Y Lloer a Cherddi Eraill/O. M. Edwards
Gwedd
| ← Rhagrithiwr | Y Lloer a Cherddi Eraill gan John James Williams |
Ar Fedd Gurnos → |
O. M. EDWARDS
Ar dy ôl wyla'r dalaith—a gŵyra'i
Gwerin dan ei hartaith;
'E drywanwyd yr heniaith,
Chwerwed ei chri wedi'i chraith.
Yn dy ro cofiwn dy rawd,—ac una
Cenedl yn dy folawd;
Trwy ein tir rhown it eurwawd,
Lusern dlos y werin dlawd.