Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 26
Gwedd
← Tudalen 25 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 27 → |
YR EOS
(C.M. 23)
Blaengar swn claear, clywais, win awen,
Sôn eos felyslais;
Bryd oslef baradwyslais,
Berw o goed lwyn, bragod[1] lais.
—DIENW.
(Most. 23)
Eos braint coednaint caeadnerth, gwiw bwnc[2]
Dda driphwnc ddidrafferth;
Clyw ei chwiban, cloch aberth,
Gwiw irgan pig, organ perth.
—WILIAM CYNWAL.
GWYNT Y DEHEU
(Most. 131, 252)
A gasglai y Mai, maith ddolef, o ddail
Ar ddolydd ucheldref,
Natur i wynt hynt Hydref
Fyned i gerdded ag ef.
—TUDUR ALED.
A gasglai y Mai, maith olwg, o ddail
Ar ddolydd Caerwidwg,
Cyd ymladd a'r coed amlwg,
Cafodau 'r deau a'i dwg.
—LEWIS MÔN.