. Adnabu Morgan ef ar unwaith fel un Connelly, gweithiwr o Wyddel a fuasai ar y Waun ers tro, ac un hefyd nad oedd iddo'r cymeriad gorau.
"Ble ti bod, Moc?" ebe fe.
"Yn y ffair odd'ar y bore 'ma."
"Ti dod 'nol cynnar. Arian wedi mynd?"
"Hm!" ebe'r llanc drachefn, gan ddiolch nad oedd ef wedi tynnu ei geiniogau allan funud yn ol.
"Fi mynd ffair also. Rhaid arian lot i ffair." "Wrth gwrs," ebe'r llanc eto. "Ond rhaid i fi fynd. Dydd da."
Hir fu'r Gwyddel cyn ateb dim yn ol. Yna, fel pe am wneuthur iawn am ei anghofrwydd, ebe fe yn frysiog: "O ie. Dydd da. Dydd da."
Teimlai Morgan ryw chwŷs oer yn dyfod drosto o gyfarfod â'r fath ŵr mewn ffordd mor sydyn ac mewn lle mor unig. Felly ef a frysiodd oddiwrtho; ond wedi mynd beth ffordd ni allai lai nag edrych yn ei ol, gan ddisgwyl gweld cefn y Gwyddel ar yr heol i'r ffair, fel yr awgrymai'r Gwyddel ei hun ei fwriad i fyned. Ond nid oedd ef yn y golwg o gwbl. Rhaid felly ei fod ef yn llercian yn y brwyn fyth, a llawer peth anesmwyth a ddaeth i feddwl y llanc mewn canlyniad.
Wedi cyrraedd o Forgan ei gartref yr oedd ei fam ar fedr cynneu cannwyll, ac yn ymblygu i'r tân i oleuo papur i'r perwyl hynny. Cyn troi ohoni at y bwrdd eilwaith a'r papur goleuedig yn ei llaw, rhuthrodd ei mab heibio iddi, a chan ei daflu ei hun i'r gadair freichiau yn ymyl, ebe fe:
"Dyna ddicon o Ffair 'Berdar i fi! Dim rhacor byth!"
"Be sy arnat ti, Morgan? 'Chêst ti ddim by bleso yno?"
"Pleso, wir! 'Ala arian, a gweld dim, mam. chithe heb 'ch cap mwslin, gyta llaw. 'Rwy'n 'tifaru i fi fynd i shwd le."
Nid drwg oedd gan Beti Shôn glywed y pethau hyn, ond ni ddywedai hi mo hynny wrth ei mab; ac wedi gosod ymborth o'i flaen hi a dynnodd allan oddi wrtho bob yn dipyn hanes y dydd yn gyfan. Ond nid y cwbl yn hollol ychwaith, oblegid ni fynasai Morgan iddi wybod am Connelly, rhag ofn y byddai i hwnnw o bosibl ei hurio ef fel geilwad rywbryd, ac i hithau ofidio am y cysylltiad.
"Wel nawr, Morgan, rhaid i finne ddweyd rhai pethe wrtho ti. Welas i yriôd oddi ar pan odd dy dad yn fyw, gyment o alw yn y'n ty ni ag a fu heddi. Lwcus iawn fod y tŷ yn lân."
yma?"
"Mae e' wastad yn lân, mam. Ond pwy fu yma "Yng nghynta' dim, pan oeddit ti ond newydd fynd i'r ffair, de ddath y dyn ifanc yr y'ch chi'n ei alw'n Wil Northman yma."
"Ie, William Ellis—dyna'i enw iawn e', mam."
"Wel, 'roedd e' am iti ddod am ddiwrnod o bysgota gyta fe, gan nad oedd dim gwaith heddi."
"Dyna drenu na fasa fe wedi dod yn gynt. Fe fydda'n well gen i'r Pownd Mawr neu Lycad Cynon lawer na'r Ffair. Beth ddwetodd e' wrthoch chi wetyn, mam?"
"Dim llawer, ond fe adaŵs lyfr mawr iti ei ddarllen. Ma'n depig i fod e' wedi'i addo iti."
"Ble mae e', mam? Llyfr Goldsmith o'dd e' i fod." "Ie, rhwpath am Goldsmith ddwetodd e' he'd. Dyma fe."
Ar y gair, hi a estynnodd iddo y llyfr diddorol hwnnw, Goldsmith's Animated Nature; a chyn pen munud yr oedd y fam a'i mab (ef bellach wedi anghofio ei ludded) â'u pennau ynghyd yn syllu ar rai o'r darluniau lliwgar gyd â'r eiddgarwch pennaf.
"Dyma fe i'r dim, mam. Fe fydda i'n darllen peth ohono i chi bob nos. Bydd hynny 'n well nag un Ffair 'Berdar o lawer."
"Eitha da, Morgan. Fe fydda i'n falch i dy glywed. Ond dod y llyfr lawr am dipyn bach, i fi gâl gweyd rhacor wrthot ti. Pwy arall wyt ti'n feddwl a fu yma?"
"Wn i ddim. Pwy, mam?"
"Mr. Ffrank, y 'machan i. A dyna falch o'wn i fod y lle ma'n daclus."
"Mr. Ffrank! Beth o'dd e'n mo'yn, mam? Rhwpath mawr, 'rwy'n siwr."
"Dy foyn di, 'machan i. 'Roedd e'n dweyd fod isha bachan fel ti arno fe—un yn gallu darllen a 'sgrifennu. Bachan o drust; ie, Morgan, dyna'i air bachan o drust, i fynd yn ôl a blân drosto ef o Offis y Waun i Offis Cyfartha ac Offis Trefforest. Ac fe gofiws am danat ti, ac fe wetws y celset ti saith a 'wech yr wthnos i ddechra."
"Mam fach! Pam na f'asech chi'n gweyd hynny'n gynt? Hwre! a Gwd-bei i'r galw canol nos! Dyna ni'n reit am byth!"
"Rwyt i ddweyd 'fory os wyt ti'n derbyn y cynnig."
"Derbyn? Fe allwn feddwl hynny! A chi gewch y cap mwslin wedi'r cwbwl!"
Gosododd Beti ei braich am wddf ei bachgen, ac a roes iddo gusan mam. Ac yna, law—yn—llaw, hwy a eisteddasant o flaen y tân gan gynllunio a diolch, diolch a chynllunio, hyd nes llosgi o'r gannwyll allan yn y llestr, a pheri eu cofio hwy ei bod yn hen bryd i fynd i orffwys.
PENNOD XII.
MYND I'R OFFIS.
TRANNOETH y ffair yr oedd nifer mawr o weithwyr y Waun heb ddyfod i'r gwaith o gwbl, a chynifer â hynny yn hwyr yn dyfod ato. Ond yr oedd un, o leiaf, wrth yr Offis gyd â bod y cloc mawr yn taro nawawr arferol Mr. Ffrank o fyned i mewn i dderbyn ei lythyrau a oedd barotach i weithio y diwrnod hwnnw nag a fuasai erioed yn ei fywyd.
"Hylo! Morgan. Yr wyt wedi dod. Beth yw dy ateb di?"
"Derbyn y cynnig, syr."
"Dyna fel y meddyliwn y gwnaet ti. Dere i mewn i'r Offis."
Aeth y llanc i mewn i'r ystafell, ac yno y trefnwyd popeth ynglŷn â'r gwaith newydd.
"Yr wyt i fod, y rhan fwyaf o dy amser, gyd â Mr. Aubrey yn yr Offis, ac yn gwneuthur popeth a ofyn ef iti. Ond ambell waith bydd iti fynd ar negesau i mirai prydiau i'r lan i'r Rhigos a Phenderyn, a phrydiau ereill i Gyfarthfa a Threfforest. Wrth gwrs, 'rwy'n cretu dy fod ti yn fachan o drust ym mhopeth, a dyna'r rheswm yr wyt yma o gwbwl."
"Fe wetodd 'y mam 'ch bod wedi gweyd hynny, syr, yn y tŷ y ddoe. Fe 'naf fy ngora'n wastad, syr." "Olreit, Morgan. Cer at Mr. Aubrey nawr, i ti gâl dechra' dy waith. Ond hanner moment, cyn bo ti'n mynd ato. Shwd le gêst ti yn y ffair?"
"Dicon diflas, syr. 'Doedd yno ddim hanner y petha' yr o'dd y darlunia' yn eu dangos. Fe ddetho i'n ol yn gynnar oddiyno.'
"Wela'st ti 'mo Shoni Sgubor Fawr felny?"
"Do, syr, yn eitha' plaen, er nad o'wn i yn y salŵn pan wadodd e'r Sais."
Yna adroddodd Morgan yr hanes am dano ei hun yn sbio drwy hollt y cynfas, a'r ddihangfa a gafodd rhag cwympo o'r paffiwr ar ei draws. Chwarddodd Mr. Ffrank yn fawr am hyn, ac yn fwy am gwymp y Goliath. "Fe glwas fod yno le trwsgl," ebe fe, "a bod rhai o'n pydlers ni yn ei chanol hi."
"Eitha gwir, syr. Fe'u gwelas nhw. 'Roo'n nhw bron bob un yno ond William Ellis."
"William Ellis! Pwy yw hwnnw?"
"Y pydler ma' rhai yn ei alw yn Wil Northman. 'Doedd e' ddim yno."
"Ffordd gwyddost ti hynny?"
"Am ei fod wedi galw am dana' i yn 'n tŷ ni y ddoe, a dod â llyfr Goldsmith i fi pan o'wn yn y ffair."
"Mae ynta' fel'ny yn ffond o lyfra' fel titha." "Oti, syr, a sglaig da yw e' he'd. Fe sy'n 'sgrifennu pob llythyr i'r pydlers, a ma' rhai yn gweyd ma' 'ffeirad o'dd e' ar y cynta', ac iddo golli 'i le trw' yfed. Ond dyn piwr yw e' ta beth, a gwithwr piwr he'd. Dyma fi'n mynd at Mr. Aubrey, syr."
Yn y modd hwn y newidiwyd Moc Bach y Geilwad i fod yn Morgan Jones, Clerc yn yr Offis; ac yn lle bod allan bob amser o'r nos yn ennill ei fywioliaeth ar geiniogau'r gweithwyr, yn aelod o staff y gwaith, ac yn mynd i'w orchwyl ac yn dyfod oddiyno ar oriau penodol.
Gwelodd ef lawer o bethau y diwrnod cyntaf hwnnw yn yr Offis, nad oedd ganddo yr un dychymyg am danynt cyn hynny; ond yr hyn a'i synnodd fwyaf oedd y cyfrif manwl a oedd yno am bob tunnell o lô a mwyn a gloddid, y cerrig calch a chwarelid, a'r haearn a doddid ac a drinid. Ail-ysgrifennu cyfrifon a oedd wedi eu hystyried yn flaenorol oedd y rhan fwyaf o'i waith ef yn ei dymor cyntaf, ac am hynny ni allai ef lai na gweld y manylion y soniasom.
"Mae Mr. Ffrank yn dweyd dy fod yn gallu dal dy dafod," ebe Mr. Aubrey wrtho y diwrnod cyntaf. "Dyna ddechrau clerc da yn wastad," ebe fe ymhellach, "ac nid yw Mr. Ffrank wedi gwneuthur camsyniad yn ei ddyn hyd yn hyn. Ac mae ganddo ffydd fawr yndo ti."
"Diolch yn fawr i chi, syr, ac i Mr. Ffrank. 'Rwy'n cretu y galla' ddal 'y nhafod, ta beth arall wetir am dana' i."
"Eitha da. Copia di y rhain mâs fel y gwnêst â'r rhai cynta.
Rhestr o'r pydleriaid a'u henillion oedd y rhestr newydd i'w chopio, a gwenai'r llanc o weld fod y llysenwau wedi dyfod i mewn i'r Offis hyd yn oed. Ar ben y rhestr yr oedd:
David Jones, alias "Samwn Pinc"—5 days, 10/10. David Jones, alias "Mab ei Fam"—4 days, 8/8. James Jones, alias "Wich"—4 days, 8/8. ac o hynny ymlaen gyd â symiau mwy neu lai i'r diwedd. Aeth y diwrnod cyntaf heibio yn gyflym iawn i Morgan, oblegid yr oedd popeth yn yr Offis mor newydd a diddorol iddo. Pan aeth ef adref at ei fam am hanner-awr-wedi-pump, yr oedd hyhi wedi paratoi iddo bryd o fwyd a oedd rywfaint yn well ac yn fwy amrywiol nag arfer. Ni ddihangodd hynny mo sylw ei mab—, ac o weld ei gofal a'i chariad ymarferol hwn, ef a benderfynodd yn ei feddwl y rhoddai ef iddi hithau rai pethau er ei mwynhad y bu raid bod hebddynt hyd yn hyn.
Yr hwyr hwnnw bu iddo amheuthun o nodwedd arall yn ogystal, oblegid ef a aeth am dro i rodio heibio i'r Pownd Mawr, ac i'w fwynhau ei hun wrth weld rhai o'r pentrefwyr yn pysgota, a nifer o'i gyd-swyddogion o'r Offis yn ymarfer rhwyfo yng nghwch Mr. Ffrank. Dyma'r amser yr arferasai ef, cyn y diwrnod hwnnw, gysgu er mwyn bod yn effro fel geilwad yn oriau'r nos.
Nid oedd neb a gydrodiai âg ef yr hwyr hwn, ond cyfarchwyd ef o'r cwch gan un o'r rhwyfwyr, ac yr oedd hyd yn oed y ffaith o'i gyfarch ganddynt yn godiad iddo yn ei feddwl ei hun. Ar y ffordd adref daeth yn ol i'w feddwl ddigwyddiadau'r ffair y diwrnod cynt—y grechwen fawr gan y dorf, twrw uchel y showmyn, sen y Goliath a loriwyd, a golwg ddig Shoni Sgubor Fawr am amharchu ei genedl. Cofiodd hefyd am ei ludded ar y ffordd adref, ac am ei ofn mawr o gyfarfod â Dennis Connelly wrth Bont Bryngwyn.
"Paham y mae clywed llais y dyn hwnnw yn rhoi'r fath ofan i fi?" ebe fe wrtho ei hun. "A shwd lais! 'Rwy'n cretu y 'nabyddwn i e' ma's o leisie'r byd yn gyfan. Ych y fi!"
Yna daeth yn ol i'w feddwl bethau hyfrytach am William Ellis yn rhoddi benthyg Goldsmith iddo, ac am Mr. Ffrank yr un diwrnod yn dangos ffydd ynddo, ac ar yr un pryd yn rhoddi iddo'r cyfle cyntaf yn ei fywyd i fod yn rhywbeth mewn gwirionedd.
""Bachan o drust—dyna beth wetws e' wrth mam ac wrtho i. Fe ddangosa' inna' 'y mod i'n fachan o drust he'd."
Erbyn hyn yr oedd wrth ddrws y bwthyn, ac ef a aeth i mewn dros y trothwy gan deimlo bod ei ffawd newydd yn golygu hefyd waith ac ymroad o'i du yntau.
PENNOD XIII,
AR Y FFORDD I DREFFOREST.
Yn ystod yr wythnosau nesaf anfonwyd Morgan amryw droeon ar negesau i'r Rhigos at oruchwyliwr y gwaith mwyn wrth odre Craig y Llyn, ac i Benderyn at "fishtir y cwar" wrth y Lamb, lle cloddid y cerrig calch at reidiau y ffwrnesi. Ond nid oedd iddo ddim yn newydd yn y siwrneiau hynny, am ei fod yn hollol gynefin â'r ddeule drwy ei fod wedi cneua a chwilio am nythod ynddynt ar lawer tymor.
Dechreuodd ef droedio gwlad ddieithr mewn gwirionedd pan ddanfonwyd ef y waith gyntaf ar neges at Mr. Henry Crosha yn Nhrefforest, hwnt i Bontypridd. Yr oedd yno yn Nyffryn Tâf, fel ag yr oedd ar y Waun ac yng Nghyfarthfa, ffwrnesi tawdd a weithid gan yr un perchenogion, ac a oedd yn brif gynhaliaeth y lle hwnnw yr un modd ag ydoedd ym Mlaenau Cynon a Morlais.
Bu y diwrnod hwn o'i fyned i Drefforest yn newydd yn ei hanes o ran peth arall hefyd, oblegid nid oedd ef i ddychwelyd hyd drannoeth, ac felly ef a gysgai oddicartref am y tro cyntaf yn ei fywyd. Yr oedd hyn yn ddwfn iawn ym meddwl ei fam, er na chyfeiriai hi nemor at y peth, rhagor na'i bod yn or—ofalus fod ei "ddillad isa" yn lân ac yn ddidwll.
Cyrhaeddodd ef bentre Aberdar yn brydlon, a heb ddigwyddiad o unrhyw fath, er bod calon y llanc yn ei wddf wrth ei fynd heibio i Bont Bryn Gwyn o enw drwg. Yn wir, nid yn ddiofn yr edrychasai ef at y twr brwyn yn ymyl y bont y bore hwn eto, er bod tramwy helaeth ar y pryd, ac amryw deithwyr ereill o fewn golwg. Yn wir, pe gwelsai ef y Gwyddel yn dangos ei wyneb hagr yno ar y funud o'i fyned ef heibio i'r lle, ni byddai hynny ond a redai drwy ei feddwl ar yr adeg. Wedi cerdded o Forgan heibio i Gae Maes-y-Dre unwaith yn rhagor, gan dynnu tuag Ynys Cynon yr ochr draw i'r cwm, ef a welodd am y tro cyntaf un o'r peiriannau rhyfedd hynny y clywsai ef gymaint sôn am danynt yn yr Offis, ac ymhlith y pydlers cyn hynny, ac a elwid ganddynt hwy yn locomotive.
Rhwng Aberpennar ac Aberaman y gweithiai y peiriant y tro hwn; ac er na chludai ef deithwyr eto, ef a symudai yn ol a blaen yn ol bwriad y gyrrwr, gan dynnu gyd âg ef nifer o wageni yr un pryd.
Nid oedd llinell y Taff Vale wedi ei hagor yn swyddogol yr amser hwn, ac felly parheid i ddefnyddio eto y gamlas i bob trafnidiaeth, fel ag y gwnaethid ers hanner canrif bellach. Ond yr oedd sôn drwy'r holl wlad am y peiriant rhyfeddol a oedd ar fedr dyfod i newid masnach yn gyfangwbl, a chof da gan Forgan am ymdrechion William Ellis i esbonio ei natur i gylch o bydlers ar egwyl neilltuol wrth y ffyrnau, ynghyd â'u sylwadau hynod hwy yn ei gylch.
"Dŵr a thân i gyd, fechgyn," ebe ef.
"Ond, y dyn dwl, lladd 'i gilydd a wnaiff y rheiny!" "Ie, ond byddant ar wahan, fechgyn—y dŵr mewn berwedydd, a'r tân odditano."
"Ac 'rwyt am i ni gretu y bydd peth felny yn symud ucian milltir yr awr? Bachan! fe fyddai hynny'n gynt nag a redodd Guto Nyth Bran yriôd."
"Bydd, wrth gwrs."
"Wel, dwêd di betha felny i dy famgu, 'nei di? A phaid a cheisio twyllo pydlers gonest, wa'th 'nei di ddim ohono â dy ffwlbri."
Am Forgan ei hunan, fodd bynnag, ar yr un dydd y gwelodd ef locomotive gyntaf y gwelodd ef hefyd gamlas gyntaf, a mawr oedd ei fwynhad o sylwi arnynt. Oni byddai iddo amser braf yn adrodd yr helynt i'w fam wedi ei ddychwelyd? Ac nid oedd pethau ond megis dechrau eto. Pwy a wyddai faint yn rhagor y byddai ef i'w gweled cyn cyrraedd Trefforest? Eglurwyd iddo, cyn cychwyn, ei fod i chwilio pen y gamlas wrth Ynyscynon, a'i fod i'w dilyn hyd ei huniad â chamlas fawr Merthyr, ger Aber Cynon, a dilyn honno drachefn hyd yn Nhrefforest.
Yr oedd ef eisoes wedi ennill pen y gamlas, ac wedi dilyn y llwybr hyd ei ochr am beth ffordd, pan welai ef ddau ful yn dilyn ei gilydd ar y llwybr yn dyfod i'w gyfarfod. Ar y gamlas, ychydig y tu ol iddynt, ond wedi ei sicrhau â rhaff wrth eu harnais, yr oedd cwch hirgul isel, yn llawn o fwyn haearn.
Wedi ei ddyfod hyd atynt, troes Morgan i'r naill ochr ychydig, a phan geisiodd ef ail—gychwyn i'w daith wedi eu myned hwy heibio iddo, yr oedd ef bellach ymron bod gyferbyn â'r cwch ei hun, a chyfarchwyd ef gan lais o ben ol y llestr yn dywedyd:
"Meindia'r rhaff, foy bach, os nag wyt ti am gâl dy ben off! Ac i ble wyt ti'n mynd, wn i?"
"I Drefforest, dros Mr. Crosha'r Waun."
"Wel, dim ond iti ddoti'r drôd ola 'mlaena, fe ddali di Dai Jib-boom with y Lock. Fe arbetiff hynny beth ar dy goesa di."
"Dai Jib-boom!" ebe'r llanc.
"Ie, ond galw di Jib arno—fe fydd hynny'n ddicon. Nawr, off â ti, a phaid cered rhwng y rhaffa yto, ne' wela i ddim ohonot ti byth ar ol hyn! Ti fyddi wedi boddi. Offâ ti, a gwêd ma' Wil Cwmbach d' alws di."
PENNOD XIV.
AR Y GAMLAS.
BRYSIODD Morgan ar hyd llwybr y gamlas, ac wedi ei ddyfod at y lock gyntaf, yno yr oedd deuddyn yn siarad â'i gilydd, ac un ohonynt fel pe ar fedr symud ymaith.
"P'un o chi yw Mr. Jib?" ebe fe'n ddini wed.
Ar y gair chwarddodd un o'r dynion yn uchel, a gwenodd y llall hefyd.
"Beth wetast ti, 'machan i?" ebe'r un a wenodd. "Y fi yw Jib; ond dim o dy 'fistr' di, os gweli di fod yn dda. Beth wyt ti'n mo'yn â fi?"
"Dyn y mwlsod yn ol yna a wetws wrtho i y byddai i Jib roi lifti fi yn y bâd, dim ond i fi wneud hast. Dyna i gyd. Fe leiciwn gâl lift os gellwch chi ei roi i fi, wa'th 'rwy' wedi blino."
"Olreit, 'machan i; ond paid â gweud Mr. Jib yto! O ble wyt ti'n dod?"
"O'r Waun, ac yn mynd i Drefforest dros Mr. Crosha."
"Mr. Ffrank?"
"Ia."
"Neidia miwn. Ma genti fishtir da, ta beth. Cym, Tyrpin!"
Am beth amser ni siaradodd y gyrrwr air ymhellach, ond teimlai'r llanc ei fod yn ei wylio'n fanwl, er heb ymddangos felly. Ac o'r diwedd cafodd cywreinrwydd hwnnw parthed y teithiwr ifanc y trechaf arno, ac ebe fe'n sydyn:
"Shwd ma' petha' ar y Waun? 'Dwy' i ddim wedi bod yno ers ffair 'Berdar, blwyddyn i'r diwetha."
"O, lled dda. Pwy y'ch chi'n napod yno heblaw Mr. Ffrank?"
"Mr. Aubrey, wrth gwrs, Gwilym y Ffwrnes, a dou neu dri arall. Oti Shoni Sgubor Fawr yco nawr?"
"Ro'dd e' yno'n ddiweddar, ond welws neb e' yn y lle wedi'r ffair ddiwetha. 'Rwy'n gwpod hynny, am fod Mr. Ffrank wedi bod yn holi am dano, a ffaelu câl gafal arno yn unman. Chi glywsoch, wrth gwrs, am dano yn ffair Eprill, tepig iawn?"
"Wel, 'm do, gwela' i—a dyna'r pam o'wn i'n gofyn am dano. A chretwch chi fi, nid peth hawdd oedd bwrw'r Taunton Chick mâs. Nace, myn asgwrn i!"
"Ond fe 'nath Shoni hynny, wa'th fe'i gwelas â'm llyced fy hunan. 'Ro'wn i yn y ffair, ac yn y man a'r lle pan gas y Chick 'i fwrw mâs trw'r cynfas!"
Yr oedd yn amlwg i Forgan fod ganddo wrandawr astud yn yr adroddiad hwn, ac er na ddywedodd ef ar ba du i'r cynfas yr oedd ef ei hun ar adeg yr ergyd hir-goffaol, ef a deimlai fod y gyrrwr yn edrych arno yn dra gwahanol yn awr na phan ddaethont hwy gyntaf at ei gilydd. A chyn eu bod wedi cyrraedd Aber Cynon, yr oeddent ar delerau da iawn y naill at y llall. Ac arwydd sicr o hynny oedd bod meistr y mulod, bron yn ddiarwybod iddo ei hun, wedi dechrau ei gyfarch fel "chi" yn lle "ti."
"Gadewch i fi weld," ebe'r gyrrwr, tua diwedd ei ran ei hun o'r daith, "rwy'n cretu ta' Dai Glwydfacwr a fydd yn cwrdd â fi yn y Basin. Bachan piwr iawn yw Dai, ac fe fydd yn 'itha balch i roi lift i chi, 'n enwetig pan ddaw i wpod mai mynd ar neces dros Mr. Ffrank yr y'ch chi, wa'th ma' nhw 'mron â'i 'ddoli fe yng Nghyfartha."
A'r gwir a ddywedodd ef. Oblegid ar ol dyfod yn nes eto at yrrwr y brif gamlas a weithiai rhwng Merthyr a Chaerdydd, ebe fe:
"Clwydfacwr, dera 'ma! Ma'r gwr bynheddig hyn yn mynd gyta ti i Drefforest dros Mr. Ffrank."
"Olreit, syr," ebe hwnnw. "Fe fydda' i'n barod mewn shyfflad."
Ar y gair, ef a droes ymaith am ennyd, a bu cryn ysgwrs rhwng y ddau yrrwr am beth amser; a phan ddaeth Clwydfacwr yn ol at ei waith ei hun, hynod o barchus oedd ef o'r llanc a gyflwynwyd i'w ofal gan ei gyd-yrrwr o Gwm Cynon.
"Fe fyddwn lawr yn Nhrefforest mewn bothtu dwyawr, syr," ebe fe, "a 'rwy'n cretu, rhyngoch chi a fi, syr, ma'r pum milltir hyn yw'r pertaf yn y Cwm. Fe glwas Mr. Henry yn gweyd hynny i hunan, syr. A ma' llawer yn dod yn unig swydd i weld Craig-y-rHesg a'r Hen Bont' heb son am y Garreg Shiglo ar y Comin."
Yr oedd Clwydfacwr, heblaw bod yn edmygydd o Natur, yn hoff o ganu, fel y profodd ef ar ei daith hon yn amlwg iawn, oblegid yn ychwanegol at hysbysu rhinweddau "Y Ferch o Blwy Penderyn," a datgan mai "Ym Mhontypridd mae 'Nghariad," ef a fwmiai gân arall nad oedd ef eto ond megis hanner ei gwybod, oherwydd ar ol dywedyd wrth ei fulod am ryw helynt,
"Pan 'roeddwn i yn rhodio'r caea'
Dy' Mawrth diweddaf o ddyddiau'r byd,
Mewn lle isel dan goedydd tawel
Y clywas i ddwy'n ymgomio 'nghyd."
ef a lanwai fwlch helaeth yn y gerdd â
"Tei ti rei ram to, tei ti rei ram to,
Tei ti rei ram to, tei ti rei ram ";
ac yna tarewai i mewn eilwaith mewn iaith mwy dealledig, gan ddiweddu gyd â
"A phwy oedd yno yn ymgomio
Ond f'annwyl gariad, gyd â'i mam."
Mwynhaodd Morgan y canu hyn yn fawr iawn, yn enwedig am fod i'r canwr hefyd lais soniarus. Ac o'r braidd na ddymunai ef i'r daith fod yn hwy oherwydd hynny; ond wedi ychydig yn ychwaneg o ragoriaethau'r rhianedd, fe'i hataliodd y cerddor ei hun megis ar hanner brawddeg, ac a ddywedodd:
"Dyma ni, syr, yn Nhrefforest. Ma' Mr. Henry yn byw yn y tŷ mawr yco ynghanol y côd. Dydd da, syr."
"Dydd da i chitha' a diolch am y canu. Gobitho ma' chi fydd yn mynd 'nol fel hyn bore fory, i fi gâl 'ch cwmni yto."
"Thenciw, syr. Fe gawn weld yn y bora. Dera, Juno! Come up!"
PENNOD XV.
HELYNT Y FARIL.
BU Morgan droeon yn Nhrefforest cyn diwedd yr haf hwnnw ar negesau dros ei feistr, a mynych y cludasai ef bysgod Mellte, neu ieir cochion Gwaun Tincer, yn amheuthun i'r brawd a ofalai am y weithfa yno. Oherwydd y mynych deithio hyn, ef a adwaenid yn dda bellach gan yrrwyr y mulod, a phawb arall a oedd â'u galwedigaeth wrth y gamlas.
Ar ei ddychweliad o un o'r teithiau hyn y clybu ef gan ei fam "helynt y faril ar y ffwrnes," a ddigwyddasai ond y noson cynt, ac a oedd felly yn destun brwd yr holl bentre drannoeth.
Gwyddai pawb mai câs beth Mr. Ffrank oedd y gollwng i yfed cwrw i ormodedd a oedd mor gyffredin ymhlith pydlers yr amser hwnnw. Gwyddai ef yn dda am y syched mawr a gynhyrchai gweithio o flaen y ffyrnau ar ddyddiau tesog, ac nid oedd ef felly yn llym iawn ar y gwr a redai i lawr i Dafarn y Rhydiau am bum munud yn awr ac yn y man, er mai torri cyfraith y gwaith oedd hyd yn oed hynny. Ond y pechod anfaddeuol oedd dwyn y ddiod i'w yfed ar y gwaith ei hun, a mwy nag un pydler a orfu ymadael â'r Waun am ddarfod ei ddal yn y trosedd hwnnw.
Yr oedd Awst y flwyddyn honno yn neilltuol o desog, a'r syched gan hynny yn un parhaol. Ac oherwydd y gwres anarferol a gynhychai ffwrn yr haearn a ffwrn y nen ynghyd, rhyfygodd Jim Wich a Dai Mab ei Fam ddwyn i'r iard faril fechan o gwrw, gan ei chuddio'n ofalus ym mhentwr mawr y sinidr a oedd gerllaw. Fel y cyfaddefwyd ganddynt yn ol llaw, mentro ar ddyngarwch y meistr, a dadlau'r syched anarferol eu hunain, oedd a'u cymhellodd i'r ffolineb. Bwriadent hefyd gadw'r peth yn ddirgel, fel na byddai'r yfed ond i ryw ychydig yn unig.
Ond druan a'u helpo! Nid oeddynt ond braidd wedi derbyn pobun ei ddogn cyntaf cyn bod y peth yn wybyddus i bawb ar yr iard, a hyd yn oed i feistr yr iard ei hun. Hwnnw, o falais, a arhosodd y rhan helaethaf o'r prynhawn yn ymyl y faril fel pe o ddamwain, ac ofer wedyn cynnig o neb ei ddisychedu ei hun, pa mor boeth bynnag y teimlai ef.
Am bedwar o'r gloch daeth Mr. Ffrank heibio i'r fan, a daliodd meistr yr iard ar y cyfle i fynegi iddo'r cwbl, gan nodi allan ymguddfan y faril yn y sinidr yr un pryd.
"Gelwch nhw i gyd yma," ebe Mr. Ffrank yn ddigllon; ac wedi dyfod o'r pydlers yn un dorf at y crug sinidr, ebe fe wrthynt:
"Nawr, fechgyn, 'dwy' ddim am gosbi neb ond yr euog. Pwy a gariodd y faril yma i ben y gwaith?"
Dim ateb o unman! Yna ef a ofynnodd drachefn yr un peth—ond parhaodd y distawrwydd fel o'r blaen.
"Wel," ebe fe, "chi gewch weld ymhellach, Dafydd!" (hyn wrth y Samwn Pinc), "trolia'r faril yma at Ffwrnes No. 1!"
Hynna a fu, ac ni throdd Mr. Ffrank i edrych ar neb o'r cwmni euog wedi'r gair, ond fe a aeth gyd â meistr yr iard ar ol y troliwr.
"Dyma fi wedi colli'm cwrw a'm gwaith!" ebe Jim Wich. "Mae e'n mynd i daflu'r faril miwn i'r ffwrnes chi gewch weld!"
Ond nid felny y bu ychwaith, er ofni o Jim y gwaethaf am dynged y faril, oblegid daeth i feddwl Mr. Ffrank y dysgai ef wers i'r pydlers, na byddai iddynt ei hanghofio am dro. Ac i'r perwyl hynny ef a benderfynodd mai gwneuthur y pechaduriaid yn nôd gwawd a fyddai'r peth gorau. Felly, yn lle taflu'r cwrw i'r ffwrnes fawr, ef a fynnodd ddwy raff, ac wedi eu sicrhau'n ddiogel am y faril, gorchymynwyd gostwng honno i waered hanner y ffordd hyd wyneb y ffwrnes ac yno, yng ngwydd y cannoedd gweithwyr, hi a hongiai rhwng nef a daear, yn rhybudd i bob pechadur sychedig a fynnai dorri cyfraith gwaith.
Amser anhyfryd iawn a fu ran y pydlers weddill y dydd, oblegid pobun wrth fynd heibio iddynt a gyfeiriai mewn rhyw ffordd neu'i gilydd at y faril ar y mur. Yn wir, bu ysgarmes rhwng y Wich ac un o'r ffeiners, am i'r olaf ystumio codi llestr diod at ei fin ar ei ffordd adref. A hyd yn oed wedi mynd o'r gweithwyr ereill i'w tai, aethai'r plant a rhai o'r gwragedd allan i syllu ar y llestr y sonnid cymaint am dano ar yr aelwydydd.
Tybiai Mr. Ffrank ei fod wedi cael y trechaf ar y pydlers, ond ni bu erioed gamsyniad mwy; a'r gwr a droes y fantol o du'r yfwyr oedd neb llai na'r Northman, William Ellis, y pydler lleiaf ei syched ohonynt oll.
Wedi ei myned hi yn nos, ef a alwodd y pydlers at ei gilydd, ac wedi egluro iddynt fod modd yfed y cwrw heb symud y faril o'i lle, penderfynwyd yn unfrydol ei chynnig hi. Felly, wedi cael pib wydn, deneu, ef a'i gostyngodd ei hun i waered at y faril ar hyd y rhaffau a'i hongiai hi. Yna ef a sicrhaodd y bib wrthi yn y fath fodd fel y byddai i honno actio fel syphon; ac wedi ennill ohono ben y ffwrnes drachefn, ef a archodd i Dai Mab ei Fam sugno wrth y bib cyn gryfed ag y medrai.
Am foment, edrychai pethau fel methiant; ond wedi i Dai ddal i sugno am ennyd yn fwy, gwelwyd fod y sugnwr yn amneidio â'i law fod popeth yn iawn. Yna sugnwyd gan bawb yn ei dro nes gwacâu'r faril yn gyfangwbl, ac aeth pob pydler yn ol at ei waith ynghanol miri mawr. Trannoeth hongiai y faril fel y dydd cynt, ond gyd â'r gwahaniaeth fod y gwynt bellach yn ei hysgwyd yn fwy yn ol a blaen.
Dechreuwyd poeni'r pydleriaid y dydd hwn eto, ond i bob sen yr oedd yn awr grechwen yn ateb, ac i bob winc direidus, winc direidus yn ol. Cyn canol dydd gwyddai'r holl weithwyr am y modd y dymchwelwyd y byrddau, a bernid yn gyffredinol fod yr ystranc glyfar yn haeddu maddeuant.
A maddeu a wnaethpwyd, oblegid er i Mr. Ffrank ffrwydro allan mewn digofaint am ennyd pan glywodd am fuddugoliaeth y pydlers, ef yn y diwedd a chwarddodd cystal â neb. A phan ddeallwyd, cyn pen yr wythnos, fod Jim Wich a Dai Mab ei Fam i gadw eu gwaith, penderfynodd y pydlers, heb un cymhelliad namyn o barch teg eu hunain i ddymuniadau Mr. Ffrank, nad oedd neb ohonynt i ddwyn i'r gwaith mwy ddim a oedd gryfach na "dŵr a blawd ceirch." A'r pydler a oedd amlycaf yn y penderfyniad hwn a'r mwyaf ei sêl yn mynnu ei gadw, oedd y Samwn Pincy gwr y maddeuwyd ei drosedd ef ei hun rai misoedd cyn hynny.
PENNOD XVI.
COLLI HEN GYFAILL.
"MORGAN," ebe Mr. Ffrank wrth ei was tua thridiau ar ol helynt y faril, "cer lan at fishtir yr iard, a gwed wrtho mod i am weld William Ellis yn yr offis ymhen hanner awr!"
"Ma arna i ofan, syr, nad yw e' yno, ond fe âf i ofyn."
"Ffordd gwyddot ti nad yw e' yno?"
"Achos iddo alw yn'n tŷ ni echnos i roi gwdbei i fi a mam, syr."
"Yn y ffordd hynny 'dwy ddim gwell dy ala di i wilo am dano. Wyddot ti ble'r ath e'?"
"Na wn, syr, mwy na mynd nol i'w gartre yn y North odd i fwriad e'n gynta a mynd i Liverpool wetyn."
"Yr oech chi'n dipyn o gyfeillion felny?"
"Oem, wath rodd e'n ffond iawn o ddarllen. Ac fe ro'ws y Goldsmith yn bresent imi cyn mynd. Ac fe sgrifennodd hynny ar y clawr. A dyna sgrifennwr da, syr!
'Does neb yn yr offis a oedd a llaw debig iddo."
"O wel! beth pe baet ti'n dod a'r llyfr i'r offis fory i fi gâl i gweld hi?"
"Olreit, syr! Fe wna."
A thrannoeth, erbyn dyfod o Mr. Ffrank i'r offis am ei lythyrau, yno o'i flaen ar y ddesc oedd copi Morgan o Goldsmith's Animated Nature, ac o fewn y clawr mewn ysgrifen ddestlus dros ben y geiriau hyn:
To Master Morgan Jones, The Ironworks, Waun Hir, as a token of esteem, and a tangible wish for success to come.—William Ellis.
Syllodd Mr. Ffrank ar yr argraff yn hir, ac yna ef a alwodd ar Mr. Aubrey i weld y llawysgrif. "Rhagorol!" ebe hwnnw; "nid oes neb ohonom ni a all ddal cannwyll iddo!"
"Ie," ebe Mr. Ffrank ymhellach. "Rhaid bod hanes i'r gwr yna! A chyd â ein bod ond braidd wedi gweld y dyn, a gorfod teimlo oddiwrtho hefyd (hyn gyd â gwên) dyna ni yn ei golli!
"A ro'ws ef rwfath o gyfeiriad iti i sgrifennu ato, Morgan?"
"Dim o gwbwl, syr! wath 'dodd dim un ganddo i'w roi," ebe fe, "am na wyddai ef ei hun yn sicr i ba le yr ai ef o Liverpool. Ond fe addawodd ysgrifennu ataf pan fyddai ef wedi sefydlu ei hun yn rhywle. Dyna'r cwbwl y sy genny am dano!"
"Wel! os bydd iddo sgrifennu atat ti rywbryd, rho wybod i mi, nei di?"
"Gnaf, syr, pryd bynnag y clywaf oddiwrtho."
"A dyma un arall o'n gwithwyr ni sy wedi'n gatal,' ebe Mr. Aubrey, gan osod copi o'r Cambrian o flaen Mr. Ffrank.
Edrychodd y meistr ar y paragraff am funud, ac yna â thristwch yn ei lais, eb efe, "Dyw hyn ddim ond dangos mor hawdd y gall dyn da fynd yn wrong. Piti! Piti!"
Yn ddiweddarach yn y dydd gwelodd Morgan hefyd gopi o'r Cambrian, ac yr oedd ef ei hun mor drist a Mr. Ffrank am yr hysbysiad a oedd ynddo, canys hyn oedd ei gynnwys:
"We understand that the Rebecca Rioters have been lately reinforced by a number of kindred lawless spirits from the industrial parts of the Glamorgan and Monmouth Hills. It is freely rumoured that the well—known pugilist, Shoni Sgubor Fawr, is one of the band. The authorities are apprehensive of further outbreaks, but the miscreants will find that the measures to cope with their nocturnal depredations will be such as to counter any activity on their part."
Y noson honno bu hir ymgom rhwng Beti Shôn a'i mab ynghylch y ddau a ymadawsant â'r gwaith yn ddiweddar.
"Beth i chi'n feddwl, mam, oedd pwrpas Mr. Ffrank wrth ofyn am gyfeiriad William Ellis, a hwnnw ei hun wedi bod ar y blân ym musnes y faril?"
"Does genny' 'run esboniad arno," ebe hithau, "ond 'rwy'n siwr nad drwg i William Ellis oedd ei amcan. Un od yw Mr. Ffrank, ti'n gweld, a synnwn i ddim na byddai William âg ef yn ffrindia mawr er y cwbwl. Ond dyna fe wedi mynd, a braidd 'rwy'n cretu y mentriff e' byth yn ol mwyach. Dyna John Jones, Sgubor Fawr, wetyn, pwy isha oedd i hwnnw i fynd off? Chelsa fe well mishtir yn unman, 'rwy'n siwr. Ond ma nhw'n gweyd mai mynd a dod yw hanes John Jones eriod. Ma fel ta fe'n blino clywed yr un lleisha o'i gylch yn hir iawn. Ond 'rwy'n falch iddo wado'r Sais hynny wedi'r cwbwl, ta dim ond am i hen fost."
"Mam! mam! 'Rown i'n cretu mai cas beth genny chi oedd clwad am wmladd! A dyna chi'n canmol wmladdwr penna'r cwm!"
"Eitha reit, Morgan! Ond nid yw neb yn ddrwg i gyd, ac os o's rhai petha da yn John Jones, rhaid i gamol ef am dany' nhw."
Yna adroddwyd eto am y modd yr amddiffynnai yr ymladdwr mawr bob creadur mud, ac am yr ysgarmes ar ben y tip.
"Nath dim fwy o les yriod yn y gwaith na'r fatl hynny," ebe Morgan. "Wyddoch chi, mam, fod pob halier yn awr yn ofalus iawn o'i greatur, ac os bydd ambell un o hony' nhw yn dechre troi'n gas at ei geffyl, dim ond i rywun sôn am Shoni Sgubor Fawr, fe fydd y camdrin ar stop ar unwaith. Treni iddo joino'r Beca,
mam!"
"Ie, 'machgeni! A gobeitho y dotiff y nefodd yn i galon e' i ddod nol ac i aros yma!"
"Ie, wir, mam! Dyma fi'n mynd i'r gwely. Nos da."
"Nos da, Morgan."
PENNOD XVII.
YSBEILIWR CWM SMINTAN.
Yn ystod y misoedd nesaf bu cryn newid ar drefniadau gweithfeydd y Croshas. Symudwyd Mr. Henry Crosha o Drefforest i'r Forest of Dean, lle'r oedd gan y perchenogion weithfa haearn a ehangwyd yn ddiweddar, ac aeth un o brif ddynion Cyfarthfa i Drefforest i gymeryd ei le yntau. Symudwyd hefyd rai o wŷr offis y Waun i Gyfarthfa, a bu hyn yn gyfle i osod Morgan mewn safle uwch yn offis Glan Cynon.
Balch iawn oedd ef yn naturiol am hyn, oblegid golygai ei godiad yn yr offis godiad hefyd yn ei gyflog, ac o hynny fwy o gysur i'w fam, ac o foddion prynu llyfrau iddo yntau.
Caredig iawn oedd Mr. Aubrey wrth hysbysu iddo ei ffawd dda; ond er hapused ef o glywed geirda'r prif glerc, nid oedd i'w gymharu â gwerth y wên a ymdaenai dros wynebpryd ei fam dirion pan roes ef y newydd iddi hi.
"Rwy'n diolch i Dduw," ebe hi, "a phe bae dy dad annwl ond yma hefyd, fe wnaethai ynta'r un modd. Mae'r Nefoedd yn biwr inni wedi'r cwbwl, 'machgen i. Gofala na roddi di byth achos i Mr. Ffrank a'r dynion c'redig erill i newid 'u barn am danot ti. Fe fydd dy hen fam yn marw'n hapus o dy weld di'n parhau i ddod 'mlân."
Awr gysegredig oedd honno ar yr aelwyd fach. Ac ymhen blynyddoedd lawer, pan oedd y fam dduwiol yn fud bellach yn ei bedd ers llawer dydd, fe welai Morgan eto'r wên yn taenu dros yr wyneb siriol, a'i
chariad yn ymdonni allan ymhob edrychiad. Ie, awr gysegredig oedd honno, os bu un erioed i fam rinweddol a mab ei gofal.
Yr unig beth anhyfryd a ddug llwyddiant Morgan i feddwl ei fam oedd y nosweithiau amlach y byddai ef yn cysgu oddicartref. Oblegid er bod sôn a pharatoi mawr am ddyfod o'r locomotive a'r cerbydau i ardaloedd uchaf Morgannwg, nid oeddynt hyd yn hyn wedi dyfod i ymarferiad, a rhaid oedd wrth foddion ereill oedd y mynd a dyfod rhwng Cyfarthfa, Trefforest, a'r Waun. A chan mai o Gyfarthfa y telid allan arian hur y gweithwyr i swyddogion y ddeule arall, rhaid oedd eu cludo dros y mynydd i'r Waun ac i waered trwy Ddyffryn Tâf i Drefforest.
Ac o hyn y bu'r brofedigaeth chwerwaf a ddaeth i ran Morgan erioed.
Bob yn ail dydd Gwener yr oedd yn rhan o ddyletswyddau Mr. Rhydderch, y cashier, ac yntau i gyrchu Cyfarthfa mewn cerbyd, gan ddwyn gyd â hwynt fanylion huriau'r Waun, a'u trefnu yn barod yno erbyn dychwelyd dros Fynydd Merthyr drannoeth, gan ddwyn yr arian gyd â hwy.
Edrychai Morgan ymlaen gyd â boddhad at y teithiau hyn, oblegid ar wahan i'r ffaith fod Mr. Rhydderch yn gwmni diddan beunydd, yr oedd ef hefyd yn hanesydd a hynafiaethydd o wybodaeth eang, a buan y daeth y dyn ifanc i wybod am brif hynodion Cymoedd Tâf a Chynon, ynghyd â'i ffindir yn gyffredinol. Gwyddai hefyd yr hanes lleol yn dda, ac yr oedd Dic Penderyn, a Lewsyn, Nani Moses, a Beti Hendrebolon, mor fyw ar ei fin â phe baent yno gyd â hwynt.
Un bore Sadwrn, a hwy ill dau yn wynebu ar y Waun yn eu cerbyd, gan ddwyn ganddynt yr arian yn y codau o dan y sedd fel arfer, hi a aeth yn ddadl rhyngddynt parthed y Khyber Pass—lle a oedd wedi derbyn llawer o sylw y dyddiau hynny am a ddigwyddasai yno'n ddiweddar i'r Fyddin Brydeinig.
Yr oeddynt wedi cyrraedd croesheol Llwydcoed, y sydd lecyn unig uwchlaw Cwm Smintan ar heol Merthyr, ac yn ddwfn yn eu dadl, pan ruthrodd gwr cyhyrog allan o gysgod perth y groesheol, a chyd â mwgwd dros ei lygaid a wynebodd y cerbyd, gan ddal dau lawddryll yn annel atynt. Mor sydyn oedd ei gamu tuag atynt fel y gwylltodd y ceffyl, gan ddechrau ymwingo tuag yn ol. Hyd yn hyn ni yngenid gair o un ochr, ond o weld y ceffyl yn gwylltio, ac ofni odid y carlamai hwnnw dros ei ben, neshaodd yr ysgelerddyn at y cerbyd, ac ebe fe mewn llais cras rhyfeddol:
"Yr ariani fi, neu fe wthaf 'ch penna off, ar f'ened i!" "Do's gyd â ni ddim i 'neud ond ufuddhau," ebe Mr. Rhydderch wrth Morgan.
"Nag o's, os nag ichi'n mo'yn bod yn dead O y funud 'ma! Nawr, lawr a chi'ch dou—a dim monkey tricks, cofiwch!"
Disgynnodd Mr. Rhydderch yn gyntaf, a dilynwyd ef fel pe mewn breuddwyd gan Forgan. Amcan y cashier oedd rhoddi'r arian i fyny am y pryd, ac yna gyrru ar garlam i'r Waun er codi'r holl waith i chwilio am y lleidr, a'i ddal cyn ai ef ymhell. Ond paratoisai'r adyn ar gyfer hynny, oblegid, a'r llawddrylliau eto at wynebau'r ddau swyddog, ef a'u gorfododd i dynnu'r ceffyl allan o'r tresi, ac ef ei hun a darfodd y creadur i redeg allan o'r golwg i waered tuag at waelod y Cwm.
Wedi gwneuthur hynny, ef a drodd drachefn at y ddau, ac ebe fe'n groch:
"Off â chi, y ddou ddiawl diened; ac os bydd i un o chi ddisghwl 'nol, fe setla' i ef âg un ergyd. Dyna ddicon! Quick march!"
Aeth y ddau yn drist iawn, heb feiddio edrych yn ol, i'r un cyfeiriad ag yr aethai'r ceffyl, a bu iddynt gerdded lawn hanner canllath cyn dywedyd gair y naill wrth y llall, gymaint oedd eu braw. Yna dywedodd Mr. Rhydderch:
"Gadewch inni redeg ein dau er codi'r lle ar unwaith!"
Ond y foment honno gwelsai Morgan y ceffyl yn pori'n dawel wrth y berth yn nes ymlaen, ac ebe fe:
"Mae genny' fi well cynllun. Dyco Diwe wrth y berth fan draw. Mae'n ddicon hawdd ei ddala: yna rhaid i chwi fynd ar 'i gefan, a dreifo nerth 'i garna' fe i 'weyd y cwbwl. Fe dorra' inna' i lawr i'r côd yco. 'Rwy'n cretu ma' dilyn Cwm Smintan a mynd i 'Berdar a wnaiff y lleidr. Fe dreia i gâl golwg arno—ac os caf i, fe'i dilynaf hyd nes y daw gweithwyr y Waun yn ugeiniau ar 'n hola'. Fydd dim danger, wa'th fe ofala i b'ido bod yn rhy acos ato. Dewch â'r gweithwyr gynted ag y gellwch!"
Hynny a wnaed. Carlamodd Mr. Rhydderch, a oedd yn farchogydd da, yn ol tua'r Waun; a'r olwg ddiweddaf a gawsai ef ar Forgan oedd ei weld yn ei blŷg yn symud yn llechwraidd gyd â bôn y berth a redai o Gae Mawr Cwm Smintan hyd y blanhigfa ffynidwydd wrth Aber Naint. Ac yno, ar ei dòr o dan gangau isel un o'r coedydd, ef a wyliai bopeth a symudai ar ochr arall y Cwm.
PENNOD XVIII.
ORIAU CYNHYRFUS.
NI bu iddo ef aros yn hir cyn tynnu o rywbeth ei sylw. Ond i'w fraw mawr, y rhywbeth hwnnw oedd y lleidr ei hun, yn awr heb ei fwgwd, ac nid yr ochr draw i'r cwm ychwaith, ond ar yr un ochr ag yntau, ac yn cyrchu hefyd at yr un blanhigfa. Da iddo ef ennill honno yn gyntaf, ac iddo fod mor ddoeth â gofalu am ymguddfan dirgel mewn pryd, oblegid aeth yr adyn heibio iddo o fewn deng llath ar hugain, gan ddwyn gyd âg ef, un ymhob llaw, ddau gŵd mawr, sef yr arian a ysbeiliesid. Amlwg fod y lleidr wedi croesi'r cwm yn uwch i fyny; ond gan fod i'r ddau gŵd a gariai gryn bwysau, rhoes hynny ddigon o amser i Forgan gyrraedd ei ymguddfan cyn i'r llall adael prysgwydd gwaelod y cwm.
O nesu o'r lleidr ato, teimlai'r llanc ei galon ymron ar dorri, ac o'r braidd y gallai ef anadlu yn ei le cyfyng. A phan welodd ef nad oedd y dyhiryn yn neb llai na Dennis Connelly, bu ymron a llewygu gan ei ofn. Ond yno, yn llechu fel cwningen yn y gwrych, ef a ddaliai i syllu ar yr ysglyfiwr; ac wedi i hwnnw adael y blanhigfa eto am waelod y cwm, dyna'r pryd y dechreuodd Morgan ei adennill ei hun.
Yn y lle y cyfeiriai'r Gwyddel Cymraeg hwn ato yr oedd pont wedi ei thaflu dros y nant er cludo camlas fechan oddiwrth argae yn afon Cynon, i ddyfrhau Gwaith Haearn y Llwydcoed, ac i mewn o dan fwa'r bont honno y gwelsai Morgan y lleidr yn diflannu.
Tybed a âi ef allan yr ochr arall iddi, a dilyn ymlaen i lan Cynon? Daeth i feddwl cythryblus y llanc y gallai ef ei hun, o'i fyned i gwr pellaf y blanhigfa, weld deutu'r bont. A chan fentro'n fawr, er bod y lleidr ar y pryd o dan fwa'r bont, ef a redodd i'r man yr amcanasai, ac a'i bwriodd ei hun ar lawr i wely rhedyn ychydig i'r naill ochr i'r coed, o'r lle na allai dim na neb fynd i mewn neu allan i ddeutu'r bont heb fod yn amlwg iddo. Am ryw gymaint o amser, nas gwyddai'r llanc mo'i fesur, ni welodd ef ddim; ond yn y diwedd ef a ganfu ben y Gwyddel yn edrcyh allan am eiliad neu ddwy o'r tu isaf i'r bont. Yno, mewn cae ar ei gyfer, yr oedd amaethwr yn galw ar ei gi, a thebig i'r lleidr farnu mai gwell oedd aros ychydig yn hwy cyn mentro allan. Yna bu distawrwydd hir drachefn—y llanc yn gwylio, a'r lleidr yn llechu.
Yn y cyfamser achosodd ystori Mr. Rhydderch gyffro mawr ar y Waun, a phenderfynodd y gweithwyr yn ddiymdroi i fyned allan yn ddeuoedd ac yn drioedd i chwilio pob cilfach yn yr ardal, ac yn enwedig Cwm y Naint, a estynnai o amaethdy Llwynmoch i waered hyd afon Cynon. Rhaid ei bod oddeutu dwyawr neu dair wedi'r ysbeilid, pan glybu Morgan o'i wely rhedyn swn traed yn yswisian y glaswellt y tu ol iddo. Ar hyn ef a gododd ychydig, gan bwyso ar ei benelin; ac wedi gwneuthur lletro i weld pwy oedd yno, ef a ganfu'r Samwn Pinc a Shoni mab Dai Dŵr Glân yn dyfod i'w gyfeiriad. Llwyddodd i ddal eu sylw heb wneuthur ohonynt unrhyw swn, ac wedi gosod ei fys ar ei fin yn arwydd o ddistawrwydd, ef a amneidiodd arnynt i nesu ato yn eu plyg.
Wedi eu dyfod ato, ef a sisialodd yn frysiog â hwy, gan fynegi bod y lleidr dan fwa'r bont, ond ei fod yn arfog, ac mai gwell oedd iddynt fynd yn eu holau i gyrchu'n ddistaw fwy o ddynion i'r fan.
Hynny a wnaed, a chyn pen nemor munudau yr oedd dwsin yn ol yn yr unfan, ac yn eu plith Mr. Aubrey, y prif glerc. Penderfynwyd rhannu yn ddwyblaid un at bob ochr y bont; ac wedi i bedwar neu bump yn ychwaneg ymuno â hwy, cyd-symudasant yn eofn at y ddwy fynedfa.
Tebig iawn fod yr euog wedi eu clywed yn dyfod, ac er mwyn gosod gwell gwêdd ar ei ystori ei hun, ef a ymadawodd â'i ymguddle fel pe o'i fwriad ei hun, ac a geisiodd ymddangos yn syn fod cynifer o bobl wedi cyrchu'r lle anial hwnnw yr un pryd.
"Beth wyt ti'n 'neud yma, Dennis?" ebe Mr. Aubrey yn llym.
"Dala o'm dwylo, wrth gwrs? Welwch chi ddim o'm pysgod?"
Tebig fod y gwalch, yn ystod ei arhosiad gorfodol dan y bont, wedi sylwi bod yno bysgod, ac wedi treulio peth o'r amser hir i ddal tri o'r rhai bychain. A thrwy gymorth y rhain, ef a geisiai yn ei gyfyngder osod gwedd o ddiniweidrwydd ar ei symudiadau. Ef a fwriasai eisoes oddiwrtho y llawddrylliau rywle yn ol yn y cwm—a chymorth oedd hynny hefyd i'w haeriad cyntaf.
Ond nid gwiw dadleu peth fel hynny â Mr. Aubrey, a oedd erbyn hyn wedi clywed stori Morgan. Ac ebe fe wrth y fintai:
"Fe aiff Dafydd (hyn gan gyfeirio at y Samwn Pinc) a finna i mewn dan y bont i bysgota hefyd. Aros di, Dennis, yn y man lle'r wyt, nes de'wn ni ma's. Chi, fechgyn, catwch lycad arno, 'newch chi."
Aeth Mr. Aubrey a Dai, yn ol y trefniant hwn, i chwilio o dan y bont; ac, i'r olwg gyntaf, nid oedd yno ddim a oedd anarfer i leoedd o'r fath. Ond wedi manwl edrych, gwelwyd fod ychydig o'r meini yn ochr
y bont wedi colli eu cymrwd, a bod un ohonynt o leiaf chwarter modfedd allan o'i lle.
"Hylo! Tyn hon ma's, Dafydd. Mae'n rhydd, 'rwy'n meddwl."
Gwnaed fel yr archwyd. Daeth y garreg allan yn rhwydd ddigon; ac wedi ei chael hi allan, hawdd oedd tynnu hanner dwsin ereill yn ei hymyl. Y tu ol i'r rhain yr oedd gwagle a oedd yn amlwg o wneuthuriad bwriadol; ac wedi estyn ei fraich i ben pellaf hwnnw dygodd Mr. Aubrey allan y ddau gŵd a ladratesid y bore hwnnw. A phan gariodd Dai y rhain i olau dydd, ac i Mr. Aubrey ddywedyd, "Pysgod braf, fechgyn!" yna y bu cri uchel, ac o'r braidd y gallodd y swyddog atal y gweithwyr rhag gosod dwylo dig ar y troseddwr.
Connelly a ddygwyd, fodd bynnag, yn eu plith i fyny i'r Waun, ac a osodwyd mewn ystafell yn yr Offis gyd â thri gweithiwr i'w wylied, i aros dyfodiad y cwnstabliaid o Aberdar.
PENNOD XIX.
YR OFFIS A'R AELWYD.
MEWN ystafell arall yn yr Offis yr oedd Mr. Rhydderch yn adrodd wrth Mr. Ffrank a phrif swyddogion y gwaith am y modd y bu, gan bwysleisio yn neilltuol ran Morgan yn yr helynt.
"Da nad oedd pethau'n waeth," ebe'r meistr. "Mae'r arian i gyd yn y ddau gŵd, a rhaid talu'r gweithwyr heb golli rhacor o amser. Fe edrychwch chi, Mr. Aubrey, at hynny, 'rwy'n siwr. Fe gawn ni eto wilheua 'mhellach wedi i chi gwpla."
Ar y gair ef a gododd i ymadael, a gwnaeth swyddogion yr iard, y ffwrnesi, y ffeindry a'r forge yr un modd; ond cyn ei fyned ef allan, Mr. Ffrank a droes at Morgan, ac yn eu gwydd hwynt a ysgydwodd ei law yn galonnog gan wneuthur i'r llanc wrido mewn boddhad. Credai'r llanc ifanc fod y cydnabyddiad hwn gan y meistr yn llawn dâl am anghysur y bore; a thrwy ei oes, mewn llawer lle cyfyng yn y blynyddoedd wedyn, dug yr atgof am wasg y llaw garedig honno ddydd yr helynt mawr ryw ysbrydiaeth iddo na phallai byth.
Daeth y cwnstabliaid i fyny ymhen amser, a phan oeddynt hwy yn dechrau'r daith i ddwyn y lleidr i waered i Gaerdydd, yr oedd Mr. Aubrey a'i glercod wrthi'n ddiwyd yn talu allan yr huriau i'r gweithwyr heb fod ond awr neu ddwy yn ddiweddarach nag arfer.
Fel y gellid disgwyl, yr oedd y cynnig beiddgar a wnaed gan Connelly yn destun siarad yr holl ardal, a llawer oedd y diolch am yr adennill buan a wnaed ar arian yr huriau. Llawer oedd y gwahanol adroddiadau
am y modd y bu—rhai yn pwysleisio hyn, ac ereill yn taeru mai arall oedd y gwir. Daliai Jim Wich yn y "Rolling Mill" y noson honno nad oedd neb â mwy o o blwc yn y cwm na Moc Bach:
"'N Moc Bach ni, bydlers, cofiwch, wa'th gyta ni dechreuws e'. Ac 'ro'wn i wastad yn gweyd fod rhywbath yn y boy bach. A dyna'n geiria wedi dod yn wir! Peint arall, 's gyloch chi fod yn dda, Mrs. Walters."
Pan aeth Morgan adre wedi dibennu yn yr Offis, gyd â'r "pae," yr oedd ei fam yn ei gyfarfod wrth y drws; ac wedi plethu ei braich yn ei fraich ef, hi a'i cusanodd, ac a ddywedodd:
"Rwy' wedi clwed y cwbwl, 'machgen i, gan Mrs. Roberts, chwaer Mr. Aubrey. Dere at dy fwyd, wa'th rhaid fod 'i isha'n dost arnat ti, 'rwy'n siwr."
"Dim cymint a hynny'n wir, mam, wa'th fe alws Mr. Ffrank fwyd ac yfed lan i'r Offis cyn inni ddechra talu, yn lle bod y dynon yn aros am 'u pae funud yn fwy nag o'dd raid."
"Ond ma' amser odd'ar hynny, Morgan. Dere nawr at y ford."
Ac ar y gair hi a gododd ac a agorodd ddrws y ffwrn fach i ollwng allan yr arogl archwaethusaf. Ond er mor ddenol yr ymborth, a mor siaradus ei fam wrth y bwrdd, nid oedd lawer o chwant bwyd ar y llanc, gymaint oedd effaith troeon cynhyrfus y dydd arno.
"Syched sy arna' i fwya' mam. O's gennych chi la'th?"
"O's, dicon, trw lwc. Dyma fe. A dim ond iti aros munud ne' ddwy, fe grasa i dafelled o fara iti ddoti yndo. Do's dim gwell bwyd i gâ'l."
"Thenciw, mam. Dyna'r peth i'r dim."
Yna, ac ef yn llwyo ei laeth ac yn briwsioni'r bara i'w lestr, adroddodd Morgan i'w fam y modd y bu'r cwbwl.
"Diolch i'r nefo'dd fod dy fywyd di'n sâff!" ebe hithau'n sobr. "Rhaid fod y nefo'dd yn gofalu am danat ti. 'Rwy' i wedi diolch i'r Tad ishws, ac 'rwy'n siwr dy fod ti wedi gneud yr un peth."
"Otw, mam, ac o galon he'd."
"Dyma fe. Cwsg di'n dawel heno, 'machgen i."
"Arna i ofan na chysga' i lawer heno, mam, ond fe wna ngora. Ac os bydda i heb gwnnu i frecwast bore 'fory, chi a faddeuwch am unwaith, 'rwy'n siwr."
"Cer di nawr, Morgan. Roist ti ddim llawer o waith madde' i mi yriod o'r bla'n. Fydd dy fam ddim yn galed iawn wrthyt ti, ti elli fentro. Ie, a chymint gwell yw arnot ti heno nag ar y Dennis 'na. Ma'r Hen Lyfyr yn 'itha iawn —Ffordd troseddwyr sy galed o hyd.'"
"Oti, mam, a do's neb yn gwpod pwy mor galed yw hi i fod arno fe. Ma' nhw'n gweyd yn yr Offis ta 'transportation for life' ne' ca'l 'i groci a fydd hi. A ma' hynyna yn 'y nghofio i y bydd raid i Mr. Rhydderch a finna fynd i Aberdar dy' Llun i roi evidence, a fe fydd y treial wetyn nês 'mla'n,—a rhwng popeth fe fydd yn ddicon diflas nes cwpla'r fusnes."
"Bydd, yn wir, 'machgen i; ond paid a bod yn galed hyd 'n o'd ar ddyn fel Dennis. 'Ro'dd gento fe fam rwpryd, cofia! A phe b'asa' hi ond gwpod, fe dorsa 'i chalon, pŵr thing. Ti weti di'r gwir, wrth gwrs; ond ma' llawer ffordd i 'weyd y gwir, cofia! A thi fyddi di ddim ar dy golled o'i 'weyd yn dirion. Dyna fel y g'nela' Mr. Ffrank, 'rwy'n siwr."
"Rwy'n cretu'ch bod yn rheit, mam. Ond dyma fi'n mynd."
PENNOD XX.
CYFRAITH Y WLAD A THRUGAREDD BETI
WYTHNOS galed iawn i Forgan oedd yr un ganlynol, oblegid er y carai na byddai i neb son am y lladrad, y pwnc hwnnw yn anad dim y mynnai pawb ei wneuthur yn brif destun.
Ef a ddechreuodd sylwi hefyd fod rhai o'i gydnabod yn newid y ffordd o'i annerch. Y "chi" parchus a gymerai le y "ti" cynefin gynt gan lawer, ac ambell un a godai hyd yn oed ar y "Mr.", sef y teitl a'i gosodai yn nosbarth uchaf yr Offis mewn gwirionedd. Y bobl, a oedd fyth am fod ar delerau da â'r dynion a oedd yn cyfrif, oedd y rhai a'i hanerchai â'r "Mr." gan mwyaf, ac ni allai Morgan lai na sylwi bod un o leiaf o'i gydglercod, a oedd yn bresennol pan ysgydwodd Mr. Ffrank ei law, ymhlith y dosbarth hwn. Atgas iawn oedd hynny gan y llanc, yn enwedig pan gofiai mai'r un dyn oedd barotaf gynt i'w "gadw yn ei le" (chwedl hwnnw), gan ei alw yn "youngster," "young lad," a phethau cyffelyb. Jim Wich, ar y llaw arall, er cymaint ei edmygedd o'r "boy bach giem," a barhai i'w annerch yn "Moc Bach," ac o'r gonestrwydd hwnnw gwisgai yr enw, rywfodd, fwy o anwyldeb nag erioed.
Ffurfiol iawn oedd y gweithrediadau o flaen yr Ustusiaid, ddydd Llun. Wedi tystiolaeth Mr. Rhydderch a Morgan am fanylion yr helynt, taflwyd yr achos, fel y disgwyliasai pawb, i'r Brawdlys a oedd i'w gynnal yng Nghaerdydd ymhen rhyw ddeufis. Yr oedd Mr. Ffrank a Mr. Aubrey hefyd yn ystafell yr Ustusiaid; ac wedi dibennu'r gweithrediadau yno,
aeth y meistr a'i dri swyddog allan i'r heol. Yr oedd Morgan ar fedr ymadael â hwynt er mwyn cael ychydig luniaeth mewn gwesty cyffredin, ond pan ganfu Mr. Ffrank hynny ef a gydiodd yn garedig ym mraich y llanc, ac heb un gair neilltuol dygodd ef gyd â'r lleill i'r "Boot," prif westy'r dre. Yno yr oedd byrbryd wedi ei baratoi i bedwar, ac yn yr holl ymgom nid oedd yr awgrym lleiaf o du'r meistr nad oeddynt oll yn gydradd wrth y bwrdd.
****** Y Llun wedi mynd heibio, a chynnwrf mawr y Waun wedi ei dreulio ei hun allan, aeth pethau yn raddol yn ol i'r hen rigolau drachefn, lle yr oedd cynhyrchu'r dunnell haearn dda ar y gost lleiaf posibl yn bennaf peth. Daethai Mr. Crosha, yr hynaf, o Gyfarthfa dros y mynydd i'r Waun yn fynychach nag yr arferasai, ac unwaith o leiaf daeth Mr. Henry hefyd i fyny o Drefforest yno i gyfarfod âg ef. Gosododd hyn ar unwaith y tafodau ar waith, a siglwyd llawer pen gan y rhai a fynnent eu cyfrif yn ddynion craff.
"Rwy'n gweyd o hyd nad yw'r gwaith ddim yn talu," ebe un yn ddoeth iawn, ac heb wybod ei hun ei fod yn hynny rai blynyddoedd o flaen ei amser.
"Hen betha' di-alw-am-danynt Mr. Ffrank yw yr achos," ebe un arall. "Pwy sens cwnnu'r tŵr yco ar ben y mynydd i fyw yndo, a'r "Tŷ Mawr" yma'n barod iddo."
Ond pell oedd y ddau oddiwrth y gwirionedd, a phan fynnodd Mr. Henry briodi Eliza Thomas, y ferch o "ben yr iard," er gwaethaf gŵg ei dad, yna yr oedd diben yr ymweliadau yn amlwg. Ac os bu rhamant
erioed, y ffaith hon yn sicr ydoedd hi, sef i fab "Brenin yr Haearn" weld rhinweddau y Ruth wylaidd hon, a mynnu glynu wrthi er gwaethaf popeth.
Yr oedd y Waun y misoedd hynny wedi profi mwy o gynhyrfoedd nag a brofasai mewn canrif o'i bywyd arferol, ac nid cynt ag yr aethai ias y "lladrad mawr" heibio nag y bu priodas Mr. Henry yn destun siarad pellach. Ond yr oedd eto un cynnwrf yn ol, oblegid ar neshâd dyddiad y Brawdlys yng Nghaerdydd, a'r pentref yn dechrau edrych ymlaen at fanylion ei "achos" neilltuol ef ei hun yn y llys didostur hwnnw, wele'r newydd allan fel tân mewn sofl fod Connelly wedi ei grogi ei hun yn ei gell, a thrwy hynny wedi osgoi cosb cyfraith ei wlad arno.
Cythryblus iawn ydoedd Morgan pan glywodd ef y newydd; ond eto, er bod ynddo ryw resyn am yr adyn, ysgafnach oedd ei feddwl o wybod na byddai i'w air ef osod penyd alltudiaeth yn rhan iddo.
"Cyflog pechod, 'machgen i," eb ei fam wrtho y noson honno. "Ac fe wyddai ein Gwaredwr am ein natur wan ni, wel di, wrth osod yn Ei weddi, 'Nac arwain ni i brofedigaeth.' 'Falla' na chreti di mo fi, Morgan, ond yr wy' wedi cisho gweddio dros Connelly 'm hunan, er y gwyddwn yr un pryd na fyddai dy fywyd bach di ddim yn ei olwg e' pe gwelsai e' di yn y plantation y d'wrnod hwnnw."
"Creta i, mam, yn rhwydd, wa'th dyna chi yriod yn helpu'r sawl sy ar lawr."
A phan aeth Beti Jones i'w gwely y noson honno tybiai na chawsai hi well compliment erioed na bod mab ei mynwes yn tystio bod ei fam o'r un natur â'r Hwn a weddiasai dros Ei elynion.
PENNOD XXI.
YR IFANC YN DYHEU.
BLYNYDDOEDD celyd a fu ar Weithfaoedd Haearn y De yn ystod yr "Hungry Forties," ac ni phrofodd y Waun ddim yn amgen. Yr oedd "Amser Beca" wedi mynd heibio yn Nyfed, a mwy o gyrchu o'r wlad i'r "gweithie" nag a fu erioed o'r blaen, gyd â'r canlyniad fod yr enillion yn dal yn isel o'u cymharu â'r codiad ym mhris nwyddau,
Mae'n wir fod cyflog y "gweithiwr tân" bellach yn ddeunaw swllt yr wythnos, yn lle deuddeg swllt yn amser Dic Penderyn bymtheg mlynedd cyn hynny, ond yr oedd pris y blawd a bwydydd ereill hefyd ddwywaith cymaint, ac yn gorbwyso mantais yr hur uwch. Ond yr oedd yr hur uwch honno yn ddigon i atal llwyddiant y weithfa, am nad oedd pris y dunnell haearn a gynhyrchid hefyd wedi codi'n gyfatebol. Felly, yr oedd y meistr a'r gweithiwr, un fel y llall, yn gwingo, ac yn dyheu am obaith o rywle.
Am ben hyn oll, pan oedd y bobl ymron yn hollol ar lawr, wele cholera y '49 yn haint drwy'r wlad, ac yn taraw'r Waun yn drwm wrth ei fynd heibio. Yr oedd Mr. Ffrank ar fedr addef wrth ei weithwyr y byddai rhaid rhoddi fyny oni wellhâi pethau, pan dorrodd yr haint hwn allan. Yntau o'i drugaredd a ataliodd ei law, a chan osod materion llafur a chyfalaf i'r naill ochr am dymor, ef a'i taflodd ei hun i flaen yr ymladd yn erbyn ystryw y gelyn echrys hwn. Ond er gwaethaf pob ymdrech, rhyw hunllef mawr a fu'r haf hwnnw gyd â braw yn rhodio'r heolydd, a phobun yn gofyn, "Pwy fydd y nesaf?"
Gyd âg oerni'r gaeaf ciliodd yr haint yn raddol, a dechreuodd pobl unwaith eto gymryd sylw a diddordeb yn y byd mawr y tuallan. Ffaith fawr y flwyddyn honno oedd y "Darganfod Aur yng Nghaliffornia," ac o glywed y fath sôn am dano aeth amryw o wŷr ifeinc y Waun, a oedd wedi darbod digon i'r daith, allan i dreio eu ffortun yn y wlad bell.
"Be' sy inni o aros yma?" ebe hwy. "Llafur a chwsg, cwsg a llafur, nes ein heneiddio,—ac yna bedd ym Mhenderyn. Dyna i gyd!"
Yr oedd gan Mr. Ffrank lawer o gydymdeimlad â'r anian anturus.
"Hynny a wnaeth ein teulu ni," ebe fe. "Beth a fydde ni heddi', wys, heb i'm hen dadcu ddod i'r Sowth gynt? Fel y trueiniaid hyn, tebig."
A phan aeth dau glerc ifeinc o'r Offis i ffwrdd i Galiffornia, ef a roddes yn ddangoseg o'i deimlad gildwrn o aur i'r ddau lanc i'w helpu i'r daith.
Ofn mawr oedd ar Beti Jones o hyn y byddai i Forgan hefyd chwennych myned allan, oblegid gwyddai fod anturiaeth yng ngwaed ei dad o'i flaen, a dywedai ei hymwybyddiaeth wrthi fod yr un peth yn llechu yn ei mab yr un modd. Ond ar wahan â bod Morgan yn darllen y Cambrian gyd â gradd mwy o aidd nag arferol, nid oedd dim a ymddangosai iddi fel arwydd o berigl ei fynd ar hynny o bryd.
Ni wyddai hi fod yr Hereford Times a'r Gloster Journal hefyd yn dyfod i'r Offis—papurau a oedd y pryd hwnnw yn llawn o'r pethau i danio pob gwr ifanc a chwenychai demtio ffawd. "California and the West" ydoedd hi ar bob munud o egwyl; a phan alwodd Mr. Ffrank un bore ar holl wŷr yr Offis i edrych ar gynnwys amlen neilltuol a dderbyniasai ef y dydd cynt, yr oedd pob dychymig ar dân. Oblegid cynnwys yr
amlen oedd briwsion mŵn aur a ddanfonasai un o'r clercod a aeth i Galiffornia fisoedd cyn hynny, yn gofrodd i'w hen feistr.
"Dyma nhw, fechgyn!" ebe fe, "the credentials of power and influence." A phe bawn i ond dengmlwydd yn ifancach, fe dreiwn fy ffortun yno 'm hunan."
Estynnodd y meistr y creiriau gwerthfawr hyn o law i law, a phan roddes ef hwynt i Forgan, nid oedd yn ddisylw ganddo fod llaw ei was yn crynu ychydig wrth eu derbyn, a bod ei wynebpryd hefyd rywfaint yn welwach nag arfer.
Adroddodd Morgan am y darnau aur wrth ei fam y noson honno, ond nid oedd ynddi hi yr un diddordeb yn yr hanes. Siomedig oedd ef am hynny, oblegid yr oedd wedi arfaethu roddi iddi, o'u gweled, hanes a'i diddorai am wlad yr aur. A dyna hithau, a oedd wastad mor barod i wrando ystoriau ei mab, am unwaith yn ymddangos yn oer i'w ystori orau. Credodd mai anhwylus ydoedd hi, ond ychydig a wyddai ef fod Mrs. Roberts, chwaer Mr. Aubrey, wedi ei chyfarfod yn y pentre y prynhawn hwnnw, ac wedi adrodd wrthi, nid yn unig am y manion aur, ond am yr Hereford Times a'r Gloster Journal yn ogystal.
Druan a Beti! Aeth yn niwl drosti, a hi eto'n ganol dydd. Hi a'i gwelai ei hun yn weddw unig wedi ei bwrw yn ol i'r un adfyd ag a fu ei rhan pan gladdasai hi ei gwr. Ni wyddai pa fodd y gallai fyw ar wahan i'r mab a oedd gannwyll ei llygad; ond hi a deimlai, er na fynegodd air am y bwriad, bod ei fryd ef ar fyned dros y môr cyn sicred â phe bai dydd ei ymadawiad wedi gwawrio. Ac am hynny, trwm iawn oedd ei chalon, ac anniddan ei hysbryd.
PENNOD XXII.
MORGAN YN PENDERFYNU.
AETH wythnosau dros ben Morgan a'i fam ar ol y dydd y dangosodd Mr. Ffrank ei roddion aur i wŷr yr Offis, ond wythnosau tra gwahanol oeddynt i'r hen fywyd cynt. Ymddangosai Morgan fel pe wedi ymgolli yn ei lyfrau, a llawer awr y buont yn y tŷ, hirnos gaeaf—ef yn darllen, hithau yn gweu, heb i nemor o air gael ei yngan rhyngddynt.
Yna daeth hanes cynhyrfus Ballarat yn 1851 yn wybyddus i'r byd oddiallan, ac nid oedd fwy o siarad am dano yn unman nag yn Offis y Waun hyd y dydd, na mwy o fyfyrio am ei ragolygon nag wrth dân Beti Jones yn ei bwthyn hyd y nos.
"Ma' arna i ofan y colla' i bob un ohonoch, os aiff y diggings ymlân fel hyn yn hir," ebe Mr. Ffrank yn ddireidus un prynhawn yr amser hwnnw. "Gwyn fyd na ffeindien' nhw aur ar Rigos neu ym Mhatell y Bwlch. Beth wetwch chi, Mr. Morgan Jones?"
"Hyn, syr," ebe'r dyn ifanc: "Yr awn i i Ballarat bob cam 'm hunan on' bai un peth."
"Beth yw hwnnw, Morgan?"
"Y mam, syr. 'Do's ganddi neb ond y fi, ac nid wy'n mynd idd 'i gatal hi ar drugaredd y byd."
"Cweit reit, Morgan. 'Do's neb a all osod gwerth ar fam dda. Ie, cweit reit, Morgan, cweit reit," ebe fe ymhen ennyd ymhellach, cyn ei fyned i ffwrdd yn fyfyrgar.
Y pumed dydd ar ol yr ymgom uchod, a Morgan ar fyned allan o'r Offis i gyrchu ei gartref, galwyd ef i ystafell neilltuol Mr. Ffrank, ac wedi curo a chael archiad iddo ddyfod i mewn, ebe'r meistr wrtho yn llon:
"Eisteddwch funud, Morgan: ma' isha arno i wilheua â chi."
Ar y gair, troes Mr. Ffrank ei gadair ychydig, fel ag i wynebu ei was, ac ebe fe yn hawddgar:
"Rwy'n cretu fod 'want arnoch chi i fynd i Ballarat."
"O's, dicon, syr. Ond fel 'ro'wn i'n gweyd bwy ddydd, 'dwy' i ddim yn mynd."
"Rwy'n cofio'n dda beth a ddywetsoch pryd hynny, ac 'rwy'n meddwl mai gofal am 'ch mam o'dd y rhwystr."
"Ie, syr," ebe Morgan drachefn, yn floesg ei lais. "Faint yw'ch salari chi, Morgan?"
"Saith-ar-ucain-a-'wech yr wythnos, a'm glo, syr." "Oti'ch chi'n meddwl y gallai'ch mam fyw ar bymtheg swllt yr wthnos, a'i glo, nes bo'ch chi'n dod 'nol â ffortiwn i brynu'r hen waith 'ma, i fi ga'l mynd ma's wetyn?"
Gwenodd y dyn ifanc ar hyn, ac ebe fe ymhellach, yn sobr iawn:
"Gallai'n dda, syr; ond byddai'n rhaid i mi eich talu'n ol gyntaf dim."
"Hm! Independent iawn! Ond cweit reit, Morgan. Na fyddwch yn nyled neb o ddim, onite?"
"Ie, syr. Ond yr wy' yr un mor ddiolchgar â phe bawn yn cael yr arian yn rhodd."
"Dyna fe! Ni a drefnwn y fusnes yn y man hyn yn awr, ond chi ellwch ei ystyried wedi ei benderfynu, o'm rhan i. Beth ddywed eich mam, wn i?"
"Fe fydd mor falch, syr, 'ch bod chi â chymint o ffydd yndo 'i fel y bydd yn folon i bopath. Ac os ca 'i dipyn o lwc, syr, fe wna i ladi ohoni."
"Mae'n ladi ishws, Morgan, cystal â neb ar y Waun; ac 'rwy'n falch 'i bod wedi'ch dysgu chitha i fod yn independent hefyd."
"Diolch i chi, syr; ac fe ddŵa â'i hateb hi yn ol yn y bore."
"Itha da.
Gwd-neit."
"Gwd-neit, syr."
Pan hysbysodd Morgan neges Mr. Ffrank wrth ei fam ar ol ei bryd bwyd, hi a gododd gongl ei harffedog i'w llygad, ac yna, â llais crynedig, ebe hi:
"Rwy'n diolch yn fawr i Mr. Ffrank am 'i feddwl da ohono' i; ond, ar yr un pryd, gwell fydde genny' dy gatw di. 'Ro'wn i'n gwel'd hyn yn dod ers tipyn, a 'do's genny' ddim i 'neud ond gweddio drosot ti, Morgan; ac os myn Duw i hynny fod, ti ddoi'n ol yn sâff ata' i eto cyn bydda i'n rhy hen, 'falla."
"Hen, wir, mam! Pwy isha son am fynd yn hen sy arnoch chi, a finna'n mynd i ddod 'nol â llond ffetog o our i chwi, a hynny heb fod yn hir, he'd?"
Dyna a fu'r trefniant rhwng mam, mab, a meistr ar y pwnc pwysig; a phenderfynwyd y byddai i Forgan fynd i Tilbury ymhen pythefnos i chwilio am long. Dewiswyd Tilbury yn hytrach na Bryste am y byddai'n debycach o gyfle cynnar yno.
"A chyd â llaw," ebe Mr. Ffrank, "rwy'n mo'yn i chi alw gyd â Henry ac Eliza yn y Forest of Dean ar 'ch ffordd làn. Ac wedi i chi fynd yno, nid yw Gloster ddim ymhell; ac wedi mynd o Ga'rdydd gyd â'r trên, chi ellwch ddisgyn yn Lydney yn gynta', a mynd ymlân oddiyno i Gloster a Llunden wetyn, heb drafferthu'r coach mawr o gwbwl."
PENNOD XXIII.
AR Y FFORDD I LUNDAIN.
TREFNODD Morgan, yn ol cyfarwyddyd Mr. Ffrank, ac wedi cyrraedd ohono Lydney (lle yr oedd Mr. Henry Crosha a'i Eliza brydweddol bellach yn byw), torrwyd y siwrnai yno, a rhoddes y dyn ifanc sypyn neilltuol i Mr. Henry oddiwrth ei frawd ar y Waun.
Digwyddai fod meistr y tŷ yn bryderus iawn am rywbeth ynglŷn â'r gwaith pan gyrhaeddodd Morgan y lle fin nos, ac wedi datgan wrth yr ymwelydd ifanc y byddai i'w briod ofalu am dano tan y dychwelai fe aeth allan, gan adael i Mrs. Crosha wneuthur y croeso nad oedd byth yn ddiffygiol gan neb a ddygai'r enw.
"Dewch i'm hystafell fach i," ebe hi, "gwell gen' i honno na'r ystafell fawr hon. A byth oddiar y dywedodd Henry wrthyf ei fod yn eich disgwyl, 'rwy bron marw am glywed Cymraeg unwaith eto."
Yna bu hir ymgom am yr hen le, ei gymeriadau amlwg, ei gapeli, a'i ysgolion canu.
"Gadewch i fi weld," ebe Mrs. Crosha, "ro'dd 'ch mam a finna yng nghôr Soar yr un pryd, ond 'i bod hi yn henach na fi. A 'rwy'n cretu iddi hi fynd i Ramoth gyd â'ch tad pan briotws hi."
"Do; ac yn Ramoth y cwnw'd fi," ebe Morgan. "Ma' mam yn mynd yno o hyd, a 'rwy'n siwr 'i bod hi'n cretu fod Mr. Ffrank yn Gristion, pe ond am iddo roi bedyddfa newydd idd 'i chapel hi."
Chwarddodd Mrs. Crosha am hyn. Yna, gan droi yn sobr ar unwaith, dywedodd:
"Un od yw Mr. Ffrank yriôd, wyddoch. 'Dyw e' byth wrth i fodd heb ei fod yn helpu rhywun ne'i gilydd, a'r bottom dog yw hwnnw, rhan fynycha. Anghofia' i e' byth am gymryd 'y mhart i pan o'wn wel, pan o'wn i'n wahanol i'r peth 'rwy'n awr. Ac yr ydych yn mynd bob cam i Awstralia? Dyna'r lle ma' nhw'n transporto dyn'on, iefa ddim?"
"Ie; ond ma' petha'n newid yn fawr yno'r dyddiau hyn. A ma' pawb yn gweyd y bydd transportation ar ben heb fod yn hir. 'Do's dim llawer o sens i ala'r dyn'on gwaetha' i wlad sy'n gofyn y dyn'on gora', o's e' nawr?"
"Nag oes, am wn i; ac yr ydych chi yn mynd yno. fel un o'r gora' wrth gwrs."
"O na. Hold on, Mrs. Crosha! Wetas i 'mo hynny, do fe?"
"Naddo'n siwr, ond 'rwy'n gwpod fod golwg fawr gan Mr. Ffrank arnoch chi a'ch mam. Ac yr y'm i gyd yn dymuno i chi gâl y lwc ora' i neud eich ffortiwn."
"Diolch i chi, Mrs. Crosha. 'Rwy'n gobitho y bydda i'n lwcus, ta dim ond er mwyn mam, wa'th amser caled welws hi yriod hyd yn hyn."
"Rwy'n leico'ch clywed yn meddwl rhoi amser da i'ch mam; a phan âf i yn ol i'r Waun rwpryd, fe fydda i'n siwr o alw i'w gweld hi. Ma' Mr. Henry a fi yn sôn ambell waith am fynd yno am dro cyn bo hir. Ond dyma fi yn 'ch catw chi fel hyn, a chitha 'falla wedi blino'n fawr, ac am fynd i'r gwely. Yr y'ch yn mynd i Lundain 'fory, medda' Henry. Lle rhyfedd yw hwnnw, Mr. Jones. Fe fuo i yno am bythewnos yn ddiweddar. Dyna od ein bod yn gallu mynd yno mewn diwrnod gyd â'r trains newydd yma. 'Roedd yn cymryd wthnos i gered yno flynyddoedd yn ol, mae'n debig, ac yr o'dd y coach yn cymryd mwy na dou dd'wrnod. Mae'r byd yn dod yn rhyfedd iawn. Ac, O ie,—pan fyddwch yn Llundain, cofiwch fynd i'r Exhibition i Hyde Park. Ma'n syndod o's, oti wir! Ac os bydd gennych chwi amser rhwng y pigo our yn Awstralia, alwch lythyr ata' i—un Cymrâg nawr. fydda i'n falch idd 'i dderbyn e'. Ac er mwyn i chi gofio am un o'dd yn cydganu â'ch mam 'slawer dydd, cym'rwch hwn, a phidwch a'i acor nes bo chi ar y llong.'
"Diolch yn fawr, Mrs. Crosha. Fe fydda' i'n siwr o sgrifennu."
Yn gynnar bore trannoeth ymadawodd Morgan â chartref caredig Mr. Henry Crosha yn Lydney. Aeth Mr. Henry ei hun i'w hebrwng i'r orsaf, ac yn fuan yr oedd un Cymro yn ychwaneg wedi troi ei gefn ar ei wlad a'i gynefin, i frwydro â'r byd mawr hwnt i Hafren. Arhosai'r trên ymhob gorsaf y pryd hwnnw; a chan mai celyd oedd y seddau, a chlogyrnaidd y teithio, nid hir y bu Morgan heb ddechrau blino. Ar y cyntaf ef a syllodd yn fanwl ar ei gyd-deithwyr, ond ni bu un cynnig am ysgwrs o'i du ef nac o'u tu hwythau. Ac onid oedd Mr. Ffrank wedi ei gynghori i ochel y dieithryn a'i gwthiai ei hun arno? Felly ef a geisiodd ei ddiddori ei hun yn y wlad y rhedai'r trên drwyddi. Ac yn wir, wedi gadael ohono Gaerloyw ar ol, gwlad agored, eang, fras ydoedd hi. Ni thybiasai'r llanc y byddai iddo byth weld y fath gyfoeth o dir gwenith ag a welsai ef y dydd hwnnw.
Ond y mae undonedd hyd yn oed i dir agored, a boddlon oedd Morgan, yn Reading a Windsor, gyfnewid tir agored am amrywiaeth dyffryn unwaith yn rhagor. Pan gyrhaeddodd ef Slough, gwybu fod ei daith yn tynnu at ei therfyn, a bod Paddington yn agos. Rhedodd y trên tua hanner awr ymhellach cyn dechrau cyrraedd ohono dai, ond o hynny ymlaen yr oedd yr aneddau
bob ochr yn aneirif, a'r pontydd uwchben yn lluosog hefyd. Tynnodd Morgan i lawr i'r sedd y trwne dillad y meddyliai ei fam gymaint am dano, dechreuodd y peiriant arafu, amlheai'r bobl a welsid trwy'r ffenestr ddeutu'r trên, ac yn y cyfnos sangodd y Cymro am y waith gyntaf ar ddaear Llundain.
Aeth pawb allan o'r trên, ac yntau gyd â hwy, i wneuthur yr orsaf yn llawnach fyth. Yno yr oedd cyffro a gweiddi mawr gan y rhai a gludent sypynnau o'r trên i'r cerbydau gyferbyn; ond symudai'r dorf yn araf i ben pellaf y platfform, lle yr oedd hysbysfwrdd a ddywedai mewn llythrennau breision—"Way Out." Allan yr aeth Morgan, gan gludo ei drwne gorau y medrai rhwng braich ac ystlys; ac wedi cerdded yr ystryd am beth ffordd, a deall mai ei henw oedd Praed Street, ef a welodd mewn ffenestr neilltuol yr argraff "Apartments and Refreshments." A chyn pen chwarter awr, yr oedd ef wedi cytuno am lety'r nos, ynghyd â swper a brecwast.
PENNOD XXIV.
HENDY JAC GLANGORS.
WEDI taenu o'r weinyddes liain ar y bwrdd, yn barod i osod yr ymborth ger ei fron, Morgan a holodd yn gynnil am y pellter i Dilbury.
"Whoy, it's a good seven moile, I take it, sir," ebe honno. "An' you wouldn't be thinking o' gowing that woy to-night, surely! It's a rough low-down place at best."
Yntau a'i hatebodd ei fod ef eisoes wedi talu am ei lety am y noson, ond y meddyliai ei chynnig i Dilbury drannoeth.
"Much the woisest plan," ebe hithau, gan derfynu'r ddadl a'r ysgwrs ar unwaith.
Blinedig iawn oedd y Cymro ifanc yn mynd i'w wely ar ol ei ddiwrnod hir o deithio yn y trên dieithr, ond ni ddaeth cwsg ato yn ebrwydd, am fod ei feddwl yn peri rhyw anesmwythder ynddo na phrofasai ef o'r blaen.
Tybed a oedd ef yn iawn, wedi'r cwbl, i ymadael â'i fam? Yn ei ddychymig ef a'i gwelai y noson honno yn ymyl ei thân yn wylo'n dawel am ei fyned ef ymaith, ac o hynny daeth drosto y dòn gyntaf o hiraeth. Beth pe digwyddai rhywbeth i Mr. Ffrank pan fyddai ei mab ei hun ym mhen arall y byd? A beth pe byddai iddi glafychu? A beth pe hyn, a beth pe arall?
"Ni wna hyn mo'r tro o gwbl," ebe fe yn y diwedd. "Rhaid imi fentro arni bellach, wa'th amhosibl yw mynd yn ol. Pe gwnawn hynny, byddwn yn destun gwawd pawb ar Y Waun fel un a wangalonnodd. Ni
byddai i Mr. Ffrank feddwl llawer am dana' i chwaith; a mwy na'r cwbwl, mi a gasâwn 'm hunan yn fwy nag a allai yr un ohonynt hwy ei wneud. Awstralia neu ddim bellach!"
Ag ef wedi troi y pethau hyn yn ei feddwl amryw weithiau, daeth hun i'w ran o'r diwedd, ac ni wybu mwy hyd nes clywed curo ar ei ddrws, a llais gwrywaidd yn dywedyd:
"Your hot water, sir. It's half-past seven."
Wedi brecwast, dywedwyd wrtho fod van yn rhedeg o'r orsaf i Ludgate Circus deirgwaith yn y dydd, ac y byddai'r gyntaf yn cychwyn am naw. "Hynny a'm hetyb i'r dim," ebe fe; ac wedi talu am ei le, ef a chwiliodd am y cerbyd a'i dygai yn nes i ganol y ddinas fawr ac i Dilbury.
Ar gwr uchaf Praed Street trowyd i'r dde, ac wedi cyrraedd pen isaf Edgeware Road, ef a welai barc eang yn ei wynebu, ac ynghanol hwnnw adeilad enfawr o wydr yn dal pelydrau cynnar yr haul.
"Hyde Park and Crystal Palace," ebe'r gyrrwr, ac ymaith âg ef dros heol hir i'r chwith.
"Rhaid mai hon yw Oxford Street," ebe'r llanc wrtho ei hun; ac wedi mynd ychydig ymhellach ef a ganfu lawer stryd ac ysgwar a oedd yn wybyddus iddo gynt, ond yn eu henwau yn unig. Oxford Circus, Tottenham Court Road, Charing Cross Road, Trafalgar Square, y Strand, a Fleet Street, brysiasant heibio iddo oll fel rhyw gadwyn fawr yn ei dirwyn ei hun. Diddorol iawn oedd y daith, ac ni byddai gan Forgan wrthwynebiad i fynd ymhellach ar hyd-ddi. Ond, ag ef yn synnu bod cynifer papur newydd wedi crynhoi i Fleet Street, torrwyd ar ei fyfrydod gan y waedd, "Ludgate Circus"—ac yna ef a wybu ei bod ar ben.
Yr oedd ef eisoes wedi penderfynu aros ddiwrnod eto yn Llundain ei hun a mynd i waered i Dilbury drannoeth; ac wedi deall ohono bod Ludgate Circus yn gystal âg unlle fel man canolog, ef a chwiliodd yr ardal honno i letya'r noson ychwanegol. Nid hir y bu yn edrych cyn gweled ohono yr hysbysiad—"King's Head. Accommodation for Man and Beast."
"Dyma fe: cystal âg unman arall, am wn i," ebe fe, gan fynd i mewn a chytuno am yr accommodation i ddyn hyd fore trannoeth.
Gwr hawddgar a siaradus oedd gwr y gwesty, ac ef a gynghorodd y Cymro ifanc am y pethau a oedd haws eu gweld o fewn cylch un dydd.
"As long as you are here, sir," ebe hwnnw, "you mustn't fail to have a look at the Crystal Palace in Hyde Park. It's the soight of a loife-time, that's sartin!"
Wedi cinio ef a esboniodd ymhellach i'r Cymro ifanc am y modd gorau i gyrchu yno, sef i fynd yn ol o dan y Temple Bar yn Fleet Street, a dilyn ymlaen i Charing Cross. Yna yr oedd ef i ofyn am Leicester Square, Piccadilly, a Hyde Park Corner yn olynol. "And boi that toime, you'll be there! You can't miss it, for there'll be crowds gwoing that woy as well. You have ownly to arsk your woy, in ony kise."
Dyna fel y bu, a chyrhaeddodd Morgan y lle yn eithaf rhwydd, ac a dreuliodd y prynhawn gan symud o fan i fan o dan y tô gwydr, a'i fwynhau ei hun yn fawr iawn.
"Ond dyma fi yn mynd ma's o'm gwlad," ebe fe, "a'r byd i gyd yn dod i mewn iddi. 'Does dim syndod fod Mrs. Crosha yn Lydney yn siarad cymaint am y lle. Os bydd rhywbeth tebig yma wedi i fi ddod 'nol. bydd
raid i mam ga'l ei weld he'd. Fe fydd yn werth y gost i'w gweld yn synnu am y dyfeisiau hyn i gyd. Bydd, yn wir!"
Dychwelodd Morgan i'w lety min nos, ac wedi ymborth pellach a galw am wydriad o "home brewed," daeth gŵr y tŷ ato i ofyn sut yr ymdrawodd.
"I tould you so," ebe hwnnw. "Worth seeing, anyhow, wasn't it? And by-the-by," ebe fe, wedi pallu ychydig o'r testun cyntaf, "you'll be interested to know that it was a Welshman as kept this very house years agow—fifty or more. I heard tell of him from my own father, who called the old gent "Jack Clean the Horse,' or some such name, altho' his roight nime was Jownes, I believe."
"Very interesting," ebe Morgan, yn ddifeddwl ar y pryd. Ond ymhen blynyddoedd, ag ef wedi hen ddychwelyd i Gymru, darllenodd yn rhywle mai yn y King's Head y bu Jac Glangors yn byw yn Llundain, ac ef a chwarddodd yn uchel pan dorrodd y gwir oleuni arno am "Jack Clean the Horse."
PENNOD XXV.
TEMTASIWN NEWYDD.
YN gynnar bore trannoeth, gan adael ei drwnc yn y King's Head, ymlwybrodd y Cymro ifanc i Dilbury er cael llong a fyddai'n hwylio i Melbourne. Pe byddai ef byw hanner canrif yn ddiweddarach, gwnelsid yr holl drefniadau a derbynnid ei eiddo a'i daliadau, ymlaen llaw, ac ni byddai iddo ond mynd i'r bwrdd ar awr benodol. Ond yn amser "Clefyd yr Aur," gwahanol iawn ydoedd hi; ac wedi aros o long am ryw ysbaid yn y porthladd i gymryd a gaffai o deithwyr yn ychwanegol i'w llwyth nwyddau, hi a hwyliai ymaith pan welai'r capten yn orau i wneuthur hynny.
Nid oedd, ychwaith, unrhyw reol na chyfraith gaeth am drymder ac ansawdd y llwyth ei hun, ac ni ddaethai i feddwl neb erioed nad ail beth oedd cysur y teithwyr, o'i gyferbynnu â dock dues. Ac am y Plimsol line, yr oedd y wlad i aros eto chwarter canrif cyn ei dyfod i roddi gradd o ddiogelwch i'r rhai "a ddisgynnant mewn llongau i'r môr."
Cyrhaeddodd Morgan Bont Llundain yn gynnar, ac wedi syllu ar ei thrafnidiaeth am ysbaid, ef a gerddodd heibio i Billingsgate a'r Twr ar ochr chwith yr afon, a chan holi ei ffordd, ef o'r diwedd a ddaeth at y wigfa o hwylbrenni a ddywedai wrtho ei fod yn y man yr amcanai am dano. Yno ef a holodd yn fanwl am y llestri a oedd ar fedr mynd allan, ac a ddeallodd bod y Richborough i hwylio allan am Port Philip, "wind and weather permitting," gyd â llanw y bore y dydd Sadwrn canlynol.
"Dyma hi!" ebe fe, "ac mae'n edrych mor gadarn â Chraig-y-Llyn ei hunan. Gobeithio y deil hi'r tywydd gystal â'r hen Graig hefyd."
Croesodd un pang bychan o hiraeth dros ei feddwl ar hyn, ond buan y diflannodd ynghanol cymaint o'r pethau a oedd yn newydd ac yn ddeniadol iddo.
"It will cost you twenty—one pounds, steerage,' ebe'r swyddog wrtho yn offis y perchenogion. "And if you have more 'un one pack o' luggage, that will be extra."
"I have but one," ebe Morgan, "and I shall bring it with me on Saturday morning."
"Right O," ebe hwnnw, "but moind to be in toime. There's gowing to be a crush, likely as not. So now you knows!"
Wedi talu ei arian, ef a ddychwelodd i Ludgate Circus ar hyd ffordd wahanol i'r un yr aethai ef i lawr i Dilbury drosti; ac o dramwy honno ef a ganfu am y waith gyntaf yn ei oes fywyd hyll y bobl anffodus a orfodid i fyw yn y slums, heb unlle i rodio nac i chwarae ynddo ond yr heol fawr, nac unlle i gymdeithasu â'i gilydd ond y ginshop ar gongl y groesheol. Daeth rhyw dosturi drosto am y plant hanner—noeth a ofynnent ei gardod ar ei fynd heibio iddynt. Gymaint gwell a fu ei ffawd ef ei hun er y mynych dymor cyfyng a fu ym mwth ei fam gynt. Yr oedd o leiaf y Comin ac ymylon y Pownd Mawr gystal â Hyde Park ei hun o'u cymharu â'r ffosydd truain hyn. Ac er mor annarbod, lawer pryd, y pydlers a'u gwragedd yn yr hen le, pell oeddynt oddiwrth gyflwr y gwŷr wyneb—galed, a'r gwragedd wyneb—galetach, a dyrrent o gylch y tafarndai acw.
Cyflymodd ei gamau o weld bod ei bresenoldeb yn dechrau tynnu sylw brodorion yr ardal druan, ac ni anadlodd yn dawel nes cyrraedd ohono eto un o'r prif heolydd a'i harweiniodd heibio i'r Banc, Cheapside, a Sant Paul, i'w lety yn y King's Head. Gan nad oedd ef i fynd ar fwrdd y Richborough hyd fore dydd Sadwrn, yr oedd iddo eto ddiwrnod i aros yn Llundain cyn cychwyn i'w fordaith. Dechreuodd y diwrnod. hwnnw gan fyned i waered at yr afon fawr, a dilyn y glannau i fyny hyd at Westminster. Yno ef a aeth heibio i ymyl y Senedd, ac a drodd i mewn i'r Fynachlog fawr, o'r hon y dylifai ar y pryd y gerddoriaeth fwyaf ysblennydd ag a glywsai ef erioed. Wedi i'r gân ddibennu ef a drodd yn ol ac a aeth i fyny drwy Whitehall; ac wedi ei fyned i mewn o dan fwa neilltuol, canfu yno rai cannoedd o filwyr mewn cotiau cochion yn troedio yn ol a blaen ar le gwastad eang y tu ol i dai gwychion yr ystryd, ac yn eu hymarfer eu hunain mewn trin arfau. Diddorol iawn iddo ef oedd hyn oll, oblegid ni welsai ef erioed cyn hynny gynifer o sowldiwrs gyd â'i gilydd, ac yr oedd y rhain yn eithriadol o heini a chyflym wrth eu gwaith. Ni wybu ef ar y pryd pa filwyr oeddynt, namyn bod 23 yn ffigwr ar ysgwydd pob un a oedd yno. Ac, yn hynod iawn, ag ef yn troi i ffwrdd wedi darfod o'r milwyr eu gwaith, gallai ef daeru iddo glywed un milwr neilltuol yn defnyddio acen a'i hatgofiai am lafar ei hen gyfaill William Ellis gynt. Ond gan na ddywedodd y milwr air ymhellach, ef a'i gollyngodd dros gof hyd nes iddo wybod yn ddiweddarach nad oedd y 23rd Regiment ond y Royal Welsh Fusiliers y clywsai ef gymaint sôn am danynt pan oedd yn llanc.
Ond yr oedd rhywbeth arall ar y foment honno a dynasa ei sylw oddiwrth acen y milwr Cymraeg,
oblegid y pryd yr oedd ef ar fedr cyrchu Whitehall eilwaith, cyfarchwyd ef gan swyddog a ymddangosai yn ei addurniadau a'i rubanau yn gadfridog o leiaf.
"Fine soldiers, lad," ebe hwnnw.
"Yes, very smart," atebodd Morgan.
"Quite right! I am glad you have an eye for the finest quality a soldier can ever have. But don't you think you should be among them? I can assure you that they are on the look—out for some more smart lads like yourself to join them. What do you say? Care to see the world a bit? If so, come with me, and I'll soon fix you up."
"I—I have other plans of seeing the world just now," ebe Morgan.
"Oh, well, that may be. But not so cheap a way as this, not by long chalks, I bet."
Ergyd effeithiol oedd yr olaf, oblegid onid oedd y Cymro ond y diwrnod cynt wedi talu un bunt ar hugain i berchenogion y Richborough i'r un perwyl yn union? Ac ymddangosai'r arian iddo ef, y pryd hwnnw, yn aruthrol o beth i'w talu yn un swm. Ond yr oedd ef wedi eu talu, ac felly ofer oedd dadl y recruiting sergeant mwyach âg ef. Ac ebe fe, gan droi i ffwrdd oddiwrth y swyddog taer, "I am not joiningat least, not now."
Hwnnw, gan feddwl nad oedd y penderfyniad yn derfynol, a gydgerddodd âg ef am ychydig o ffordd; ond pan welodd nad oedd dim yn tycio, eb efe: "Well, I shall be round here to-morrow; and if you change your mind, let me know."
Ond erbyn trannoeth yr oedd Morgan yn troedio bwrdd y Richborough, ac yn diolch na wrandawsai ar lais y temtiwr.PENNOD XXVI.
AR Y BWRDD.
CODID yn gynnar gan bawb yn y King's Head, yn rhan o drefn y tŷ, ond nid oedd yno neb yn effro yn gynharach na Morgan y bore hwnnw. Yr oedd gŵr y tŷ wedi trefnu y noson cynt y byddai i'w letywr a'i eiddo gael eu cymryd i ymyl y porthladd mewn cerbyd a âi heibio i'r lle ar rawd foreol; ond wedi disgyn allan o hwnnw, yr oedd eto ychydig bellter i Forgan i gludo ei drwne cyn ei fyned i mewn drwy'r clwydi mawrion at y llong. Ac yr oedd ef ymron wedi cyrraedd y lle pan gyfarchwyd ef gan ŵr neilltuol o ansyber:
"Dry work, young man. Why not let me help yer?" "No, thank you," ebe'r Cymro yn foesgar, "it is hardly worth while now."
"Judging by yer sweat, I shud say it wud be worth while. Egad! you do look done up, boy. Come round the corner and hev a drink with me. I knows of a little pub where they sells "
"No, thank you," ebe Morgan eto, gan dorri ar draws hyawdledd y Sais.
"Well," ebe hwnnw yn ol, "if that's how yer replies to a kind offer, you can go to blazes, or to your mammy. Ye! Ye!"
O gyfeirio at ei fam annwyl gan yr iselddyn gwael hwn, gwridodd Morgan dros ei wyneb, a bu bron â gadael ei drwnc ar lawr er dysgu gwers effeithiol i'r Llundeiniwr anfoesgar yn y man y safai. Da iddo na chynygiodd ef hynny, fodd bynnag, oblegid, heb yn
wybod i'r Cymro, yr oedd tri chydymaith i'r dyhiryn yn llechu tu hwnt i gongl yr heol, yn gwylio'r ymddiddan ac yn barod i fwrw i mewn pe bai cyfle,ac odid na chollai Morgan ei drwnc, rhyngddynt i gyd. A gwell fyth nad aethai ef i'r "little pub" ar y gwahoddiad, oblegid mewn lleoedd o'r fath y collodd llawer mordeithiwr ei arian, a'i fywyd mewn amgylchiadau cyffelyb.
Gwir a ddywedodd y swyddog, ddeuddydd cyn hynny, y byddai "crush, likely as not," ar fwrdd y Richborough, oblegid pan ddisgynnodd Morgan i'w gaban, gan ddwyn ei drwnc gyd âg ef, gormod o deithwyr oedd yn y lle cyfyng eisoes i fod yn gysurus. Mewn gair, ymha le bynnag y gellid gwthio lle bunk, yno yr oedd un. Am gyflenwad o awyr ffres a chysuron ereill, nid oeddynt yn y cyfrif o gwbl. Ond, er gwell, er gwaeth, rhaid oedd i'r sawl a drefnwyd i gaban neilltuol barhau i berthyn i'r caban hwnnw am y chwe mis a oedd i ddilyn, o ba gymeriad bynnag y digwyddasai'r person hwnnw fod.
Tybiai Morgan ar y cyntaf mai hytrach yn ffodus yr oedd ef yng nghwmni ei gaban, oblegid wedi cyflwyno o bobun ei hun i'r lleill, dechreuwyd ymgomio'n hawddgar, ac nid oedd arwydd un cwmwl bynnag yn nen fechan Caban Rhif 31 y bore cyntaf hwnnw. Pan ddechreuodd y llong symud rhedodd y teithwyr i gyd i'r bwrdd fel ag i ateb chwifiadau y bobl ar y lan, ac i dreulio cynifer o'r oriau olaf ag oedd bosibl yng ngolwg yr hen wlad. Awr lawn iawn yw "awr gadael y tir," fel y gŵyr pawb ag a'i profasai. Dyna'r pryd y bydd y teimladau'n gorlifo, ac y bydd i'r gân a'r ochenaid, y ddolef a'r gair ffraeth, oll gymysgu â'i gilydd i wneuthur un argraff ddofn na ddiler byth mohoni.
Dyna brofiad Morgan hefyd; ac er nad oedd ar y bwrdd neb y gallai ef adrodd ei deimlad wrtho, na neb ychwaith ar y lan i chwifio cadach iddo, eto cyfranogi yn helaeth yr oedd ef o deimlad y foment, ac nid yn angof ganddo byth wedyn unrhyw beth a berthynai i hanes y diwrnod 'mado rhyfedd hwnnw.
Bu praw ar hyn cyn pen deunaw mis, oblegid ag ef yn Ballarat, pan aeth y newydd dros y byd am suddiad y Birkenhead ac am ddewrder y milwyr a oedd ar ei bwrdd yn yr awr gyfyng, cofiai Morgan fod y llestr enwog hwnnw yn dyfod i fyny i'r afon pan aethai'r Richborough gyd â'r llanw i lawr. Ac nid yn unig hynny, ond ef a roddes ddisgrifiad da o honi wrth ei gydweithwyr yn y mwnglawdd, a'r moesgarwch llyngesawl a fu rhwng y ddwy long ar eu myned heibio i'w gilydd.
Ond yr awron dechrau'r daith yr oedd y Cymro ifanc, gyd â'r byd mawr yn agored o'i flaen. Hoffai ef yn fawr gerdded y bwrdd y dyddiau cyntaf, oblegid hyd yn hyn yr oedd tir Lloegr ar un tu, neu dir Ffrainc ar y tu arall, o hyd yn y golwg.
"Ymha le, wn i," ebe fe, "y croesodd Iwl Cesar i Brydain cyn Crist, a Gwilym Orchfygwr yntau ymhen un canrif ar ddeg ar ei ol?" Yna ef a geisiodd ddychmygu Armada'r Ysbaenwyr yn dyfod i fyny i'r Sianel yn amser Bess, ac am yr Arglwydd Nelson yn ei rwysg yn myned allan i ffuredu'r gelynion yn amser "Boni."
Pan ballodd swyn ei ddyfalu ym myd hanes, ef a geisiodd ei ddiddori ei hun yn ei gyd—deithwyr. Ac am beth amser daliodd y diddordeb ynddynt, oblegid nid oedd newydd-deb yr wynebau eto wedi pylu, na gwendidau'r dorf gymysg wedi dyfod i'r amlwg.
Ar fyned o'r llong o'r Sianel a bwrw ar draws y Bay of Biscay, bu yn adeg ystormus ryfeddol, ac am rai dyddiau o'r braidd y mentrai neb o'r teithwyr allan o'u cabanau. Dyna'r pryd hefyd y bu hi fwyaf ystormus o fewn y cabanau eu hunain, oblegid a'r teithwyr wedi eu caethiwo i'r ystafell gyfyng, a'r mwyafrif ohonynt yn sâl gan glefyd y môr, yna daeth nodweddion gwaethaf pobun i'r golwg. Yn wir, mor ddrwg ydoedd hi mewn rhai cabanau fel y bu raid i'r capten gyfryngu â llaw gadarn, a gosod mewn heiyrn ddau wr, câs eu hanian, a oedd yn berigl i'w cyddeithwyr ac i'r llong ei hun.
Nid drwg iawn oedd hi yng Nghaban Rhif 31, oblegid gan gydymddwyn â'i gilydd, a gwneuthur y gorau o'r gwaethaf, daeth y cwmni bychan allan o'r dyddiau drwg gyd â llawer o barch ac edmygedd am oddefgarwch y naill y llall.
PENNOD XXVII.
MORIO I'R DE.
ERBYN dyfod o'r Richborough gyferbyn â thraeth yr Ysbaen yr oedd yn hinon, a phawb o ganlyniad mewn hwyl dda, ac yn siaradus ryfeddol. Amlwg bod rhai yn gynefin â theithio, neu o leiaf hwy a fynnent i bobl gredu hynny. Ereill oedd â'u diddordeb yng nghyflwr eu gwlad eu hunain, ac yn methu â gweld beth a ddeuai ohoni oni newidid llawer ar y dull presennol o fyw. Ond yr oedd un pwnc a oedd o ddiddordeb i bawb, sef oedd hynny, y wlad yr oeddynt oll yn cyrchu tuag ati ar y pryd, ynghyd â'r hanes synfawr am ei chyfoeth diderfyn. Am aur, a'r moddion gorau i'w gloddio, yr oedd ysgwrs ddyddiol pob cwmni bychan yng nghysgod y cychod neu ym môn yr hwylbrenni, ac yn y rhain yr oedd un gwr yn neilltuol a oedd yn hyawdl iawn. Rhoddid mwy o glust iddo ef ar y dechrau nag odid neb, am fyned o'r si drwy'r llong mai gwr o Galiffornia oedd ef, ac un a fuasai'n llafurio yn y mwnfeydd yno. Ond o dipyn i beth, dechreuodd rhai a oedd yn brofiadol mewn cloddio meteloedd gartre, amau ei hawl i siarad am lafur mwnawl o gwbl; ac yn y diwedd gwelwyd ei fod ef yn fwy cyfarwydd âg ysgwyd cardiau na thrin offer, ac am hynny prinach oedd ei gwmni nag y bu.
Nid oedd y Richborough i alw yn unman ar y ffordd cyn cyrraedd Cape Town; ac er nad oedd hi nepell o dir wrth fyned heibio i Benrhyn St. Vincent a Thangiers, ni welwyd yr un ohonynt gan y teithwyr. Ymhen rhai dyddiau, fodd bynnag, gwelsant un o olygfeydd prydferthaf y daith, oblegid a hwy wedi nesu at Ynysoedd Canari fin nos, tywynnodd yr haul fore trannoeth ar gribau uchaf Teneriffe pan oeddynt hwy megis o dan ei gysgod. Bu hyn yn destun siarad diwrnod cyfan i'r teithwyr, a llawer a fu'r sôn am leoedd eraill a oedd yn enwog am eu tlysni.
O hynny ymlaen at Cape Town rhedodd y llong i mewn i ystorom erch a'i chwythodd rai cannoedd o filltiroedd allan o'i chwrs; ac nid cynt y daeth hi yn ol i bwynt priodol ei thaith drachefn, nag y daliwyd hi eilwaith gan wynt nerthol a wnaeth ddifrod nid bychan ar ei hwyliau. Ond, yn sydyn, peidiodd yr ail dymestl, ac erbyn hwylio o'r llestr i mewn i Cape Town yr oedd y swyddogion a'r dwylo wedi llwyddo i atgyweirio llawer o olion y ddrycin.
Gan fod brys ar y capten i fynd yn ei flaen, ni arhoswyd yn y dref honno ond i ail—gyflenwi'r llestr â dwfr ffres, ac ni buwyd yn hir cyn i Fynydd y Corun Gwastad (Table Mountain) a oedd uwchben y lle, suddo o dan y gorwel y tu ol iddynt.
Nid oedd Morgan wedi teithio'r holl bellter hyn heb sylwi ar lawer gwrthrych a gymhellai'r diddordeb mwyaf ynddo. Nid yn unig yr oedd sêr newydd y nen yn fwy tanbaid, ond yr oedd cysawd y Southern Cross wedi dal ei edmygedd yn llwyr. Ef a welsai hefyd yr albatross lydan-aden yn rhodio'r awel fel brenin yr eangderau, a'r morgwn enbyd yn dilyn y llong am filltiroedd er porthi eu gwane hyll. Ond o holl ryfeddodau Natur, yr un a gymerth ei fryd fwyaf oedd y goleuni dieithr ag oedd yn y môr ei hun ar ambell nos. Eglurwyd iddo mai pryfetach mân yn y dwfr oedd y rhai a gynhyrchai yr ysblander hwn; ond nid oedd na thòn na chrych ar nosweithiau neilltuol nad oedd ond megis cadwyn o dlysau yn crydio ynghyd. Torrai'r llong lwybr iddi'i hun drwy faes enfawr o'r blodau prydferthaf, ac o'r tu ol iddi yr oedd cŵys agored yn dangos yr un ceinion am bellter mawr.
Wedi colli golwg ar y tir unwaith eto, aeth bywyd dyddiol ar y llong yn ol i'r un rhigol ag a ydoedd cyn cyrraedd Cape Town, ond bod mwy o edrych ymlaen at y glanio po amlaf y milltiroedd a adewsid ar ol.
Ymhen tair wythnos o dramwy Môr y De, ac a'r llong wedi dal awelon mwyaf ffafriol y parthau hynny, dyna'r pryd y cymerwyd Morgan yn glaf ac y caethiwodd y meddyg ef am rai dyddiau i'w gaban. Bu iddo feddwl anesmwyth iawn am hyn, oblegid ni wyddai ef yn iawn ansawdd ei ddolur, a mynych iawn ehedai ei feddwl yn ol i'r Waun at yr annwyl un yno.
Ag ef yn dechrau gwella drachefn, treuliodd lawer o'i amser yn darllen ar y bwrdd; a chan fod yr hin yn hynod fwyn, gwnelsai nifer o'r teithwyr ereill yr un modd. O hyn bu cyfnewid llyfrau rhyngddynt, a buan y daeth yno gymdeithas fechan a gyfarfu bob dydd heb un penodiad pendant o gylch yr hwylbren blaen. Bu yno hefyd gryn ddadlau cyfeillgar ar wahanol bethau, a wnaeth i'r amser basio'n bleserus iawn.
Ar un o'r boreau hyn, ag amryw o'r cwmni eisoes wedi cwrdd, gwaeddwyd o rywle fod morfil yn y golwg "on the starboard bow." Caewyd pob llyfr, ac ymaith â phawb i gyrchu'r lle mwyaf manteisiol i'w weled. Bernid, gan fod y llong yn hwylio i'w gyfeiriad, y byddai iddo heb fod yn hir naill ai suddo o'r golwg neu nofio i rywle arall o ffordd y llestr. Ond ni wnaeth ef yr un o'r ddau, oblegid er syndod i bawb ef a lamodd allan o'r dwfr dair neu bedair gwaith yn olynol heb sylwi ar na llong nac arall.
"Don't you see that he is fighting for his life?" ebe un o'r morwyr. "The swordfish have got him right enough this time!"
A phan neidiodd y morfil unwaith yn rhagor, a'r llong yn cyflym nesu ato, gwelwyd yn glir ddau lafn hir o asgwrn gwyn yn bwrw i fyny o dan ei dor gan ei rwygo'n erchyll. Daliodd y llong ymlaen ar ei chwrs heibio i le'r gyflafan, lle yr oedd i'w gweld defyll o waed ar wyneb y dyfroedd. A phan aethai hi yn llwyr allan o gylch yr ymdrech gwelsid y creadur anffodus yn parhau i lamu, er yn wannach ac yn anamlach, hyd y diwedd—ac nid oedd ond un diwedd i'r fath frwydr unochrog.
Nid oedd lawer o chwant mynd yn ol at y darllen ar neb y diwrnod hwnnw, a threuliwyd y dydd yn adrodd am drychinebau coedwigoedd a moroedd, ac yn enwedig am y modd y cais pob creadur ei amddiffyn ei hun rhag ei elynion.
PENNOD XXVIII.
GLANIO.
"LAND AHEAD!" Dyna oedd y waedd a dreiddiodd i lawr i'r cabanau yn gynnar un bore ymhen tridiau ar ol gornest waedlyd y morfil a'i ddau elyn barus. Ar y gair gadawyd y borefwyd ar y byrddau, a rhuthrwyd i fyny i'r dec, fel pe bae mesur llwyddiant pawb yng ngwlad yr aur yn dibynnu ar eu brys i gael y cipolwg gyntaf arni. Ond yr oedd y bobl hyn wedi eu caethiwo am chwe mis ymron i gylch cyfyng y llong, heb gymaint a gweld daear Duw ond am ychydig yn Teneriffe a Cape Town yn y cyfnod hwnnw. Ac yn awr wele holl obeithion cudd eu calonnau yn gorlifo i'r amlwg, a hwythau, gan anghofio popeth a oedd yn destun achwyn y foment cynt, yn llawn nwyfiant am fod rhywbeth o dan y cwmwl draw yn fwy sylweddol na'r cwmwl ei hun.
Ond Awstralia oedd y rhywbeth hwnnw—y tir ag y siaradai'r holl fyd mwnaidd am dano y dyddiau hynny, a'r tir yr oeddent hwythau wedi gadael cysuron cartref yng ngwlad eu genedigaeth er ei gyrchu, a threio eu siawns am y cyfoeth a estynnai ffawd i bob ffefryn o'i heiddo.
Ymhen wyth awr a deugain yr oeddynt yng ngenau Port Philip, ac yn dechrau nofio ei ddyfroedd llydan. Pe morwyr neu lyngeswyr hwynthwy, byddai ganddynt air o edmygedd am un o borthladdoedd naturiol enwocaf y byd. Ond nid oedd dim perthynol i'r môr o un diddordeb iddynt mwyach. Y tir a'r mwnglawdd aur oedd popeth.
Y diwrnod cyn y glanio ysgrifennodd Morgan lythyr i'w fam, ac un arall i Mr. Ffrank, yn barod i'w danfon i ffwrdd cyn gynted ag y byddai cyfleustra, fel ag y gwnaethai ef o'r blaen pan oedd ar fin galw yn Cape Town. Ni soniodd ef am ei afiechyd yn yr un ohonynt, ond i'r gwrthwyneb—ef a anadlai obaith uchel a phenderfyniad ymhob brawddeg. Adroddodd hefyd yn fanwl i Mr. Ffrank rai o'r pethau mwyaf diddorol a welsai ar y daith, ac yn enwedig y fwrydr a fu rhwng milod mawr y cefnfor a'i gilydd.
Wedi cyfranogi o'r borefwyd olaf, dymuno'n dda i'r ddau neu dri y bu ef yn fwyaf cyfeillgar â hwynt ar y daith, a chydymffurfio â'r ychydig reolau a osodid ar bob dieithryn, gafaelodd Morgan yn ei drwnc, a chan ei gludo i waered dros bont fechan y glanio, yr oedd ei fordaith hir ar ben, ac yntau yn dechrau meddwl am ei gamau cyntaf yng nghyfandir yr aur.
Bu iddo ar unwaith ddigon o gynygion am lety a chludiad ei eiddo: ond o ofyn y telerau a'r tâl, dysgwyd iddo yn gyntaf dim nad yr un oedd safonau byw wrth longborth Melbourne ag a oeddynt ar y Waun, na Llundain chwaith. Felly, gan gymryd ei drwnc i fyny o dan ei gesail ei hun, ef a ddechreuodd ei ffordd i fyny i'r dref, gan sylwi yn fanwl ar bob annedd a addawai iddo glydwch a chysur o fewn gallu cymedrol ei bwrs. Rhy goeg—addurnol oedd ambell dŷ, ac arall yn rhy fudr yr olwg; a gwaeth na'r cwbl, nid oedd sôn am gost y llety ar yr un cerdyn a gyhoeddai o'r ffenestr fod yno le i bobl o'i gyflwr ef. O holi mewn ychydig o'r tai mwyaf addawol, gwangalonnodd y llanc yn fawr, oblegid nid oedd ef am wario llawer o'i arian megis ar drothwy'r wlad, nac ychwaith am letya mewn ardal o gymeriad isel. Felly, o gerdded a holi llawer, ac o deimlo ei drwnc yn trymhau beunydd, profiad chwerw iawn oedd ei ran am rai oriau y bore cyntaf hwnnw.
Ond ag ef wedi cyrraedd pen ystryd neilltuol, ac wedi gosod ei drwnc i lawr ac eistedd arno am funud o orffwys, daeth allan o'r tŷ gyferbyn wraig oedrannus, gan ddal sylw craff arno.
"You look downhearted, my son," ebe hi. "What ails ye?"
Ar y gair ef a drodd ati, a chan ddiosg ei het, ef a fynegodd iddi mewn ychydig eiriau ei drafferth ynglyn â'i lety.
"Let me see," ebe hi yn dyner. "Could ye afford so much a day?" gan nodi oddeutu hanner yr hyn a ofynnid mewn tai a oedd futrach na'i heiddo hi. "D'ye see, I don't take people in as a rule, but if ye could fend with us in the kitchen, you are right welcome."
Derbyniodd Morgan y cynnig yn ddiolchgar, ac ebe hithau ar hynny:
"Walk right in, and I'll find you something to bite, I dare say."
Clywsai y Cymro lawer yn ei ddydd am y Samaritan trugarog gan ei fam gynt, ond nid oedd neb i'w feddwl ef wedi llanw y cymeriad gystal â'r wraig rinweddol hon, a oedd y foment honno yn taenu lliain gwyn ar y bwrdd mewn paratoad i osod ymborth ger ei fron ef.
"D'ye see," ebe hi, "you are summat like my son Peter who went away up Queensland way and never came back. But I've not lost faith that the good God will in His own time return him to me. Bring yer chair on."
Yn ystod y pryd bwyd ef a hysbysodd Mrs. Mackenzie—oblegid dyna enw y wraig a gymerth drugaredd arno—mai unig fab ei fam oedd yntau, a'i fod wedi dyfod i Awstralia i dreio ei lwc.
"I thought as much," ebe hithau, "but after you have won out, be careful of the stuff, will ye, and don't squander it about town like most of them do. 'Twas only last night that there was a great to—do up on Government Square, and all just because the gold dust had begun melting in their pouches—nothing else. So your stay will be a short one this time, I take it," ebe hi ymhellach.
"Probably," ebe yntau; ac yna ef a ddywedodd wrthi am ei fwriad i brynu'r offer priodol yn gyntaf, a myned i Ballarat ar ei union wedyn.
Yna, wedi gosod ei drwnc a pheth o'i gynnwys dan ofal Mrs. Mackenzie, ef a aeth allan y prynhawn er cerdded y ddinas ac i weld yr hyn a welai.
Unpeth a oedd yn amlwg iawn ym Melbourne y dyddiau hynny oedd y sylw a roddid i'r cloddiwr aur, ynghyd â'r mesurau a gymerid i ennill ei ffafr ymhob modd. Nid oedd na salŵn na siop o un math nad apeliai ato, naill ai yn ei enw neu ei nwyddau. "The "Gold Digger's Rest," "The Nugget," a "The Bearing Reef" oedd rai o'r tafarndai amlycaf; a "The Golden Stores" a'r "Digger's Outfit" oedd y masnachdai a geisiai ddenu cwsmer cefnog y mwngloddiau i mewn. Yr oedd hyd yn oed yr ariandai yn cystadlu â'i gilydd am ei ffafr, ac yn cyhoeddi eu parodrwydd ar delerau teg i gymryd gofal o'r metel gwerthfawr a gloddiasai ef, ac i'w elwa drwy eu cysylltiadau eang er ei fantais.
Sylwodd Morgan ar yr holl gynygion hyn, ac ebe ef wrtho'i hun: "Dim ond cael yr aur y sy angen bellach. Rhaid imi brynu'r offer yfory, ac yna fe fwriaf ati yn ddiymdroi."
PENNOD XXIX.
AR HEOL BALLARAT.
YN gynnar drannoeth aeth Morgan allan i brynu yr offer y tybiai ef oedd hawddaf eu cario, ac ar yr un pryd a oedd y gorau i ddibenion pen ei daith. A chan fod yr hin yn dal yn fwyn, ac y gwyddai y byddai rhaid bwrw'r nos yn rhywle ar y ffordd pa mor gynnar bynnag y cychwynnai, ef a benderfynodd fyned ar unwaith.
Aeth yn ol i'w lety, a chan dalu i Mrs. Mackenzie ei gofyn, a diolch iddi unwaith eto am ei ymgeleddu, ef a gododd ei lwyth ar ei ysgwydd ac a ddechreuodd droedio'r heol i Ballarat.
Yr oedd ar honno lawer o fynd a dyfod gyd â phob math ar gerbyd yn ei thramwy. Gwnaethai popeth a symudai ar olwyn y tro yn y ffrwst mawr tua bro'r aur: ac er y gobeithiai Morgan ar gychwyn ohono'r daith y caffai ef ond odid lifft ar y ffordd, buan y teimlai mai ofer y disgwyliad am fod i bob cerbyd lawn llwyth naill ai o deithwyr neu o nwyddau eisoes. Deubeth yn neilltuol a'i trawodd ef ar yr heol y diwrnod hwnnw, sef rhaib pawb am arian, a brys anatal pawb er ei gyrraedd.
Ond er mai myned allan a'u hwynebau i gyfeiriad Ballarat yr oedd y mwyafrif o'r fforddolion a welsai, cyfarfu ef hefyd âg amryw yn dyfod oddiyno, ac yr oedd y rhain gan mwyaf yn fwy siaradus na'r lleill. Un fintai yn unig o'r dyfodiaid a aethai heibio iddo heb yngan gair, ac yn ddiweddarach ef a ddeallodd y rheswm am fudandod y cwmni hwnnw hefyd, oblegid ffodusion y "Last Hope Nugget" oeddynt hwy, ac ar y pryd yn cludo'r telpyn aur enwog hwnnw i Melbourne er diogelwch yr oeddynt.
Hawdd ydoedd deall llwyddiant neu aflwyddiant llawer o'r teithwyr oddiwrth gyflwr eu dillad, oblegid anodd iawn i'r neb a gloddiasai'r mŵn am dymor hir heb lwc ydoedd talu prisoedd uchel y dilledwyr teithiol am ddillad o gwbl. Adroddai ambell un o'r cyfryw brofiad lled ddigalon wrth y Cymro, ac oni bai ei fod wedi penderfynu ers tro y mynnai ef weld y pendraw, "watch aur neu glun bren," digon a fyddai yr ystoriau trist i dorri ei galon.
Am y rhai a enillasai wenau ffawd yr wythnosau cynt, hawdd oedd gweld y ffaith yn eu holl agwedd hwythau, oblegid llon oedd y gair a heini'r cerddediad. Ac o ddigwyddai i'r cyfarfyddiad fod yn agos i dafarndy, rhaid oedd i Forgan hefyd fynd i mewn gyd â'r gŵr oedd â'r stuff, ac yfed "Iechyd Da" i bawb yn gyffredin. Sylwai'r Cymro fod yn y saloons hyn, y tybid eu bod beunydd yn gorlifo o ddymuniadau da, gymaint trachwant a phrisoedd uchel ag yn unman; ac ef a wnaeth adduned âg ef ei hun, pa ffawd bynnag a fyddai ei ran, i beidio â gwastraffu ei dda yn null afradlon y lleoedd yfed.
Ef a sylwai hefyd fod bron pobun a gyfarfuai yn arfog; ac er mai digon cyfreithlon hynny yr amser hwnnw, eto i gyd rhoes yr olwg ar yr arfau niferus syniad lled anesmwyth iddo am gyflwr ansefydlog yr ardal. A chyn myned o'r dydd hwnnw heibio, daeth i'w brofiad ef ei hun weled a theimlo pa mor ddibwys yng ngolwg llawer oedd anghysur a hyd yn oed fywyd rhywun arall.
Oblegid ag ef wedi troedio'r ffordd arw am chwe neu saith awr, ac yn dechrau edrych o'i gylch am le cyfaddas i fwrw'r nos, ef a glybu o bell swn rhialtwch mawr a chrechwen uchel yn ol ar yr heol a droediasai ef ei hun ychydig cyn hynny. O edrych yn ol, gwelai yn carlamu tuag ato ddau farch yn tynnu gwagen fawr a oedd yn llawn o fwnwyr ar eu ffordd yn ol i'r diggings, ar ol cael amser wrth eu bodd yn y porthladd. Amlwg eu bod oll yn hanner meddw, oblegid er eu myned heibio iddo chwifiai dau neu dri ohonynt boteli gwirod gan ffugio eu cynnig i'r teithiwr ifanc a oedd mor ffôl a bod yn sobr ar heol Ballarat y dydd hwnnw.
Dal i weiddi ac ymaflyd yn ei gilydd a wnaethai'r giwed tra parhasant yn y golwg, a'r drem ddiweddaf a gawsai Morgan arnynt ydoedd eu gweld yn sefyll i fyny ynghyd yn y cerbyd i ryw ddiben na wyddai ef mo'r achos.
Yntau a ddaliodd i gerdded yn y blaen ar eu holau, a phan gyrhaeddodd ef y man yr aethant hwy allan o'i olwg, ef a ganfu ar ganol yr heol rywbeth ar lun dyn yn gorwedd fel pe wedi ei anafu'n dost. Brysiodd y Cymro ato, ac wedi cludo ohono'r truan hyd ochr yr heol, fel ag i fod allan o berigl y gyrru enbyd ar y briffordd, ef a ganfu fod y truan yn anymwybodol ac yn gwaedu o'i ffroenau a'i glustiau. Wedi sychu'r gwaed â'i gadach daliodd Morgan y llestr bychan o'r ddiod cartre a roddasai Mrs. Mackenzie iddo wrth fin yr anafus, ac a barodd iddo lyncu dracht neu ddau ohono.
Ond er rhoddi iddo ychwaneg ymhen ychydig amser, parhau yn anghofus o bopeth oedd y dyn; a chan ei bod bellach yn dechrau tywyllu, pryderus iawn oedd y gwr ifanc am yr helynt. Ef a farnai mai un o gwmni meddw'r cerbyd, ac a gwympasai allan ohono, oedd y clwyfedig, ac y byddai i'w gyd—feddwon ddychwelyd i edrych am dano yn union. Ond ni ddaeth neb, ac erbyn hyn yr oedd ymron nos, ac yntau mewn penbleth pa beth i'w wneuthur.
Ond ni allai ef feddwl am adael y truan yno, i fyw neu i farw wrtho'i hun, ac felly, o gofio iddo basio annedd ychydig ffordd yn ol ar yr heol, ef a aeth i chwilio am dano. Pan neshâodd ef at y tŷ, dechreuodd ci a oedd y tu arall i'r drws chwyrnu yn fygythiol, ac o guro ar y drws, troes y chwyrnu yn gyfarth ffyrnig. Ond ef a ddaliodd i guro, ac wedi ysbaid ef a glybu lais menywaidd yn dywedyd, "Lie down, Juno," ac yn gofyn "Who's there?"
Yntau a eglurodd fod dyn dieithr wedi ei anafu yn dost ar yr heol yn uwch i fyny, ac a ddeisyfodd gael ei ddwyn i mewn.
"I've heard that tale before," ebe hithau. "Nothing doing."
Yna, fel pe o ail feddwl, ac yn llai angharedig, ebe hi drachefn:
"If he is really hurt, take him to the shanty by the paddock gate, and place him on the straw until daylight. That is all I can help you. Good boy, Juno."
Troes y Cymro yn ol i'r heol yn drist iawn ei feddwl, ac wedi ei ddyfod o hyd i'r shanty ef a gariodd y dieithryn meddw i'r lle gerfydd ei freichiau, ac a'i gosododd i orwedd ar y gwellt y soniasai'r ddynes am dano. Ac yno, heb ddim yn torri ar y distawrwydd mud ond rhwncian oerllyd y mwngloddiwr briw, y treuliodd Morgan y noson fyth—gofiadwy honno ar heol Ballarat; ac ni bu neb erioed a weddiodd am doriad gwawr yn fwy nag ef, a geisiodd wneuthur rhan Samaritan i'r truan yn ei ymyl a syrthiasai o ganol ei feddwdod ymron i safn Angau ei hun.
PENNOD XXX.
"GREG."
RHYWBRYD wedi dechreu o'r goleuni dreiddio i mewn drwy ddellt y shanty, a darfod i'r Cymro ei hun hepian wedi ei wyliadwriaeth hir, ef a ddihunwyd gan lais yn ei ymyl yn arllwys dylif o gabledd, gan ofyn yn enw pawb o'r pwll diwaelod beth oedd ystyr hyn oll,
"I found you unconscious on the road last night, and brought you in here for safety. That's about it," ebe Morgan.
"Shorry," ebe'r llall. "I 'pologise. Jolly decent of you. Where be you sailing for?"
Yna esboniodd Morgan wrtho mai ar ei ffordd i Ballarat yr oedd ef ei hun ar y pryd, a'i fod yn gobeithio bod yn un o'r rhai ffodus yno.
"Where have you pegged?" ebe'r llall.
"Nowhere," ebe Morgan drachefn. "I'm going there just as I am, and trusting entirely to Providence." "Providence, be jiggered! You must come 'long o' me," oedd yr ateb annisgwyliadwy. "My stake is too much for one, and I want a butty pritty bad t' help me look arter it proper. And as ye've looked arter me t'night, you must be the very kind of kid I'm on the look-out for. Swop hands, and the deed is done, else my name ain't Greg."
Nid oedd gan y Cymro lawer o ddewis yn y peth: ond gan y byddai i'r cynnig hwn roddi iddo agoriad yn ei fyd newydd, ef a'i cymerodd, a chan dynnu allan ei sypyn bwyd o'i logell, rhannodd ef â'i gydymaith, yr hwn a'i bwytaodd yn llyminog.
"Any sap?" ebe hwnnw ymhellach.
"Not much," ebe yntau, gan estyn iddo'r gostrel fechan a roisai Mrs. Mackenzie iddo, "but you're welcome to it.'
Ef a allai ddywedyd hefyd, "You have already had most of it," ond ni wnaeth.
"Funny juice that!" oedd y feirniadaeth ar yr yfed. "I've never tasted that afore. You didn't get that at 'The Nugget' down town, I'll be sworn."
Chwarddodd Morgan ar hyn, ac i droi cwrs y siarad, ef a awgrymodd y byddai ef yn barod i'r daith cyn gynted ag y byddai'r butty newydd yn barod.
Pan gododd hwnnw ar ei draed, ef a gododd ei ddwy law i wasgu ei ben, ac ebe fe: "By Jupiter! I must ha' been far drunk last night, chum."
"You were quite helpless anyhow," ebe Morgan. "But you'll be alright in the fresh air again. Suppose we start?"
A chychwyn a wnaethpwyd—ac fel y proffwydodd y Cymro, teimlai'r mwnwr yn llawer gwell wedi cerdded rhyw gymaint yn yr awyr ffres. Ond rhaid oedd galw mewn tri salŵn o leiaf, ar gyrrau Ballarat—er mwyn bara—a—chaws, yn ol Greg ei hun, ond er mwyn y juice yn bennaf, yn ol barn y Cymro.
Ni ymddangosai'r mwnwr ei fod yn brin mewn arian, neu o leiaf, yn y peth a oedd gyfartal i arian yn Ballarat, sef oedd hynny llwch aur. A phan dalai ef am unrhyw beth, hwnnw oedd y cyfrwng; ac ef a godai ddigon ohono o waelod ei gôd helaeth i ateb pob gofyn, er bod y gofyn hwnnw yn dra uchel am bob nwydd.
"Stock's running low," ebe Greg wrth dalu am y tro olaf cyn mynd i ben y daith. "But never mind, lad," ebe fe gan wincio'n awgrymiadol ar Forgan, "th' Old Pit 'll stand it. Yes, by gum! We'll go it t'morrow, butty, at full blast, won't we just!"
Ar ddyfod o'r ddau deithiwr i ymyl yr "Old Pit" y soniasai Greg am dano fel eu lle gwaith, sylwai Morgan fod yn ymyl y fan dri dyn a ymddangosai iddo ef fel rhai yn llercian, ac yn cymryd diddordeb neilltuol ynddo ef ei hunan.
"Welcome to Dublin Castle!" ebe Greg ar eu mynediad i'r sied goed a haearn a oedd wrth y gwaith. "Your Excellency is welcome."
Gwenodd Morgan o gymharu'r iaith flodeuog â chyflwr y "castell" ei hun. Ond nid oedd ynddo un siom, oblegid gwyddai yn dda, o'i ddarllen, am y modd y byddai'r mwnwyr yn byw yn y cyffredin, ac yr oedd wedi deall ansawdd Greg hefyd yn ddigon llwyr i beidio â disgwyl rhywbeth amgenach oddiwrtho ef.
"Now, you light up the stove," ebe Greg wrtho, "while I run round to see Mother Mulligan, and we'll have a meal in a jiffy."
Cynheuodd Morgan y tân, ac yr oedd yn ddiwyd wrthi'n tacluso tipyn ar y lle pan ddaeth Greg yn ol â chôl o ymborth yn ei freichiau.
"She's the divil's own dochter for driving a bargain," ebe fe o groesi'r trothwy, "but she's going to keep us in tuck for three days, provided we work three days on end. And she's heard already of my last randy, the vixen!"
Ymhen ychydig yr oedd y golwythion yn dechrau canu yn y badell ffrio, a'r tegell yn eu hateb o'r ochr arall i'r tân; ac uwchben y pryd bwyd a ddilynodd, esboniodd Greg i'w gyfaill am olud yr "Old Pit," ac am y cynygion da a gawsai am ei werthu. "But why should I sell an old friend?" ebe fe. "It's the best thing that ever I came across. You see for yoursel' the morn.'
Pe gwyddai ef y cwbl, ef a allasai ddywedyd hefyd fod amryw o ddyhirod wedi trachwantu ei le, ac mai o fwriad y taflwyd ef allan o'r cerbyd y noson cynt gan rai ohonynt, i ddyfod i'w angau yn y ffordd debycaf posibl i ddamwain. Ac yr oedd gweld dyfod o Greg yn ol at ei waith fel pe bae dim wedi digwydd, a dwyn gyd âg ef hefyd ddieithryn i gydweithio âg ef, yn rhwystro eu holl amcanion ac yn dyrysu eu holl gynlluniau anfad.
PENNOD XXXI.
"Y DELYN AUR."
TRANNOETH aeth Morgan gyd â Greg i'r mwnglawdd am y waith gyntaf, gan ddechreu dysgu y pethau yr oedd ef i'w cyflawni, neu i'w gochel. Ac ni bu ef yno'n hir cyn ei lanw âg edmygedd am y modd hwylus yr ymdriniai'r hen fwnwr â phethau afrwydd ei grefft, a'r modd y gwelai ef arwyddion sicr am werth maen o'i lofi yn unig. Nid yr un Greg oedd hwn ag a soniai ond am ddiod a rhialtwch y diwrnod cynt, ac yr oedd y wedd newydd hon ar ei gymeriad a'i allu yn un a apeliai yn fawr at y Cymro.
"Dyma fi," ebe Morgan, "wedi treulio 'foes ymysg mwnwyr y Waun gynt; ond beth a wn i, mewn gwirionedd, am y gwaith ond dim wedi'r cwbl? Mi a sylwaf yn fanwl ar fy nghyfaill, oblegid rhaid imi ddysgu llawer i fod yn llwyddiannus yn y peth y deuthum mor bell i'w ddilyn."
"I'm sure some coon has been down here disturbing the place when I was fooling round the Melbourne bars. Lucky for him that I was not at home, that's all!""
Yna ef a eglurodd i'r Cymro mai un o'r rhesymau am gael "butty" oedd y gallai un ohonynt fod mewn gofal o'r lle yn absenoldeb y llall, am fod dipyn o enw bellach i'r "Old Pit." "And if we can just hit it off," eb efe ymhellach, "I promise to put matters right between us before I go sampling Melbourne again."
Ceisiodd Morgan resymu âg ef ar y cychwyn, a'i gynghori i beidio â bod mor ffôl; ond rhoes y llall daw ar y cynghori ar unwaith, gan ddywedyd: "I chose you for a chum, not a parson.
So we'll leave it at that, if you don't mind, for I simply have to go when the salt air's a-calling."
Peth hollol ddieithr oedd hyn i Forgan, a phenderfynodd i beidio â sôn eto am y peth hyd nes y byddai'r amgylchiadau yn fwy addawol. Ond, er na siaradai am dano, bu iddo lawer o flinder meddwl o'i blegid, ac yn fwy felly am i Greg awgrymu y gallai yntau fynd i Melbourne yn ei dro, a chael amser da yno hefyd. Ni ddeuai darbodaeth a chynhilo i mewn I'r cyfrif o gwbl, yn ol dysgeidiaeth Greg. Byw yn ol ffawd y presennol—dyna ei unig gredo, ac wrth y gredo honno y trefnai ef ei holl fywyd.
Ond yr oedd llawer o bethau denol yn perthyn i'r hen fwnwr, er cymaint ei awydd am ambell i wythnos o gyfeddach. Ac o fater ei fyned unwaith eto i'r porthladd y cododd anghydfod newydd rhwng deuddyn yr "Old Pit," er na soniasai Morgan ddim am ei anghymeradwyaeth er amser y siarad o'r blaen.
"I want your signature to this, pard," ebe Greg wrth Forgan un noson, ar ol llwyddiant anarferol yn y gloddfa y dyddiau blaenorol. "When I promises a thing, it's as good as done. So there ye are; and we are halves in the 'Old Pit' henceforth! I can be pigheaded right enough, but once I ses a thing, I means it!'
Balch iawn oedd y cloddiwr ifanc o'r cynnig, ac ef a lofnododd y Dual Claim yn ewyllysgar. Ef a welai eisoes yn ei feddwl ei fam wedi ei gosod uwchlaw un pryder bydol, ac ef a glywai 'Well done!' Mr. Ffrank yn cynhesu ei galon. Ond nid mor hapus oedd clywed Greg yn dywedyd, "I'm into Melbourne the morn. See to things while I'm away," am y gwyddai beth a olygai yr ymweliad hwnnw â'r dref.
A llai hapus fyth oedd clywed Greg yn ei ateb yn sarrug ryfeddol pan awgrymai ef am "Carry on in your absence, I suppose?"
"Nothing of the sort!" taranai'r mwnwr. "You've just got to wait till I come back-no more, no less! And if yer jibs at that, we'll just tear up this paper here and now. Say the word!"
Ond ni ddaeth y gair hwnnw, mwy nag i egluro nad oedd Morgan yn hoffi segurdod, ac mai hynny a'i cymhellodd i siarad yn y modd ag y gwnaeth.
"Very well, then. And when I return, we'll both work hard enough. And if we're lucky, that's just because it's bound to be so!"
Nid oedd fodd dadleu â gwr fel Greg, ac felly ni atebodd Morgan air, ond yn unig gobeithio mai buan y blinai ei gydweithiwr ar wâg—bleser y ddinas, ac y byddai iddo ddychwelyd cynnar. Yr oedd amryw o bethau eisiau eu gwneuthur ganddo ef ei hun, a bellach wele hamdden atynt. Ac o hyn bu ei lythyron at ei fam a'i gyfeillion yn gyflawnach nag arfer; ac ef a siriolodd Mr. Ffrank yn fawr o anfon ato hanes cryno o Ballarat, ynghyd â'r amryw ffyrdd y gweithid y mŵn gan y dorf gymysg a ddaethai yno o bedwar ban byd.
Yr ail noswaith wedi i Greg ymadael teimlai Morgan y byddai rhywfaint o gerdded yn iechyd iddo, wedi aros ohono ddeuddydd yn y caban, ac am hynny ef a aeth allan i rodio ychydig yn y cyfnos, cyn ei fyned i'w wely. Yr oedd wedi cerdded i ben pellaf ei daith ac ar fedr troi yn ei ol, pan glybu ef sain cân mewn caban yn ymyl.
"Nid llawer o ganu sy yn Ballarat ar y goreu," ebe fe. "Be' all hwn fod?"
Yna ef a safodd ac a glustfeiniodd, gan ddisgwyl a glywai ef ragor. Ond daeth tawelwch drachefn, fel pe bai'r canwr wedi cael digon ar ei sbonc ei hun; ac yr oedd Morgan ar fedr ail-gychwyn i'w daith pan drawodd eto ar ei glyw yr un frawddeg gerddorol, ond yn uwch ac yn fwy croyw y tro hwn.
"Tebig iawn i Gymraeg," ebe fe wrtho ei hun, gan nesu at y fan. Ac ar y foment honno agorwyd drws y caban gan rywun, a daeth dylif o sŵn y gerdd allan, i adseinio drwy'r ardal ac i osod calon y Cymro ar dân, oblegid y gerddoriaeth a glywsai ef oedd:
|m:m |l.m:r.d|t, t,| l, ||
Byth ar swn y del yn aur.
mewn llais tenor soniarus a oedd yn wefr i gyd. O'i glywed, brysiodd Morgan at y drws agored, a chan guro a dechreu siarad yr un pryd, ebe fe yn wyllt iawn: "Er mwyn y Nefoedd wen, d'wedwch i mi pwy yw'r Cymro sy yma!"
Yr atebiad oedd gwahoddiad gwresog i ddyfod i mewn ac i eistedd gyd â'r cwmni. O weld yno dri dyn dieithr, ef a fu ychydig yn edifar ganddo am fod mor fyrbwyll, a dechreuodd ef esguso ei hun yn Saesneg.
"Does dim angen am apology," ebe'r canwr. "Cymro wyfi fel chitha; ond dau Sais yw fy nghyfeillion. Ond mor hoff ydynt o ganu Cymraeg fel nad oes lonydd imi ganddynt os na roddaf iddynt rywbeth yn yr Hen Iaith yn awr ac yn y man. Davies—David Davies yw'm enw i," ebe fe ymhellach. A chwithau?"
"Morgan Jones."
Yna cyflwynwyd y cwmni y naill i'r llall, a bu yno lawenydd mawr fod y gân Gymraeg wedi bod yn gyfrwng i'w dwyn at ei gilydd. Ac yna, cyn ymadael, bu gwahoddiad i Forgan ddyfod i fyny eto, pan obeithiai'r cwmni y byddai gwell cynhysgaeth ganddynt i ddangos eu teimladau yn briodol.
PENNOD XXXII.
DAI'R CANTWR.
NI chyfrifai Morgan na'r canwr y byddai'n foesgarwch i siarad a chymharu profiadau yn Gymraeg o flaen y cwmni cyfan, ac felly penderfynwyd y byddai i'r olaf fynd i chwilio am "Greg's Shanty" y prynhawn canlynol, pan fyddai iddynt ddigon o gyfleustra i siarad eu gwala am yr Hen Wlad a'r pethau annwyl ynglŷn â hi, ag oeddynt ill dau mor awyddus i glywed am danynt.
Daeth drannoeth yn ei amser, a'r canwr gyd âg ef, i gaban Greg.
"Eisteddwch, Mr. Davies," ebe Morgan wrtho. "Amheuthun yw clywed Cymraeg unrhyw amser, ond yn enwedig wedi bod wyth mis hebddo. Rhywfodd nid oedd un Cymro o gwbl ar fwrdd y Richborough, ac felly bu raid imi siarad Saesneg bob cam o'r ffordd. P'un oedd eich llong chi, Mr. Davies?"
"Doedd gennyfi ddim dewisiad o'm llong, gwaetha'r modd," ebe'r canwr yn drist. "oblegid gorfodaeth a ddaeth â mi yma. Yr o'wn i am weyd hynny wrthych chi gynta dim, yn lle 'mod i yma o dan un false pretence.
Walla 'ch bod wedi clwed am y Beca, rywbryd?"
"Y Beca? Do, greda i! Ac yr o'dd gan fy hen feistr i olwg fawr arnyn' nhw fel bechgyn o blwc, wa'th fe'i clywas e'n gweyd hynny lawer gwaith. Ac o ran hynny, fe fu Shoni Sgubor Fawr yn gweithio gyda ni ar Y Waun fwy nag unwaith."
"Pwy Waun o'dd honno?"
"Y Waun Hir yng nghwm 'Berdar."
Felly, Mr. Ffrancis Crosha o'dd y'ch mishtir?"
"Ie, a'r mishtir gora'n y byd o'dd e' hefyd! Ac onibai y fe, ni f'aswn i ddim yma o gwbwl i wilheua gyd â chi nawr."
Yna ef a adroddodd wrth y Cymro cerddorol am y modd caredig y gofalai Mr. Ffrank am ei fam tan y dychwelai ef.
"A chan 'ch bod yn 'napod Mr. Crosha," ebe fe ymhellach, "falla 'ch bod chi'n 'napod Shoni Sgubor Fawr 'ch hunan?"
Ni atebodd y canwr am ychydig, a phan edrychodd Morgan i'w wyneb drachefn, fel pe mewn ymholiad am y distawrwydd, ef a welai'r dagrau yn dechrau llanw ei lygaid a threiglo i waered dros ei ruddiau.
"Maddeuwch i mi," ebe Morgan, "os wy' wedi briwo'ch teimlada', Walla y'ch bod yn perthyn i Shoni. Ac os y'ch chi, yr ydych yn perthyn i un o'r bechgyn dewra' a gwnws Cymru 'riôd! Fe wn i am dano'n dda, a dyna'r pam 'rwy'n gallu gweyd."
"Na, nid perthynas, ond un a fu yn nês ato na llawer perthynas—wa'th y fi—y fi (y dagrau'n ffrydio allan o'r newydd, a bloesgni yn y llais) yw Dai'r Cantwr!"
Bu distawrwydd dyfnach fyth am eiliad; ond y foment nesaf cododd Morgan ar ei draed, a chan gydio yn llaw ei westai, ef a'i hysgydwodd am beth amser heb ynganiad gair o'r untu.
"Mae'n dda genny' gwrdd â chwi," ebe mab y Waun o'r diwedd, "wa'th fe glwas gymaint o sôn am danoch chi. Ac, wrth gwrs, y chi a wna'th y gân y mae pob Cymro yn ei gwpod." Ac fel i ddangos ei fod ef ymhlith y Cymry hynny, ebe fe:
"Drych i fyd wyf i fod; collais glod allaswn gael.
Tost yw'r nôd: dyrnod wael, i'w gafael ddaeth i mi.
I fy i'enctid drygfyd ddaeth; yn lle rhyddid, caethfyd maith
Chwanegwyd, er fy ngofid,
Alltud wyf, 'rwy'n eitha caeth.
"Ca'm danfon o fy ngwlad, tŷ fy nhad, er codiad tirion,
I blith y duon gôr, dros y môr o'm goror gron.
O! 'r fath ddrycin imi ddaeth, alltud hir, gyr hyn fi'n gaeth,
Dros ugain o flynyddau
Tost yw'r nôd—Cystudd maith."
"Fe gofiai mam y penillion i gyd, ac ar lawer tro y clywais hi yn eu hadrodd ar ei haelwyd. 'Chydig ŵyr hi heno fod ei mab yn whilheua gyda'u hawdur! Bydd raid imi hefyd ysgrifennu'n llawn at Mr. Ffrank am yr un peth. Ac fe fydd yn dangos fy llythyr i bawb, 'rwy'n siwr; ac 'rwyf mor siwr a hynny y byddai iddo roi lle da i Shoni pe bai ond wedi dod yn ol i'r Waun wedi ffusto'r 'Taunton Chick' slawer dydd. Ond dda'th e' ddim, a ma' llawer yn ffaelu a dyfalu hyd heddi' y rheswm am hynny. A welsoch chi e' wedi iddo ddod ma's?"
"Naddo, wa'th i Van Diemen's Land y ca's e' fynd; ond fe glwas am dano gan un a fu yno, a'i fod e'n batrwm i bawb o'i gylch, ac yn barod wastad i amddiffyn y gwan."
"Dyna'r rheswm. 'rwy'n cretu, iddo joino â'r Beca, wa'th 'roedden' nhw bron a bod ar lawr ar y pryd. Ac wetyn, wrth gwrs, ni chas e' ddim siawns i ddod 'nol i'r Waun at Mr. Crosha o gwbl. A dyna lwc 'ch bod chi'n canu'r hen 'Delyn Aur' nithwr pan o'wn i'n mynd hibo!" "Ie, ma' canu rhai o'r hen donau wedi bod yn gysur mawr i mi yn y wlad hon. A 'rwy'n cofio, fel pe bai y ddoe, am Rosser Beynon yn 'u dysgu i ni pan 'ro'wn i'n grotyn. Wn i yn y byd a yw yr hen Asaph byw nawr? Asaph Glan Taf 'roedd e'n galw'i hunan, chi'n gweld, a chantwr ardderchog o'dd e' he'd."
"O, y mae e' ym Merthyr o hyd, neu o leia' yr o'dd e' yno 'chydig bach cyn i fi ddod ma's yma, wa'th fe'i gwelas m'hunan yn un o'r troeon diwethaf y buo i yng Nghyfarthfa."
Yna bu ymgom hir ar wahanol bethau, ac eglurai y Cantwr mai newydd gael ei ryddid oedd ef y pryd hwnnw, ac mai dyfod i Ballarat a wnaethai ef er mwyn ennill digon o arian i fynd yn ol i'r Hen Wlad unwaith eto.
"Ond 'dw'i ddim yn gweyd y 'rhosa' i yno," ebe fe. "Ond ma' 'nghalon i 'mron torri o hira'th am ga'l gweld yr hen leoedd lle buo i'n chware gynt. Dim ond unwath, cofiwch, ac yna fe fydda i'n folon marw."
Fe welodd Morgan lawer ar Ddai'r Cantwr wedi y noswaith honno, ac, yn wir, bu cyfeillach lled helaeth rhwng y ddau; ond ychydig a feddyliai ef mai'r gwir a ddywedai Mab y Beca wrtho, am mai unwaith yn unig yr oedd i weld Cymru eto. Oblegid dywed hanes lleol iddo dreiglo yn hen ddyn penwyn i'r Bontfaen rywbryd, ac iddo letya yno am un noswaith yn unig, cyn ei fyned yn ol i Awstralia i farw.
PENNOD XXXIII.
GREG WEDI DYFOD YN OL.
Y NOSON wedi ymweliad Dai'r Cantwr â "Greg's Shanty," daeth Greg ei hun yn ol o Melbourne. Yr oedd hyn yn gynt o rai dyddiau nag a ddisgwyliai Morgan, ac nid yn unig hynny, ond yr oedd y mwnwr yn sobr, ac yn eiddgar i ail—gydio yn y gwaith. Felly, bore trannoeth aethpwyd ati eto, ac mor llwyddiannus y bu'r cloddio y diwrnod cyntaf hwnnw fel y tybiai'r ddau fod ffawd wedi gwenu mwy ar yr Old Pit ddydd yr ail ddechreu nag a wnaethai hi o gwbl cyn hynny.
Parodd y ffawd dda i Greg fod yn frwdfrydig iawn, ac yn y brwdfrydedd ef a addefai mor ffôl y bu i wastraffu'r amser gwerthfawr ym Melbourne, a'r nuggets yn galw arno i aros gartre.
"And to own up the truth," ebe fe ymhellach, "little I expected to see you here alive on my return, for the scabs had vowed to 'jump the claim' in my absence."
Yna yr adroddodd ef am a glywsai pan oedd ef hanner meddw ym Melbourne, sef bod yr un cwmni ag a'i taflasai allan o'r cerbyd gynt wedi penderfynu dwyn yr Old Pit oddiarno, pa un ai byw ai marw ef. Ac i'r perwyl hynny, eu bod wedi trefnu ei gaethiwo am dymor mewn caban neilltuol yn y dre nes dirwyn i ben amser ei hawl yn y gloddfa yn ol cyfraith y mwnfeydd.
"But I diddled them out, the skunks!" ebe fe, "for old Greg wasn't so primed as they thought. And here I am to fight them to the death! And I say, Morgan, boy," ebe fe ymhellach, "twas a lucky meeting that first one of ours—both for me and, I trust, for you also."
Ac yr oedd mwy o ffawd o'u cylch nag a wybuai hyd yn oed y ddau eu hunain, oblegid y noson yr ymgomiai Morgan â Dai'r Cantwr yn y shanti oedd yr un y trefnasai'r lladron i gymryd meddiant o'r Old Pit, ond i'w trefniadau fynd yn ofer o weld dau ŵr mewn meddiant o'r shanti eisoes—ac, yn fwyaf tebygol, o'r gloddfa hefyd.
Bu Greg a Morgan yn gymdeithion yn yr Old Pit am yn agos i dair blynedd; ac er mai dim ond yn anfynych y cawsent gystal toreth ag a brofasant y dydd cyntaf wedi dychweliad Greg o Melbourne, eto i gyd daliai'r hen gloddfa ei thir, a thyfu a wnai llyfr eu helw yn yr Australian Bank.
Prynwyd winch newydd a llawer o offer arall at y gwaith yn y flwyddyn gyntaf, a llawer mwy cysurus hefyd oedd y shanti nag ydoedd y noson fyth—gofiadwy honno pan groesawodd Greg ei gyfaill dros drothwy "Dublin Castle."
Felly, o daliai'r mŵn ei liw priodol am yr amser a oedd i ddyfod gystal ag y profasai hyd yn hyn, teimlai'r ddau fod y dyfodol yn addaw calondid iddynt, ac y gallent edrych ymlaen at ymweld yn eu tro, nid yn unig â Melbourne, ond â'r Hen Wlad yn ogystal.
Aethai Greg i Melbourne amryw weithiau oddiar y pryd y clywsai ef yno am frâd y claim jumpers gynt, ond nid yr un Greg oedd ef mwyach, a dieithr iddo bellach y ffeuau a'i denasai gynt i wario ei dda ar bethau gwaelaf y ddinas. O dipyn i beth, ef a ddechreuodd gymryd diddordeb yng nghyfreithiau'r dalaith, ac yn enwedig y rheiny a oedd a fynnent â bywyd y mwnwr. Ffraeth oedd ef yn naturiol, ac o byddai ef yn annerch ei gyd—fwnwyr—fel y digwyddai'n fynychnid oedd neb yn y diggings a gaffai well croeso a derbyniad. Aethai Morgan gyd âg ef ambell waith i'r cyfarfodydd hyn, a balch iawn ydoedd i glywed ar bob llaw ganmoliaeth i'w gydymaith.
"Who'd a thought it," ebe un, "that old Mad Greg had so much in him? Why, he can fight quite as well with his tongue as he could some time back with his dukes!"
Ac amser i ymladd oedd hi yr adeg hynny yn y mwnfeydd, yn sicr, oblegid dechreuodd gormes godi ei ben hyll yno, gan beri bod anghyfraith a chynnwrf yn codi eu pennau hefyd.
Pan synnwyd y byd yn 1851 gan y sôn am gyfoeth enfawr Ballarat, buan y dylifodd yno ddynion o bobman, a llawer o'r rheiny o'r dosbarth gwaethaf posibl. Ond anfoddlon iawn oedd y trefedigion o ddyfod neb pwy bynnag yno; ac am mai hwynt—hwy oedd â'r awdurdod yn y wlad ar y pryd, pasiwyd amryw gyf reithiau a wasgai'n drwm ac yn anheg ar y dyfodiaid newydd.
Un o'r deddfau hyn oedd y drwydded i gloddio o gwbl, oblegid hi a gostiai ddeg swllt ar hugain y mis, pa un ai llwyddiannus ai peidio y cloddiwr druan. Ac o byddai iddo ef dreio ei ffawd ymhellach na hanner milltir o'r man y rhodded iddo'r drwydded gyntaf, rhaid iddo wrth drwydded arall, ar yr un telerau, cyn symud i'r tir newydd. A gwaeth na hynny, rhaid hefyd oedd i'r cloddiwr, o dan bob math o amgylchiad, fedru dangos ei drwydded neu drwyddedau i swyddogion y dalaith yr unrhyw amser y gwelent hwy fod yn dda i ddyfod heibio i'r mwnfeydd. A phe na fedrai'r mwnwyr wneuthur hynny, odid o ddiofalwch neu o anghofrwydd, gwthid hwy yn ddiseremoni i'r logs, hynny yw, carchardai'r mwnfeydd, i aros eu praw.
Gwnaethai'r driniaeth arw hon ddeddfdorwyr o ddynion heddychaf y byd, chweithach mwngloddwyr anturus; a llawer cyfarfod a fu ymhlith y dioddefwyr er gwrthdystio yn erbyn y trais. Greg, a chydwladwr o'r Ynys Werdd—Peter Lalor wrth ei enw—oedd y prif siaradwyr yn y cyfarfodydd hyn, a buan y gwnaethant hwy eu gwrandawyr yn wrthryfelwyr, parod i unrhyw beth, cymaint oedd effaith eu hareithiau eirias.
"Half of the Old Pit shall go for the Cause," ebe Greg; "and if need be, my blood will also be spilt for the same worthy object!"
Hyn a ddywedai ef ym mhobman, ac yntau heb wybod, yng ngwres ei deimlad brwd, mai proffwydo am ei dynged alaethus ei hun yr oedd efe.
PENNOD XXXIV.
BRWYDR YR EUREKA.
GWYBYDDUS oedd yr awdurdodau o'r holl symudiadau hyn, ond hwynthwy, yn camgymryd tymer benderfynol y mwnwyr, a gredai mai gorfodaeth oedd yr unig feddyginiaeth posibl.
Yr oedd digger-hunting gan swyddogion ifeinc yr heddgeidwaid a'r milwyr wedi dyfod mor boblogaidd â dingo neu kangaroo-hunting; ac er bod y logs yn llawn, a mwy o fwnwyr wrth eu gwaith nag erioed, eto i gyd lleihau yr oedd cyllid y trwyddedau o wythnos i wythnos.
Yna ceisiwyd gwella'r peth trwy luosogi nifer y swyddogion a oedd yn hela, ond i gyfarfod â hyn trefnwyd bod gwylio effro gan y mwnwyr,—a digon oedd y waedd "Traps!" neu "Joe! Joe!" i yrru pob mwnwr didrwydded i waered i'r pyllau, lle ni feiddiai'r un swyddog eu dilyn.
Yna, i gwblhau'r ynfydrwydd, dyblwyd pris y drwydded, gyda'r canlyniad fod llawer o'r rhai a dalent y deg swllt ar hugain yn weddol ufudd cyn hynny, yn awr yn gomedd yn bendant, fel y lleill, i dalu dim.
"Dyma'n gwmws fel y g'nethon' nhw yn y Beca gynt," ebe Dai'r Cantwr un diwrnod wrth Forgan. "Pan na thalai un glwyd, o bosib, gost yr hewlydd, yr o'en yn ddicon dwl i gwnnu dwy, neu hyd yn oed dair clwyd yn rhacor yn yr un ardal. A marcwch chi beth wy' i'n 'weyd: fe fydd yma racor o showdwrs a mwy o golli gwa'd cyn cwpliff y daplas hon!"
A'r gwir a ddywedasai'r Cantwr, oblegid pan aeth y si allan fod rhagor o filwyr wedi glanio ym Mhorth Phylip, atebwyd hynny mewn mwy ymarferiad arfau gan y mwnwyr. Yna, pan ddechreuodd y milwyr symud tua Ballarat, gwnaed brys gan dorf Lalor a Greg i'w gwrthwynebu trwy godi amddiffynfa ar fryn Eureka.
Gwyddai pawb erbyn hyn fod dyddiau enbyd yn ymyl, ac yn enwedig pan fynnai Lalor godi baner gwrthryfel o fewn yr amddiffynfa honno, a dechreu gosod ei wŷr i dyngu llw o ffyddlondeb i Weriniaeth y Southern Cross.
Oerodd llawer o'r brwdfrydedd cyntaf ar hyn, oblegid unpeth oedd amddiffyn iawnder y mwnwyr, ond rhywbeth tra gwahanol ydoedd gosod i fyny lywodraeth newydd yn erbyn Prydain, a hynny gan ond ychydig gannoedd o fwnwyr dibrofiad. Gwelai Greg ei hun mai peth ffôl oedd i Lalor fentro cyn belled a hynny.
"But I must stick to him now, anyways," ebe Greg, "and you, Morgan, can look after the Old Pit till everything blows over. For I have it in my bones that things must be worse before they are better. Good-bye, butty!"
Dyna'r gair olaf rhwng y Cymro a'i hen gyfaill garw, a dyna'r tro olaf hefyd iddo ei weled yn fyw. Clywsai Morgan lawer am ei egnion yn y stockade, ac am ei gweryl ar goedd âg un Hayes, a'i gwthiasai ei hun i fod mewn rhyw fath ar awdurdod yno. Mynnai Greg bod amser siarad wedi mynd heibio bellach, ac y byddai llunio arfau yng ngweithdy'r gôf yn fwy i'r pwrpas na llunio brawddegau. Yr oedd Hayes, ar y llaw arall, yn dal i areithio a fflamio, ac ef a barhaodd yn hynny hyd nes gwybod o'r mwnwyr fod y "cotiau cochion" yn yr ymyl.
yn yr ymyl. Yna darfu hyawdledd Hayes yn sydyn, ac ni wnai cofio am ei eiriau swnfawr un iawn am y sicrwydd mai rhan llechgi a chwaraeodd ef pan oedd fwy angen nag erioed i sefyll yn ddyn.
Disgyblaeth lac oedd wedi bod yn y stockade o'r cychwyn, ac ni ymddangosai fod hyd yn oed presenoldeb y milwyr yn yr ardal wedi gwella dim arni. Aethai pobl i mewn ac allan heb neb i'w hatal, a phan elwid y rhôl, absennol oedd llawer o'r rhai y tybid eu bod yn brysur yn dal ar bob cyfleustra i'w perffeithio eu hunain mewn trin arfau.
Aeth rhyw si ar led bod ar y milwyr ofn ymosod ar yr amddiffynfa ar y bryn, ac am hynny mwy torsyth fyth yr ymagweddai'r bobl a fynnent eu hystyried gan ereill yn ddewraf dynion. A phan ymosodwyd o'r diwedd ar arsiwn yr Eureka ar wawr y Sul hwnnw yn Rhagfyr, 1854, gymaint oedd nifer y rhai a oedd allan yn y dref yn lle bod tucefn i fur y stockade, fel nad oedd mwy na deucant yn dilyn Lalor a Greg i wrthsefyll y rhuthr.
Ond y deucant hynny, chwarae teg i'w coffa, o glywed sain grâs yr utgyrn yn galw y milwyr i ymosod, a godasant fel un gŵr, ac a frysiasant, hollol anghelfydd fel yr oeddynt, at y gwelydd i gyfarfod goreuon byddin Prydain—llawddryll yn erbyn mwsged, a'r wayw i wynebu'r bidog. Ac os nad oedd Lalor a Greg yn arweinyddion cymwys mewn câd, yr oeddynt o leiaf yn ymladdwyr dewr. Rhuthrodd Lalor yma ac acw i bob lle a oedd wannaf ei amddiffyn ar y foment, gan alw am ymdrechion gorau ei ganlynwyr a gosod siampl o'u blaen yn ei weithredoedd ei hun. A hyd yn oed pan saethwyd ef yn ei ysgwydd chwith nes gwneuthur nerth ei fraich yn ddirym, dringodd i ben maen, ac oddi yno ef a gymhellai ac a galonogai hyd nes y bu i ruthr terfynol wneuthur pob cymell a chalonogi yn ofer. Gyrrwyd y mwnwyr o'r diwedd i ffwrdd oddiwrth y gwelydd, ac ymlidiwyd hwynt i'r pyllau bas, i'r pebyll, ac i'r efail gôf, lle y cylchynwyd hwynt yn ebrwydd ac y'u daliwyd yn garcharorion, 125 ohonynt.
Bu chwilio mawr gan y milwyr am Lalor, Greg, a Hayes, ond yr oedd yr olaf wedi ffoi ar y rhuthr cyntaf, a Lalor yntau wedi dianc yng nghythrwfl y funud olaf. Ni eglurwyd erioed y modd y darfu am Greg, ond pan gasglwyd cyrff y meirwon at ei gilydd, yno yn eu plith, gyd â bwled yn ei galon ddewr, yr oedd y gŵr a fuasai mor sarrug yn nyddiau ei gaethiwed i'w flys, ond a oedd mor fwyn wedi cael ohono'r trecha arno.
PENNOD XXXV.
TRANNOETH Y DRIN.
ERCHYLL ydyw rhyfel a châd o dan unrhyw amgylchiadau, ond llawer erchyllach pan berthyn y ddeulu i'r un wlad ac i'r un iaith. Felly yr oedd y tro hwn yn yr unig frwydr a hacrodd Gyfandir Mawr y De erioed. Wedi i'r cwbl derfynu, taenodd rhyw fraw distaw dros Ballarat a'i gyffiniau, ac ym mhresenoldeb y trychineb anghofiwyd am yr oriau cyntaf yr holl ormes a'r dial er mwyn talu gwrogaeth i'r rhai a osododd eu bywyd i lawr i selio eu cred yng nghyfiawnder eu hachos.
A'r Saboth oedd hi, a thywyn tanbaid haul haf Awstralia yn dylifo dros y lle, pan ddringodd torf drist i fyny hyd at borth chwilfriw yr Eureka Stockade i edrych a oedd eu hanwyliaid ymhlith y rhai a syrthiodd. Rhoddasai'r milwriad orchymyn o byddai gan neb pwy bynnag hawl perthynas ar y lladdedigion, y byddai iddynt ryddid, ond gofyn am dano, i ddwyn y cyrff i'w claddu yn y modd a'r man mwyaf dewisol ganddynt hwy.
"I counted fifteen dead," ebe gohebydd y Geelong Advertiser yr wythnos ar ol y lladdfa, "one G
, a fine well-set-up man and a great favourite. They all lay in a small space, their faces upward looking like lead.... A sight for a Sabbath morning I implore Heaven may never be seen again.'Teimlai Morgan, er nad oedd ganddo hawl perthynas ar y Gyr awdurdodau, ac felly ef a grefodd air gan y milwriad er egluro iddo y cysylltiad agos a oedd rhyngddynt.
a nodwyd, y byddai'n waradwydd bythol arno i adael claddu ei hen gyfaill i swyddogion didostur"I have heard of him, and of his gallantry," ebe'r milwriad yn garedig, "and it will give me the sad pleasure to acquiesce, if you will but bring me anyone to testify officially that matters between you were as stated."
Aeth y Cymro ar ei union at Arolygydd y Banc i ofyn iddo am roddi'r dystiolaeth ofynnol, ac yn y cyfnos yr un dydd cludwyd gweddillion truan y dewr i'r shanty, a fuasai mor annwyl ganddo ef ei hun cyn dyfod dyddiau blin. Deuddydd yn ddiweddarach, dilynwyd ei arch i'w feddrod gan lu a gofiai am ei ffraethineb dawnus yn eu hachos hwy, ynghyd â'i gysondeb yn ymladd hyd at waed dros y peth y credasai ef ynddo. Nid oedd ym Morgan galon i ailgydio yng ngwaith yr Old Pit am rai dyddiau ar ol yr angladd, ond ef a oedai yn y shanty gan mwyaf ei amser, gan gerdded o gylch y lle pan fyddai wedi blino ar eistedd i lawr.
Ef a sylwai bod llawer o bobl yn ymweld â'r lle yn ystod yr adeg honno, a'r esboniad a roddes ef iddo'i hun am yr ymweliadau mynych ydoedd cywreinrwydd i weld y gloddfa y bu gŵr mor boblogaidd â Greg yn llafurio ynddi. Ond o sylwi bod amryw o'r dieithriaid hyn yn ymwelwyr cyson, daeth i'w feddwl bethau ereill, ac yn enwedig wedi i brif—swyddog yr ariandy siarad âg ef am y mater.
"You must excuse me, seeming to pry into your affairs, Mr. Jones," ebe hwnnw, "but the papers between you and your late partner are, I presume, quite in order?"
"Yes, Mr. Parkinson," ebe yntau. "But why do you ask?"
"Because several people, and some of them of great repute, are casting greedy eyes on the Old Pit."
Yna, fel pe bai cèn wedi syrthio oddiwrth ei lygad, Morgan a welai amcan a diben yr ymweliadau mynych; ac ef a ddiolchodd i Mr. Parkinson. ac ar yr un pryd ef a dynnodd allan o'i logell bapur y cytundeb rhyngddo â Greg, i'w ddangos i'w gymwynaswr.
"Quite in proper form," ebe hwnnw. "Keep it safe."
A da i Morgan fod y cytundeb yn rheolaidd ac yn ddiogel, oblegid hynny yn unig a sicrhaodd iddo feddiant ar y gloddfa a roddes gystal ad—daliad i'w gydymaith ac yntau am eu llafur ynddi oddiar eu cyfarfyddiad cyntaf.
O'r diwrnod hwnnw ymlaen ef a gymerth sylw arbennig o'r ymwelwyr; ac o edrych yn graff, daeth i'w feddwl fel fflach ei fod wedi gweld dau ohonynt yn y cerbyd a garlamai heibio iddo y prynhawn hwnnw yr helpiasai ef Greg ar yr heol o Melbourne.
Rhoes hyn fraw ychwanegol iddo, oblegid os cynygiasant am fywyd ei gydymaith y pryd hwnnw, gwyddai mai bychan o beth a fyddai ei fywyd yntau yn eu golwg; ac oherwydd hynny ef a aeth ar ei union i swyddfa'r Gold—diggers' Vigilance Society, ac a huriodd un o'r swyddogion i wylied yr Old Pit. Costus a fu hyn iddo, ond yr oedd cysgu yn ddibryder yn werth y cwbl. A chyn pen yr wythnos peidiodd yr ymyraeth, a bu un olwg ar y swyddog gan y ddau adyn a ddrwgdybid yn ddigon i'w cadw hwy draw oddiwrth y lle yn gyfangwbl. Yn ddiweddarach, daliwyd hwy mewn anfadwaith yn Bendigo, a saethwyd y ddau gan nifer o fwnwyr o'r lle hwnnw.
Ond nid oedd treialon Morgan ar ben eto, oblegid ymhen ychydig dechreuodd yr awdurdodau lleol hawlio fod popeth a oedd yn eiddo i'r gwrthfyelwyr wedi ei fforffedu iddynt hwy; a chan mai Greg oedd unig berchennog yr Old Pit, bod y gloddfa i'w gwerthu, ynghyd â phob eiddo arall i'r gwrthryfelwr, er mwyn talu'r ddyled yr aeth Rhanbarth Victoria iddi o'i blegid ef a'i debig. Ond trwy gymorth parod Mr. Parkinson, hawdd oedd i Forgan brofi ei fod ef yn gyd-berchennog â'i ddiweddar gyfaill. Yna ceisiwyd mewn ffordd arall i gyrraedd yr un amcan, sef prisio'r Old Pit yn werth £1,200, a bod Morgan i dalu £600 os oedd ef am ddal gafael yn y gloddfa o hynny ymlaen.
Ond yn y cyfamser eisteddai pwyllgor ymholiad gan y Llywodraeth Gartref i edrych i mewn i holl helynt Eureka a chymaint oedd y dystiolaeth yn ffafr y mwnwyr fel y maddeuwyd iddynt eu tor-cyfraith, ac mewn canlyniad daeth Morgan ar daliad rhai costau ynglŷn â'r trosglwyddiad, ei hun yn berchennog cyflawn ar yr Old Pit.
Ond yr oedd eto yn aros yn yr Ariandy, fel cyfran Greg o elw y cloddio cyfunol, saith cant o bunnau a oedd yn amlwg yn perthyn i etifedd neu etifeddion y cydymaith marw, a bu
a bu llawer o hysbysebu ym mhapurau Awstralia a Phrydain yn ol llaw am i'r cyfryw ddyfod ymlaen a dangos eu hawl; ond ni ddaeth neb yn ystod yr amser y preswyliai Morgan yn y cloddfeydd, ac ni chlybu ef am neb a'u hawliodd byth wedi hynny. Yno, yn debygol iawn, felly, y trigant eto.
PENNOD XXXVI.
HIRAETH AM GYMRU.
EDRYCHID ar Morgan erbyn hyn fel un o ffodusion y cloddfeydd, ac er na roes yr Old Pit logellaid mawr o aur ar yr untro, eto digon oedd ei gynnyrch wythnosol nid yn unig i gynnal ei berchennog ynghanol prisoedd uchel y diggings, ond i ychwanegu hyd at swm sylweddol yr arian yng ngofal Mr. Parkinson yn yr Australian Bank yn ogystal. Mwy na hynny, gwella yr oedd yr argoelion po bellaf ymlaen y cloddid; a chan i Forgan hurio ambell fwnwr anffodus i'w gynorthwyo ef yn awr ac yn y man, buan yr aeth y sôn am gyfoeth ei bwll ef drwy yr holl ardal.
Ond er hyn oll, nid hapus oedd y Cymro, ac am hynny ni chynlluniai ef ymhell ymlaen er dim. Yr oedd amryw o resymau i beri yr ansefydlogrwydd yn ei feddwl, ac i'w atal i gymryd ato gydymaith yn lle Greg. Un o'r rheiny oedd cysylltiadau Greg ei hun, am na wyddai Morgan pwy ar glawr daear a fyddai'n hawlio'r arian ar enw y Gwyddel yn y Banc. Ef a deimlai o byddai i berthynas teilwng ddyfod ymlaen, mai dim ond gweddaidd a fyddai arno ef i gydweithredu â'r cyfryw, pe ond o barch i hen berchennog y lle.
Wedi dydd yr angladd, ef a chwiliasai'n fanwl drwy y shanty er gweld a oedd yn rhai o goffrau Greg ewyllys, neu rywbeth arall, a fyddai'n taflu goleuni ar haniad ei ddiweddar gydymaith. Ond er chwilio ymhob congl, a throi dalennau amryw o lyfrau (oblegid hoff o ryw fath ar lyfr yr oedd Greg fyth), ni ddaeth dim i'r golwg a fyddai o unrhyw gymorth.
Ond o chwilio yn y modd hwn, tarawodd Morgan ar rywbeth arall a roes iddo fraw mawr ar y pryd, ac a barhaodd yn destun i synnu a dyfalu am dano hyd ddiwedd oes. Llyfryn bychan ydoedd hwnnw, a'i gynhwysiad gan mwyaf yn emynau Lladin i'w defnyddio yn y gwasanaeth Pabyddol. Ond y tu fewn i'w glawr yr oedd yr argraff ganlynol:
"Gregory Macdonnell. Presented to me on my 15th birthday by my cousin Dennis Connelly, June 30th, 1830."
Dennis Connelly! Dyna enw lleidr Cwm Smintan gynt, a ymgrogodd yng ngharchar Caerdydd. Tybed ai ef oedd y cefnder hwn? A'r mwyaf i gyd y pendronnai Morgan uwch y ffaith, y mwyaf i gyd i'w feddwl cynhyrfus ef oedd tebygrwydd gwirionedd ei ddamcaniaeth. O'r un grefydd, o'r un genedl, ie, a hyd yn oed yr un oedran, os cyfoed oedd ef i Greg ei hun. Ac os cywir y gosodiad, beth oedd a rwystrai fab, neu berthynas arall, i Dennis Connelly i ymddangos unrhyw ddydd yn y shanty a chynnig cadw yr hen gysylltiad yn y blaen.
Cydweithio a chydletya a rhywun o'r un gwaed â Dennis Connelly! Na! nid byth! Ac er i'r atgof am garedigrwydd yr hen Greg ei gyhuddo cyn gynted ag y teimlasai ef yr atgasrwydd yn ei galon, eto parhau i lechu yno yr oedd yr atgasedd fyth. Am yr wythnos gyntaf wedi darllen ohono argraff gyffrous y llyfryn bach, hwnnw a'i bosibliadau anhyfryd oedd yn ei feddwl beunydd. Cedwai y llyfryn yn ei logell yn barhaus, a degau o weithiau yn ystod y dydd y tynnai ef allan i weld a oedd rhyw awgrym newydd yn y geiriau, arall na'u hystyr syml yn y dechreu.
A chyn dyfod o'r wythnos i ben yr oedd ef wedi penderfynu ymadael â Ballarat, neu, o leiaf, gwerthu yr Old Pit, a chychwyn cloddfa arall cyn gynted ag y byddai modd. Ac am iddo un dydd hanner awgrymu wrth un o'i gydfwnwyr fod chwant arno weld rhagor o Awstralia, bu hynny'n ddigon i beri cynnyg iddo bryniant ar yr Old Pit gan gryn bedwar person o fewn cynifer a hynny o ddyddiau. Ond er bod ei feddwl yn llawn o gynlluniau am ei ddyfodol ei hun, amharod oedd ef eto i eistedd i lawr i daro bargen am y gloddfa a fuasai mor garedig wrtho ef a'i amgylchiadau.
A'r mwyaf i gyd y cedwai ef y prynwyr draw, y mwyaf i gyd oedd eu haidd hwythau am sicrhau y clawdd a brofasai mor gyson a difwlch ei gynnyrch; ac er nad o fwriad sefyll allan am uwch pris yr oedd yr hiriant hwn, eto yr un oedd yr effaith ar y sawl a chwenychai bwrcasu'r lle.
A'r hyn a ddug y petruster i ben yn y diwedd oedd rywbeth, nid a berthynai i Awstralia na Ballarat o gwbl, ond un frawddeg a ddaethai i Forgan o'i hen gartref. Mewn llythyr oddiwrth Mr. Ffrank yr oedd honno, ac am ei fam y traethai, canys dyma oedd hi: "I am sorry to find that your mother does not seem to pick up well after her illness of the winter. And no wonder, because her heart is away in distant Australia."
"Illness of the winter!" Ni chlybu Morgan gymaint a sôn ganddi hi ei hun am ei hafiechyd, namyn "colds and headaches." Oddiwrth eiriau Mr. Ffrank amlwg mai "heartache" am ei hunig fab oedd arni fwyaf.
"Mi a werthaf yr Old Pit a phopeth arall sydd ar fy enw yn Awstralia," ebe Morgan, "ac âf yn ol ati'n gwmws. Be' well wy' i o aros yma'n mhellach er casglu 'chytig racor o arian, a cholli mam fach cyn ei bod hi yn cael un mwynhad oddiwrthy' nhw? Gwnaf, fe âf yn ol ar unwaith!"
Ac, yn hynod iawn, y diwrnod y daeth ef i'r penderfyniad, wele'r ddau fwnwr a oedd â'r claim nesaf ato ef ar ochr oreu'r gloddfa, yn galw heibio iddo, a wedi siarad hyn a'r llall, yn cynnig iddo dair mil o bunnau am yr Old Pit fel yr oedd yn sefyll. Llamai calon Morgan yn ei fynwes ar y cynnig; ond rhag ofn ymddangos yn rhy frysiog, ef a gymerai arno ar y foment i droi'r mater yn ei feddwl, er y gwyddai yn dda mai derbyn oedd i fod. "Kindly call back in an hour's time," ebe fe, "and then I shall give you a definite answer."
Daeth yr awr i ben, a'r answer hefyd yr un modd, ac wedi cyd—eistedd am ysbaid yn ychwaneg, tarawyd y fargen a siglwyd dwylo uwch ei phen.
"As the Bank is still open," ebe un o'r ddau a ymddangosai fel pe'n ofni y tynnai Morgan yn ol, "suppose we ask Mr. Parkinson himself to act as witness, and the money can be transferred at the same time."
Hynny a wnaed, a'r noswaith honno, cyn mynd yn ol i'w gaban drachefn, yr oedd y Cymro, rhwng popeth, yn werth agos i bum mil o bunnau.
PENNOD XXXVII.
PARATOI I DDYCHWELYD.
Y NOSON honno hir iawn y bu Morgan cyn myned i'w wely; ac er hwyred ydoedd hi, ni ddaeth hun yn agos ato tan oriau mân y bore. Gwyddai ef bod llong ar fedr hwylio i Lundain drannoeth, ac am hynny ef a ysgrifennodd dri llythyr fel y byddent yn cyrraedd yr hen wlad rai dyddiau cyn y byddai iddo ef ei hun wneuthur hynny. I'w fam, Mr. Ffrank, a Mrs. Henry Crosha yr oedd y llythyron hyn, a'r un peth yn sylweddol oedd yn y tri, sef ei fod wedi ennill gradd o lwyddiant, ond mai gwell ar y cyfan oedd yr hen wlad, ac y byddai ef yn dychwelyd heb fod yn hir. Gofalus iawn ydoedd o beidio ag ymddangos yn fostgar yn y mesur lleiaf, ac, ar y llaw arall, yr oedd ei ofal yn llawn cymaint i ochel mursendod a ffug—wyleidd-dra. Ef a gredai yn ei galon fod gweddiau ei fam ar ei ran wedi bod yn elfen fawr yn ei lwyddiant,—ond, rywfodd, rhy gysegredig oedd hynny i'w osod mewn du a gwyn ar bapur. Y ffaith fawr oedd ei fod ef â'i wyneb ar Gymru, a phopeth a oedd yn annwyl ganddo, a pharodd y syniad o gusanu ei fam unwaith yn rhagor ryw lawenydd mawr yn ei fynwes. Hwnnw a osodes ryw hyrwyddiant newydd i'w holl drefniadau y dyddiau a oedd yn dilyn, ac a roddes frys i'w holl symudiadau a oedd yn hyfryd iawn i'w feddwl.
Drannoeth ef a ymwelodd â Mr. Parkinson unwaith eto yn yr Ariandy, ac wedi ymgynghoriad â'i gyfaill yno, penderfynwyd na byddai i Forgan gludo ar ei berson ond cymaint o arian a fyddai'n ddigon hael i'r daith, ac y byddai draft o'r Ariandy Cenedlaethol yn Abertawe am y gweddill yn well ymhob modd.
Yna ef a aeth i fyny at gwmni'r "Delyn Aur" (fel y mynnai ef alw Dai'r Cantwr a'i gymdeithion), ac wedi hysbysu iddynt ei fwriad o ymadael cyn pen pythefnos, ef a'u gwahoddodd ato i swper ychydig nosau cyn ei fyned i fwrdd y Queen Adelaide, sef y llestr a ddewisasai ef hwylio adre ynddi.
Swper i'w chofio gan y cwmni oll oedd honno, yn sicr; ac er costio ohoni lawer i Forgan, oherwydd prisoedd uchel popeth yn y Cloddfeydd yr adeg honno, eto ei brofiad ydoedd na chollasai ef mohoni er dim. Oblegid pa mor archwaethus bynnag oedd y danteithion ar y bwrdd, llawer melysach yn ei olwg ef oedd y teimladau a ddangoswyd, a'r gyfeillach a fwynhawyd.
Rhaid, wrth gwrs, oedd i Mr. Davies ganu unwaith eto y dôn a oedd hoffusaf gan gwmni'r Delyn Aur beunydd.
"You know it, of course, Mr. Jones, you being Welsh," ebe un.
"I don't know," ebe yntau. "There are so many good Welsh songs, you know. P'un yw hi, Dafydd?" Yna, heb ragor o esboniad na rhagarweiniad, dechreuodd Dai'r Cantwr gyd â'i holl enaid yn y gân:
{.d|d.ms—.m|f.f:m:—.m |s.m:d:—.m |s.s}
{. mf.f:1:.f |m.m:s:—.m m.r:r:—.tl|d.d}
"Myfi sy'n fachgen ieuanc ffôl,
Yn caru 'nol fy ffansi,
Ac yn bugeilio'r Gwenith Gwyn,
Tra arall yn ei fedi,"
nes bo'r cwmni'n dotio, a pheri i Forgan godi ar ei draed heb wybod ohono wneuthur hynny o gwbl.
Yna, pan ddaeth y datgeinydd at y pennill olaf, y sydd lawned o iâs teimlad byw y carwr:
"Tra bo dŵr y môr yn hallt,
A thra bo 'ngwallt yn tyfu,
A thra bo calon dan fy mron,
Fe fydda'n ffyddlon iti."
ef a dorrodd i lawr yn lân, ac yna y gwybu Morgan fod rhywun yn yr hen wlad a oedd wedi dwyn calon hen "Wron y Beca" rywbryd, a'i fod ef yn parhau i'w haddoli er bod y cefnforoedd rhyngddynt â'i gilydd.
Cyn ymadael o'r cwmni llawen am y nos, gofynnodd Morgan am i'r Cantwr unwaith eto ganu iddynt "Y Delyn Aur"—"Oblegid hebddi hi," ebe fe, "ni f'aswn wedi cyfarfod â chwi o gwbwl, a thrwy hynny golli llawer o gwmniath ardderchog."
Ar y gair, cododd y Cantwr brithwyn, ac unwaith yn rhagor y clybu'r gymdeithas fechan am "Ddechreu'r canu" a "Dechreu'r canmol, ymhen mil o oesoedd maith." Yn angerdd y gân gwelai Morgan eto yr Ysgol Gân yn yr hen wlad, gyd â'i dyblu a'i threblu o'r mawl. Ef a welai hefyd y datgeinydd ei hun cyn dyddiau'r Beca, yn "codi'r canu" yn y Capel bach, ac yn sôn wrth ei ddisgyblion am fawredd yr hen Asaph, a ddysgodd gyntaf gerdd aruchel i gysegrleoedd y De.
"There's not a stroke of work to be on the day of the Queen Adelaide's departure from Melbourne, mind!" ebe un o'r cwmni'n ddireidus, "or who knows but that Mr. Jones will leave us some of his luck on the quayside."
"Right O!" ebe'r lleill, gan chwerthin ac ysgwyd llaw unwaith eto.
A "Right O!" ydoedd hi, oblegid er i Forgan fyned i lawr i'r ddinas rai dyddiau cyn hwylio ohono i ffwrdd, nid oedd neb o'r cwmni yn eisiau ar lwyfan y llongborth pan neshaodd yr adeg i'r llestr ysblennydd godi ei angor.
Yno hefyd yr oedd Mrs. Mackenzie, a'i dagrau ond o'r braidd wedi sychu wedi'r diwrnod cynt, pan roes Morgan iddi "Something to remind you of me," a'r "something" hwnnw yn weinyr aur i'w gwydrau, ac arno'n gerfiedig—"To Mrs. Peter Mackenzie, Melbourne, 1855. Matthew xxv. 35."
Ond o'r diwedd yr oedd popeth yn barod—y rhaffau wedi eu llacio, y bompren ganllaw wedi ei thynnu i mewn, a'r capten oddiar ei bont yntau yn gweiddi cyfarwyddiadau i bawb, a'r llong fawr yn symud yn raddol allan i'r dyfnder gyd â'i hwyneb tua'r penrhyn draw, hwnt i'r hwn yr oedd y cefnforoedd—a Chymru.
PENNOD XXXVIII.
"TEG EDRYCH TUAG ADRE."
AM rai oriau hwyliodd y Queen Adelaide fel pe buasai arni hi ei hun awydd mawr am ben ei thaith, oblegid hi a dorrai ei llwybr draws y tonnau crychwyn gyd âg asbri rhyfeddol. Canai'r morwyr hefyd wrth eu gwaith, a hyfryd ydoedd ar bawb yn rhodio'r bwrdd gyd âg awel y De yn eu hwynebau. Ond cyn myned o'r haul i lawr, datblygodd yr awel fwyn yn wynt nerthol, ac o'i gaban clybu Morgan fynych gri chwibanogl y bos'n, ynghyd â thrwst brysiog traed y morwyr yn rhuthro yn ol a blaen uwch ei ben.
Yr oedd i Forgan gaban iddo ef ei hun ar y fordaith hon: ond er y golygai hynny fwy o gost i'w logell, golygai hefyd lawer mwy o hamdden darllen ac o gysur personol. Ac i'r diben o dreulio'r dyddiau hir mewn mwynhad tawel, ef a brynasai, cyn myned i'r llestr, nifer o lyfrau a fyddai iddo'n ddiddanwch ar y daith. Llai o lawer hefyd ydoedd nifer teithwyr y Queen Adelaide nag a oedd i'r Richborough, ac yr oedd hynny ynddo ei hun yn elfen.bwysig tuag at wneuthur cysur ei theithwyr yn fwy. A chyn belled ag y gwelai'r Cymro yn ystod y dyddiau cyntaf, gwell hefyd ydoedd ansawdd y rhain na'r dorf wancus honno ar y Richborough gynt, nad oedd iddi feddwl yn y byd ond am aur, a'r modd parotaf i'w sicrhau. Hwyrfrydig, serch hynny, ydoedd Morgan i gyfeillachu â neb ar y llestr hwn, oblegid heblaw bod ei lyfrau yn dechrau denu ei fryd, ef a wyddai hefyd, gan fod Deddf Alltudiaeth o'r diwedd wedi ei dileu, fod llawer o'r deddf—dorwyr yn wynebu yn ol ar Brydain; ac er bod cyfran o'r rheiny bellach yn ddineswyr cymeradwy, nid diwygiedig pawb ohonynt, ac felly gocheliad a phwyll a weddai'n orau, yn enwedig ar y dechrau.
Ond daeth diwedd sydyn i'r ymgadw draw hwn, oblegid a Morgan yn darllen un prynhawn tesog yng nghysgod y cwch ar y bwrdd, aeth heibio iddo rhyngddo a'r gynwel deithiwr neilltuol, brith ei wallt a bonheddig ei gerddediad, a edrychai allan i'r môr ar y pryd.
"Hylo!" ebe'r Cymro wrtho'i hun, "ymhle gwelas i'r cerad yna o'r blân? Ma' rhwpath yndo sy'n gyfarwdd i fi."
Ond dal yn ei flaen yr oedd y teithiwr, a chan fod ei wyneb draw oddiwrth Morgan, nid oedd fodd profi ai gwir neu beidio yr argraff gyntaf, ac felly aeth y darllenwr yn ol i'w lyfr, dan y syniad mai tebygrwydd, a dim arall, oedd wedi tynnu ei sylw. Ond ymhen oddeutu chwarter awr, wele'r teithiwr yn dychwelyd gyd â'i wyneb yn llawn tuag at y Cymro. Nid oedd yn foesau da i syllu ar neb; ond, moesau da neu beidio, cyn rhoi o'r gŵr dieithr nemor i gam ymhellach yr oedd Morgan wedi taflu ei lyfr i'r naill du gan gymaint ei frys i siglo llaw â'r gŵr.
"William Ellis, o bobl y byd! O ble daethoch chi yma?"
Ni roes y gwr hwnnw atebiad o un math i'r cwestiwn a roed ar y pryd, nac i un cwestiwn arall o ran hynny, oblegid pan gafodd ef ei anadl, ei unig air am beth eiliadau oedd, "Yr Arcian Mawr!" Ond digon oedd hynny i gysylltu'r ddau gyfaill unwaith eto, ac i ailuno'r gymdeithas felys honno a ddechreuwyd mor hapus ar yr hen Waun gynt.
Beth oedd oriau a threfn llong i bobl fel hyn? A pha ryfeddod mwy a allai Cefnfor y De ei hun ei roddi iddynt na'u cydgyfarfyddiad hwynthwy eu hunain ddau unigyn ar briffyrdd y ganrif.
Hir y bu'r siarad y prynhawn hwnnw am bethau newydd a hen, ac am y llwybrau a dywysodd y ddau oddiwrth ei gilydd yn gyntaf ac wedi hynny at ei gilydd drachefn. Ac er syndod i'r ddau grwydryn, deallasant, o gymharu profiadau'r naill y llall, eu bod ers pedair blynedd o leiaf, wedi trigo o fewn pum milltir i'w gilydd, heb gymaint a breuddwydio o'r un ohonynt am bosiblrwydd y fath beth.
Tariasai William Ellis saith mlynedd mewn amryw gloddfeydd, gyd â'i lwyddiant hefyd yn amrywio llawer yn y cyfamser—"Un tymor cul yn difa rhinwedd tymor brasach arall," ei chwedl ef ei hun. Ond wedi ffodio ohono'n weddol y ddwy flynedd ddiweddaf oll, penderfynasai na byddai iddo golli'r "ysgôr" unwaith yn rhagor, ag yntau yn dechrau teimlo pwys y blynyddoedd, ond yr âi yn ol i Ddyffryn Hafren i dreulio yno weddill ei oes, orau y medrai. Ef a wyddai ymron cystal â Morgan ei hun bopeth am helynt yr Eureka, ac ef a glywsai, unwaith o leiaf, Lalor a Greg yn ogystal, pan ymwelsant hwy ill dau â'i ardal ef yn achos y mwnwyr.
"Gresyn ddaru i'r cwbwl droi allan mor bethma," ebe fe, "ac i'ch cyfaill caredig golli ei hoedl yn y fargen." "Ie'n wir," ebe Morgan, gyd âg ochenaid o hiraeth am ei hen gydymaith annwyl.
Yna bu siarad pellach am Y Waun, Mr. Ffrank, Shoni Sgubor Fawr, ac ereill, ynghyd â miri mawr wrth ddwyn i gof helynt y faril gynt, ynghyd â chrechwen y pydlers o gael ohonynt y trechaf ar Mr. Ffrank.
"A than gôf," ebe Morgan, "sport yn iawn oedd Mr. Ffrank wedi'r cwbwl; ac 'rwy'n siwr, pe baech chi ond wedi aros ar y Waun, y basa fe'n cynnig i chi le wrth y ddesg fel y rhows e' i fi."
Yna adroddodd Morgan y modd y bu pan ddangoswyd y llaw—ysgrifen yn yr Offis 'slawer dydd, ynghyd â chais Mr. Ffrank am gyfeiriad William ei hun.
"Ac am i fi addo roi iddo y'ch cyfeiriad cyn gynted ag y gallwn, byddaf yn gneud hynny ar unwaith, er bod saith mlynedd er pan rois yr addewid."
Ni ynganodd William Ellis yr un gair ar hyn, ond, gan edrych allan i'r môr, ef a ymddangosai mewn myfyrdod dwfn; ac, o'i weld, trôdd Morgan yn ol i'w lyfr, gan adael ei gyfaill i'w feddyliau ei hun.
PENNOD XXXIX.
YR HEN GARTRE UNWAITH ETO.
"TABLE MOUNTAIN in sight!" Hanner y ffordd tuag adref, a'r Queen Adelaide yn brysio tuag ato o dan lawn hwyl. Hynny a ddug y teithwyr i'r bwrdd yn ddiymdroi, gyd â phob llygad at y llecyn a oedd wedi bod mor fawr ei obaith i deithwyr y tonnau oddiar yr amser y cyrchodd Vasco de Gama heibio iddo gynt ar y fordaith hanesiol honno i'r India.
Ymhen dwyawr yr oedd y llong o Melbourne yn agoshau at yr hafan, a phob enaid byw arni—deithiwr a morwr—â'i draed yn ysu am deimlo'r ddaear o dan ei sang unwaith yn ychwaneg. Aeth Morgan a William Ellis gyd â'i gilydd i edrych y ddinas, ac i'w mwynhau eu hunain mewn prynu cofroddion i'w cyfeillion.
Gan fod y Queen Adelaide i angori yno am wyth awr a deugain, arfaethodd William Ellis a Morgan i ddringo Table Mountain, uwchlaw'r dre; ond gan fod cymylau duon yn dechrau ymgasglu ogylch y corun, yn arwydd sicr o ystorm, newidiwyd y cynlluniau, a threuliwyd rhan o'r dydd wrth yr hafan i weld y llongau ereill a oedd yno ar y pryd.
Un o'r mwyaf diddorol oedd yr Indiaman Cochin a oedd ar ei ffordd allan i Madras gan ddwyn catrawd o filwyr yng ngwasanaeth John Company, a chyd â hwynt y gwragedd a'r plant. Tarawiadol iawn ydoedd coch a gwyn y milwyr yn erbyn addurniadau melyn y swyddogion, a dug yr olwg arnynt yn fyw iawn yn ol i Forgan am y milwyr a welsai ef yn y parc yn Llundain y diwrnod cyn ei ymfudo.
Ymddangosai y gatrawd hon yn Cape Town yn uchel iawn ei hysbryd y diwrnod hwnnw oherwydd rhyw anrhydedd a roesai'r East India Company arnynt, a hwy a ymadawsant â'r harbwr ynghanol banllefau'r bobl. Mewn rhai misoedd yn ddiweddarach, pan dorrodd y Gwrthryfel Mawr allan yn India, ac y bu yno lawer cyflafan ar ddynion gwynion a'u teuluoedd, mynych yr hedai meddwl Morgan yn ol at yr olygfa honno yn Cape Town pan ofynnai ef iddo ei hun, Tybed a oedd rhai o'r gatrawd lawen a welsai ef yno ymhlith y rhai y bu iddynt fyd mor ddu ar lannau Ganges?
Yr un diwrnod hefyd daeth i ymyl y lan o dan Table Mountain un o'r llongau gwibiog hynny, y tea clippers, a elwid felly ar gyfrif eu buander i ddwyn y tê o China i'r wlad hon. Brwd iawn beunydd oedd y gystadleuaeth rhwng y clippers â'i gilydd yn eu rhedegfa tuag adref, ac am hynny byr ydoedd arhosiad pob un ohonynt yn y Cape. Diosgid llawer o'r hwyliau ar ei neshâd i'r porthladd, ac yna aethai nifer o gychod mawr allan gan ddwyn ymborth a dwfr ffres iddynt wedi eu harafiad. Wedi trosglwyddo'r nwyddau ac heb oedi munud mwy nag oedd angenrhaid, ailgychwynnai y clipper i'w ffordd; a chyn ei bod allan o olwg y tir, ymddangosai fel rhyw aderyn mawr o dan blu o hwyliau yn nofio'r tonnau.
Cyn cyrraedd o'r Queen Adelaide Linell y Gyhydedd, aeth un arall o'r clippers heibio iddi, gan godi i fyny o'r gorwel y tu ol yn y bore, a diflannu yn y gorwel y tu blaen cyn gwasgar o niwloedd y prynhawn.
Ymhen wyth diwrnod wedi hynny daeth goleudy Eddystone i'r golwg, a theimlai'r teithwyr eu bod bellach yn nesu adref mewn gwirionedd, ac uchel iawn mewn canlyniad oedd pob calon. Ond er gweled tir Ynys Wyth a Beachy Head, yr un dydd daliwyd y llong yn ol gan groeswynt ar dueddau Caint, a buwyd mewn perigl o'r Goodwins am rai oriau cyn troi o'r llong ei phen i fyny i aber mawr y Tafwys.
Trannoeth, glaniwyd yn Tilbury; ac wedi cydymffurfio o'r ddau Gymro â phopeth a oedd yn arferol ynglŷn â dyfod mordeithwyr i dir, hwy a huriasant gerbyd i'w dwyn i'r King's Head yn Ludgate, ac a gytunasant am lety noson gyd â'r un gwesteiwr a oedd yno pan letyasai Morgan yno ryw chwe mlynedd cyn hynny.
"I knew yer at once, sir," ebe fe, "and blimey, how you have filled out, so to speak. You're right welcome, sir, and yer friend as well."
Ond nid oedd hir—aros i fod y tro hwn, ac un o'r pethau cyntaf a wnaeth Morgan y noson honno oedd danfon i hysbysu i'w fam ac i Mr. Ffrank ei fod wedi glanio, ac y byddai ef adref y foment gyntaf posibl.
Bwriad William Ellis ydoedd mynd ar ei union at ei gynefin yn Nyffryn Hafren, ond ef a newidiodd ei feddwl ar awgrym Morgan mai gwell gweld ohono Mr. Ffrank cyn trefnu dim yn amgen, oblegid, ebe fe, "Rwy'n siwr mai ar eich gwell a fyddwch o ymweld âg e'."
Trannoeth hwy a deithiasant i lawr i Gymru, pan brofodd William Ellis hwylustod trên am y waith gyntaf yn ei fywyd; ac wedi syllu ohonynt unwaith eto ar gras—diroedd dyffryn Tafwys a rhamantedd glannau Hafren, cyrchwyd Lydney, Casgwent, Caerdydd, a Chastellnedd yn brydlon. Yn y dref olaf newidiwyd i linell y Vale of Neath, ac wedi eu brysio drwy ddeng milltir o dlysni Cwm Nedd, chwap! dyna hwy drwy dynel Pencaedrain, ac allan i Gomin y Waun, lle yr oedd Tŵr Crosha eto'n codi ei ben ar gyrrau Padell y Bwlch, a'r Pownd Mawr yn llain o ddwfr croyw yn cydredeg â llwybr y gerbydres.
Ar eu disgyn o'r trên, wele Gruffydd, hen was Mr. Ffrank, yn nesu atynt gan ddweyd wrth Forgan:
"Ma' mishtir yn gweyd wrtho i am gymryd gofal o'ch parseli, a'u dwyn i dŷ'ch mam ar unwath, ac wedyn i ddod 'nol ato fe i 'weyd'ch bod wedi dod. 'Rwy' i wedi cwrdd â phob trên heddi o'r blân, wrth 'i orders e'."
"Yn union fel Mr. Ffrank!" ebe Morgan wrth ei gyfaill. "Fe awn bellach i dŷ mam."
A "thŷ mam" mewn gwirionedd ydoedd hwnnw, oblegid croeso mam a chusan mam oedd yno i dderbyn yr anwylyn yn ol i'r aelwyd. Yna, bu croesawu William Ellis gan y ddau, cyn dechrau o Beti Jones, a'i gwenau yn cystadlu â'i dagrau, ffwdanu i baratoi lluniaeth. Ond cyn eu heistedd i lawr at y bwrdd, wele lais Mr. Ffrank wrth y porth, a bu raid mynd trwy'r croeso drachefn.
"Mr. William Ellis? Gadewch i fi weld," ebe'r mishtir. "Tebig geni i fi glywed yr enw o'r blân. Wel 'm do, wrth gwrs! (hyn gyd â syllu craff ar y gŵr dieithr). Rhowch eich llaw, arwr mawr y pydlers Ha ha! a'm trechwr inna! Ble gynllwn geso chi afal arno, Morgan, ac ynte wedi dianc mor llwyr o'wrth bawb ohonom 'slawer dydd?"
Yna bu difyrrwch pellach, ac ni bu erioed ddedwyddach pedwar nag oedd wrth ford y bwthyn bach y prynhawn hwnnw pan wrandawai'r mishtir a'r fam am y cyfarfyddiad hapus ar fwrdd y Queen Adelaide a ddug ei mab yn ol i un, ac a roes was ffyddlon i'r llall. Oblegid wedi ymweld ohono â'i geraint yn Nyffryn Hafren, dychwelodd William Ellis i'r Waun, lle y bu ei lawysgrifen ardderchog yn addurn i lyfrau'r Offis am flynyddoedd.
Arhosodd Morgan hefyd yn y pentre; ac wedi prynu ohono dŷ a oedd addasach i'w fam ac yntau, nid oedd dim a gyflawnai fesur ei hapusrwydd ef yn llwyrach nag i wneuthur iawn i'r "ladi fwyaf independent a welws y Waun eriôd" (chwedl Mr. Ffrank) am y blynyddoedd gweigion gynt.

Nodiadau
[golygu]
Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.